Neidio i'r prif gynnwy

Gall darparwyr cartrefi gofal nawr hyrwyddo eu gwasanaethau ar wefan sy'n rhoi gwybodaeth am bob cartref gofal i oedolion yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae CartrefiGofal.Cymru yn wefan newydd a fydd yn cefnogi darparwyr cartrefi gofal i oedolion yng Nghymru. Mae'n darparu gwybodaeth am bob cartref gofal i oedolion yng Nghymru – beth bynnag yw ei faint, ei leoliad a pha bynnag wasanaethau sy’n cael eu darparu yno. 

Mae gwybodaeth gofrestru sylfaenol gan Arolygiaeth Gofal Cymru, y rheoleiddiwr cartrefi gofal, yn cael ei ddefnyddio’n awtomatig ar y wefan.

  • Gallwch ychwanegu at eich cofnod drwy ddarparu ffotograffau, fideos, a manylion y cyfleusterau rydych yn eu darparu.
  • Gallwch farchnata eich cartref gofal i'r cyhoedd a gweithwyr gofal proffesiynol ledled Cymru a thu hwnt.
  • Ni chodir tâl. Mae gwefan CartrefiGofal.Cymru yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy ymweld â CartrefiGofal.Cymru  neu trwy cysylltu â thîm prosiect CartrefiGofal.Cymru:

Manylion cyswllt

Rhif ffôn: 029 2090 9500

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.