Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth reoli am bersonau a wedi'u rhoi mewn llety dros dro a phobl sydd yn cysgu allan ar gyfer Gorffennaf 2023.

Cefndir

Cyflwynwyd y casgliad data misol hwn yn ystod y pandemig COVID-19.

Mae’r wybodaeth yn cynnwys llety dros dro a’r llety hirdymor a ddarperir i bobl sy’n wneud cais i’r awdurdodau lleol am gymorth tai gan eu bod mewn perygl o fod yn ddigartref. 

Nid yw’r data hyn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol, a gellir diwygio'r data yn y dyfodol. 

Dylid trin y ffigurau ar gyfer y mis diweddaraf fel rhai dros dro.

Ar gyfer yr amcangyfrifon o gysgu allan, rydym yn cyhoeddi dadansoddiad yn ôl awdurdod lleol. Ar gyfer data ar ddefnydd llety, i ddechrau rydym yn cyhoeddi data ar lefel Cymru yn unig. 

Prif bwyntiau

Cymariaethau dros amser

Ar hyn o bryd, mae'n bwysig peidio â rhoi gormod o bwyslais ar ddata ar gyfer mis unigol neu gymariaethau â misoedd blaenorol. Mae'r casgliad misol hwn o wybodaeth reoli a'r canllawiau a ddarperir yn parhau i gael eu mireinio a'u gwella.

Defnyddio llety dros dro

  • Ledled Cymru, roedd 1,535 achos o bobl ddigartref yn cael eu rhoi mewn llety dros dro yn ystod y mis, 96 yn llai nag ym mis Mehefin 2023. O’r rhain, roedd 412 yn blant dibynnol o dan 16 oed, gostyngiad o 51 o fis Mehefin 2023. 
  • O'r lleoliadau i lety dros dro yn ystod mis Gorffennaf 2023, daeth y rhan fwyaf o achosion o amgylchiadau 'Eraill' (689 o ddigwyddiadau), ac yna 'Symudwyd o lety anaddas arall' (521 o ddigwyddiadau).[troednodyn 1]
  • Ar 31 Gorffennaf 2023, roedd 10,931 o unigolion mewn llety dros dro, cynnydd o 62 ers 30 Mehefin 2023. Roedd 3,350 o’r rhain yn blant dibynnol o dan 16 oed, cynnydd o 4 ers 30 Mehefin 2023.
  • Y math o lety dros dro oedd yn gartref i'r nifer fwyaf o unigolion ddiwedd mis Gorffennaf 2023 oedd 'gwely a brecwast a gwestai' gyda 3,686 o unigolion, a 989 ohonynt yn blant dibynnol o dan 16 oed.
  • Rhwng dechrau’r pandemig COVID-19 a diwedd Gorffennaf 2023, mae dros 39,800 o bobl a oedd yn ddigartref ynghynt wedi cael cymorth i lety brys dros dro.[troednodyn 2]

Unigolion digartref sydd wedi cael eu symud i lety hirdymor addas

  • Ym mis Gorffennaf 2023, symudwyd 687 o unigolion digartref i lety hirdymor addas, 105 yn fwy nag ym mis Mehefin 2023. O’r unigolion digartref a symudwyd i lety hirdymor addas, roedd 275 yn blant dibynnol o dan 16 oed, 78 yn fwy nag ym mis Mehefin 2023. 

Cysgu allan

  • Ar 31 Gorffennaf 2023, amcangyfrifwyd bod 174 o unigolion yn cysgu allan ledled Cymru. Mae hyn yn cynnydd o 1 o’r 173 unigolion sy’n cysgu allan ar 30 Mehefin 2023. [troednodyn 3]   
  • Ar 31 Gorffennaf 2023, Caerdydd (33), Casnewydd (25), Sir Benfro (24), Abertawe (15) a Gwynedd (14) oedd yr awdurdodau lleol a nododd y niferau uchaf o unigolion yn cysgu allan. Nododd pob awdurdod lleol arall fod 12 neu lai unigolyn yn cysgu allan, gyda pump awdurdod lleol yn adrodd sero. [troednodyn 3

Newidiadau arfaethedig

Yn dilyn adborth gan ddefnyddwyr, rydym wrthi'n datblygu'r cyhoeddiad yma, sy'n seiliedig ar wybodaeth reoli. Rydym yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol i gryfhau'r canllawiau casglu data a gwella ansawdd y data. 

Ym mis Gorffennaf 2023 ehangwyd y data a gyhoeddwyd yn nhablau data 1 a 2 (a gyhoeddir gyda’r adroddiad hwn) ar lefel Cymru ar gyfer y cyfnod o Ebrill 2023:

Tabl 1: Nifer yr achosion o unigolion digartref a roddwyd mewn llety dros dro yn y mis – cyhoeddi’r data fesul y prif reswm dros ddigartrefedd.

Tabl 2: Nifer yr unigolion digartref sydd mewn llety dros dro ar ddiwedd y mis – cyhoeddi’r data fesul y math o lety dros dro. 

Rydym yn gweithio tuag at gyhoeddi ystod ehangach o ddata, gan gynnwys ar lefel awdurdod lleol, yn ddiweddarach yn 2023.  Bydd rhagor o wybodaeth am newidiadau ychwanegol yn cael eu nodi mewn cyhoeddiadau yn y dyfodol.

Y gallu i gymharu’r data ag ystadegau ar ddigartrefedd statudol ac y cyfrif o gysgu allan

Mae'n bwysig nodi'r gwahaniaethau dilynol rhwng y casgliad data rheoli misol hwn a'n casgliadau data a chyhoeddiadau presennol ar ddigartrefedd statudol:

  • Mae'r data misol hwn yn ymwneud â nifer yr unigolion sy'n profi digartrefedd ac sy'n cael eu cefnogi gan awdurdodau lleol i lety dros dro neu lety hirdymor addas.
  • Mae ein casgliadau chwarterol a blynyddol ar ddigartrefedd statudol yn casglu data ar nifer yr aelwydydd, nid unigolion. Mae'r data hynny’n ymwneud â digartrefedd fel y'i diffinnir gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

Yn ogystal, nid ydym yn argymell cymariaethau rhwng yr amcangyfrifon cysgu allan o'r casgliad misol hwn a'r cyfrif blynyddol o gysgu allan (hyd at fis Tachwedd 2019). Yn y casgliad misol hwn, gofynnir i awdurdodau lleol seilio eu hamcangyfrifon ar ddeallusrwydd lleol. Mae gan y cyfrif blynyddol o gysgu allan fethodoleg wahanol: ymarfer casglu gwybodaeth dwy wythnos, ac yna cyfrif ciplun un noson.

Troednodiadau

[1] Mae amgylchiadau 'Eraill' yn cyfeirio at resymau heblaw symud oddi ar y stryd, gynt yn cysgu ar soffas eraill, wedi symud o lety amhriodol arall a’r rhai sy'n gadael y carchar.

[2] Mae'r ffigur hwn yn cael ei gyfrifo ac nid yw'n cael ei ddangos yn y set ddata gysylltiedig.

[3] Gofynnir i awdurdodau lleol seilio'r amcangyfrifon hyn ar wybodaeth leol, nid cyfrif un noson.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan: Gorffennaf 2023 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 20 KB

ODS
20 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Rachel Shepherd-Hunt

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.