Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

  1. Ddechrau 2019, cymeradwyodd Senedd a Llywodraeth Cymru gytundeb ar y cysylltiadau rhyng-sefydliadol. Mae’r cytundeb yn cynnwys y prif addewidion canlynol:
    • rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y cysylltiadau rhynglywodraethol ffurfiol gan gynnwys fforymau’r Gweinidogion; (a chyfarfodydd rhynglywodraethol ffurfiol ar lefel Gweinidogion, concordatiau, cytundebau a memoranda cyd-ddealltwriaeth)
    • darparu adroddiad blynyddol sy'n crynhoi'r gwaith sy’n ymwneud â chysylltiadau rhynglywodraethol yn ystod y flwyddyn.
  2. Mae’r adroddiad blynyddol hwn ar gyfer y cyfnod o fis Ebrill 2020 i fis Mawrth 2021. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd yn rheolaidd yn y cyfarfod llawn, ac mewn pwyllgorau a thrwy ddatganiadau a gohebiaeth. Mae ein gohebiaeth, sy’n rhoi’r diweddaraf i’r Aelodau am gyfarfodydd a chytundebau rhynglywodraethol, ar gael ar wefan y Senedd.

Crynodeb

  1. Mae’r rôl y mae Llywodraeth Cymru yn ei chyd-chwarae yn llywodraethiant y Deyrnas Unedig wedi dod yn fwyfwy amlwg o ganlyniad i’r Cyfnod Pontio Ewropeaidd a COVID-19. Felly hefyd yr angen i gryfhau datganoli a sicrhau dyfodol yr Undeb. Mae’r berthynas rhyngom ni a’r llywodraethau datganoledig eraill yn gadarn. Gallwn ddweud yr un fath am ein perthynas â gweinyddiaethau aelodau’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig y tu allan i’r DU. Ar y llaw arall, mae dirywiad dramatig wedi bod yn ein perthynas ni â Llywodraeth y DU. Fe allwn ni gydweithio, ac mae’r ffordd rydym wedi ymgysylltu wrth ymateb i’r pandemig wedi dangos hyn. Mae hyn yn wir hefyd am y ffordd rydym wedi mynd ati i weithredu wrth ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Ond, byddai’r cydweithio hwn yn well pe bai gennym ni fecanweithiau rhynglywodraethol cadarn, wedi eu diwygio. Byddai modd inni ymgysylltu’n rheolaidd ac yn ddibynadwy, gan sicrhau parch rhwng y naill ochr a’r llall.
  2. Mae gennym ni rai enghreifftiau defnyddiol o gydweithio. Ers dechrau’r flwyddyn newydd, cafodd patrwm rheolaidd a dibynadwy o gyfarfodydd eu cynnal rhwng y llywodraethau datganoledig a Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn. Mae wedi bod yn ddefnyddiol i gael y cyfle i ystyried materion rhynglywodraethol eraill sy’n codi fel rhan o fusnes arferol yn ystod y cyfarfodydd hynny. Rydym hefyd yn cymryd rhan yng ngwaith y Gyd-ganolfan Bioddiogelwch, ar y cyd â’r tair gwlad arall. Nod y ganolfan hon yw dadansoddi, asesu a rhoi cyngor gwrthrychol, ac mae’r cwbl yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae’r gwaith hwn yn helpu i wneud penderfyniadau, yn lleol ac yn genedlaethol, wrth ymateb i achosion o COVID-19. Enghraifft arall hefyd o’r ffordd rydym yn gallu gwneud pethau’n dda gyda’n gilydd yw’r rhaglen frechu. Rydym wedi cael cytundeb ynglŷn â chaffael y brechlynnau yn ganolog, a’u rhannu ar draws y DU ar sail y boblogaeth, gyda phob gwlad unigol yn rheoli’r broses o roi’r brechlynnau. Rydym hefyd wedi cydweithio ar Fframweithiau Cyffredin, gyda chytundeb dros dro, a’r gobaith yw y bydd gennym gytundeb terfynol yn hwyrach yn ystod y flwyddyn.
  3. Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno gweld Cymru gref mewn Teyrnas Unedig lwyddiannus. Mae angen inni ailosod y cysylltiadau rhynglywodraethol, a gwneud hynny ar sail gweledigaeth o DU sydd wedi ei diwygio a’i chryfhau, lle y mae pob llywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd er budd pawb.

Cysylltiadau rhynglywodraethol

Y cyfansoddiad a datganoli

  1. Diolch i’r Cyfnod Pontio Ewropeaidd a COVID-19, mae pobl wedi cael mwy o wybodaeth am y swyddogaethau a’r cyfrifoldebau sydd gan y Senedd a Llywodraeth Cymru fel rhan o drefniadau llywodraethiant y DU, ac, o ganlyniad, maen nhw’n deall y sefyllfa yn well hefyd. Mae’r angen i gryfhau datganoli er mwyn sicrhau dyfodol yr Undeb hefyd wedi dod i’r amlwg. Nid oes amheuaeth bod COVID-19 wedi rhoi llwyfan i ddatganoli yng Nghymru ac mewn mannau eraill. Mae pobl ym mhob cwr o’r DU yn awr yn gallu gwerthfawrogi’n well beth yn union y mae’n ei olygu i gael pedair llywodraeth a phedair deddfwrfa yn y DU, a sut yn union y mae pwerau’r holl sefydliadau hyn yn rhyngweithio â’i gilydd.
  2. Yn ystod 2020, defnyddiodd Llywodraeth Cymru ei phwerau yn gadarn ac yn hyderus i liniaru effeithiau gwaethaf y pandemig ar ein dinasyddion, ein gwasanaethau cyhoeddus a’n heconomi. Dangosodd y pandemig ein bod yn gallu dilyn ein trywydd ein hunain, yn ogystal â bod angen inni gydweithio ag eraill: ymreolaeth a chydreolaeth. Mae datganoli wedi ei hen sefydlu erbyn hyn – mae wedi ei gymeradwyo gan y bobl, a’i barhad wedi ei ymgorffori mewn cyfraith. Yn ei dro, mae mwy o angen eto i ddiwygio yn sgil COVID-19, er mwyn delio gydag effeithiau a goblygiadau ymadael â’r Undeb Ewropeaidd a’n hadferiad o’r pandemig.
  3. Mae’r ffordd rydym wedi ymateb i’r pandemig wedi darparu rhagor o dystiolaeth – a thystiolaeth gryfach – sy’n atgyfnerthu’r hyn a gynigiwyd gennym yn Diwygio ein Hundeb. Yn ystod y pandemig, gwelwyd enghreifftiau o arferion da, gan gynnwys y rhaglen frechu a’r ymgysylltu rhwng y llywodraethau drwy waith y Gyd-ganolfan Bioddiogelwch. Ond toredig, tameidiog ac ad hoc fu’r trefniadau llywodraethiant. Ni chafwyd trefniadau llywodraethiant strategol trefnus ag iddynt unrhyw rythm rheolaidd a dibynadwy – dim ond dull gweithredu nawr ac eilwaith. O’n safbwynt ni, bydd ein hymadawiad â’r UE, a nawr COVID-19 hefyd, yn cael effaith ddifrifol ar drefniadau llywodraethiant mewnol y DU.

COVID-19

  1. I Lywodraeth Cymru, mae 2020-21 wedi bod yn gyfnod o ymateb i’r argyfwng iechyd y cyhoedd mwyaf sylweddol yn ein hanes. Mae Llywodraeth Cymru wedi arwain ymateb gofalus, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i’r pandemig yng Nghymru. Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â gwledydd eraill y DU a gweithio’n agos gyda’n partneriaid, gan arwain ar ein cyfrifoldebau datganoledig helaeth.
  2. Cymysg fu’r profiad o ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar COVID-19. Er bod llawer o agweddau cadarnhaol y gallwn eu cymryd o’r profiad hwn, cafwyd cyfnodau hir hefyd pan na fu fawr o gysylltiad rhyngom a Gweinidogion Llywodraeth y DU. Yn rhy aml hefyd, mae datblygiadau wedi dod i’r amlwg drwy’r wasg a rhanddeiliaid cyn i Lywodraeth y DU ymgysylltu ar lefel rynglywodraethol â Llywodraeth Cymru.
  3. Yn ystod dyddiau cynnar y pandemig, roedd y Prif Weinidog a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymuno â chyfarfodydd COBR. Mae COBR yn dod â gweinidogion ac uwch-swyddogion o adrannau Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig ynghyd i gydlynu a gwneud penderfyniadau ar lefel uchel er mwyn ymateb i’r pandemig. Cyfarfu COBR fwy nag 20 o weithiau ers mis Ionawr 2020 gyda chyfarfodydd yn cael eu galw ar sail ad hoc gan Lywodraeth y DU.
  4. Sefydlwyd Grwpiau Gweithredu’r Gweinidogion i gymryd lle’r cyfarfodydd COBR fel y prif fecanwaith ar gyfer ymgysylltu ar lefel pedair gwlad o fis Ebrill i fis Mehefin 2020. Roedd y rhain yn edrych ar iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, yr economi ac ymgysylltu rhyngwladol. O safbwynt ymgysylltu ystyrlon, roedd y profiad yn amrywio ar draws y grwpiau hyn. Ond, wedi dweud hynny, roedd amlder y cyfarfodydd hyn, a’r ffaith eu bod yn cael eu trefnu’n rheolaidd, o gymorth er mwyn sicrhau bod dealltwriaeth ar draws y DU gyfan pan oedd y don gyntaf yn ei hanterth.
  5. Yn dilyn cyfnod hir o ymgysylltu hynod gyfyngedig ei natur â Gweinidogion dros haf 2020, dechreuwyd cynnal galwadau yn wythnosol. Yn y cyfarfodydd hynny, trafododd y Prif Weinidog a Phrif Weinidogion a Dirprwy Weinidogion yr awdurdodau datganoledig eraill a Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn y cynnydd o ran rheoli’r ymateb i’r pandemig ac unrhyw faterion a oedd yn dechrau dod i’r amlwg. Mae’r cyfarfodydd rheolaidd hyn wedi bod yn un o’r enghreifftiau mwyaf cadarnhaol o ymgysylltu gydol y pandemig cyfan. Yn yr un modd, wrth i’r pandemig fynd rhagddo, cafodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyfarfodydd rheolaidd hefyd â Gweinidogion Iechyd gwledydd eraill y DU.
  6. Cadwodd swyddogion o holl adrannau Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad rheolaidd â’u swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig eraill – ar y cyfan, mae’r berthynas wedi bod yn adeiladol. Dylid nodi’n benodol yr ymgysylltu (ar draws y pedair gwlad) gyda’r Gyd-ganolfan Bioddiogelwch, y corff a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth y DU ar gyfer darparu tystiolaeth wyddonol i lywio’r ymateb i’r pandemig.

Yr etholiadau

  1. Cafodd etholiad y Senedd ei chynnal ar 6 Mai 2021, ac roedd yn cyd-daro â’r etholiadau i benodi Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr, a’r etholiadau i Senedd yr Alban yn ogystal â’r etholiadau ar gyfer Meiri Rhanbarthol a Llywodraeth Leol yn Lloegr.
  2. Defnyddiodd swyddogion Llywodraeth Cymru drafodaethau rheolaidd gyda swyddogion o lywodraethau eraill ar draws y DU, a chyda Swyddogion Canlyniadau ledled Cymru, i rannu profiadau ac arferion da. Roedd yn ddefnyddiol rhannu gwybodaeth fel hyn wrth fynd i’r afael â chymhlethdodau a oedd yn codi yn sgil cynnal sawl etholiad ar yr un diwrnod, ac er mwyn lleihau’r risgiau a oedd yn gysylltiedig â’r pandemig.
  3. Yn benodol, cafodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU drafodaethau rheolaidd ar lefel swyddogion a Gweinidogion i ystyried sut fyddai orau i sicrhau cydlyniant rhwng y trefniadau ar gyfer etholiad y Senedd ac etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu. O ganlyniad, rhoddwyd trefniadau ar waith a oedd yn caniatáu i bleidleiswyr gymryd rhan yn ddiogel gan ddewis eu dull o bleidleisio.
  4. Ym mis Mehefin 2020, cafodd y Grŵp Cynllunio Etholiadau ei sefydlu gan y Prif Weinidog. Roedd y Grŵp yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol a swyddogion o Lywodraeth Cymru, a’i waith oedd ystyried effaith pandemig y coronafeirws ar weinyddu etholiad y Senedd yn 2021. Cyfarfu’r Grŵp bum gwaith ac roedd yn cynnwys cynrychiolwyr amryw o randdeiliaid, gan gynnwys swyddogion o Lywodraeth y DU.
  5. Wedi i’r Grŵp Cynllunio Etholiadau ddirwyn i ben, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Fil brys, a fyddai’n cael ei basio fel Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 yn ddiweddarach. Roedd y Ddeddf yn gwneud darpariaethau i ddod ag argymhellion y Grŵp, a gafodd eu cyhoeddi ym mis Tachwedd 2020, i effaith. Roedd hyn yn cynnwys estyn y pŵer i’r Llywydd ohirio etholiad y Senedd 2021 a chyflwyno mwy o hyblygrwydd mewn perthynas â phleidlais drwy ddirprwy.
  6. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal y berthynas a gafodd ei meithrin â’r llywodraethau eraill ac mae’n dal i ymgysylltu â nhw mewn modd cynhyrchiol ar faterion sy’n ymwneud ag etholiadau, gan gynnwys Bil Etholiadau y DU sydd yn yr arfaeth.

Y Cyfnod Pontio Ewropeaidd

  1. Ymadawodd y DU â’r Undeb Ewropeaidd ar 31 Ionawr 2020, a dechrau ar Gyfnod Pontio. Nid oedd fawr o newid yn y berthynas rhwng y DU a’r UE yn ystod y cyfnod hwn. Daeth y Cyfnod Pontio i ben ar 31 Rhagfyr 2020.
  2. Gyda dogfen arall – Y Berthynas rhwng y DU a’r UE yn y Dyfodol: Blaenoriaethau Negodi i Gymru – yn cael ei chyhoeddi fel rhan o’n cyfres o ddogfennau polisi, aethom ati i barhau i eirioli dros fuddiannau Cymru. Ein nod oedd sicrhau bod gennym rôl yn y negodiadau rhwng y DU a’r UE, gan ymgysylltu hefyd ynghylch y Fframweithiau Cyffredin a Marchnad Fewnol y DU, a pharodrwydd i ymadael â’r UE (gan gynnwys datblygu’r ddeddfwriaeth angenrheidiol i sicrhau bod gennym lyfr statud gweithredol) erbyn diwedd y Cyfnod Pontio. Rydym wedi darparu cyllid ar gyfer llunio cyngor a gwybodaeth i gefnogi dinasyddion yr UE sy’n byw yng Nghymru, ac rydym wedi annog pobl i gyflwyno cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.
  3. Drwy gydol y cyfnod a gwmpesir gan yr adroddiad hwn, gan ystyried y cymhlethdod yn sgil y gorgyffwrdd rhwng cyfrifoldebau sydd wedi eu datganoli a’r rheini a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU, ceisiodd Llywodraeth Cymru ymgysylltu mewn modd adeiladol â Llywodraeth y DU mewn perthynas â’i pharatoadau ar gyfer diwedd y Cyfnod Pontio. I gychwyn, gwrthod ymgysylltu â Llywodraeth Cymru mewn unrhyw ffordd ystyrlon a wnaeth Llywodraeth y DU i raddau helaeth. Fodd bynnag, o ddiwedd yr haf ymlaen, gwnaeth y trefniadau ymgysylltu wella. Cafodd swyddogion eu gwahodd i Fwrdd Portffolio Pontio Llywodraeth y DU (a oedd yn rheoli’r portffolio o brosiectau diwedd y Cyfnod Pontio). At hynny, o fis Hydref, cafodd Gweinidogion Cymru eu gwahodd i’r cyfarfodydd hynny o XO (Pwyllgor Cabinet y DU a oedd yn goruchwylio’r paratoadau ar gyfer diwedd y Cyfnod Pontio) lle yr oedd materion a oedd yn uniongyrchol berthnasol i’r llywodraethau datganoledig yn cael eu trafod. Yn y misoedd cyntaf ar ôl i’r Cyfnod Pontio ddirwyn i ben, gwahoddwyd Gweinidogion Cymru i gymryd rhan yng nghyfarfodydd dyddiol XO, a oedd yn canolbwyntio ar effaith weithredol diwedd y Cyfnod Pontio.
  4. Gyda’r DU wedi ymadael â’r UE, a’r Cyfnod Pontio wedi dirwyn i ben, mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio â Llywodraeth yr Alban, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a Llywodraeth y DU ar feysydd polisi lle y mae pwerau wedi eu dychwelyd o’r UE ac sy’n torri ar draws meysydd lle mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli, drwy ddatblygu Fframweithiau Cyffredin y DU. Mae hwn yn ddatblygiad sylweddol yn y ffordd y bydd holl lywodraethau’r DU yn gweithio gyda’i gilydd yn y tymor hir. Cafodd Fframweithiau Dros Dro eu cyhoeddi ar ddiwedd y Cyfnod Pontio, ym mis Rhagfyr 2020. Ers hynny, maen nhw wedi cael eu gweithredu fel cytundebau ar lefel swyddogol hyd nes y bydd y deddfwrfeydd wedi craffu arnynt. Disgwylir i’r gwaith craffu hwnnw ddechrau pan geir cytundeb ynghylch sut y dylid ymdrin â materion trawsbynciol allweddol sy’n effeithio ar y Fframweithiau Cyffredin.
  5. Mae’r Fframweithiau yn cael eu datblygu yn unol â’r egwyddorion y cytunwyd arnynt yng nghyfarfod Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE) ym mis Hydref 2017 rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban. Cafodd egwyddorion Fframweithiau Cyffredin Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE) eu cymeradwyo gan Weithrediaeth Gogledd Iwerddon ar 15 Mehefin 2020.
  6. Mae’r Cwnsler Cyffredinol yn bwriadu rhyddhau datganiad i’r Senedd a fydd yn rhoi trosolwg o’r rhaglen hyd yma, flwyddyn wedi i’r mwyafrif o’r Fframweithiau Cyffredin ddod yn weithredol fel cytundebau dros dro ddiwedd y llynedd.
  7. Yn ystod hynt Bil Marchnad Fewnol y DU, cafodd y setliadau datganoli eu hamddiffyn yn ffyrnig gan aelodau ar draws Tŷ’r Arglwyddi – ac roeddem yn hynod ddiolchgar am hyn. Er bod y cynnwys wedi ei ddiwygio (gyda chyfeiriad clir at y gwelliannau enghreifftiol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru), cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol heb gydsyniad Senedd Cymru na Senedd yr Alban. O ganlyniad, mae gennym Ddeddf sy’n broblemus o safbwynt datganoli ac mae perygl iddi danseilio’r cynnydd a wnaed drwy’r rhaglen Fframweithiau Cyffredin. Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau cyfreithiol i herio rhannau o’r Ddeddf ac mae’r camau hynny yn parhau.
  8. Ddechrau 2019, dechreuodd Llywodraeth y DU gydlynu cyfarfodydd wythnosol gyda’r llywodraethau datganoledig i drafod sut y dylid cyfathrebu ynghylch y Cyfnod Pontio o’r UE. O ddiwedd haf 2020, dechreuodd Llywodraeth y DU gynnwys trafodaethau ynglŷn â’u cynlluniau a’u cynigion ar gyfer cyfathrebu ynghylch y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS), a defnyddiodd y rhain fel ffordd o rannu adnoddau ac asedau cysylltiedig. Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn barod i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ynglŷn â chyfathrebu ynghylch EUSS. Cafwyd trafodaethau cydweithredol eu natur, gydag amcan cyffredin i gyflawni’r canlyniadau gorau posibl i ddinasyddion yr UE. Yn ogystal â hyn, mae Llywodraeth y DU hefyd wedi darparu cynrychiolydd polisi a chyfathrebu EUSS i fod yn bresennol yng nghyfarfodydd Grŵp Cydgysylltu EUSS Llywodraeth Cymru. Mae hyn wedi bod yn ffafriol er mwyn rhannu gwybodaeth â phartneriaid allanol ac ymateb i ymholiadau ynglŷn â’r cynllun a’i oblygiadau.
  9. Er gwaethaf hyn, fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud nifer o benderfyniadau sydd wedi cael cryn effaith ar ddinasyddion yr UE yng Nghymru heb ymgynghori ymlaen llaw. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys y penderfyniad i ddarparu tystiolaeth ddigidol yn unig o statws a’r penderfyniad i beidio ag estyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau EUSS er gwaethaf llawer o alwadau gan y llywodraethau datganoledig.
  10. Mae nifer o newidiadau wedi cael eu gwneud i System Fisâu a Mewnfudo y DU yn ystod y flwyddyn nad ymgynghorwyd â’r llywodraethau datganoledig yn eu cylch cyn iddynt gael eu rhoi ar waith. Ar 1 Ionawr eleni, gyda hawl dinasyddion yr UE i symud yn rhydd yn dirwyn i ben, cyflwynodd Llywodraeth y DU system yn seiliedig ar bwyntiau.
  11. Ym mis Rhagfyr 2020, ysgrifennodd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd ar y cyd â Ben Macpherson ASA, Gweinidog Cyllid Cyhoeddus a Mudo Llywodraeth yr Alban, at Kevin Foster AS i dynnu sylw unwaith yn rhagor at y cais i gael cyfarfod ar fyrder rhwng pedair gwlad y DU i drafod y polisi mudo a’r newidiadau i’r system mewnfudo a ddaeth i effaith ar 1 Ionawr 2021. Yn ystod y cyfnod a gwmpesir gan yr adroddiad hwn, ni chynhaliodd ac ni threfnodd Llywodraeth y DU unrhyw gyfarfodydd ffurfiol ynghylch mudo.
  12. Er nad yw mudo yn fater sydd wedi ei ddatganoli, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i gymell Llywodraeth y DU i ymgysylltu ar yr holl faterion mudo. Mae gan y materion hyn lawer o oblygiadau sy’n effeithio ar sawl agwedd ar y polisïau a’r gwasanaethau cyhoeddus y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am eu cyflawni.
  13. Ym mis Mawrth 2020, comisiynodd Llywodraeth y DU y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo i lunio Rhestr o Alwedigaethau lle ceir Prinder a darparodd Llywodraeth Cymru ymateb manwl i’r cais am dystiolaeth a gyflwynwyd gan y Pwyllgor, ynghyd ag adroddiad dadansoddi, ar 24 Mawrth 2020. Er bod y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo wedi mabwysiadu rhai o argymhellion Llywodraeth Cymru yn yr adroddiad a gyhoeddwyd ganddo ar 29 Medi 2020, penderfynu peidio â gweithredu unrhyw un o argymhellion y Pwyllgor wnaeth Llywodraeth y DU.
  14. Cafodd Offerynnau Statudol (OSau) Ymadael â’r UE yr ystyriwyd eu bod yn ofynnol erbyn diwedd y Cyfnod Pontio, er mwyn gwneud cywiriadau pellach i gyfraith yr UE a ddargedwir i sicrhau bod ein llyfr statud yn parhau i fod yn weithredol ac i roi’r Cytundeb Ymadael a’r cytundebau cysylltiedig ar waith, eu cyflawni’n brydlon. Rhoddodd Gweinidogion Cymru eu cydsyniad i fwy na 50 o OSau y DU a gwnaethant 20 o OSau Cymreig yn ystod y Cyfnod Pontio.
  15. Daeth y flwyddyn i’w therfyn bron yn union yr un ffordd ag y dechreuodd. Gyda’r cloc yn tician a chytundeb gwan neu ddim cytundeb fel y ddau opsiwn ar y bwrdd, cafodd y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE, a’r Bil ynglŷn â’r berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol i roi effaith i’r Cytundeb hwnnw, eu hystyried gan y Senedd ar 30 Rhagfyr. Ni chyflwynodd Llywodraeth Cymru gynnig cydsyniad deddfwriaethol oherwydd teimlai, gyda dim ond llond llaw o ddiwrnodau gwaith ar gael i’w hystyried, na fyddai’n bosibl deall goblygiadau’r Bil a’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu 1245 o dudalennau o hyd. Unwaith eto, dangosodd Llywodraeth y DU ddiffyg parch llwyr at ddatganoli a Chonfensiwn Sewel, y cadarnhawyd nad oedd yn addas i’r diben. Roedd y Senedd (a Senedd y DU hefyd o ran hynny) yn haeddu llawer mwy o barch na hyn a rhaid iddi gael cyfle i roi ystyriaeth briodol i unrhyw ddeddfwriaeth y mae angen ei chydsyniad ar ei chyfer, yn enwedig un o’r darnau deddfwriaeth pwysicaf a gafwyd ar gyfer y DU yn ddiweddar.

Cysylltiadau rhyngwladol

  1. Rhwng mis Mawrth a mis Mehefin 2020, cynhaliwyd cyfarfodydd Gweinidogol pedairochrog (wythnosol) rhwng y llywodraethau datganoledig a’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) i drafod ein hymateb cyfunol i’r pandemig a’r gwaith a oedd ar droed ynghylch yr ymdrech ailwladoli fyd-eang. Bu sawl rhan o rwydwaith swyddfeydd tramor Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhwydwaith gwasanaethau consylaidd FCDO gan atgyfnerthu gallu FCDO i ymateb i’r ymdrech ailwladoli a dod â Gwladolion Prydain, a oedd yn sownd dramor gan nad oedd awyrennau masnachol yn hedfan, yn ôl i’r DU. Cefnogwyd y cyfarfodydd hyn gan adroddiadau dyddiol ar ddata a gwybodaeth ddadansoddiadol a gasglwyd gan dîm ymchwil FCDO ynglŷn â’r ymateb byd-eang i COVID-19. Daeth FCDO â’r cyfarfodydd wythnosol hyn i ben ym mis Mehefin gan fod yr ymdrech ailwladoli yn tynnu tua’i therfyn. Serch hynny, mae gwybodaeth a gesglir gan ei thîm ymchwil ynglŷn â chymaryddion rhyngwladol wedi parhau i gael ei rhannu’n wythnosol.
  2. Ers i’r cyfarfodydd hyn ddod i ben, mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi pwyso am gyfarfodydd pedairochrog rheolaidd rhwng Gweinidogion ar faterion amrywiol. Serch hynny, nid yw FCDO wedi cytuno i’r ceisiadau hyn. Mae cyfarfodydd dwyochrog rheolaidd rhwng swyddogion wedi eu cynnal â FCDO ynglŷn â Chysylltiadau Rhyngwladol.
  3. Mae tîm Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru wedi cael briffiadau rheolaidd gan adrannau Llywodraeth y DU, gan gynnwys Swyddfa’r Cabinet, FCDO a’r Swyddfa Gartref, ynglŷn â Llywyddiaeth y DU o’r G7 a chan Swyddfa’r Cabinet ynglŷn â’r Adolygiad Integredig o Ddiogelwch, Amddiffyn, Datblygu a Pholisi Tramor.
  4. Ac eithrio’r cyswllt wythnosol a gynhaliwyd yn chwarter cyntaf 2020-21 ynghylch ein hymateb cyfunol i COVID-19, mae ymgysylltu Gweinidogol â Llywodraeth y DU ynglŷn â Chysylltiadau Rhyngwladol wedi bod yn ad hoc yn bennaf. Rydym wedi bod yn pwyso am ymgysylltu mwy strwythuredig ynghylch materion rhyngwladol fel rhan o’r Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol.

Cytundebau masnach rydd

  1. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod mewn cysylltiad ag adrannau polisi arweiniol yn Llywodraeth y DU ynghylch sefydlu’r Pwyllgorau Arbenigol ar gyfer Cytundeb Masnach a Chydweithredu DU-UE. Mae pob Pwyllgor wedi ei sefydlu mewn modd ychydig yn wahanol gan ddibynnu ar yr adran bolisi arweiniol yn Llywodraeth y DU. Mae ymwneud Llywodraeth Cymru yn amrywio o drafodaeth gychwynnol am agendâu, mynychu’r Pwyllgorau fel sylwedyddion, i fynychu’r Pwyllgorau gyda rôl gyfranogi lawn. At ei gilydd, mae’r ymgysylltu ag adrannau polisi arweiniol Llywodraeth y DU wedi bod yn gadarnhaol.
  2. Mae’r berthynas â’r Adran Masnach Ryngwladol ar negodiadau Gweddill y Byd wedi parhau i fod yn un adeiladol eleni. Er hynny, mae rhai trafodaethau’n mynd rhagddynt o hyd ynglŷn â graddfa rhannu gwybodaeth, yn enwedig ynghylch materion a ystyrir yn rhai a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU. Cynhaliwyd dau gyfarfod (ym mis Mawrth a mis Gorffennaf) o’r Fforwm Masnach Gweinidogol yn ystod 2021 ynghyd â chyfarfodydd dwyochrog Gweinidogol rheolaidd. Rydym wedi cael y cyfle i roi sylwadau am faterion yn ymwneud â’r mandadau ar gyfer Awstralia a Seland Newydd mewn meysydd lle mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli, ac rydym hefyd yn cael gweld peth o’r testun cyfreithiol sy'n cael ei gyflwyno yn y negodiadau. Roedd y broses Cymeradwyaeth mewn Egwyddor newydd a ddefnyddiwyd ar gyfer cytundeb masnach rydd y DU ac Awstralia, ac sy’n debygol o gael ei ddefnyddio ar gyfer Seland Newydd, yn cynnwys elfennau anfoddhaol; yn enwedig o ran Awstralia yn cyhoeddi manylion y Cwotâu ar Gyfradd Tariff cyn y DU. O ystyried bod hon yn broses newydd, mae’n ddigon posibl y bydd y ffordd o ymdrin â chytundebau masnach yn y dyfodol yn esblygu ac rydym yn disgwyl gwelliannau yn y broses hon dros amser.
  3. Mae’r broses o ymuno â Phartneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar Gwledydd y Môr Tawel (CPTPP) yn debygol o fod ychydig yn wahanol gan ein bod yn ymuno â chytundeb sydd eisoes yn bodoli. Yn ôl yr arwyddion cynnar, bydd yr ymgysylltu ynglŷn â hyn yn gadarnhaol ond mae lefelau dylanwad Llywodraeth Cymru yn debygol o fod yn is na’i dylanwad yn y negodiadau cytundebau masnach rydd dwyochrog.

Cyllid

  1. Mae pandemig COVID-19 wedi dwysáu cysylltiadau rhynglywodraethol ynghylch materion cyllid. Cynhaliwyd cyfarfodydd Pedairochrog y Gweinidogion Cyllid yn amlach, gan gynnal chwe chyfarfod yn ystod y rhan gyntaf o’r flwyddyn. Canolbwyntiwyd ar faterion amrywiol yn y cyfarfodydd, gan gynnwys sicrwydd ynglŷn â’r cyllid a’r hyblygrwydd a oedd ar gael i’r llywodraethau datganoledig er mwyn ymateb i’r argyfwng a lleddfu ei effaith, ac ymyriadau penodol ar gyfer y DU gyfan megis y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, cynhaliwyd un cyfarfod Pedairochrog ym mis Hydref gan ganolbwyntio ar Adolygiad o Wariant y DU a chostau COVID-19 yn ystod y flwyddyn. Byddem wedi croesawu mwy o ymgysylltu mewn rhai meysydd, er enghraifft gwrthododd Llywodraeth y DU gais am gyfarfod Pedairochrog i drafod goblygiadau ariannol yr Ymadawiad â’r UE.
  2. Drwy gydol y cyfnod, rydym wedi parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am eglurder ynglŷn â’i chyhoeddiadau cyllid, ei chynlluniau ar gyfer y Gyllideb a’r Adolygiad o Wariant. Mae’r eglurder hwn yn hanfodol i’n galluogi i gynllunio’n effeithiol ar gyfer y dyfodol ar sail anghenion pobl Cymru. Llwyddwyd i sicrhau Gwarant Barnett  yn 2020-21 a oedd o gymorth o ran rheoli cyllidebau.
  3. Ar ôl yr Ymadawiad â’r UE, rydym wedi parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i wireddu ei hymrwymiad i ddarparu’r un faint o gyllid yn lle cyllid yr UE a sicrhau bod Llywodraeth y DU yn darparu ar gyfer y costau gweithredol ychwanegol yn sgil swyddogaethau newydd sy’n deillio’n uniongyrchol o’r Ymadawiad â’r UE, megis y gweithrediadau angenrheidiol ar ffiniau Cymru.
  4. Mae’n gwbl annerbyniol bod Llywodraeth y DU yn defnyddio’r pwerau cymorth ariannol yn Neddf y Farchnad Fewnol i greu rhaglenni newydd ledled y DU mewn meysydd lle mae cyfrifoldeb wedi ei ddatganoli, gan osgoi fformiwla Barnett, a lleihau’r arian sydd ar gael i’r llywodraethau datganoledig a’u Seneddau. Yn hytrach na chryfhau’r Undeb, y cwbl y mae’r ymagwedd hon yn ei wneud yw cynyddu rhaniadau ac anghydraddoldebau. Mae perygl y bydd yn dyblygu ymdrechion, yn rhwystro gwerth am arian ac yn gwneud atebolrwydd yn aneglur, gan arwain at dirwedd gyflawni gymysglyd ar gyfer rhaglenni a gwasanaethau. Ni ddylai Llywodraeth y DU ond defnyddio’r pwerau hyn gyda chydsyniad penodol y llywodraethau datganoledig.
  5. Rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gyflawni ei rhwymedigaethau i ddarparu’r cyllid angenrheidiol i wneud iawn am y tanfuddsoddi hanesyddol mewn rheilffyrdd ac ymchwil a datblygu, yn ogystal â mynd i’r afael â materion ynghylch gwaddol diwydiannol sy’n rhagddyddio datganoli.
  6. Er inni groesawu’r gydnabyddiaeth gychwynnol o effeithiau’r llifogydd ym mis Chwefror 2020 a gwaith cychwynnol cysylltiedig ar adfer tomenni glo, mae Llywodraeth y DU yn parhau i ddweud bod y costau ar gyfer adfer tomenni glo wedi eu darparu yn ein setliad datganoli. Mae tomenni glo’n rhagddyddio datganoli, ac mae effaith anghymesur ar Gymru gan fod bron i 40% o’r holl domenni glo segur yng Nghymru. Mae’r costau adfer yn fwy nag unrhyw beth a ragwelwyd pan ddechreuodd datganoli yn 1999 ac nid yw ein trefniadau cyllid presennol yn adlewyrchu hynny.
  7. Rydym wedi galw’n gyson ar Lywodraeth y DU i ddarparu’r tegwch, yr hyblygrwydd a’r eglurder sydd eu hangen ar Gymru i gefnogi a diogelu ei chymunedau a’i busnesau. Rydym hefyd wedi pwysleisio sawl gwaith nad yw’r cyllid presennol yn adlewyrchu graddfa’r materion sy’n wynebu Cymru.
  8. Parhawyd â thrafodaethau â Llywodraeth y DU ynglŷn â phecyn cyllid hirdymor a rhaglen waith ar y cyd ar gyfer materion yn ymwneud â gwaddol diwydiannol megis tomenni glo a diogelwch mwyngloddiau.
  9. Mae cryn ymdrech wedi ei gwneud i gryfhau a ffurfioli cysylltiadau rhynglywodraethol drwy ddatblygu Cylch Gorchwyl ar gyfer y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid fel rhan o’r Adolygiad ehangach o Gysylltiadau Rhynglywodraethol.
  10. Fel rhan o’r Adolygiad o Wariant 2020, gwnaed rhai gwelliannau i’r Datganiad o Bolisi Ariannu 2020, i ddileu amwysedd a gwella tryloywder ynghylch penderfyniadau ariannu. Mae angen rhagor o welliant mewn sawl maes o hyd a byddwn yn cynnig diwygiadau pellach ar gyfer y fersiwn nesaf yn yr Adolygiad o Wariant ym mis Hydref 2021.

Yr economi, ynni a'r newid yn yr hinsawdd

  1. Mae cryn ymdrech wedi ei gwneud i wella ein cysylltiadau rhynglywodraethol a’r cydweithio â’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS). Mae’r cydberthnasau hyn wedi eu cryfhau ond mae rhai heriau’n dal i fod. Yn sgil y flaenoriaeth gyffredin i ymateb i effeithiau economaidd COVID-19, cyflymwyd yr ymdrechion a oedd eisoes ar waith a rhoddodd hyn eglurder ynghylch diben ein hymgysylltiad. Mewn ymateb, symudodd y Grŵp Rhyngweinidogol ar Fusnes a Diwydiant i gyfarfodydd wythnosol a sefydlu fforwm Cyfarwyddwyr newydd gyda’r llywodraethau datganoledig, BEIS a Thrysorlys Ei Mawrhydi. Roedd sefydlu cydysgrifenyddiaeth yn nodi newid yn y dull gweithredu a chynhaliwyd y cyfarfodydd gyda pharch i bob ochr. Ynghyd â chyfarfodydd dwyochrog rheolaidd â Llywodraeth y DU, sicrhaodd y fforymau hyn fod gan Gymru lais uniongyrchol pan oedd dulliau gweithredu polisi pwysig ar gyfer y DU gyfan yn cael eu datblygu. Serch hynny, er bod yr ymgysylltu wedi cynyddu’n sylweddol, rydym yn parhau i wynebu heriau o ran gweithio ar y cyd, gan gael ein trin yn aml fel rhanddeiliad sy’n cael gwybod am benderfyniadau sydd eisoes wedi eu gwneud heb gyfle digonol i lywio’r gwaith datblygu i sicrhau bod anghenion Cymru yn cael eu hadlewyrchu’n briodol.
  2. Mae’r grwpiau hyn yn parhau i ddatblygu ac maen nhw’n gwella’n sylweddol y broses o rannu gwybodaeth rhwng y llywodraethau. At ei gilydd, mae hyn wedi bod o gymorth i Lywodraeth Cymru o ran datblygu ein hymateb economaidd a chadernid busnesau, yn ogystal â sicrhau bod busnesau Cymru’n parhau i elwa ar gymorth sydd ar gael ledled y DU. Mae rhai meysydd polisi nodedig lle bu diffyg sylweddol o ran ymgysylltu cyn cyhoeddiadau allweddol gan Lywodraeth y DU. Rydym yn parhau i ddadlau’r achos dros gysylltiadau rhynglywodraethol gwell a mwy effeithiol.
  3. Yn ogystal, mae ymgysylltu ar faterion Pontio’r UE wedi parhau, gan rannu gwybodaeth yn rheolaidd rhwng Whitehall a’r llywodraethau datganoledig ynghylch materion sy’n wynebu busnesau o ganlyniad i’r sefyllfa ar ôl y cyfnod pontio o'r UE.
  4. Ar y cyfan, mae cysylltiadau rhynglywodraethol yn y maes hwn wedi cryfhau, er gwaethaf heriau parhaus sylweddol. Byddwn yn parhau i adeiladu ar y strwythurau ffurfiol sydd nawr wedi eu sefydlu gan fynd ar drywydd ymagwedd gadarnhaol tuag at gysylltiadau rhynglywodraethol ar draws y pedair gwlad mewn perthynas â datblygu economaidd.
  5. Yr un yw’r casgliad cyffredinol o ran ymgysylltu Gweinidogol â BEIS ynghylch ynni. Mae angen trefn fwy rheolaidd a dibynadwy arnom o ran cyfarfodydd mewn meysydd lle ceir buddiannau cyffredin. Ar lefel swyddogion, mae gwaith da yn parhau mewn rhannau o BEIS. Mae’r gwaith ar y Cynllun Masnachu Allyriadau yn parhau. Mae’n anodd weithiau oherwydd gwahaniaethau mewn polisi ond mae ymgysylltu’n digwydd. Ymysg meysydd eraill lle ceir enghreifftiau o ymgysylltu swyddogol cadarnhaol y mae gwaith yn sgil yr Ymadawiad â’r UE (pwyllgorau arbenigol) a gwaith ar gadernid o ran ynni.

Sgiliau a chyflogadwyedd

  1. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ar sgiliau a pholisi cyflogadwyedd yn ogystal ag ar lefel weithredol. Mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn cysoni gweithgarwch cyflawni â pholisïau a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae cydweithio’n digwydd rhwng y Ganolfan Byd Gwaith a rhaglen Cymru'n Gweithio, gan anelu at feithrin gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar y cwsmer a all gyfeirio dinasyddion at y cymorth cyflogadwyedd mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion. Mae’r Rhaglenni Cyflogadwyedd Cymunedol hefyd yn cael eu cyflawni ar y cyd gan DWP a Llywodraeth Cymru.
  2. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r ddarpariaeth addysg a dysgu a llyfrgelloedd mewn carchardai yng Nghymru drwy Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi (HMPPS). Mae’r trefniadau hyn yn galluogi perthynas weithio agos a chynhyrchiol â HMPPS ac yn galluogi Llywodraeth Cymru i gysoni’r ddarpariaeth addysg â llawer o bolisïau Llywodraeth Cymru.

Addysg

  1. Cynhaliwyd sawl cyfarfod Gweinidogol i drafod materion sy’n effeithio ar bortffolio’r Gweinidog Addysg. Prif bwnc y trafodaethau yn ystod y cyfnod hwn oedd effaith pandemig COVID-19 gan gynnwys trefniadau gweithredol mewn ysgolion a cholegau ac adfer addysg. Yn gysylltiedig ag effaith COVID-19, cafwyd trafodaethau ynglŷn â chymwysterau hefyd.

Yr Amgylchedd, amaethyddiaeth a bwyd

  1. Parhaodd y cysylltiadau ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) i fod yn rhai cadarnhaol yn ystod y cyfnod hwn, yn enwedig pan hi oedd yr adran arweiniol ar fater penodol. Pan oedd rhai o adrannau eraill Llywodraeth y DU yn rhan o’r gwaith, roedd pethau’n anos weithiau, yn enwedig mewn perthynas â rhannu gwybodaeth a graddfeydd amser ar gyfer darparu adborth.
  2. Parhaodd y Grŵp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i gyfarfod yn rheolaidd yn ystod y cyfnod hwn, a symudodd y ffocws yn araf oddi wrth faterion Pontio’r UE ac eithrio mewn perthynas â ffiniau a Phrotocol Gogledd Iwerddon. O edrych tua’r dyfodol, bydd yn canolbwyntio ar feysydd polisi lle mae’r gweinyddiaethau’n teimlo y byddai cydweithio o fudd neu’n angenrheidiol.

Iechyd

  1. Ar lefel Gweinidogion, roedd y trafodaethau yn ystod 2020-21 yn ymwneud yn bennaf â materion cysylltiedig â COVID-19. Bu trafodaethau hefyd am faterion eraill gan gynnwys materion yn ymwneud â’r Ymadawiad â’r UE a, thuag at ddiwedd y cyfnod, y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
  2. Cynhaliwyd trafodaethau ar yr Ymadawiad â’r UE yng nghyd-destun ansicrwydd ynghylch canlyniad negodiadau rhwng Llywodraeth y DU a’r UE tan yn hwyr iawn yn y broses. Yn ogystal, roedd diwedd y cyfnod pontio yn digwydd yr un pryd â phandemig COVID-19 a phwysau eraill y gaeaf. Roedd y trafodaethau ar yr Ymadawiad â’r UE yn cyffwrdd â materion amrywiol gan gynnwys trefniadau paratoi o ran meddyginiaethau, dyfeisiau meddygol a deunyddiau traul clinigol, statws preswylydd sefydlog ac effeithiau ar y gweithlu, Fframweithiau Cyffredin y DU, parodrwydd deddfwriaethol a gofal iechyd cilyddol.
  3. Y tu ôl i hyn, gwaith gweithredol oedd y rhan fwyaf o’r gwaith rhynglywodraethol ar gyfer yr Ymadawiad â’r UE. Cafwyd ymgysylltu adeiladol ar y cyfan rhwng swyddogion drwy fecanweithiau megis grŵp cydlynu diwedd y cyfnod pontio rhwng y pedair gwlad, a fforwm penodol ar gyfer cydlynu cyflenwadau. Parhaodd fforymau o’r fath y tu hwnt i’r cyfnod pontio ac erbyn mis Mawrth 2021 dechreuwyd ystyried sut y gellid adeiladu arnynt yn ystod y flwyddyn i ddod er mwyn sefydlu’r cysylltiadau hyn ar draws ystod o heriau a chyfleoedd mwy hirdymor. Hefyd, cefnogwyd gwaith rhynglywodraethol ar yr Ymadawiad â’r UE gan y gwaith manwl a wnaed drwy gysylltiadau yn y GIG, yn enwedig rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a Public Health England ynghylch diogelu iechyd y cyhoedd, a rhwng Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac NHS Supply Chain ynghylch stociau gwarchod a pharodrwydd cyflenwyr.

Blaenoriaethau a rhagolygon

  1. Yn y Pwyllgor Materion Cymreig ar 4 Mawrth, soniais am fy ngobaith am strwythur gwell ar gyfer y DU i gynnal ein cyfansoddiad, datganoli a chysylltiadau rhynglywodraethol:

    “What I am referring to is an entrenched form of devolution, a devolution that cannot be unilaterally rolled back by any one party, a devolution settlement—and I think there is still scope for development in devolution—where the responsibilities that currently exist at the Welsh level are set down in a way that guarantees they can continue.

    I set that alongside the need for the sort of UK architecture—and we set it out in a series of documents right up to the point of the pandemic hitting us—in which Welsh participation in those matters that affect Wales but are not devolved to Wales would be properly organised. There would be guarantees about it. There would be a reliability around that architecture.

    So, home rule in the sense that the powers that we have and the devolution settlement that we will develop would be guaranteed and could not be interfered with in the way that we have seen so vividly in recent months. Then, a set of institutional arrangements between the 4 nations that allow each party to contribute, and to contribute positively, to the success of the United Kingdom.

    In Wales, certainly, we would positively and constructively want to pool some of that sovereignty back for shared purposes; a structure for the United Kingdom that allows us to operate in a way that, where there is the maximum capacity for decisions that in our case affect only people in Wales, those decisions should be made only by people in Wales. But when we have purposes that go beyond Wales, that are shared with other parts of the United Kingdom, we are able to co-operate and pool our risks and share the rewards. That is the sort of entrenched home-rule arrangements that I have in mind and that we have set out regularly as a Welsh Government…

    I think the continued existence of the United Kingdom is more at risk today than at any point in my political lifetime, and simply defending the status quo hastens the day when the United Kingdom will no longer be able to stay together. Those of us who are serious about making the case for the United Kingdom have to be prepared to lead change because, if we don’t lead change, others will grasp the banner of change and will lead part of the United Kingdom away from the arrangements we have today.

    …What devolution could be, and should be, is a way of governing the United Kingdom that allows people to take charge of their own affairs in the different parts of the United Kingdom, but which is predicated on a set of intergovernmental arrangements that allow the component parts of the United Kingdom to come together voluntarily for common purposes.”

    Welsh Affairs Committee, Oral evidence: One-off session with the First Minister of Wales, HC 1255

  2. Mae’n siom bod yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol, a gafodd ei gomisiynu yn 2018, wedi cymryd mor hir. Er hynny, mae cynnydd sylweddol wedi ei wneud eleni, er gwaethaf heriau’r pandemig i bob llywodraeth. Ar 24 Mawrth, fe wnaeth y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd ar y pryd dynnu sylw mewn Datganiad Ysgrifenedig at y pecyn drafft o ddiwygiadau a gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth y DU y diwrnod hwnnw. Dywedom ar y pryd fod cysylltiadau rhynglywodraethol wedi gwaethygu yn y tair blynedd ers i’r Adolygiad gael ei gomisiynu. Un o’r prif resymau dros hyn oedd cyfres o ymyriadau ymosodol gan Lywodraeth y DU mewn meysydd sydd wedi eu datganoli (Datganiad Ysgrifenedig: Yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol).
  3. Ers yr etholiad, rydym wedi bod yn sefydlu ac yn ailsefydlu cysylltiadau Gweinidogol yng nghyd-destun ein Rhaglen Lywodraethu. Rydym hefyd wedi bod yn ailsefydlu cysylltiadau yn dilyn datblygiadau gwleidyddol ar draws y DU. Mae’n anffodus bod sesiwn newydd Senedd y DU wedi cyd-daro â’r etholiad. Mae hyn yn golygu bod llawer o Filiau’r DU sy’n cael effaith ar Gymru a datganoli wedi cael eu cyflwyno heb drafodaethau priodol a heb barchu Confensiwn Sewel.
  4. Rydym wedi dechrau ein rhaglen gyfansoddiadol ar gyfer y Chweched Senedd yn brydlon ac yn bwrpasol. Rydym eisoes wedi cyhoeddi ail rifyn o ‘Diwygio ein Hundeb: Cydlywodraethu yn y Deyrnas Unedig’. Rydym hefyd yn rhoi cynlluniau ar waith i sefydlu comisiwn i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru.
  5. Rydym yn disgwyl dechrau trafodaethau â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac o bosibl rannau eraill o Lywodraeth y DU, ynglŷn â gweithredu argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru (Comisiwn Thomas), yn unol â’r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu, i fwrw ymlaen â’r achos dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona.
  6. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gynnal 36ain cyfarfod y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn hydref 2021. Rydym yn gobeithio y gall cysylltiadau rhynglywodraethol o fewn y DU ddysgu o’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig fel model sy’n galluogi pob llywodraeth i gymryd rhan mewn ffordd drefnus a chyfartal.

Mark Drakeford AS
Prif Weinidog Cymru
28 Medi 2021