Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth reoli am bersonau a wedi'u rhoi mewn llety dros dro a phobl sydd yn cysgu allan ar gyfer Hydref 2020.

Mae'r casgliad misol hwn yn disodli'r casgliad wythnosol o wybodaeth yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19).

Mae’r wybodaeth yn cynnwys llety argyfwng a’r llety hirdymor a ddarperir i bobl sy’n wneud cais i’r awdurdodau lleol am gymorth tai gan eu bod mewn perygl o fod yn ddigartref.

Nid yw’r data hyn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol, a gellir diwygio'r data yn y dyfodol.

Dylid trin y ffigurau ar gyfer y mis diweddaraf fel rhai dros dro. Nid yw pob awdurdod lleol wedi gallu darparu data cynhwysfawr ac adlewyrchir hynny, os yw’n berthnasol, yn y troednodiadau.

I ddechrau, rydym yn cyhoeddi data ar lefel Cymru yn unig. Rydym yn dal i asesu a deall ansawdd y data sy'n cael eu casglu. Yn y dyfodol, byddwn yn ystyried cyhoeddi dadansoddiadau eraill os yw’n bosibl, gan gynnwys fesul awdurdod lleol.

Y gallu i gymharu’r data ag ystadegau ar ddigartrefedd statudol

Mae'n bwysig nodi'r gwahaniaethau dilynol rhwng y casgliad misol newydd hwn a'n casgliadau data a chyhoeddiadau presennol ar ddigartrefedd statudol.

  • Mae'r data misol hwn yn ymwneud â nifer yr unigolion sy'n profi digartrefedd ac sy'n cael eu cefnogi gan awdurdodau lleol i lety argyfwng neu lety hirdymor addas.
  • Mae ein casgliadau chwarterol a blynyddol ar ddigartrefedd statudol yn casglu data ar nifer yr aelwydydd, nid unigolion. Mae'r data hynny’n ymwneud â digartrefedd fel y'i diffinnir gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

Prif bwyntiau

Cymariaethau dros amser

Hydref yw'r mis cyntaf lle mae data ar blant dibynnol (o dan 16 oed) mewn llety dros dro wedi'i gasglu ar wahân i gyfanswm yr unigolion. Oherwydd hyn, nid ydym yn argymell bod data mis Hydref ar ddefnydd llety yn cael ei gymharu â misoedd blaenorol.

Ar hyn o bryd, mae'n bwysig peidio â rhoi gormod o bwyslais ar ddata ar gyfer mis unigol neu gymariaethau â misoedd blaenorol. Mae'r casgliad misol hwn o wybodaeth reoli a'r canllawiau a ddarperir yn parhau i gael eu mireinio a'u gwella.

Defnyddio llety argyfwng

  • Ledled Cymru, cafodd 1,335 o bobl ddigartref eu rhoi mewn llety argyfwng yn ystod y mis, o’r rhain roedd 115 yn blant dibynnol o dan 16 oed. (a)(b)
  • Ar 31 Hydref 2020, roedd 4,735 o unigolion mewn llety dros dro. Roedd 1,160 o’r rhain yn bland dibynnol o dan 16 oed. (b)(c)(d)

(a) Nid oedd un awdurdod lleol wedi cynnwys y rheini sy’n ‘ddigartref mewn cartref’.
(b) Roedd un awdurdod lleol wedi adrodd am aelwydydd, nid unigolion. Felly, bydd tangyfrif bach yng nghyfanswm y ffigur a gyflwynir.
(c) Nid oedd tri awdurdodau lleol wedi gallu cael data o lochesi menywod yn eu awdurdod lleol.
(d) Nid oedd un awdurdod lleol yn gallu cyflenwi'r ffigur ar gyfer mis Medi mewn pryd i'w gyhoeddi. Ar gyfer yr awdurdod lleol hwn, defnyddiwyd y ffigur ar gyfer 31 Awst yn lle’r ffigur ar gyfer 31 Hydref.

Pobl sydd wedi cael eu symud i lety hirdymor addas

  • Symudwyd 666 o unigolion digartref i lety hirdymor addas, o’r rhain roedd 177 yn blant dibynnol o dan 16 oed. (e)

(e) Roedd un awdurdod lleol wedi adrodd am aelwydydd, nid unigolion. Felly, bydd tangyfrif bach yng nghyfanswm y ffigur a gyflwynir.

Cysgu allan

  • Ar 31 Hydref 2020 roedd 112 o unigolion yn cysgu allan ledled Cymru. Mae hyn yn gynnydd bach gan y 110 unigolion sy’n cysgu allan ar 30 Medi 2020. (f)

(f) Gofynnir i awdurdodau lleol seilio'r data hyn ar wybodaeth leol, nid cyfrif un noson.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.