Neidio i'r prif gynnwy

Nifer yr unedau ychwanegol a ddarparwyd, yn ogystal â sut y mae'r system gynllunio yn cyfrannu at y ddarparu'r unedau hyn ar gyfer Ebrill 2017 i Mawrth 2018.

Siart bar yw hwn yn dangos nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd ar draws Cymru yn flynyddol o 2011-12 hyd 2017-18. Dros y cyfnod, cafwyd y nifer uchaf yn 2016-17 (2,547 o unedau). Yn 2017-18 gostyngodd y nifer a ddarparwyd 9% ar y flwyddyn flaenorol iI 2,317 o unedau.

Prif bwyntiau

  • Yn 2017-18, adroddodd awdurdodau lleol bod 2,316 o unedau tai fforddiadwy ychwanegol wedi eu darparu ar draws Cymru, gostyngiad o 9% ar y flwyddyn flaenorol. Darparwyd 10 o unedau tai ychwanegol o dan y cynllun Rhenti i Berchnogi - Cymru(1) a gyflwynwyd yn Chwefror 2018.
  • Roedd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig Cymraeg yn parhau i wneud y cyfraniad mwyaf tuag at ddarpariaeth tai fforddiadwy ychwanegol yng Nghymru, gan ddarparu 84% o'r holl ddarpariaeth tai fforddiadwy ychwanegol yn ystod 2017-18 (1,946 o unedau).
  • Cafwyd gostyngiad o 31% yn nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a gyflawnwyd oedd wedi eu hariannu â grantiau cyfalaf yn ystod 2017-18 i 1,243. Cafwyd cynnydd o 46% yn y nifer a gyflawnwyd oedd heb eu hariannu â grantiau cyfalaf (i 1,073).
  • Yn ystod 2017-18, cafodd cyfanswm o 531 o unedau tai fforddiadwy eu cyflawni ar dir a oedd ar gael gan y sector gyhoeddus, gostyngiad o 23% ar y flwyddyn flaenorol.

(1) Nid yw unedau Rhenti i Berchnogi - Cymru yn cydymffurfio â diffiniad TAN 2 o dai fforddiadwy ac felly nid yw wedi ei gynnwys yn y cyfanswm yn y datganiad hwn. Mae’r ffigyrau cyn cyfrannu tuag at darged tai fforddiadwy Llywodraeth Cymru.

Adroddiadau

Darpariaeth tai fforddiadwy, Ebrill 2017 i Mawrth 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.