Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi'r ail set ddata wythnosol ar nifer y brechiadau a roddwyd ledled Cymru. Erbyn 8am ar 27 Rhagfyr, roedd 35,335 o frechiadau wedi cael eu rhoi gan fyrddau iechyd yng Nghymru. Mae hyn o fewn tair wythnos gyntaf y rhaglen frechu, gan ddefnyddio brechlyn sydd â nodweddion sy'n creu heriau logistaidd – gwaith anhygoel gan GIG Cymru. 

Mae rhai yn cymharu nifer y brechiadau a roddir gan bedair gwlad y DU. Cyhoeddwyd y data diweddaraf arno heddiw hefyd.  Er fy mod yn cydnabod bod y data'n dangos bod gwledydd eraill o'n blaenau, mae'r data cenedlaethol a gyflwynir ar y cam cynnar iawn hwn o'r broses frechu gael eu hystyried yn ddata dros dro ac yn giplun o'r gweithgarwch sy'n mynd rhagddo. Gwyddom, er enghraifft, y bydd achosion o oedi cyn cofnodi data. Mae'n debygol y bydd mân wahaniaethau rhwng y gwledydd ac y gall urnhyw broblemau o ran y broses frechu neu ddata mewn gwledydd gael effaith anghymesur ar ffigurau ar gyfer pob gwlad.

Mae ffactorau hefyd y disgwyliwn iddynt fod wedi cyfrannu at hyn, gan gynnwys materion lleol a allai fod wedi chwarae yn y ffigurau.  Er enghraifft, nid oedd y ganolfan frechu yng Nghaerdydd a'r Fro yn gallu gweithredu am 2 ddiwrnod oherwydd achosion o firysau sy'n gysylltiedig â'r safle. 

Yr ydym wedi bod yn adeiladu seilwaith brechu newydd ac mae byrddau iechyd wedi gorfod gwella dros y mis diwethaf.  Mae cyfraddau brechu dyddiol yn cynyddu ledled Cymru ac, wrth edrych i'r dyfodol, mae pob bwrdd iechyd yn paratoi i ehangu eu capasiti brechu yn sylweddol o ddechrau mis Ionawr, pan fydd brechlyn Rhydychen/AstraZeneca ar gael.  Bydd y brechlyn yn cael ei gynnig mewn rhai meddygfeydd meddygon teulu mewn rhai ardaloedd o ddydd Llun.  Mae byrddau iechyd hefyd yn cynyddu capasiti gan fod sylfeini wedi'u gosod erbyn hyn – gydag un penodiad dyblu yr wythnos nesaf o ganlyniad i fwy o gapasiti staff ac wedi gwneud arbedion effeithlonrwydd, wrth i staff ddod yn fwy profiadol wrth ymdrin â'r brechlyn.  Mae canolfannau brechu wedi cynyddu o 14 i 22 ac mae mwy o bobl sy'n cael eu himiwneiddio hefyd yn cael eu defnyddio dros yr wythnosau nesaf, gyda rhai ardaloedd yn dyblu capasiti.

Rydym wedi cymryd gofal mawr i sicrhau ein bod yn lleihau gwastraff er gwaethaf gofynion storio a dosbarthu heriol iawn y brechlyn Pfizer.  Hyd yma, gyda dros 35,000 o ddosau wedi'u gweinyddu, nid yw llai nag 1% o ddosau wedi gallu cael eu defnyddio.  Mae hyn yn dyst i ymdrechion gweithwyr fferyllol a nyrsio proffesiynol yn ein canolfannau brechu.

Megis cychwyn y mae'r rhaglen, a bydd yn para am fisoedd lawer.  Er ei bod yn amlwg i bawb bod angen gweithredu ar fyrder a thrwy flaenoriaethu, mae'n rhaid inni hefyd fod yn amyneddgar a rhoi cyfle i'r GIG wneud yr hyn y mae'n ei wneud mor dda.  Mae fy ffocws, a ffocws y GIG, ar gyflwyno'r rhaglen frechu yn gyflym ond hefyd mewn ffordd effeithiol, ddiogel a theg.

Yr wythnos nesaf byddwn yn lansio cam nesaf y rhaglen a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau'n llawn am ein cynlluniau i'w defnyddio bryd hynny.

Yn y cyfamser, roeddwn am hysbysu'r Aelodau o'm penderfyniad i ddilyn cyngor pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU i roi blaenoriaeth i'r dosiau cyntaf, tan hyd at 12 wythnos o'r dos cyntaf i'r ail apwyntiad. Bydd apwyntiadau ar gyfer ail ddos a drefnir o yfory ymlaen o fewn 12 wythnos i'r dos cyntaf, sy'n golygu y dylai adnoddau gael eu hailneilltuo ar gyfer dosiau cyntaf.

Rydym yn dilyn y cyngor gwyddonol diweddaraf fel rydym wedi'i wneud drwy gydol y pandemig. Ar ôl astudio'r dystiolaeth ynglŷn â brechlyn Pfizer/BioNTech a brechlyn Rhydychen/AstraZeneca, mae'r Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio wedi cynghori y dylem roi blaenoriaeth i roi'r dos cyntaf i gynifer o bobl mewn grwpiau sy'n wynebu risg â phosibl, yn hytrach na rhoi dau ddos o fewn cyn lleied o amser â phosibl.

Mae pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU yn cytuno â'r Cyd-bwyllgor, ar y cam hwn o'r pandemig, y bydd blaenoriaeth ar roi'r dosiau cyntaf o'r brechlyn i gynifer o bobl â phosibl ar y rhestr flaenoraethau yn diogelu'r nifer mwyaf o bobl sy'n wynebu risg yn gyffredinol o fewn y terfyn amser byrraf posibl. Bydd yn sicrhau y gall pobl sy'n wynebu mwy o risg gael eu diogelu drwy frechlyn yn yr wythnosau a'r misoedd sydd i ddod, gan leihau nifer y marwolaethau a dechrau lleddfu'r pwysau ar ein GIG.

Mae cyngor annibynnol y Cyd-bwyllgor yn nodi mai drwy wneud hyn y bydd modd sicrhau'r buddiannau mwyaf posibl drwy'r naill frechlyn a'r llall. Rydym yn gweithredu'n ddi-oed ar y cyngor sydd wedi'i ddiweddaru gan y Cydbwyllgor, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion a Phrif Swyddogion Meddygol y DU.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.