Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth reoli am bersonau a wedi'u rhoi mewn llety dros dro a phobl sydd yn cysgu allan ar gyfer Hydref 2023.

Cefndir

Cyflwynwyd y casgliad data misol hwn yn ystod y pandemig coronafirws (COVID-19).

Mae’r wybodaeth yn cynnwys llety dros dro a’r llety hirdymor a ddarperir i bobl sy’n wneud cais i’r awdurdodau lleol am gymorth tai gan eu bod mewn perygl o fod yn ddigartref.

Ar gyfer yr amcangyfrifon o gysgu ar y stryd ac unigolion sy'n byw mewn mathau o lety dros dro, rydym yn cyhoeddi dadansoddiad yn ôl awdurdod lleol. Ar gyfer data ar fynd i mewn ac allan o lety dros dro,  ar hyn o bryd rydym yn cyhoeddi data ar lefel Gymraeg yn unig.

Dylid trin y ffigurau ar gyfer y mis diweddaraf fel rhai dros dro. Nid yw’r data hyn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol, a gellir diwygio'r data yn y dyfodol. 

Pan fydd diwygiadau wedi digwydd ers cyhoeddi data'r mis diwethaf, bydd y ffigurau'n wahanol i'r rhai a gyhoeddwyd yn flaenorol. Defnyddiwch y data diweddaraf, sydd i'w weld ar StatsCymru, i sicrhau fod y ffigurau rydych chi'n eu defnyddio yn gyfredol. Mae ffigurau sydd wedi’u diwygio ers eu cyhoeddi'n flaenorol wedi'u marcio â (r).

Prif bwyntiau

Cymariaethau dros amser

Mae'r casgliad misol hwn o wybodaeth reoli, a'r canllawiau a ddarperir, yn parhau i gael eu mireinio a'u gwella.

Mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol wedi bod yn cydweithio i wella dibynadwyedd data yn y casgliad hwn. Oherwydd gwelliannau yn ansawdd data o fis Ebrill 2023 ymlaen, bydd siartiau sy'n dangos cyfres amser yn defnyddio Ebrill 2023 fel man cychwyn.

Defnyddio llety dros dro

  • Ledled Cymru, roedd 1,458 achos o bobl ddigartref yn cael eu rhoi mewn llety dros dro yn ystod y mis, 140 yn llai nag ym mis Medi 2023. O’r rhain, roedd 411 yn blant dibynnol o dan 16 oed, cynnydd o 12 o fis Awst 2023. [troednodyn 1]
  • O'r lleoliadau i lety dros dro yn ystod mis Hydref 2023, daeth y rhan fwyaf o achosion o amgylchiadau 'Eraill' (618 o ddigwyddiadau), ac yna 'Symudwyd o lety anaddas arall' (558 o ddigwyddiadau) [troednodyn 1] [troednodyn 2]

Ffigur 1: Unigolion digartref sy'n cael eu lletya mewn llety dros dro ar ddiwedd y mis, Ebrill 2023 i Hydref 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart llinell sy'n dangos cynnydd bach yng nghyfanswm yr unigolion digartref a nifer gymharol sefydlog o blant dan 16 oed mewn llety dros dro ar ddiwedd y mis rhwng Ebrill 2023 a Hydref 2023.

Ffynhonnell: Gwasanaethau digartrefedd Awdurdodau Lleol Cymru

  • Ar 31 Hydref 2023, roedd 11,273 o unigolion mewn llety dros dro, cynnydd o 65 ers 30 Medi 2023. Roedd 3,403 o’r rhain yn blant dibynnol o dan 16 oed, gostyngiad o 3 ers 30 Medi 2023.
  • Y math o lety dros dro oedd yn gartref i'r nifer fwyaf o unigolion ddiwedd mis Hydref 2023 oedd 'gwely a brecwast a gwestai' gyda 3,518 o unigolion, a 915 ohonynt yn blant dibynnol o dan 16 oed.
  • Rhwng dechrau’r pandemig COVID-19 a diwedd Hydref 2023, mae dros 43,600 o bobl a oedd yn ddigartref ynghynt wedi cael cymorth i lety brys dros dro. [troednodyn 3]

Unigolion digartref sydd wedi cael eu symud i lety hirdymor addas

  • Ym mis Hydref 2023, symudwyd 724 o unigolion digartref i lety hirdymor addas, 24 yn llai nag ym mis Medi 2023. O’r unigolion digartref a symudwyd i lety hirdymor addas, roedd 244 yn blant dibynnol o dan 16 oed, 29 yn llai nag ym mis Medi 2023.

Cysgu allan

Ffigur 2: Nifer y bobl sy'n cysgu allan yng Nghymru, Ebrill 2023 i Hydref 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart llinell sy'n dangos cynnydd yna gostyngiad yn nifer y bobl sy'n cysgu allan rhwng Ebrill a Medi 2023, gyda chynnydd eto ym mis Hydref 2023

Ffynhonnell: Gwasanaethau digartrefedd Awdurdodau Lleol Cymru

  • Ar 31 Hydref 2023, amcangyfrifwyd bod 169 o unigolion yn cysgu allan ledled Cymru. Mae hyn yn cynnydd o 25 o’r 144 unigolion sy’n cysgu allan ar 30 Medi 2023. [troednodyn 4]
  • Ar 31 Hydref 2023, Caerdydd (43), Casnewydd (37), Torfaen (13), Sir Benfro (10), a Abertawe (10) oedd yr awdurdodau lleol a nododd y niferau uchaf o unigolion yn cysgu allan. Nododd pob awdurdod lleol arall fod 9 neu lai unigolyn yn cysgu allan, gyda pedwar awdurdod lleol yn adrodd sero. [troednodyn 4]

Newidiadau

Yn dilyn adborth gan ddefnyddwyr, rydym wrthi'n datblygu'r cyhoeddiad yma, sy'n seiliedig ar wybodaeth reoli. Rydym yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol i gryfhau'r canllawiau casglu data a gwella ansawdd y data.

Yn y cyhoeddiad hwn (yn ymwneud â Hydref 2023) rydym yn cyhoeddi data yn Nhabl 2: Nifer yr unigolion digartref sydd mewn llety dros dro ar ddiwedd y mis, yn ôl awdurdod lleol yn ogystal ag yn ôl math o lety, am y tro cyntaf. Hefyd, mae data o fis Ebrill 2023 ymlaen wedi symud o'r fformat taenlen flaenorol i StatsCymru o dan yr adran Digartrefedd. Mae taenlen o ddata a gyhoeddwyd cyn mis Ebrill 2023 ar gael i'w lawrlwytho o StatsCymru.

Atal y cyfrif cenedlaethol o gysgu allan ar gyfer 2023

Cafodd y cyfrif cenedlaethol o gysgu allan ei atal dros dro rhwng 2020 a 2023 oherwydd pandemig coronafirws (COVID-19).

Byddwn yn ystyried dyfodol hir dymor y cyfrif o gysgu allan ac yn trafod â defnyddwyr cyn cynnal y cyfrif ar gyfer 2024.

Y gallu i gymharu’r data ag ystadegau ar ddigartrefedd statudol ac y cyfrif o gysgu allan

Mae'n bwysig nodi'r gwahaniaethau dilynol rhwng y casgliad data rheoli misol hwn a'n casgliadau data a chyhoeddiadau presennol ar ddigartrefedd statudol:

  • Mae'r data misol hwn yn ymwneud â nifer yr unigolion sy'n profi digartrefedd ac sy'n cael eu cefnogi gan awdurdodau lleol i lety dros dro neu lety hirdymor addas.
  • Mae ein casgliadau rheolaidd ar ddigartrefedd statudol yn casglu data ar nifer yr aelwydydd, nid unigolion. Mae'r data hynny’n ymwneud â digartrefedd fel y'i diffinnir gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

Yn ogystal, nid ydym yn argymell cymariaethau rhwng yr amcangyfrifon cysgu allan o'r casgliad misol hwn a'r cyfrif blynyddol o gysgu allan (hyd at fis Tachwedd 2019). Yn y casgliad misol hwn, gofynnir i awdurdodau lleol seilio eu hamcangyfrifon ar ddeallusrwydd lleol. Mae gan y cyfrif blynyddol o gysgu allan fethodoleg wahanol: ymarfer casglu gwybodaeth dwy wythnos, ac yna cyfrif ciplun un noson.

Troednodiadau

[1] Mae proses rheoli datgelu wedi'i gymhwyso i'r ffigurau ar gyfer pobl yn cael eu rhoi mewn llety dros dro ac i ddata cysylltiedig ar StatsCymru. Cyfrifwyd newidiadau rhwng misoedd gan ddefnyddio'r data heb ei dalgrynnu, felly efallai na fydd yn cyd-fynd â'r gwahaniaeth rhwng y ffigurau crwn a ddarparwyd.

[2] Mae amgylchiadau 'Eraill' yn cyfeirio at resymau heblaw symud oddi ar y stryd, gynt yn cysgu ar soffas eraill, wedi symud o lety amhriodol arall a’r rhai sy'n gadael y carchar.

[3] Mae'r ffigur hwn yn cael ei gyfrifo ac nid yw'n cael ei ddangos yn y set ddata gysylltiedig.

[4] Gofynnir i awdurdodau lleol seilio'r amcangyfrifon hyn ar wybodaeth leol, nid cyfrif un noson.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Rachel Shepherd-Hunt

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.