Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir y cytundeb hwn

  1. Ym mis Chwefror 2018, cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (CLA) ei ad roddiad, 'Llywodraethiant yn y OU ar 6/ gadael yr Undeb Ewropeaidd'. Nododd Argymhelliad 9 o'r adroddiad hwnnw:
    Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gytundeb cysylltiadau rhynglywodraethol gyda'r pwyllgor hwn er mwyn cefnogi gwaith craffu ar weithgaredd Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.
  2. Yn ystod dadI yn y Cyfarfod Llawn ar yr adroddiad ar 28 Chwefror 2018, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol fod Llywodraeth Cymru yn hapus i drafod a'r Pwyllgor CLA gynnwys cytundeb ar gysylltiadau rhynglywodraethol. Ychwanegodd, wrth wneud hynny, y byddai Llywodraeth Cymru am ystyried y cytundeb rhwng Senedd yr Alban a Llywodraeth yr Alban.
  3. Aeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid Llywodraeth Cymru i gyfarfodydd y Pwyllgor CLA ar 23 a 30 Ebrill 2018, lie trafodwyd y cysylltiadau rhynglywodraethol yn y dyfodol ac adroddiad y Pwyllgor ar lywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.
  4. Ar 30 Ebrill 2018, pwysleisiodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid fod Llywodraeth Cymru yn barod i weithio gyda'r Pwyllgor CLA idd at blygu'r trefniadau angenrheidiol ar ran y ddeddfwriaeth i oruchwylio'r camau gweithredu a fydd yn deillio o'r Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin.
  5. Yn dilyn cyfnewid gohebiaeth rhwng Cadeirydd Pwyllgor CLA (25 Mai 2018), ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid (4 Mehefin 2018), cytunwyd y dylid gwneud y gwaith hwn yn ffurfiol.

Diben y cytundeb

  1. Mae'r Cytundeb Ysgrifenedig hwn yn cynrychioli sefyllfa gyffredin Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru ar y wybodaeth y bydd Llywodraeth Cymru, lie y bo'n briodol (gweler paragraff 7 isod), yn ei darparu i'r Cynulliad Cenedlaethol o ran ei chyfraniad mewn cyfarfodydd rhynglywodraethol ar lefel weinidogol, concordatiau, cytundebau a memorandwm cyd-ddealltwriaeth.
  2. Wrth ddod i'r Cytundeb hwn, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod prif ddiben y Cynulliad Cenedlaethol o graffu ar weithgarwch Llywodraeth Cymru o fewn strwythurau rhynglywodraethol ffurfiol. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol hefyd yn cydnabod ac yn parchu'r angen am drafodaeth rynglywodraethol gyfrinachol rhwng y gweinyddiaethau yn y Deyrnas Unedig, er enghraifft, mewn sefyllfaoedd lie mae trafodaethau ar faterion penodol yn cael eu cynnal.
  3. Mae'r Cytundeb hwn yn cydnabod cymhlethdod cynyddol y setliad datganoli a'r goblygiadau sydd gan hyn ar gyfer trafodaethau priodol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. O gan lyniad, mae'n cydnabod ymhellach body gyd­ ddibyniaeth rhwng cymwyseddau datganoledig a rhai sydd wedi'u cadw'n ôl yn cael eu rheo li'n bennaf mewn cysylltiadau rhynglywodraethol. Mae'r Cytundeb hwn yn ceisio sicrhau bod egwyddorion atebolrwydd Llywodraeth Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a thryloywder o ran bod y perthnasau hyn yn cael eu cynnwys mewn dulliau rhynglywdoraethol diwygiedig.
  4. Mae'r Cytundeb hwn yn sefydlu tair egwyddor a fydd yn llywodraethu'r berthynas rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru mewn perthynas a chysylltiadau rhynglywodraethol, sef:
    • Tryloywder
    • Atebol rwydd
    • Parch, a chydnabyddiaeth, i'r rhan y mae trafodaethau cyfrinachol yn ei chwarae rhwng llywodraethau, yn enwedig wrth ddatblygu polisi.

Cwmpas y cytundeb hwn

  1. Mae'r Cytundeb hwn yn gymwys i Weinidogion Cymru sy'n cymryd rhan mewn strwythurau rhynglywodraethol ffurfiol. Mae hynny'n golygu, yn ymarferol, trafodaethau a chytundebau'r Cyd-bwyllgor Gweinidogol neu sy'n gysylltiedig â nhw (ym mhob fformat gweithredu); y Fforwm Gweinidogol ar y berthynas yn y dyfodol rhwng y DU a'r UE; y Cyngor Prydeinig Gwyddelig a fforymau rhyng-weinidogol amlochrog a dwyochrog sefydlog neu ad hoc eraill o statws tebygol sy'n bodoli eisoes neu a allai gael eu sefydlu. Nid yw'r Cytundeb yn cynnwys gwaith ymgysylltu arall rhwng y llywodraethau, er bydd yr Adroddiad Blynyddol (y cyfeirir ato ym mharagraff 18) yn rhoi sylwadau ar ystod a graddfa gweithgarwch o'r fath.
  2. Bwriad y Cytundeb yw cefnogi gallu'r Cynulliad Cenedlaethol i graffu ar weithgarwch Llywodraeth Cymru ac i ddal Gweinidogion Cymru i gyfrif yn yr arena rynglywodraethol yn unig. Nid yw'r Cytundeb hwn mewn unrhyw ffordd yn gosod rhwymedigaethau ar weinyddiaethau a deddfwrfeydd eraill sy'n ymwneud a'r cysylltiadau rhynglywodraethol a'r grwpiau a'r cytundebau a ddisgrifir yma. Yn unol ag egwyddor parch i gyfrinachedd trafodaethau rhwng gweinyddiaethau, mae'r Cytundeb yn cydnabod bod rhyddhau manylion am drafodaethau sy'n ymwneud yn uniongyrchol a phartneriaid rhynglywodraethol yn amodol ar eu caniatâd.
  3. Yn amodol ar yr uchod, mae Llywodraeth Cymru yn cytuno i ddarparu, i Bwyllgor CLA y Cynulliad Cenedlaethol ac unrhyw bwyllgorau perthnasol erailly Cynulliad Cenedlaethol cyn belled ag sy'n ymarferol, rhybudd ysgrifenedig ymlaen llaw o leiaf fis cyn y cyfarfodydd perthnasol sydd wedi'u trefnu, neu yn achos cyfarfodydd sydd â llai na mis o rybudd, cyn gynted ag sy'n bosibl ar ôl trefnu'r cyfarfodydd. Bydd hyn yn galluogi'r Pwyllgor(au) i fynegi barn ar y pwnc ac, os yn briodol, i wahodd y Gweinidog sy'n gyfrifol am ddod i gyfarfod  pwyllgor cyn y cyfarfod rhynglywodraethol. Bydd rhybudd ysgrifenedig ymlaen llaw yn cynnwys eitemau ar yr agenda ac amlinelliad eang o faterion allweddol i'w trafod, gan gydnabod y gallai eitemau o agenda, o bryd i'w gilydd, gael eu nodi yn "breifat" i gydnabod yr angen am gyfrinachedd.
  4. Nid yw paragraff 12 o'r Cytundeb hwn yn gymwys mewn achosion lie mae presenoldeb Llywodraeth Cymru mewn cyfarfodydd perthnasol yn fyr rybudd. Mewn amgylchiadau o'r fath, rhaid darparu rhybudd ysgrifenedig gan gynnwys eitemau ar yr agenda ac amlinelliad o'r materion allweddol i'w trafod cyn gynted a phosibl a chyn y cyfarfod.
  5. Ar ôl pob cyfarfod gweinidogol rhynglywodraethol o fewn cwmpas y Cytundeb hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu crynodeb ysgrifenedig o'r materion a drafodwyd yn y cyfarfod i'r Pwyllgor CLA ac unrhyw bwyllgor perthnasol arall y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag sy'n ymarferol ac, os yn bosibl, o fewn pythefnos. Bydd crynodeb o'r fath yn  cynnwys unrhyw ddatganiad ar y cyd a ryddhawyd ar ôl y cyfarfod, gwybodaeth yn ymwneud â phwy oedd yn y cyfarfod, pryd cynhaliwyd y cyfarfod, a lie y bo'n briodol, yn amodol ar yr angen i barchu cyfrinachedd, awgrym o'r materion allweddol a chynnwys trafodaethau ac amlinelliad o'r safbwyntiau gan Lywodraeth Cymru.
  6. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cytuno i ddarparu testun unrhyw gytundebau rhynglywodraethol amlochrog neu ddwyochrog, memorandwm Cyd­ddealltwriaeth neu unrhyw benderfyniadau eraill o fewn cwmpas y Cytundeb hwn, i'r Pwyllgor CLA neu unrhyw bwyllgor perthnasol eraill y Cynulliad Cenedlaethol.
  7. Yn unol â darpariaethau paragraff 11 uchod, mewn amgylchiadau lle mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sefydlu cytundebau newydd gyda'r nod o gyrraedd cytundeb rhynglywodraethol, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu rhybudd ymlaen llaw i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o'i bwriad i wneud hynny
  8. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cytuno i gynnal cofnod o'r holl gytundebau rhynglywodraethol ffurfiol, concordatiau, penderfyniadau a memorandwm perthnasol y mae Llywodraeth Cymru yn rhan ohonynt a sicrhau eu bod ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Adroddiad blynyddol

  1. Bydd Llywodraeth Cymru yn paratoi Adroddiad Blynyddol ar gysylltiadau rhynglywodraethol. Bydd yn cael ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol a'i gyflwyno i'r Pwyllgor CLA. Bydd yr adroddiad hwn yn crynhoi'r prif allbynnau o'r gweithgarwch sy'n amodol ar ddarpariaethau'r cytundeb hwn, gan gynnwys unrhyw adroddiadau a gyhoeddwyd gan fforymau rhynglywodraethol perthnasol. Bydd hefyd yn rhoi sylwadau ar ystod gwaith cysylltiadau rhynglywodraethol ehangach a wnaed yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys datrys anghydfodau. Bydd yr adroddiad hefyd yn darparu cymaint o wybodaeth ag sy'n ymarferol a phriodol o'r materion y disgwylir iddynt ddod i'r amlwg yn ystod y flwyddyn ganlynol.

Ymddangosiadau gerbron pwyllgorau

  1. Bydd Gweinidogion Cymru yn mynd i gyfarfodydd pwyllgor perthnasol y Cynulliad Cenedlaethol, fel y bo'n briodol, pan fyddant yn cael eu gwahodd.

Monitro

  1. Y pwyllgor arweiniol ar gyfer monitro'r gwaith o weithredu'r cytundeb hwn yw'r Pwyllgor CLA.