Neidio i'r prif gynnwy

Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau cefnogi busnes dan gytundeb i ysbrydoli entrepreneuriaid a helpu i sefydlu, cynnal a thyfu busnesau. Mae gwasanaeth Busnes Cymru  Llywodraeth Cymru’n cwmpasu amrywiaeth o gynnyrch a gwasanaethau sy’n cynnig gwybodaeth, cyngor, a chefnogaeth – ar-lein, dros y ffôn, yn rhithiol neu wyneb yn wyneb – er mwyn annog tyfiant economaidd yng Nghymru.  

Mae gwasanaeth cyfredol Busnes Cymru’n rhedeg tan Fawrth 2023 gydag elfennau o’r gwasanaeth dan gytundeb allanol. Mae’r asesiad Effaith integredig yma’n cyfeirio at ddarpariaeth Busnes Cymru o Ebrill 2023 tan Fawrth 2028 (yn ddibynnol ar gadarnhad cyllideb). Bwriad Llywodraeth Cymru yw darparu’r gwasanaeth drwy gyfrwng ffyrdd gwahanol sy’n cynnwys cyfuniad o ddarpariaeth fewnol, gytundebol a grant drwy gyfrwng darparwyr trydydd parti.

Y gyllideb a glustnodwyd ar gyfer y gwasanaeth hwn yw £20 miliwn y flwyddyn gyda’r gyllideb wedi’i chadarnhau hyd at Fawrth 2025 yn unig ar hyn o bryd. Y bwriad yw mai 5 mlynedd fydd hyd y cytundeb wedi’i strwythuro ar y cychwyn am gyfnod o 2 flynedd, gyda 3 blynedd ychwanegol gyda chymal toriad blynyddol (2 flynedd, a blwyddyn, a blwyddyn, a blwyddyn).

Awgrymir y bydd gwasanaeth Busnes Cymru yn y dyfodol yn cael ei ategu gan dri nod allweddol:

  1. Meithrin hyder ac ysbrydoli unigolion, entrepreneuriaid a busnesau micro/bach a chanolig (SME) i gyrraedd eu llawn botensial drwy weithio gyda rhanddeiliaid allweddol a’u galluogi i gyfrannu a chwarae eu rhan mewn datblygu ecosystem gydlynol sy’n weladwy, yn syml ac yn gysylltiedig â sicrhau bod Cymru yn lle gwych i ddechrau a thyfu busnes o fewn yr economïau sylfaen neu dwf.
  2. Mynd i'r afael â bwlch allweddol drwy greu’r amodau i fusnesau ddechrau, cynnal a thyfu drwy’r canol coll mewn ffyrdd cynhwysol a chynaliadwy.
  3. Cefnogi cynhyrchiant, gwydnwch, twf, datgarboneiddio a chynaliadwyedd microfusnesau a busnesau bach a chanolig, gan sicrhau eu perchnogaeth hir dymor yng Nghymru yn y dyfodol gan gadarnhau eu cyfraniad parhaus i economi Cymru.

Er mwyn cefnogi hyn ymhellach, bydd Llywodraeth Cymru a Busnes Cymru’n gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol o bob rhan o Gymru i’w galluogi i gyfrannu a chwarae eu rhan i ddatblygu ecosystem gydlynol sy’n weladwy, yn syml ac yn gysylltiedig er mwyn sicrhau’r cyrhaeddiad a’r ymgysylltiad ehangaf posibl gan wneud yn siŵr bod Cymru’n lle gwych i ddechrau a thyfu busnes.

Bydd elfennau cymorth trosfwaol arfaethedig gwasanaeth Busnes Cymru yn y dyfodol yn disgyn i’r pum maes isod:

Llwyfan Digidol a Llinell Gymorth 

Bydd y llwyfan digidol a’r llinell gymorth yn cynnig man cysylltu dwyieithog, hygyrch ar gyfer unrhyw un sy’n ystyried sefydlu busnes, bob entrepreneur a busnes sefydledig yn cynnig amrywiaeth lawn o wybodaeth, canllawiau, a chefnogaeth ar gyfer busnesau.  

Bydd darparu ymateb cyntaf digidol yn creu arbedion effeithlonrwydd ac atgyfeirio effeithiol at wasanaethau Busnes Cymru eraill. 

Rheolir y gwasanaeth hwn gan staff mewnol Llywodraeth Cymru. 

Entrepreneuriaeth a Chwmnïau Newydd

Bydd entrepreneuriaeth a chwmnïau newydd yn datblygu diwylliant o entrepreneuriaeth a dechrau busnes yng Nghymru gan ddarparu cyngor ymarferol a chefnogaeth i symud syniadau i greu busnesau masnachol.

Bwriad cyffredinol y ddarpariaeth hon fydd i ysbrydoli a datblygu’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid i arwain busnesau llwyddiannus, gan gydnabod eu rôl wrth annog gwerth cymdeithasol.

Gwasanaeth cytundebol fydd hwn sy’n cael ei gyflwyno gan ddarparwr allanol.

Gwasanaeth craidd / Datblygiad busnes

Bydd y gwasanaeth craidd a’r datblygiad busnes yn datblygu hyder a gwytnwch y gymuned fusnes yng Nghymru gan helpu i greu cyfleoedd ar gyfer y gymuned honno ac eraill a symbylu tyfiant cynaliadwy a chynhwysol.

Gwasanaeth cytundebol fydd hwn sy’n cael ei gyflwyno gan ddarparwr allanol.

Cyflymu Twf

Bydd Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru’n darparu cefnogaeth wedi’i deilwra ar gyfer busnesau penodol gyda’r dyhead a’r potensial ar gyfer twf uchel.

Gwasanaeth cytundebol fydd hwn sy’n cael ei gyflwyno gan ddarparwr allanol.

Cefnogaeth Menter Gymdeithasol

Darparu cyngor busnes arbenigol i gefnogi gweledigaeth ‘Trawsnewid Cymru drwy Fentrau Cymdeithasol’ i osod mentrau cymdeithasol wrth graidd Cymru decach, fwy cynaliadwy a mwy llewyrchus.

Hybu model menter gymdeithasol fel y model busnes o ddewis ar gyfer entrepreneuriaid yn cynnig atebion i heriau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol er mwyn i Gymru fod y lle gorau i sefydlu a thyfu menter gymdeithasol.

Ar ffurf grant fydd y gwasanaeth hwn.

Perfformiad Busnes Cymru hyd yn hyn

Ers ei lansio, yn 2016, mae Busnes Cymru wedi cael effaith sylweddol ar yr economi, busnesau ac unigolion yng Nghymru, gan sicrhau:

  • ymdrin â 155,598 ymholiad (Ffigyrau mewnol Llywodraeth Cymru)
  • creu 6,688 menter newydd  
  • cefnogi 3,254 o bobl ifanc i ddatblygu eu syniad busnes  
  • cynghori 41,456 unigolyn a busnes
  • cynyddu cyflogaeth o 28,591
  • cynorthwyo 472 busnes cymdeithasol a helpu i greu 517 swydd newydd llawn amser (Rhagfyr 2021).  

Bydd darpariaeth a gweithgaredd arfaethedig gwasanaeth Busnes Cymru’n parhau i adeiladu ar y cyflawniadau hyn a bydd yn sicrhau bod mesurau perfformiad fel rhan o elfennau caffael y gwasanaeth yn canolbwyntio ar bolisi economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Bydd y contractwr llwyddiannus yn sicrhau fod busnesau’n cymryd camau cadarnhaol drwy’r cytundeb economaidd o safbwynt gwytnwch economaidd, carbon isel, gwaith teg, a lles. Bydd darpariaeth Busnes Cymru i’r dyfodol yn cynnig cefnogaeth ar gyfer busnesau sy’n hybu Gwaith Teg ac yn gwella polisïau yng cydraddoldeb ac amrywioldeb ac arferion cyflogaeth.  

Bydd hyn yn sicrhau y bydd cyrhaeddiad Busnes Cymru nid yn unig yn canolbwyntio ar gefnogi’r rhai sy’n sefydlu neu’n datblygu eu busnesau ond yn sicrhau fod busnesau sy’n recriwtio’n ymwybodol o fod yn fusnesau cyfrifol.

Bydd allbynnau gwasanaeth Busnes Cymru i’r dyfodol yn cynnwys:

Buddsoddiad mewn mentrau (y flwyddyn): £80 million 

Creu swyddi newydd (y flwyddyn): 4,000 

Dechrau busnesau newydd (y flwyddyn): 1,400 

Cynnydd yn y Gwerth Ychwanegol Gros (y flwyddyn): £245 million 

Goroesedd busnes newydd 4 mlynedd: 80% 

Busnesau’n mabwysiadu neu wella polisïau cydraddoldeb: 1200 

Lleihau ôl-troed carbon (tunelli CO2): 4200 

Nifer busnesau/busnesau newydd posibl a gymerodd ran

  • Rhithiol / cefnogaeth 1 i lawer (y flwyddyn): 60,000 
  • Cefnogaeth 1-1 uniongyrchol (y flwyddyn): 4,000 

Bydd gwasanaeth newydd Busnes Cymru’n cyfrannu at yr Nodau Lles canlynol:

Cymru lewyrchus: Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol a charbon isel sy’n cydnabod cyfyngiadau amgylchedd byd-eang ac felly’n defnyddio adnoddau’n effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus, ddysgedig mewn economi sy’n creu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan roi cyfle i bobl fanteisio ar y cyfoeth sy’n cael ei greu drwy waith gweddus.

Cymru fwy cyfartal: Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial beth bynnag eu cefndir neu amgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir cymdeithasol-economaidd a’u hamgylchiad).

Bydd gweithgaredd Busnes Cymru’n cydymffurfio â’r Rhaglen Lywodraethu drwy gyfrannu i gyflwyno’r canlynol:

  • Economi Sylfaen a datblygu Cronfa Gefnogi Cwmnïau Lleol er mwyn cefnogi busnesau lleol.
  • ehangu cronfeydd cyfalaf amyneddgar Banc Datblygu Cymru.
  • Cynyddu’r defnydd o arian ecwiti wrth gefnogi busnesau.
  • cynnig mwy o gefnogaeth ar gyfer gweithwyr i brynu busnesau a cheisio dyblu nifer y busnesau dan berchnogaeth gweithwyr.
  • helpu busnesau i weithio ar y cyd i gefnogi cadwyni cyflenwi lleol, yn cynnwys gwasanaethau dosbarthu lleol a logistaidd.
  • Cyflwyno Gwarant Pobl Ifanc, gan gynnig gwaith, addysg, hyfforddiant, neu hunangyflogaeth i bawb dan 25 oed. 
  • defnyddio rhwydwaith newydd Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl er mwyn helpu cau’r bwlch rhwng pobl anabl a gweddill i boblogaeth waith.
  • galluogi canol ein trefi i fod yn fwy economaidd hoenus drwy helpu busnesau i weithio ar y cyd, cynyddu eu darpariaeth ddigidol a chefnogi cadwyni cyflenwi lleol, yn cynnwys gwasanaethau dosbarthu lleol.
  • datblygu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol.
  • datblygu economi gryfach, wyrddach wrth i ni wneud y cynnydd gorau tuag at ddatgarboneiddio. Cenhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu’r Economi.

Ecwiti cymdeithasol

  • Arferion gwaith teg
  • Taclo tlodi
  • Lleihau anghyfartaledd
  • Economi sylfaenol
  • Cadwyni cyflenwi lleol
  • Busnesau seiliedig
  • Twf busnesau seiliedig canolig
  • Cymru Werdd
  • Lleihau’r defnydd o garbon mewn busnesau a gefnogir
  • Darparu cymorth busnes Gwyrdd
  • Twf cynaliadwy
  • Cynyddu stoc busnes yn cynnwys mentrau cymdeithasol
  • Cynyddu cynhyrchedd a gwytnwch

Tymor hir: pa dueddiadau, sialensau a chyfleoedd tymor hir all effeithio ar y cynnig?

Mae Datblygiad Economaidd wedi’i ddatganoli i Gymru. Rhan o’r rôl hon yw helpu i greu amgylchedd busnes sefydlog, ffafriol a mynd i’r afael â methiannau’r farchnad. Bydd Busnes Cymru yn cael effaith sylweddol ar yr amcanion yma drwy ddarparu cyfeiria at ddarpariaethau cefnogi busnes perthnasol eraill yng Nghymru (drwy gyfrwng llinell gymorth ffôn Busnes Cymru) a darparu cefnogaeth fusnes uniongyrchol cyn ac wedi sefydlu busnesau yng Nghymru. 

Her sylweddol a pharhaus arall i adferiad economaidd Cymru yw’r pandemig COVID. Ni ddisgwylir i’r adferiad fod yn llinol o ran natur a bydd angen i wasanaeth Busnes Cymru gefnogi busnesau yn y tymor byr a’r hir dymor. Mae’r gefnogaeth yma’n hanfodol er mwyn cynorthwyo busnesau i sefydlu, parhau a thyfu ac i ddiogelu swyddi yng Nghymru. 

Bydd angen i wasanaeth Busnes Cymru fod yn ddigon hoenus i ymateb i effaith dilynol y pandemig a’r canlyniadau o safbwynt y rhai sy’n sefydlu, cynnal, neu dyfu eu busnesau.

Ar hyn o bryd mae busnesau’n wynebu heriau marchnad Lafur (Adroddiad Chwarterol DEC Q3 2022 (developmentbank.wales)) cynnydd ym mhris ynni a chadwyni cyflenwi; bydd y rhain yn parhau i effeithio ar adferiad economaidd yng Nghymru. Bydd Busnes Cymru yn parhau i gefnogi busnesau yn wyneb yr heriau:Trosolwg Marchnad Lafur, Ebrill 2022.

Gan adeiladu ar ymateb Busnes Cymru i’r pandemig COVID, drwy gynorthwyo busnesau i gael nawdd a chefnogaeth, bydd Busnes Cymru’n parhau i amlhau, cryfhau a lledaenu cyrhaeddiad ei wasanaethau digidol gan ganiatáu i fwy o unigolion gael mynediad i’r gefnogaeth sydd ei angen arnynt, drwy gyfrwng y mecanwaith cyflwyno mwyaf addas ar eu cyfer nhw. Serch hynny, mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod na all bob unigolyn gael mynediad i’r gwasanaeth digidol ac nad yw pawb yn dymuno hynny; felly, bydd pob gwasanaeth a gynigir yn ddigidol yn gofyn am yr hygyrchedd mwyaf posibl a phrawf defnyddioldeb. Yn achos y rhai na allant gael mynediad i adnoddau digidol Busnes Cymru, bydd llinell gymorth, cefnogaeth wyneb yn wyneb, a ffurflenni cyswllt uniongyrchol ar gael yn ddwyieithog.

Yn hanesyddol, mae cryn ddylanwad polisi a chyllid wedi bod gan Lywodraeth Cymru dros agenda cefnogi busnesau yng Nghymru. Serch hynny, mae dylanwad i’r dyfodol dan fygythiad wrth i Lywodraeth y DU ddefnyddio pwerau’r Ddeddf Marchnad Fewnol yng Nghymru ac mae Llywodraeth y DU wedi methu darparu ateb sy’n adlewyrchu cyllid Ewropeaidd i Gymru yn hytrach na’r Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) sydd â’i threfniadau’n ymosodiad ar ein setliad o dan y system ddatganoledig.

Yn sgil hynny, bydd gan y pwyslais ar osgoi’r setliad datganoledig, a rôl Llywodraeth Cymru, oblygiadau pellgyrhaeddol o safbwynt darpariaeth Cefnogi Busnes Cymru gan arwain at y perygl o greu system dameidiog, sydd â’r potensial sylweddol o ddyblygu’r ddarpariaeth a chynnig gwerth ychwanegol a chanlyniadau pitw.

Ni allwn lenwi’r bwlch sydd wedi’i adael o golli cyllid Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) yn sgil Gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yn rhy fach ac yn rhy hwyr i gynnar cefnogaeth ar y lefelau cyfredol.

Rydym wedi blaenoriaethu ein cyllidebau i helpu trawsnewid llyfn gystal â phosib a hybu ein buddsoddiad mewn pobl a sgiliau mewn ardaloedd allweddol.

Er na allwn gymeradwyo Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, rydym yn ymrwymedig i helpu partneriaid o Gymru i gysoni eu gweithgareddau â’n blaenoriaethau ni a, helpu i sicrhau, yn ôl y gofyn, fod nawdd Llywodraeth y DU yn cael ei ddefnyddio mewn modd sy’n cefnogi – yn hytrach nag amharu ar – flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. 

Atal: sut mae’r cynnig yn cefnogi torri cylchoedd negyddol

Ym Mawrth 2021, canfu adroddiad a gomisynwyd gan Lywodraeth Cymru (Adroddiad Tlodi Incwm Cymharol) fod “23% o holl boblogaeth Cymru’n byw mewn tlodi incwm cymharol”. Gall sefydlu a chefnogi busnesau yng Nghymru gyfrannu, mewn rhyw fodd, at dorri’r cylch negyddol yma.

Ers 2016, cafodd 20% o’r swyddi a grëwyd gan Busnes Cymru eu llenwi gan unigolion oedd yn ddi-waith. Bydd y gefnogaeth ymarferol a gynigir gan Busnes Cymru i fusnesau yn lifer economaidd allweddol yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, gan greu cynaliadwyedd, twf a swyddi o fewn economi Cymru.

Gall yr hyn sy’n gyrru entrepreneuriaeth fod yn hynod bersonol hefyd; gall y sbardun i lawer fod yn fwy holistaidd a chreu cyflawniad personol, neu werth cymdeithasol neu amgylcheddol. Gall entrepreneuriaeth, drwy gyfrwng gwasanaeth Busnes Cymru, wella iechyd a lles nifer o unigolion a chael effaith gadarnhaol ar gymunedau Cymru.

Bydd Busnes Cymru’n cefnogi unigolion di-waith ac economaidd anweithredol sy’n dymuno sefydlu a rhedeg busnes yng Nghymru.  

Caiff mentrau cymdeithasol eu gyrru gan genhadaeth gymdeithasol/amgylcheddol ac ail-fuddsoddi elw i greu newid cymdeithasol cadarnhaol, mae’r gwerthoedd yma’n elfen allweddol wrth dorri’r gylchred dlodi a chreu newid cadarnhaol o fewn cymunedau Cymru. 

Drwy barhau i ariannu cefnogaeth ar gyfer mentr4au cymdeithasol, mae Llywodraeth Cymru, yn sgil y cynnig hwn yn cydnabod fod mentrau cymdeithasol yn gweithredu o fewn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig gyda 57% o weithlu’r mentrau cymdeithasol yn byw o fewn 10 milltir i’w swyddfeydd.

Mae mentrau cymdeithasol yn chwarae rôl hanfodol wrth helpu pobl yn ôl i mewn i fyd gwaith gydag 17% o staff newydd yn ddi-waith cyn ymgymryd â’r swydd.

Fel arfer caiff elw ei ail-fuddsoddi yn y gymuned, drwy gefnogi eu hamcanion cymdeithasol neu eu rhoi yn ôl i mewn i’r busnesau. Mae 76% o fentrau cymdeithasol yn talu gwir Gyflog Byw i bob aelod o’u staff.

Drwy gefnogi’r economi sylfaen, mae Busnes Cymru’n cynnig cyfleoedd i wrthdroi’r dirywiad mewn amodau gwaith, lleihau’r llif arian o gymunedau a mynd i’r afael â chostau amgylcheddol cadwyni cyflenwi estynedig.

Drwy hybu gwaith teg, bydd Busnes Cymru’n cefnogi busnesau i gymryd camau cadarnhaol drwy’r Cytundeb Economaidd o safbwynt gwytnwch economaidd, carbon isel, gwaith teg, a lles.

Mae’r pandemig COVID wedi caniatáu i Busnes Cymru gefnogi ffyrdd amgen o weithio a chynnig cefnogaeth i unigolion a busnesau. Mae gweithdai a sesiynau 1:1 a gyflwynwyd ar-oein wedi dangos fod y mecanweithiau cefnogol yma’n gallu bod yn hynod effeithiol wrth leihau teithio. Bydd Llywodraeth Cymru’n cynnal y ddarpariaeth ar-lein gan gydnabod y gallai cefnogaeth wyneb yn wyneb weddu’n well i unigolion / busnesau eraill yn ôl yr angen. Bydd y cyflwyniadau ar-lein yn gwbl ddwyieithog, yn hygyrch ac wedi’u profi ar ddefnyddwyr. 

Mae newid hinsawdd yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac yn faes allweddol o safbwynt torri’r cylch negyddol. Bydd Busnes Cymru’n parhau i weithio gyda busnesau gan gynnig amrywiaeth eang o gyngor a chefnogaeth ym maes polisïau ac arferion gwyrdd. Bydd Cynghorwyr Effeithlonrwydd Adnoddau Penodedig ar gael i gefnogi busnesau’n gweithio tuag at greu busnesau effeithiol a gwydn o ran adnoddau, a all ddarparu cyngor amrywiol megis defnyddio llai o ddeunyddiau crau er mwyn helpu lleihau’r perygl o brinder deunyddiau, gyrru mentergarwch a gwytnwch, a helpu busnesau i gyrraedd marchnadoedd newydd.  

Bydd Busnes Cymru yn cefnogi busnesau yng Nghymru i leihau eu hôl-troed carbon o 4200 CO2 tunnell y flwyddyn a helpu busnesau i fabwysiadu polisïau amgylcheddol a chydraddoldeb.

Integreiddio: sut allai’r cynnig hwn gysylltu â a chyfrannu at agendâu polisi cyhoeddus gwahanol a chreu buddion niferus

Mae gwasanaeth Busnes Cymru’n ganolog o safbwynt cyflawni’r Rhaglen Lywodraethu ar draws nifer o Bolisïau ac ymrwymiadau yn cynnwys yr economi sylfaenol, yr economi ddigidol, datblygiad y gadwyn gyflenwi, y Gwarant Pobl Ifanc a phryniant gan weithwyr. Ymhellach, mae’n cefnogi dyhead Llywodraeth Cymru i adeiladu economi’n seiliedig ar egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol.  

Mae Busnes Cymru’n cyfrannu’n helaeth i nifer o agendâu polisi cyhoeddus. Drwy gyfrwng yr ymrwymiadau a’r gweithgarwch yma, mae Busnes Cymru’n creu buddion niferus ar draws nifer o bolisïau cyhoeddus.

Bydd y cynnig hwn yn parhau i wireddu nifer o ymrwymiadau a ddatblygwyd eisoes ac yn parhau i weithi gydag agendâu eraill Llywodraeth Cymru fel y bo’n addas.

Un o’r ymrwymiadau allweddol yng Nghynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru yw cynyddu’r nifer o gyflogwyr sy’n creu gweithleoedd cynhwysol a chefnogol ar gyfer pobl anabl a’r rhai sy’n dioddef o gyflyrrau iechyd tymor hir.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella cyfleoedd cyflogaeth ar gyfer pobl anabl a gwneud busnesau mor gynhwysol â phosibl, a chreu amodau sy’n caniatáu iddynt ffynnu.  

Yn draddodiadol mae cyfraddau cyflogaeth yn sylweddol is ar gyfer pobl anabl na phobl nad ydynt yn anabl. Dengys ffigyrau ar gyfer y flwyddyn hyd at Fawrth 2020 fod y gyfradd gyflogaeth ar gyfer pobl anabl rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru yn 50%, mewn cymhariaeth ag 81% ar gyfer pobl nad oeddent yn anabl.

Mae Busnes Cymru’n cefnogi Arweinwyr Cyflogi Pobl Anabl (DPECs) ac yn gweithio’n agos ar y cyd gan ddibynnu ar y mynediad sydd gan Busnes Cymru i fusnesau a’u cysylltu ag Arweinwyr Cyflogi Pobl Anabl er mwyn hybu cyflogaeth pobl anabl yn ogystal ag agor y drafodaeth gyda busnesau am fuddion gweithlu amrywiol.

Ymhellach, mae Busnes Cymru’n cydnabod fod ganddo rôl i’w chwarae o safbwynt datblygu’r agenda’n ymwneud â gwaith teg yn ogystal â chefnogi’r trydydd sector  yng Nghymru drwy ei ddulliau cydweithredol a ariennir gan grant i gefnogi’r Grŵp Sector Menter Cymdeithasol (SESG). Bydd Busnes Cymru yn parhau i weithio ar y cyd â thîm gwaith teg Llywodraeth Cymru a Busnes yn y Gymuned – sefydliad blaenllaw ym maes busnesau cyfrifol a gwaith teg – er mwyn annog mwy o fusnesau i fabwysiadu ac ymrwymo i egwyddorion gwaith teg a dod yn fusnesau sy’n mabwysiadu arferion gwaith cyfrifol.

Rhoddodd y Rhaglen Lywodraethu flaenoriaeth i’r Gwarant Pobl Ifanc fel ymrwymiad allweddol ar gyfer chweched tymor y Senedd, er mwy’n lleihau effaith anghymesur y pandemig Covid ar blant a phobl ifanc dan 25. Y nod yw sicrhau na chaiff neb eu gadael ar ôl nau dal yn ôl o ganlyniad i’r pandemig Covid.

Caiff yr ymrwymiad yma i bobl ifanc ei gefnogi’n gadarn iawn gan Busnes Cymru drwy raglen Syniadau Mawr Cymru gan gyflawni’r ymrwymiad o fynediad i gefnogaeth i bobl ifanc sy’n dymuno dechrau eu busnes eu hunain.

Ymhellach, bydd Busnes Cymru’n gweithio gyda phartneriaid ecosystem megis Awdurdodau Lleol a sefydliadau trydydd sector i deilwra ein darpariaeth er mwyn rhoi cyfle iddynt gael mynediad i gyllid gan sefydliadau sector cyhoeddus eraill i gyflwyno rhaglenni cefnogi busnes ychwanegol wedi’u saernio i mewn i gynnig craidd Busnes Cymru.  

Ar hyn o bryd mae Busnes Cymru’n gweithio ac yn ymrwymo i leiafswm o’r cynlluniau canlynol er mwyn hybu’r agenda ymhellach naill ai drwy gyfrwng gwefan Busnes Cymru neu wasanaeth Busnes Cymru: 

  • Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 
  • Strategaeth Unigrwydd ac Arwahanrwydd  
  • Cynllun Cyflogadwyedd
  • Cenedl Noddfa – Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches
  • Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel
  • Cynllun Addasu i Newid Hinsawdd
  • Cynllun Gweithredu Gweithgynhyrchu
  • Cynllun Gweithredu Trawsrywiol
  • Comisiwn Gwaith Teg
  • Menywod Talentog ar gyfer Cymru Lwyddiannus
  • Gweithredu ar Anabledd: Hawl i Fyw’n Annibynnol
  • Fframwaith Ymgysylltu a Dilyniant Ieuenctid
  • Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
  • Cenhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu’r Economi
  • Cynllun Sero Net
  • Cynllun Gweithredu ar gyfer Cartrefi Gofal
  • Gwarant Pobl Ifanc
  • Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl
  • Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Urddas Misglwyf
  • Cynllun Cyfiawnder
  • Cynllun Hyrwydd Cydraddoldeb rhwyng y Rhywiau yng Nghymru

Cydweithio

Mae Bwrdd Strategol Busnes Cymru wedi bod yn flaenllaw o safbwynt datblygu’r cynnig hwn. Aelodau’r bwrdd, a ddaeth i ben yn ei ffurf gyfredol ym Mawrth 2022 oedd:

  • Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig
  • Ffederasiwn y Busnesau Bach
  • Prifysgol Abertawe
  • Goodwash Company 
  • Cwmni recriwtio Acorn
  • Banc Datblygu Cymru 

Mae Grŵp Tasg a Gorffen newydd wedi’i sefydlu yn ei le.

Mae’r partneriaid cysylltiedig wedi bod yn rhan greiddiol o ddatblygiad y cynnig hwn er mwyn sicrhau fod y busnesau a’r unigolion yn derbyn gwasanaeth cynhwysol i ddechrau, cynnal a datblygu busnes yng Nghymru. 

Ymhellach, mae bob un o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi ymwneud â datblygu’r cynnig hwn, ac mae eu profiad o anghenion lleol y busnesau yn eu rhanbarthau wedi bod yn hanfodol.

Yn hanesyddol, mae Busnes Cymru wedi darparu gwasanaeth tebyg i’r hyn a gyflwynir yn cynnig hwn ers 2015, felly, drwy gydol datblygu’r cynnig hwn mae canlyniadau boddhad cwsmeriaid (meintiol ac ansoddol) wedi helpu i ddatblygu’r cynnig ac wedi bod yn hanfodol wrth fireinio’r gwasanaeth a llywio’r gwasanaeth i gyflenwi anghenion busnesau.

Er mwyn helpu i lywio datblygiad parhaus gwasanaeth Busnes Cymru, datblygwyd grŵp Tasg a Gorffen Busnes Cymru.

Grŵp Tasg a Gorffen Busnes Cymru fydd yn gyfrifol am barhau i lywio a datblygu’r gwasanaeth gan gynnwys y partneriaid canlynol:

  • Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW) 
  • Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru (FSB)
  • Banc Datblygu Cymru (DBW) 
  • Ysgol Fusnes Caerdydd
  • Cwmpas 
  • Anabledd Cymru 
  • Gyrfa Cymru 
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) 

Bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i weithio gyda phartneriaid rhanbarthol, Awdurdodau Lleol a sefydliadau busnes er mwyn sicrhau fod y ddarpariaeth cefnogaeth busnes yng Nghymru yn gysylltiedig ac yn gweithio ar gyfer y rhai sy’n dymuno sefydlu, cynnal a datblygu busnes yng Nghymru. Mae’n bwysicach nac erioed fod y fath gydweithio’n cael ei gynnal er mwyn datblygu economi Cymru.  

Bydd Busnes Cymru’n parhau i weithio gydag adrannau eraill o fewn Llywodraeth Cymru gan weithio ar draws y llywodraeth i hybu, deall a defnyddio’r gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau gan barhau i hyrwyddo polisïau cydraddoldeb, amrywioldeb a gwaith teg. 

Ymrwymiad

Mae’r rhanddeiliaid sy’n ymwneud â’r broses hon yn cynrychioli’r rhai a allai gael eu heffeithio gan y cynnig. Fel rhan o’r broses ymgynghorol, cynhaliodd Llywodraeth Cymru 7 sesiwn ymgysylltu gydag Awdurdodau Lleol Cymru a sefydliadau sy’n cynrychioli’r rhai sy’n rhannu nodwedd warchodedig yn ogystal â’r hunangyflogedig a pherchnogion busnes ar y cyd. Roedd bwrdd Busnes Cymru sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r sector preifat hefyd yn ymwneud â thrafodaethau cynnar i ddatblygu’r gwasanaeth.

Cynhaliwyd arolwg o foddhad cwsmeriaid o wasanaeth Busnes Cymru bob 6 mis yn ystod y 5 mlynedd ddiwethaf (meintiol ac ansoddol). Yn yr arolygon yma, gofynnir i unigolion sy’n sefydlu, cynnal neu’n tyfu eu busnes am ansawdd y gwasanaeth, a fyddent yn argymell y gwasanaeth i eraill yn ogystal ag os oedd yr hyn oedd ar gael yn adlewyrchu eu gofynion ac os oeddent yn teimlo y dylai cefnogaeth bellach fod ar gael.

O holi dros 2700 o unigolion a busnesau, dyma ffynhonnell allweddol o wybodaeth sy’n cael ei ddefnyddio i lywio darpariaeth gwasanaeth a gwella ansawdd yn ôl y gofyn.

Byddwn yn parhau i gynnwys y rhai sy’n fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y cynnig wrth gyflenwi Busnes Cymru drwy gynnal arolygon boddhad yn rheolaidd a fydd yn cynnwys cwestiynau’n ymwneud ag ansawdd y cymorth busnes a gynigir ond hefyd os oes angen cymorth ychwanegol nad yw’n cael ei gynnig gan Busnes Cymru ar hyn o bryd.

Effaith

Heb y cynnig hwn, teimlir y byddai bwlch sylweddol yn y dirwedd cymorth busnes yn agor. Yn 2021, comisiynodd Llywodraeth Cymru Ysgol Fusnes Caerdydd i ddarparu asesiad annibynnol o’r canlyniadau economaidd sy’n gysylltiedig â Busnes Cymru. Roedd yr asesiad hwn yn cwmpasu’r cyfnod 2015 i 2021.

Dyma rai o ganfyddiadau’r adroddiad effaith:

  • Roedd ymgodiad net y Gwerth Ychwanegol Gros yn £18 i bob £1 a wariwyd ar y Rhaglen Cyflymu Twf (RhCT) a £10 i bob £1 a wariwyd ar gyflwyniad craidd Busnes Cymru
  • Roedd y goroesedd pedair blynedd yn 77% RhCT mewn cymhariaeth â 67% ar gyfer Craidd a Thwf o’u gymharu â 33% ar gyfer busnesau nas cefnogwyd
  • Roedd sgoriau credyd ar gyfer busnesau oedd yn cael eu cefnogi gan Busnes Cymru’n llai tebygol i fod mewn risg uchel ac yn fwy tebygol o fod yn sefydlog a diogel na busnesau heb eu cefnogi.

Yn ogystal, ymysg allbynnau gwasanaeth Busnes Cymru roedd:

  • 20% o’r swyddi a gafodd eu creu gan Busnes Cymru wedi’u llenwi gan unigolion a oedd yn ddi-waith cyn hynny
  • Dros gyfnod o 6 mlynedd, mabwysiadodd neu gwellodd 2,481 o fentrau bach a chanolig ar eu strategaethau cydraddoldeb
  • Dros gyfnod o 6 mlynedd, mabwysiadodd neu gwellodd 2,592 o fentrau bach a chanolig eu strategaethau cynaliadwyedd amgylcheddol

Casgliad

Sut mae’r bobl sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y cynnig wedi bod yn rhan o’i ddatblygu?  

Mae’r rhanddeiliaid sy’n gysylltiedig â’r broses hon o’r cychwyn yn cynrychioli’r rhai a allai gael eu heffeithio gan y cynnig. Fel rhan o’r broses ymgynghorol, cynhaliodd  Llywodraeth Cymru 7 sesiwn ymgysylltu gydag Awdurdodau Lleol a sefydliadau sy’n cynrychioli’r rhai sy’n rhannu nodwedd warchodedig yn ogystal â hunangyflogaeth a pherchnogion busnes ar y cyd. Roedd bwrdd Busnes Cymru, oedd yn cynrychioli’r sector preifat, hefyd yn rhan o’r drafodaeth gynnar i ddatblygu’r gwasanaeth.

Cynhaliwyd arolwg boddhad cwsmeriaid yn ymwneud â gwasanaeth Busnes Cymru bob 6 mis yn ystod y 5 mlynedd ddiwethaf (meintiol ac ansoddol). O fewn yr arolygon yma, gofynnwyd i unigolion oedd yn sefydlu, cynnal a datblygu eu busnesau am ansawdd y gwasanaeth a dderbyniwyd, a fyddent yn argymell y gwasanaeth i eraill yn ogystal ag os yw’r cynnig sydd ar gael yn adlewyrchu eu gofynion nhw ac os oes angen cefnogaeth bellach.

Yn ogystal, gellir dadansoddi’r boddhad gan y rhai sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig, er mwyn i Lywodraeth Cymru allu dadansoddi unrhyw wahaniaeth yn y boddha rhwng y rhai sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig a’r rhai nad ydynt. Ni welwyd unrhyw wahaniaethau arwyddocaol yn y cyfraddau boddhad. 

Byddwn yn parhau i gynnwys y rhai sy’n fwy tebygol o gael eu heffeithio gan gynnig Busnes Cymru drwy gynnal arolygon boddhad yn gyson gan gynnwys cwestiynau’n holi am y gefnogaeth busnes a gynigiwyd ond hefyd deall os oes angen unrhyw gefnogaeth ychwanegol nad yw’n cael ei gynnig ar hyn o bryd gan Busnes Cymru. 

Beth yw’r effaith mwyaf arwyddocaol, boed gadarnhaol neu negyddol?

Bydd gan y cynnig hwn effaith arwyddocaol ar y gymuned fusnes. Mae Busnes Cymru’n cefnogi busnesau cyn ac ar ôl eu sefydlu, eu cynnal neu wrth i chi dyfu eich busnes. Mae’n helpu busnesau o safbwynt lleihau carbon, gwaith teg, a chynaliadwyedd.  

Bydd gan y cynnig hwn effaith pellgyrhaeddol ar y cyhoedd yn gyffredinol sydd hefyd yn ceisio cyflogaeth. Mae Busnes Cymru’n cydnabod fod unigolion penodol sy’n rhannu nodwedd warchodedig wedi’u heffeithio’n annheg gan y pandemig COVID. Dyna pam y bydd Busnes Cymru’n parhau i gynnig grant cyflogadwyedd ac yn monitro ymgysylltiad â’r gwasanaeth a sicrhau bod gweithgarwch allgymorth yn cael ei wneud i gydbwyso unrhyw ddiffyg. Bydd Busnes Cymru’n parhau i gefnogi agenda gwaith teg, lleihau carbon a menter gymdeithasol fod Cymru’n lle i ddewis gweithio a byw ynddi.  

Cydnabyddir y gallai entrepreneuriaeth, i lawer, fod yn rhywbeth amgen i dlodi mewn swydd. Bydd Busnes Cymru’n cefnogi unigolion sy’n dymuno bod yn hunangyflogedig neu sefydlu eu busnes eu hunain. Mae busnesau’n allweddol i gymunedau gwledig yng Nghymru er mwyn cynnig cyflogaeth.

Bydd y cynnig yn cael effaith gadarnhaol ar unigolion a chymunedau gwledig yng Nghymru drwy gefnogi busnesau i sefydlu, cynnal a datblygu. Gall unigolion a chymunedau gwledig gael mynediad i gefnogaeth Busnes Cymru drwy gyfrwng dulliau digidol ac wyneb yn wyneb dwyieithog yn ôl y gofyn. Er y bydd gwasanaeth Busnes Cymru ar gael ledled Cymru, mae agwedd ranbarthol hefyd yn ganolog i ddosbarthiad y gwasanaeth a bydd y gwasanaeth ar gael mewn cymunedau gwledig.

Cefnogir yr ymrwymiad yma i bobl ifanc yn gadarn iawn Busnes Cymru drwy raglen Syniadau Mawr Cymru gan gyflawni’r ymrwymiad i gynnig mynediad i gefnogaeth ar gyfer pobl ifanc sy’n dymuno dechrau busnes.  

Mae entrepreneuriaeth yn rym allweddol yn Economi Cymru. Mae’r ddarpariaeth Cefnogaeth Busnes yn elfen hollbwysig wrth i fusnesau sefydlu neu dyfu, gan sicrhau y rhoddir y cyngor cywir a bo busnesau’n dechrau ffynnu o fewn cymunedau Cymru. 

Bydd y cynnig yn cefnogi ac yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg. Bydd bob cefnogaeth ar gael yn ddwyieithog, a chyflwynir gweithdai cyfrwng Cymraeg. Bydd yr holl ddeunydd marchnata a’r wefan yn ddwyieithog, a phob deunydd a gynhyrchir yn ddwyieithog hefyd. Cesglir data oddi wrth y rhai sy’n ceisio mynediad i’r gwasanaeth a chlustnodir cynghorydd sy’n siarad Cymraeg ar gyfer y rhai sy’n dymuno derbyn gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Nod y cynnig fydd parhau i gynnig cefnogaeth i unigolion sy’n dymuno sefydlu busnes a mentrau bach a chanolig sefydledig i fabwysiadu neu wella polisïau ac arferion er mwyn gwella Effeithiolrwydd Adnoddau.

O safbwynt yr effeithiau a nodwyd sut fydd y cynnig: yn cynyddu cyfraniad i’n hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant; a/neu, osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Bydd Llywodraeth Cymru’n gweithredu – drwy’r cynnig hwn – i hybu cydraddoldebau a’r Gymraeg. Gwneir hyn mewn amrywiol ffyrdd a fydd yn cynnwys gweithgareddau allgymorth yn ogystal â hyrwyddo’r Gymraeg drwy’r gwasanaeth.

Bydd y cynnig hwn yn cyfrannu at y nodau lles canlynol:

  • Cymru ffyniannus: cymdeithas arloesol, gynhyrchiol a charbon isel sy’n cydnabod terfynau’r amgylchedd byd-eang ac felly’n defnyddio adnoddau’n effeithlon ac yn gymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid hinsawdd); ac sy'n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn darparu cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy waith gweddus.
  • Cymru fwy cyfartal: cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial beth bynnag eu cefndir neu amgylchiadau (yn cynnwys eu cefndir cymdeithasol economaidd a’u hamgylchiadau). 

Sut fydd effaith y cynnig yn cael ei fonitro a’i werthuso wrth ddatblygu ac wrth ddirwyn i ben?

Mae Busnes Cymru’n cydnabod pwysigrwydd gwerthuso darpariaeth y dyfodol. Bydd y gwerthusiad hwn yn cynnwys arolwg boddhad gwasanaeth, cyflawni canlyniadau, casglu gwersi a ddysgwyd a disgrifio unrhyw effaith yn sgil y gwasanaeth.

Bydd Busnes Cymru hefyd yn parhau i werthuso a monitro boddhad cwsmeriaid bob 6-9 mis am gyfnod y cytundeb. Caiff y canlyniadau yma eu bwydo’n uniongyrchol i gyfarfodydd darparwyr er mwyn llywio’r ddarpariaeth gwasanaeth a sicrhau bod y gwasanaeth yn gwella’n barhaus.