Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth reoli am bersonau a wedi'u rhoi mewn llety dros dro a phobl sydd yn cysgu allan ar gyfer Rhagfyr 2020.

Mae'r casgliad misol hwn yn disodli'r casgliad wythnosol o wybodaeth yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19).

Mae’r wybodaeth yn cynnwys llety dros dro a’r llety hirdymor a ddarperir i bobl sy’n wneud cais i’r awdurdodau lleol am gymorth tai gan eu bod mewn perygl o fod yn ddigartref.

Nid yw’r data hyn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol, a gellir diwygio'r data yn y dyfodol.

Dylid trin y ffigurau ar gyfer y mis diweddaraf fel rhai dros dro. Nid yw pob awdurdod lleol wedi gallu darparu data cynhwysfawr ac adlewyrchir hynny, os yw’n berthnasol, yn y troednodiadau.

Ar gyfer yr amcangyfrifon o gysgu allan, rydym yn cyhoeddi dadansoddiad yn ôl awdurdod lleol (o fis Tachwedd 2020). Ar gyfer data ar ddefnydd llety, i ddechrau rydym yn cyhoeddi data ar lefel Cymru yn unig. Rydym yn dal i asesu a deall ansawdd y data sy'n cael eu casglu. Yn y dyfodol, byddwn yn ystyried cyhoeddi dadansoddiadau eraill os yw’n bosibl, gan gynnwys yn ôl awdurdod lleol.

Y gallu i gymharu’r data ag ystadegau ar ddigartrefedd statudol ac y cyfrif o gysgu allan

Mae'n bwysig nodi'r gwahaniaethau dilynol rhwng y casgliad misol newydd hwn a'n casgliadau data a chyhoeddiadau presennol ar ddigartrefedd statudol.

  • Mae'r data misol hwn yn ymwneud â nifer yr unigolion sy'n profi digartrefedd ac sy'n cael eu cefnogi gan awdurdodau lleol i lety dros dro neu lety hirdymor addas.
  • Mae ein casgliadau chwarterol a blynyddol ar ddigartrefedd statudol yn casglu data ar nifer yr aelwydydd, nid unigolion. Mae'r data hynny’n ymwneud â digartrefedd fel y'i diffinnir gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

Yn ogystal, nid ydym yn argymell cymariaethau rhwng yr amcangyfrifon cysgu allan o'r casgliad misol hwn a'r cyfrif blynyddol o gysgu allan (hyd at fis Tachwedd 2019). Yn y casgliad misol hwn, gofynnir i awdurdodau lleol seilio eu hamcangyfrifon ar ddeallusrwydd lleol. Mae gan y cyfrif blynyddol o gysgu allan fethodoleg wahanol: ymarfer casglu gwybodaeth dwy wythnos, ac yna cyfrif ciplun un noson.

Prif bwyntiau

Cymariaethau dros amser

Ar hyn o bryd, mae'n bwysig peidio â rhoi gormod o bwyslais ar ddata ar gyfer mis unigol neu gymariaethau â misoedd blaenorol. Mae'r casgliad misol hwn o wybodaeth reoli a'r canllawiau a ddarperir yn parhau i gael eu mireinio a'u gwella.

Defnyddio llety dros dro

Ar gyfer mis Tachwedd 2020 a misoedd cynharach, nodwch fod data ar ddefnydd llety dros dro wedi'i ddiwygio.

  • Ledled Cymru, cafodd 919 o bobl ddigartref eu rhoi mewn llety dros dro yn ystod y mis, 99 yn llai nag ym mis Tachwedd 2020. O’r rhain, roedd 107 yn blant dibynnol o dan 16 oed, gostyngiad o 39 o fis Tachwedd 2020. (a)(b)
  • Ar 31 Rhagfyr 2020, roedd 5,501 o unigolion mewn llety dros dro, gostyngiad o 94 o 30 Tachwedd 2020. Roedd 1,187 o’r rhain yn blant dibynnol o dan 16 oed, gostyngiad o 83 o 30 Tachwedd 2020. (b)(c)

(a) Nid oedd un awdurdod lleol wedi cynnwys y rheini sy’n ‘ddigartref mewn cartref’.
(b) Roedd un awdurdod lleol wedi adrodd am aelwydydd, nid unigolion. Felly, bydd tangyfrif bach yng nghyfanswm y ffigur a gyflwynir.
(c) Nid oedd dau awdurdodau lleol wedi gallu cael data o lochesi menywod yn eu awdurdod lleol.

Unigolion digartref sydd wedi cael eu symud i lety hirdymor addas

  • Symudwyd 545 o unigolion digartref i lety hirdymor addas, 27 yn llai nag ym mis Tachwedd 2020. O’r unigolion digartref i lety hirdymor addas, roedd 181 yn blant dibynnol o dan 16 oed, 25 yn fwy nag ym mis Tachwedd 2020. (d)

(d) Roedd un awdurdod lleol wedi adrodd am aelwydydd, nid unigolion. Felly, bydd tangyfrif bach yng nghyfanswm y ffigur a gyflwynir.

Cysgu allan

  • Ar 31 Rhagfyr 2020, roedd 61 o unigolion yn cysgu allan ledled Cymru. Mae hyn yn gostyngiad o’r 96 unigolion sy’n cysgu allan ar 30 Tachwedd 2020. (e)(f)
  • Ar 31 Rhagfyr 2020, Casnewydd (11), Caerffili (10), Caerdydd (7) a Thor-faen (5) oedd yr awdurdodau lleol a nododd y niferau uchaf o unigolion yn cysgu allan. Nododd pob awdurdod lleol arall fod yn llai na 10 unigolion yn cysgu allan, gydag saith awdurdodau lleol yn adrodd sero. (e)

(e) Gofynnir i awdurdodau lleol seilio'r amcangyfrifon hyn ar wybodaeth leol, nid cyfrif un noson.
(f) Nid oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gallu darparu amcangyfrif ar gyfer 30 Tachwedd 2020. Cytunodd y cyngor y dylid defnyddio amcangyfrif ar 31 Hydref ar gyfer 30 Tachwedd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan: Rhagfyr 2020 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 9 KB

ODS
9 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.