Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae gan y systemau addysg sy’n perfformio orau yn y byd athrawon a staff cymorth egnïol a brwdfrydig sydd wedi ymrwymo i ddysgu parhaus. Mae ymrwymiad gyrfa gyfan i ddysgu proffesiynol yn hollbwysig wrth sicrhau ansawdd ac effaith addysgu a dysgu mewn gwlad. Yng Nghymru, rydym wedi datblygu dull cenedlaethol o ddysgu proffesiynol gydol gyrfa ar gyfer ein gweithlu ysgol, gan gynnwys athrawon, cynorthwywyr addysgu, staff cyflenwi ac arweinwyr. Rydym yn dymuno cefnogi ymarferwyr yng Nghymru i fod yn ddysgwyr proffesiynol gydol oes sy’n myfyrio ar eu hymarfer eu hunain ac yn ei wella er mwyn cymell ac ysbrydoli’r plant a’r bobl ifanc yn eu hysgolion.

Mae'r system addysg yng Nghymru yn parhau i wynebu heriau sylweddol. Mae angen atgyfnerthu ymgysylltiad system gyfan i alluogi rhoi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith gyda ffocws ar lythrennedd a rhifedd, galluogi gweithredu diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol (ADY), a sicrhau addysg gynhwysol. Rydym yn cydnabod yr angen i ddarparu amser i bob ymarferydd dderbyn hyfforddiant, paratoi a chynllunio mewn perthynas â'r cwricwlwm.

Cyflwynwyd dyddiau hyfforddiant mewn swydd (HMS) gyntaf yn y 1980au. Diwrnodau yw’r rhain pan nad yw dysgwyr yn mynychu'r ysgol, ond mae'n ofynnol i'r staff fynychu ar gyfer hyfforddiant. Mae'r hawl i 5 diwrnod nad ydynt yn addysgu/HMS (ar gyfer athro a gyflogir amser llawn) yn rhan o'r Ddogfen statudol 'Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru)' (STPC(W)D) ("Diwrnodau HMS STPCD"), sy'n nodi cyfanswm nifer y diwrnodau y mae'n rhaid i athro fod ar gael ar gyfer gwaith o fewn blwyddyn ysgol, gan gynnwys nifer y diwrnodau hynny y mae'n rhaid iddynt fod yn ddiwrnodau addysgu a diwrnodau STPCD HMS nad ydynt yn ddiwrnodau addysgu. Datganolwyd pwerau dros yr STPC(W)D i Gymru yn 2018, ac mae proses annibynnol flynyddol wedi'i sefydlu i ystyried cyflogau ac amodau athrawon a phenaethiaid drwy Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (IWPRB).

Nid yw telerau ac amodau cyflogaeth ar gyfer cynorthwywyr addysgu'r un fath â'r rhai ar gyfer athrawon a phenaethiaid ac nid ydynt yn cael eu llywodraethu gan waith y STPC(W)D. Fe'u gosodir gan Awdurdodau Lleol unigol. Mae Llywodraeth Cymru yn glir, fodd bynnag, y dylai cynorthwywyr addysgu gael cyfleoedd i ymgysylltu â dysgu proffesiynol. Rydym wedi gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid addysg i sicrhau bod dysgu proffesiynol ar gael i gynorthwywyr addysgu, ac mae ein canllawiau yn nodi'n glir y dylai ysgolion fod yn defnyddio'r grant dysgu proffesiynol i gefnogi datblygiad pob ymarferydd, yn unol ag ansawdd y ddarpariaeth sydd ar gael i athrawon cymwysedig. Mae hyn yn rhan o’n gwaith ehangach i wella tâl ac amodau cynorthwywyr addysgu, er mwyn rhoi cydnabyddiaeth a gwobr deg iddynt am y gwaith pwysig y maent yn ei wneud, gan gynnwys gyda’n dysgwyr mwyaf agored i niwed.

Bwriad cefnogi ymarferwyr i ddatblygu'n broffesiynol, gan ganolbwyntio ar ein blaenoriaethau allweddol ar gyfer gwella addysg, yw arwain at well deilliannau i ddysgwyr ar draws y sector ysgolion. Ar yr un pryd, rydym yn cydnabod bod diwrnodau HMS yn lleihau amser dysgwyr yn yr ysgol ac yn gallu creu heriau i rieni a gofalwyr.

Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn ar ein cynigion i newid nifer y diwrnodau y bydd athrawon ar gael i addysgu dysgwyr, a nifer y diwrnodau y gall fod yn ofynnol i'r athro fynychu diwrnodau HMS yn unig, fel y nodir yn y STPC(W)D.

Bydd yr ymgynghoriad ar agor am gyfnod o 8 wythnos a bydd yn cau ar 2 Chwefror 2026. Mae hyn er mwyn sicrhau y gall unrhyw newidiadau i reoliadau ddod i rym ym mis Medi 2026, gan ganiatáu i awdurdodau lleol, ysgolion a rhieni/gofalwyr wneud unrhyw drefniadau angenrheidiol.

Beth yw’r sefyllfa ar hyn o bryd

Mae gan bob athro a phennaeth hawl i 5 diwrnod STPC(W)D HMS y flwyddyn fel y nodir yn y STPC(W)D. Mae'r dyddiau hynny wedi cael eu defnyddio ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau dysgu proffesiynol a datblygu ysgolion.

Yng Nghymru, darperir diwrnod HMS ychwanegol drwy'r Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003. Yn 2019, diwygiwyd Rheoliadau 2003 i ddarparu diwrnod HMS ychwanegol. Fe wnaethom gyflwyno diwrnod HMS dysgu proffesiynol cenedlaethol ychwanegol er mwyn cefnogi ymarferwyr i baratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru. Yn y lle cyntaf, trefnwyd y diwrnod HMS ychwanegol hwn ar gyfer tair blynedd academaidd, 2019 i 2020, 2020 i 2021 a 2021 i 2022. Caniatawyd defnyddio'r diwrnod HMS ychwanegol at y dibenion canlynol:

  • darparu hyfforddiant (gan gynnwys hyfforddiant a fynychir gan staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu a hyfforddiant a gynhelir ar y cyd ag ysgolion eraill) neu
  • paratoi a chynllunio ar gyfer athrawon mewn ysgolion a gynhelir

O ganlyniad uniongyrchol i'r pandemig, roedd llawer o ymarferwyr yn methu defnyddio'r diwrnod HMS ychwanegol at y dibenion a nodwyd yn wreiddiol. Yn hytrach, roedd yn rhaid i arweinwyr ysgolion ac athrawon ddatblygu ffyrdd newydd o ymgysylltu â dysgwyr a sicrhau y gallai dysgwyr barhau i ddysgu yn ystod y pandemig. Felly, darparwyd y diwrnod HMS ychwanegol hefyd ar gyfer blynyddoedd academaidd 2022 i 2023, 2023 i 2024 a 2024 i 2025.

Yn 2025, fe wnaethom ddiwygio Rheoliadau 2023 ymhellach i ddarparu'r diwrnod HMS ychwanegol ar gyfer blwyddyn ysgol 2025 i 2026. Ar gyfer y flwyddyn ysgol honno, bu modd i ysgolion ddefnyddio 1 diwrnod ysgol fel diwrnod HMS ychwanegol ar gyfer darparu hyfforddiant (gan gynnwys hyfforddiant a fynychir gan staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu a hyfforddiant a gynhelir ar y cyd ag ysgolion eraill) neu baratoi a chynllunio, mewn perthynas ag un neu fwy o'r canlynol:

  1. lleihau effaith tlodi ar gynnydd a chyrhaeddiad dysgwyr yn yr ysgol
  2. gweithrediad Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ar gyfer dysgwyr yn yr ysgol
  3. y cwricwlwm sydd i'w ddarparu yn yr ysgol o dan Rannau 2 a 3 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021
  4. y trefniadau asesu sydd i'w gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

Gellir dod o hyd i’r canllawiau presennol ar ddefnyddio diwrnodau HMS yma: Creu amser ar gyfer dysgu proffesiynol (Hwb). Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar gynigion i ddiwygio a chryfhau’r canllawiau hyn ar bwyntiau penodol, er mwyn cefnogi ysgolion, awdurdodau lleol a theuluoedd.

Mae gan ysgolion yr hyblygrwydd i reoli dysgu proffesiynol eu staff yn ôl blaenoriaethau lleol ac unigol. Er y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i argymell themâu a phynciau cenedlaethol y dylid eu hystyried, mae'n fater i ysgolion benderfynu pa rai y maen nhw’n mynd i'r afael â nhw gyntaf. Fodd bynnag, gall fod yn anodd i awdurdodau lleol a rhieni a gofalwyr ddeall pa gynnwys y gellir ei drafod yn ystod y dyddiau hyn, a sut y bydd hyn yn cael yr effaith gadarnhaol arfaethedig ar ddeilliannau dysgwyr. Rydym yn cynghori cyfathrebu da rhwng ysgolion a'r gymuned leol fel y gall rhieni/gofalwyr gynllunio ymlaen llaw a deall pwrpas yr hyfforddiant.

Mae sesiynau cyfnos yn digwydd ar ôl oriau ysgol. Mae rhai ysgolion yn defnyddio sesiynau cyfnos 3 x 2 awr wedi'u gwasgaru trwy gydol tymor i wneud un diwrnod HMS ac yna nid yw'n ofynnol iddynt weithio ar un o’r diwrnodau nad ydynt yn addysgu pan nad yw plant yn yr ysgol. Gall y rhain fod yn sesiynau defnyddiol i gwblhau hyfforddiant statudol neu orfodol nad oes angen diwrnod llawn ar eu cyfer. Dylai ysgolion feddwl yn ofalus beth sydd angen ei drafod yn ystod y sesiynau hyn, a beth fydd y deilliant gorau ar gyfer datblygiad athrawon a deilliannau dysgwyr.

Er mwyn deall y dirwedd yn well, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Miller Research i gynnal ymchwil i'r defnydd o HMS yn ysgolion Cymru. Mae canfyddiadau cychwynnol yr ymchwil hon, ynghyd â thystiolaeth arall, a amlinellir yn fanylach yn yr adran nesaf, wedi llywio'r cynigion yn yr ymgynghoriad hwn.

Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda Plant yng Nghymru, y corff ymbarél cenedlaethol ar gyfer sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd yng Nghymru. Maent wedi cael y dasg o siarad â phlant a phobl ifanc i gasglu eu barn ar ddarpariaeth HMS a sut mae hyn yn effeithio ar eu haddysg. Cyfarfu Plant yng Nghymru â dysgwyr o bob cwr o Gymru o leoliadau cynradd ac uwchradd.

Canfu'r ymchwil hon fod dysgwyr fel arfer yn treulio diwrnodau HMS yn gorffwys, cymdeithasu gyda ffrindiau, mwynhau hobïau fel gwylio ffilmiau neu chwarae chwaraeon, ac yn manteisio ar y cyfle i wneud gwaith ysgol, yn enwedig dysgwyr hŷn. Maen nhw’n gwerthfawrogi'r amser ar gyfer ymlacio a chysylltu. Pan ofynnwyd iddynt sut yr hoffent dreulio diwrnodau HMS, awgrymwyd profiadau egnïol a hwyliog fel tripiau, chwaraeon, ac amser gyda ffrindiau a theulu, ond roeddynt yn parhau i werthfawrogi'r cyfle i orffwys a chael dadflino.

Er mwyn cefnogi lles a dysgu ar ddiwrnodau HMS, awgrymodd dysgwyr fod ysgolion yn cynnig mannau diogel, cyswllt ar-lein â staff, a phresenoldeb dewisol i'r rhai sydd ei angen. Roedd y syniadau yn cynnwys clybiau gwaith cartref, gweithgareddau cymdeithasol rhithwir, a chymorth ymarferol fel parseli bwyd neu fynediad at wasanaethau lleol.

Roedd barn dysgwyr ar nifer y diwrnodau HMS yn amrywio. Roedd rhai yn teimlo bod y nifer presennol yn briodol, gan werthfawrogi amser ysgol a chydnabod materion ymarferol fel gofal plant a dysgu a gollir. Roedd eraill eisiau mwy o ddiwrnodau HMS ar gyfer gorffwys, amser gyda'r teulu, neu gyfrifoldebau personol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Roedd yn well gan rai o’r ymatebwyr lai o ddyddiau er mwyn osgoi colli gwersi. Roedd y rhan fwyaf yn cytuno bod hyfforddiant athrawon yn bwysig, ond roedd barn yn amrywio ar ba mor aml y dylai ddigwydd - roedd rhai yn awgrymu mwy o ddiwrnodau HMS, tra bod eraill yn cynnig dewisiadau amgen creadigol fel dysgu ar-lein neu weithgareddau dan arweiniad dysgwyr i leihau tarfu.

Crynhodd Plant yng Nghymru eu canfyddiadau drwy ddweud: 

Ar y cyfan, mae disgyblion eisiau i fwy o ddiwrnodau HMS gael eu gwasgaru dros y flwyddyn ysgol. Er mai dim ond gwahaniaethau bach iawn oedd o ran sut roedd gwahanol grwpiau oedran yn teimlo am ddiwrnodau HMS, roedd diwrnodau HMS yn cael eu hystyried fel amser i ffwrdd gwerthfawr i bawb. Rydym yn nodi bod disgyblion hŷn eisiau mwy o ddiwrnodau HMS er mwyn gallu eu defnyddio ar gyfer adolygu, tra bod disgyblion iau dim ond eu heisiau er mwyn cael diwrnod arall i ffwrdd o’r ysgol. Byddai disgyblion yn hoffi i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ystyried eu hawgrymiadau ar gyfer cefnogi unigolion sydd mewn perygl a mentrau i gefnogi gofal i athrawon sy'n rhieni.

Ynghyd â’r ymgynghoriad pwysig hwn, byddwn yn ystyried canlyniadau gwaith maes Plant yng Nghymru a’r gwerthusiad o ddiwrnodau HMS a gynhaliwyd gan Miller Research yn ofalus cyn gwneud penderfyniad ynghylch a fyddwn yn bwrw ymlaen â’r cynigion yn yr ymgynghoriad hwn. Bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael eu dadansoddi, ochr yn ochr â chanfyddiadau’r ymchwil a’r gwerthusiad, a bydd yr holl dystiolaeth yn cael ei hystyried yn llawn yn y penderfyniad. Bydd hyn yn golygu bod lleisiau plant, teuluoedd ac ymarferwyr yn cael eu clywed yn y broses, a bod tystiolaeth gadarn yn sail i’r penderfyniad.

Pam rydym yn cynnig newid

Er bod y pum diwrnod HMS traddodiadol wedi cefnogi datblygiad ysgolion ers blynyddoedd lawer, mae gofynion esblygol y system addysg, megis rhoi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith, diwygiadau ADY, cymwysterau newydd, a'r ymgyrch am degwch, yn gofyn am ddull mwy cyson a strategol. Mae awdurdodau lleol hefyd yn gofyn fwyfwy am ddefnyddio diwrnodau HMS ar gyfer hyfforddiant corfforaethol, gan roi pwysau ychwanegol ar ysgolion. Ochr yn ochr â hyn, mae'r trefniadau newydd i wella ysgolion yn annog mwy o gydweithio rhwng ysgolion, sy'n cymryd amser a chynllunio. Mae sefydlu Dysgu, y corff cenedlaethol newydd ar gyfer dysgu proffesiynol a chymorth arweinyddiaeth o fis Medi 2025, yn adlewyrchu ein hymrwymiad i sicrhau bod dysgu proffesiynol yn gydlynol, yn hygyrch ac yn effeithiol ar draws y system.

Nododd adroddiad diweddar Estyn ar addysgu'r cwricwlwm yng Nghymru y canlynol: 

Lle mae dysgu proffesiynol o ansawdd uchel yn cael yr effaith fwyaf, mae'n gynaledig, yn gydweithredol ac yn canolbwyntio'n uniongyrchol ar wella addysgu. Yn yr ysgolion gorau, mae staff yn cydweithio â'i gilydd i archwilio arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth, myfyrio ar addysgeg a mireinio dulliau yng ngoleuni profiad yn yr ystafell ddosbarth. Mae arweinwyr yn creu amser wedi'i ddiogelu ar gyfer dysgu proffesiynol ac yn sicrhau ei fod yn cyd-fynd â nodau ysgol gyfan ac anghenion datblygu unigol.

[Troednodyn 1]

Mae Estyn yn rhybuddio fodd bynnag, gan eu bod yn canfod bod:

cyfyngiadau amser a chyllidebol yn aml yn cyfyngu ar ddarpariaeth ac effaith dysgu proffesiynol mewn rhai ysgolion. Yn yr achosion hyn, dywed staff bod diffyg cyfleoedd i ganolbwyntio ar addysgeg a bod cydymffurfiaeth neu gynnwys statudol yn aml yn cael lle blaenllaw mewn hyfforddiant. Mae hyn yn achosi heriau penodol i staff a fyddai'n elwa ar ddysgu proffesiynol parhaus sy'n benodol i gyfnod neu bwnc, nad yw ar bob amser ar gael yn gyson yn rhan o'u datblygiad proffesiynol rheolaidd.

[Troednodyn 2]

Mae'n werth nodi sylwadau'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn 2021, a nododd fod:

y newidiadau sy'n cael eu deddfu, ynghyd â'r amgylchedd cefnogol, yn creu'r lle i ailfeddwl arferion sefydledig ac i ddatblygu a gweithredu dulliau newydd ac effeithiol. Mae'n bwysig adeiladu ar y momentwm a gynhyrchir gan y diwygiadau i’r cwricwlwm er mwyn cynnal ymrwymiad i a dilyn datblygiad pellach dysgu proffesiynol effeithiol yn ysgolion Cymru.

[Troednodyn 3]

Roedd y diwrnod HMS ychwanegol, sydd ar waith ar hyn o bryd ers 2019, yn gam tuag at roi amser a lle i ysgolion ymateb i ddatblygiadau pwysig. Er bod ei effaith yn gyfyngedig i ddechrau oherwydd pandemig COVID-19, mae'r diwrnod ychwanegol bellach yn rhan annatod o galendr yr ysgol ac yn galluogi ymarferwyr i neilltuo amser ychwanegol i ddysgu proffesiynol. Byddai dileu'r diwrnod ychwanegol hwn yn gam yn ôl yn ein hymdrechion i gefnogi ymarferwyr ysgol, yn enwedig ar adeg lle mae cydnabyddiaeth o bwysau llwyth gwaith cynyddol.

Rydym hefyd yn cydnabod bod angen i rai ysgolion strwythuro ac amseru eu diwrnodau HMS mewn ffordd fwy effeithiol, gan ganiatáu gwell cydweithredu rhwng lleoliadau eraill. Mae'r model Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu yn cydnabod pedair thema drawsnewidiol sef ymddiriedaeth, amser, meddwl gyda'n gilydd a thechnoleg, mae HMS pwrpasol yn galluogi'r rhain o fewn ac ar draws ysgolion. Bydd sicrhau bod ysgolion yn cynllunio diwrnodau HMS yn ofalus ac yn rhannu eu bwriadau gyda rhieni a gofalwyr a'u Hawdurdod Lleol yn gwella cydweithrediad rhwng ysgolion ac awdurdodau lleol, a’r gobaith yw y bydd hyn yn lliniaru effaith diwrnodau HMS ar rieni a gofalwyr, drwy ganiatáu iddynt gynllunio trefniadau gofal plant ymlaen llaw.

Byddem yn annog ysgolion yn yr un ardal awdurdod lleol, awdurdod esgobaethol neu o'r un clwstwr i gymryd rhywfaint o'u HMS ar yr un diwrnod. Byddai hyn yn helpu i leihau'r effaith ar rieni neu ofalwyr sydd â dysgwyr mewn gwahanol leoliadau a byddai hefyd yn cefnogi ac yn galluogi cydweithio rhwng ysgolion i ystyried blaenoriaethau cenedlaethol ac i drafod pontio dysgwyr a'r continwwm 3 i 16.

Os ydym am weld dysgu a chydweithredu pwrpasol yn ein hysgolion ac ar draws Cymru, dylai arweinwyr fod yn ymwybodol o'u defnydd o sesiynau cyfnos wrth gynllunio i ddatblygu eu gweithlu ac ymateb i flaenoriaethau pwysig fel y nodwyd uchod. Bydd gor-ddefnydd o'r sesiynau hyn yn amddifadu’n hathrawon a'n cynorthwywyr addysgu o’r cyfle i ddysgu a datblygu gydag amser a lle priodol i wneud hynny. Mae hefyd yn creu rhwystr a all effeithio ar y posibilrwydd o gydweithredu bwriadol. Dylid eu defnyddio yn ofalus ac yn feddylgar trwy gydol y flwyddyn fel ffordd o gefnogi datblygiad a dysgu.

Beth rydym yn ei gynnig

Rydym yn cynnig dull diwygiedig o ymdrin â diwrnodau HMS a dysgu proffesiynol er mwyn cefnogi'r gweithlu ysgol yng Nghymru yn well.

Rydym yn cynnig bod diwrnodau HMS yn y dyfodol yn cael eu neilltuo (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) ar gyfer darparu hyfforddiant i staff addysgu ysgolion (gan gynnwys hyfforddiant a fynychir gan staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu, a hyfforddiant a gynhelir ar y cyd ag ysgolion eraill), a gwaith paratoi a chynllunio mewn perthynas ag un neu ragor o’r meysydd canlynol:

  • Gweithrediad Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ar gyfer dysgwyr yn yr ysgol.
  • Y cwricwlwm i’w ddarparu yn yr ysgol o dan Rannau 2 a 3 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.
  • Y trefniadau asesu i’w gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.
  • Y cymwysterau newydd sy’n cael eu cyflwyno gan Gymwysterau Cymru yng Nghymru o fis Medi 2025 ymlaen.
  • Blaenoriaethau cenedlaethol cyfredol fel y nodir yn Rheoliadau Cynllun Datblygu’r Ysgol (Cymru) 2014. Y rhain yw fel a ganlyn:
    1. gwella cynnydd dysgwyr drwy sicrhau bod eu dysgu’n cael ei gefnogi gan ystod o wybodaeth, sgiliau a phrofiad.
    2. lleihau effaith tlodi ar gynnydd ac ar gyrhaeddiad dysgwyr.

Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn cynnig y newidiadau canlynol.

Cynnal chwe diwrnod HMS fesul blwyddyn academaidd

Rydym yn cynnig diwygio’r STPC(W)D, sy’n nodi nifer y dyddiau y dylai athro weithio. Bydd yn nodi, o’r 195 diwrnod y mae’n ofynnol i athro weithio, bod yn rhaid i 189 diwrnod fod yn ddiwrnodau y gellir ei gwneud yn ofynnol i’r athro addysgu, a bydd 6 diwrnod yn ddiwrnodau y gellir ei gwneud yn ofynnol i’r athro gyflawni dyletswyddau eraill yn unig, megis mynychu diwrnodau HMS.

Bydd chwe diwrnod HMS yn galluogi ysgolion i ganolbwyntio ar flaenoriaethau addysg cenedlaethol, datblygiad proffesiynol a dysgu, ac ymateb i anghenion ysgolion, clwstwr ac awdurdodau lleol.

Felly, bydd Rheoliadau 2003 yn cael eu diwygio fel a ganlyn:

  • Bydd 390 sesiwn ysgol.
  • O’r 390 sesiwn ysgol hynny, bydd 378 yn ddiwrnodau addysgu. Mewn geiriau eraill, byddant yn sesiynau lle mae’n ofynnol i athrawon a dysgwyr fynychu. Bydd parhad o 1 sesiwn bore a 1 sesiwn prynhawn fesul diwrnod ysgol ac felly mae 2 sesiwn ysgol yn cyfateb i 1 diwrnod ysgol llawn.
  • Rhaid defnyddio’r 12 sesiwn ysgol sy’n weddill ar gyfer y diwrnodau HMS (diwrnodau lle mae’r athrawon yn mynychu’r ysgol ond nid y dysgwyr).
  • Rhaid defnyddio’r diwrnodau HMS hynny yn bennaf neu’n gyfan gwbl ar gyfer rhai dibenion rhagnodedig (gweler uchod).
  • Bydd y STPC(W)D sy’n nodi telerau ac amodau athrawon ysgol yng Nghymru yn cael ei ddiwygio i ddarparu bod athrawon yn ofynnol i addysgu am 189 diwrnod ysgol (er enghraifft, 378 sesiwn ysgol) ac yn ofynnol i weithio am chwe diwrnod arall (er enghraifft, 12 sesiwn ysgol) ond heb fod yn ofynnol i addysgu ar y diwrnodau hynny. Bydd y diwrnodau hynny wedi’u neilltuo ar gyfer hyfforddiant athrawon fel y disgrifiwyd uchod.

Gwella cynllunio ac amseru diwrnodau HMS

Rydym am wneud y mwyaf o effaith diwrnodau HMS ar ddysgu proffesiynol a lleihau’r effaith negyddol ar deuluoedd.

Rydym yn cynnig diwygio’r canllawiau i ysgolion ar ddiwrnodau HMS i:

  • Annog ysgolion i beidio â chael mwy na dau ddiwrnod HMS yn olynol, hynny yw, dim ond defnyddio hyd at ddau ddiwrnod HMS ar y tro, yn hytrach na chael blociau o dri neu fwy o ddiwrnodau HMS ar yr un pryd. Bwriad hyn yw sicrhau bod diwrnodau HMS yn cael eu dosbarthu ar draws y flwyddyn ysgol.
  • Annog ysgolion i gydweithio ag ysgolion eraill yn eu hardal ac ag awdurdodau lleol i amseru diwrnodau HMS ar y cyd ar draws clwstwr, grwpiau o ysgolion ac awdurdodau lleol lle bo modd. Bwriad hyn yw gwella’r dysgu gan gymheiriaid sydd ar gael i’n hymarferwyr, ac i wneud trefniadau gofal plant yn haws i rieni a gofalwyr sydd â phlant mewn mwy nag un ysgol. Er enghraifft, gallai rhieni fod â phlentyn mewn ysgol gynradd ac un hŷn mewn ysgol uwchradd. Os oes diwrnodau HMS gwahanol, gallai hynny achosi problemau ymarferol gyda gofal plant. Byddai’n well i ysgolion ac awdurdodau lleol weithio gyda’i gilydd i gytuno pryd y bydd y diwrnodau’n digwydd.
  • Annog ysgolion i beidio â defnyddio mwy na dau ddiwrnod HMS ar ffurf sesiynau cyfnos. Bwriad hyn yw sicrhau bod athrawon a chynorthwywyr addysgu yn gallu cael y gofod a’r amser i ddatblygu eu dysgu yn y ffordd fwyaf effeithiol posibl.
  • Annog ysgolion i rannu diben ac amseru eu diwrnodau HMS gyda rhieni a gofalwyr ac awdurdodau lleol ar ddechrau’r flwyddyn academaidd. Bwriad hyn yw galluogi gwell cynllunio a gwell cyfathrebu â rhieni a gofalwyr.

Pa ddeilliannau rydym yn eu disgwyl

Mae dysgu proffesiynol yn broses newid i wella a datblygu gwybodaeth, sgiliau neu ddealltwriaeth broffesiynol.

Rydym yn disgwyl y bydd adolygu nifer y diwrnodau HMS a chryfhau'r canllawiau ar gyfer dysgu proffesiynol yn arwain at:

  • Well deilliannau i ddysgwyr: drwy sicrhau bod amser wedi’i neilltuo gan ymarferwyr i gymryd rhan mewn dysgu proffesiynol o ansawdd uchel, ein nod yw gwella addysgu a dysgu ledled Cymru.
  • Gweithredu blaenoriaethau cenedlaethol mewn ffordd gryfach: er enghraifft, bydd amser a chymorth ychwanegol yn helpu ymarferwyr i roi’r Cwricwlwm i Gymru, diwygiadau ADY, a dulliau cynhwysol ar waith yn well.
  • Gwell cydweithredu a myfyrio: bydd mwy o amser strwythuredig ar gyfer dysgu proffesiynol yn annog ymarfer myfyriol, cydweithredu rhwng cymheiriaid, a chynllunio datblygu ar lefel ysgol gyfan.
  • Gwelliant cynaliadwy ar draws y system: bydd cefnogi dysgu proffesiynol gydol gyrfa yn helpu i adeiladu gweithlu addysg gwydn sydd â’r gallu i ymgymryd â heriau presennol a heriau'r dyfodol.

Mae'r deilliannau hyn yn cyd-fynd â'n gweledigaeth hirdymor ar gyfer addysg yng Nghymru: grymuso ymarferwyr i ysbrydoli a chefnogi pob dysgwr i gyrraedd ei lawn botensial. . Bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael eu dadansoddi, ochr yn ochr â chanfyddiadau’r ymchwil a’r gwerthusiad, a bydd yr holl dystiolaeth yn cael ei hystyried yn llawn yn y penderfyniad.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

A ydych yn cytuno y dylid darparu 6 diwrnod HMS bob blwyddyn o 2026 i 2027 drwy newid dogfen tâl ac amodau athrawon ysgol (Cymru)?

Cwestiwn 2

A ydych yn cytuno y dylid defnyddio diwrnodau HMS yn bennaf neu’n gyfan gwbl ar gyfer hyfforddiant, cynllunio a pharatoi mewn perthynas â’r dibenion a amlinellir (sy’n ymwneud ag ADY, y cwricwlwm ac asesu cymwysterau a blaenoriaethau cenedlaethol)?

Cwestiwn 3

Rydym yn cynnig newid y canllawiau i gynghori bod ysgolion yn cydweithio ag ysgolion eraill ac awdurdodau lleol i gydlynu amseru diwrnodau HMS ar draws grwpiau, clwstwr neu awdurdodau lleol. Mae hyn er mwyn lleihau aflonyddwch i deuluoedd sydd â phlant mewn mwy nag un ysgol ac i alluogi gwell cydweithio rhwng ysgolion lle bo modd. Bydd hyn yn cael ei gydlynu rhwng penaethiaid ac awdurdodau lleol. A ydych yn cytuno?

Cwestiwn 4

Rydym yn cynnig newid y canllawiau i ofyn i ysgolion gyfathrebu’r diben a’r amseru ar gyfer eu hyfforddiant gydag awdurdodau lleol a rhieni neu ofalwyr ar ddechrau’r flwyddyn academaidd. A ydych yn cytuno?

Cwestiwn 5

Rydym yn cynnig newid y canllawiau i gynghori nad yw ysgolion yn grwpio mwy na 2 ddiwrnod HMS gyda’i gilydd mewn bloc. A ydych yn cytuno?

Cwestiwn 6

Rydym yn cynnig newid y canllawiau i gynghori nad yw ysgolion yn trefnu mwy na 2 ddiwrnod HMS fel sesiynau cyfnos o fewn y flwyddyn academaidd. A ydych yn cytuno?

Cwestiwn 7

A ydych yn cytuno y dylai’r canllawiau bwysleisio bod o leiaf 4 diwrnod HMS yn cael eu defnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf i ddarparu dysgu proffesiynol sy’n ymwneud â dysgu ac addysgu, yn unol â’r dibenion arfaethedig ar gyfer diwrnodau HMS mewn ysgolion? (Bydd hyn yn golygu na chaiff mwy na 2 ddiwrnod HMS eu defnyddio ar hyfforddiant nad yw’n ymwneud â dysgu ac addysgu.)

Cwestiwn 8

Beth yn eich barn chi fyddai effeithiau tebygol y cynnig hwn ar y Gymraeg? Mae diddordeb penodol gyda ni mewn unrhyw effeithiau posibl ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Ydych chi’n meddwl fod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
Ydych chi’n meddwl fod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol? 

Cwestiwn 9

Yn eich barn chi, a fyddai modd ffurfio neu addasu’r polisi arfaethedig er mwyn:

  • sicrhau ei fod yn cael effeithiau positif neu fwy positif ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â’i thrin yn llai ffafriol na Saesneg, neu
  • liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?

Defnyddiwch ffurflen ymateb yr ymgynghoriad i ymateb i’r cwestiynau uchod. 

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus, hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e)).

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgynghoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (er enghraifft, sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych chi’n dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb. 

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a’i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: 

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: Wefan ICO.

Troednodiadau