Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth reoli am bersonau a wedi'u rhoi mewn llety dros dro a phobl sydd yn cysgu allan ar gyfer Medi 2020.

Mae'r casgliad misol hwn yn disodli'r casgliad wythnosol o wybodaeth yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19).

Mae’r wybodaeth yn cynnwys llety argyfwng a’r llety hirdymor a ddarperir i bobl (16+ oed) sy’n wneud cais i’r awdurdodau lleol am gymorth tai gan eu bod mewn perygl o fod yn ddigartref.

Nid yw’r data hyn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol, a gellir diwygio'r data yn y dyfodol.

Dylid trin y ffigurau ar gyfer y mis diweddaraf fel rhai dros dro. Nid yw pob awdurdod lleol wedi gallu darparu data cynhwysfawr ac adlewyrchir hynny, os yw’n berthnasol, yn y troednodiadau.

I ddechrau, rydym yn cyhoeddi data ar lefel Cymru yn unig. Rydym yn dal i asesu a deall ansawdd y data sy'n cael eu casglu. Yn y dyfodol, byddwn yn ystyried cyhoeddi dadansoddiadau eraill os yw’n bosibl, gan gynnwys fesul awdurdod lleol.

Y gallu i gymharu’r data ag ystadegau ar ddigartrefedd statudol

Mae'n bwysig nodi'r gwahaniaethau dilynol rhwng y casgliad misol newydd hwn a'n casgliadau data a chyhoeddiadau presennol ar ddigartrefedd statudol:

  • Mae'r data misol hwn yn ymwneud â nifer yr unigolion sy'n profi digartrefedd ac sy'n cael eu cefnogi gan awdurdodau lleol i lety argyfwng neu lety hirdymor addas.
  • Mae ein casgliadau chwarterol a blynyddol ar ddigartrefedd statudol yn casglu data ar nifer yr aelwydydd, nid unigolion. Mae'r data hynny’n ymwneud â digartrefedd fel y'i diffinnir gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

Prif bwyntiau

Cymariaethau dros amser

Ar hyn o bryd, mae'n bwysig peidio â rhoi gormod o bwyslais ar ddata ar gyfer mis unigol neu gymariaethau â misoedd blaenorol. Mae'r casgliad misol hwn o wybodaeth reoli a'r canllawiau a ddarperir yn parhau i gael eu mireinio a'u gwella.

Defnyddio llety argyfwng

  • Ledled Cymru, cafodd 1,195 o bobl ddigartref eu rhoi mewn llety argyfwng yn ystod y mis. Mae hyn yn gynnydd o 23% o’r 974 bobl a leolwyd i fewn i lety o’r fath yn ystod mis Awst.
  • Ar 30 Medi 2020, roedd 4,048 o unigolion mewn llety dros dro. Mae hyn yn gynnydd o 13% gan yr 3,577 unigolion(r) ar 31 Awst 2020. (a)(b)(c)(d)

(a) Nid oedd un awdurdod lleol wedi cynnwys y rheini sy’n ‘ddigartref mewn cartref’.
(b) Nid oedd dau awdurdodau lleol wedi gallu cael data o lochesi menywod yn eu awdurdod lleol.
(c) Roedd un awdurdod lleol wedi adrodd am aelwydydd, nid unigolion. Felly, bydd tangyfrif bach yng nghyfanswm y ffigur a gyflwynir.
(d) Nid oedd un awdurdod lleol yn gallu cyflenwi'r ffigur ar gyfer mis Medi mewn pryd i'w gyhoeddi. Ar gyfer yr awdurdod lleol hwn, defnyddiwyd y ffigur ar gyfer 31 Awst yn lle’r ffigur ar gyfer 30 Medi.
(r) Diwygiedig

Pobl sydd wedi cael eu symud i lety hirdymor addas

  • Symudwyd 571 o unigolion digartref i lety hirdymor addas. Mae hyn yn gynnydd o 34% o’r 427 unigolion(r) a symudwyd ym mis Awst. (e)(f)

(e) Nid oedd un awdurdodau lleol yn gallu darparu unrhyw ddata ar gyfer y categori hwn.
(f) Ar gyfer Awst, roedd un ALl wedi adrodd am aelwydydd ac nid unigolion. Felly, bydd tangyfrif bach yng nghyfanswm y ffigur a gyflwynir ar gyfer mis Awst.
(r) Diwygiedig

Cysgu allan

  • Ar 30 Medi 2020 roedd 110 o unigolion yn cysgu allan ledled Cymru. Mae hyn yn gynnydd o 9% gan y 101 unigolion sy’n cysgu allan ar 31 Awst 2020. (g)

(g) Gofynnir i awdurdodau lleol seilio'r data hyn ar wybodaeth leol, nid cyfrif un noson.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.