Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Diben y datganiad hwn yw cynnig trosolwg ystadegol o fwydo ar y fron yng Nghymru, gan gynnwys dadansoddiadau o nodweddion mamau. Defnyddir y data a’r dadansoddiadau i lywio datblygiad polisi mamolaeth Llywodraeth Cymru a chynllun gweithredu 5 mlynedd Cymru ar fwydo ar y fron. Mae’r datganiad hwn hefyd yn darparu data i gefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 sy’n nodi y dylai pob plentyn yng Nghymru gael y dechrau gorau mewn bywyd.

Mae’r data yn y datganiad hwn wedi’u cymryd o’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth (MI ds) ar fwriad mamau i fwydo ar y fron ac o’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD) ar gyfer bwydo ar y fron o ran pob oedran arall.

Cyhoeddir data ategol ar famolaeth a genedigaethau ar 9 Awst 2023.

Prif bwyntiau

Gwelwyd y duedd dymor hwy o gynnydd mewn cyfraddau bwydo ar y fron, ar bob adeg y caiff data eu casglu, yn gwastatáu yn 2022. Roedd gostyngiadau bach yn y cyfraddau ar gyfer bwriad mamau i fwydo ar y fron, o ran babanod a oedd yn cael eu bwydo ar y fron adeg eu geni ac yn 6 mis oed. Fodd bynnag, bu cynnydd bychan yng nghyfradd y babanod a oedd yn cael eu bwydo ar y fron yn 10 diwrnod oed ac yn 6 wythnos oed, a’r ddwy gyfradd hyn oedd yr uchaf ar gofnod.

Parhaodd mamau tro cyntaf i adrodd am gyfraddau uwch o fwriad i fwydo ar y fron na mamau a oedd wedi geni plentyn  o’r blaen. Ond yn 2022, gostyngodd y gyfradd ar gyfer mamau tro cyntaf a chynyddodd i famau ag un enedigaeth flaenorol, gan olygu bod y bwlch rhwng y ddau grŵp wedi gostwng i'w wahaniaeth lleiaf ar gofnod (3 phwynt canran). 

Roedd y gyfradd bwydo ar y fron adeg genedigaeth yn cynyddu wrth i grŵp oedran y mamau fynd yn uwch. Roedd y gyfradd bwydo ar y fron adeg geni ar gyfer plant yr oedd eu mamau yn 35 oed neu'n hŷn 31 pwynt canran yn uwch na'r rhai yr oedd eu mamau yn 19 oed neu'n iau.

Er bod canran uwch o famau mewn grwpiau oedran hŷn yn bwydo ar y fron adeg geni, roedd cyfradd y gostyngiad mewn bwydo ar y fron wrth i oedran y plant gynyddu yn debyg iawn ar gyfer pob grŵp oedran. Roedd y gyfradd ar gyfer plant 6 mis oed yr oedd eu mamau’n 35 oed neu'n hŷn 30 pwynt canran yn uwch na'r rhai yr oedd eu mamau yn 19 oed neu'n iau.

Roedd y gyfradd bwydo ar y fron ar gyfer plant a gafodd eu geni gartref 12 pwynt canran yn uwch na phlant a anwyd yn yr ysbyty.

Roedd y cyfraddau bwydo ar y fron adeg geni yr un peth ar gyfer babanod Du ac Asiaidd, ond 24 pwynt canran yn uwch na'r gyfradd ar gyfer babanod Gwyn.

Roedd y cyfraddau bwydo ar y fron ar gyfer plant Du yn uwch yn 10 diwrnod oed, 6 wythnos oed a 6 mis oed nag mewn unrhyw grŵp ethnig arall. Nid oedd y gyfradd bwydo ar y fron yn gostwng tan y grŵp oedran 6 mis.

Y cyfraddau bwydo ar y fron ar gyfer plant yn y grŵp ethnig gwyn oedd yr isaf ar bob pwynt oedran.

Roedd y gyfradd bwydo ar y fron ar gyfer plant Du tua thair gwaith yn uwch nag yr oedd ar gyfer plant Gwyn yn 6 wythnos oed ac yn 6 mis oed.

Bwydo ar y fron ac oedran y plentyn

Mae’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn cofnodi bwriad y fam, cyn yr enedigaeth, i fwydo ar y fron. Gan fod y data yn cyfeirio at y fam, mae’r data a gyflwynir yn cyfeirio at y 27,163 o famau a esgorodd yn 2022, yn hytrach na phlant a anwyd yn 2022.

Caiff data ar gyfer bwydo ar y fron adeg geni ac ar gyfer bwydo ar y fron pan fydd y babi’n 10 diwrnod, yn 6 wythnos ac yn 6 mis oed, eu cofnodi yn y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol ac maent yn cyfeirio at y cofnodion lle ceir unrhyw sôn am fwydo ar y fron. Mae hyn yn cynnwys babanod a fwydwyd yn gyfan gwbl ar laeth y fron a’r rhai a fwydwyd trwy gyfuniad o laeth y fron a llaeth potel.

Yn achos bwydo ar y fron adeg geni, mae’r data yn cyfeirio at y 28,388 o enedigaethau byw yn 2022. Yn achos bwydo ar y fron ar bwyntiau oedran eraill, mae’r data’n cyfeirio at y babanod a gyrhaeddodd yr oedran dan sylw yn 2022: 28,281 o fabanod yn cyrraedd 10 diwrnod, 28,499 o fabanod yn cyrraedd 6 wythnos, a 29,009 yn cyrraedd 6 mis. Dim ond cofnodion â statws bwydo ar y fron hysbys sy’n cael eu cofnodi yn y cyfrifiadau.

Ffigur 1: Y bwriad i fwydo ar y fron, a bwydo ar y fron adeg geni ac ar ôl cyrraedd 10 diwrnod, 6 wythnos, 6 mis, 2014 i 2022 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell sy'n dangos bod cyfraddau bwydo ar y fron adeg geni, 10 diwrnod, 6 wythnos, 6 mis, i gyd wedi cynyddu'n gyson dros y 7 neu 8 mlynedd diwethaf.  

Ffynhonnell:  Set ddata Dangosyddion Mamolaeth, y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol.

Bwydo ar y fron yn ôl oedran y babi a bwrdd iechyd ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae’r canrannau’n cyfateb i gyfanswm y cofnodion namyn cofnodion lle na nodwyd statws bwydo ar y fron: Yn 2022 nid oedd dim data bwydo ar y fron ar gyfer 588 cofnod lle nodwyd bwriad i fwydo ar y fron, 2,010 cofnod adeg geni, 2,597 cofnod 10 diwrnod oed, 6,718 cofnod 6 wythnos oed; ac 8,527 cofnod 6 mis oed.

[Nodyn 2] Mae cyfraddau bwydo ar y fron adeg geni ar gael o 2002 ymlaen ar StatsCymru. Mae data ar gyfer pob pwynt oedran arall ar gael o 2015 neu'n hwyrach yn unig.

[Nodyn 3] Yr enwadur ar gyfer cyfrifiadau canrannol ar bob pwynt yw: nifer y menywod sy’n disgwyl plentyn ar gyfer 'Bwriad i fwydo ar y fron'; pob genedigaeth fyw ar gyfer 'genedigaeth'; a babanod yn cyrraedd yr oedran cyfeirio ar gyfer pob pwynt oedran arall.

Yn 2022, roedd bron i ddwy ran o dair (63.7%) o’r holl famau yn bwriadu bwydo ar y fron, cyn i’r plentyn gael ei eni. Mae'r ganran hon wedi aros yn weddol sefydlog dros y tymor hwy ond wedi gostwng 0.6 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol.

Yn yr un modd, cafodd bron i ddwy ran o dair (63.3%) o fabanod eu bwydo ar y fron ar ôl cael eu geni. Mae'r ganran hon wedi bod ar duedd ar i fyny dros y tymor hwy ac mae 1.6 pwynt canran yn uwch na phum mlynedd yn ôl, ond mae'r duedd wedi gwastatáu yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac wedi gostwng 0.6 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol.

Roedd ychydig dros hanner (52.5%) y babanod yn cael eu bwydo ar y fron yn 10 diwrnod oed. Mae'r ganran wedi bod ar duedd ar i fyny dros y tymor hwy ac mae 4.3 pwynt canran yn uwch na phum mlynedd yn ôl. Cafwyd cynnydd bach yn y ganran (llai na 0.1 pwynt canran) ers y flwyddyn flaenorol a dyma'r ganran uchaf ar gofnod.

Roedd ychydig yn llai na 4 o bob 10 (38.7%) o fabanod yn cael eu bwydo ar y fron yn 6 wythnos oed. Mae'r ganran wedi bod ar duedd i fyny dros y tymor hwy ac mae hefyd 4.3 pwynt canran yn uwch na phum mlynedd yn ôl. Cynyddodd y ganran ychydig (0.1 pwynt canran) ers y flwyddyn flaenorol a dyma'r uchaf ar gofnod.

Ychydig dros chwarter (26.2%) o fabanod oedd yn cael eu bwydo ar y fron yn 6 mis oed. Roedd y ganran wedi bod ar duedd i fyny dros y tymor hwy ac mae 4.1 pwynt canran yn uwch na phum mlynedd yn ôl; Fodd bynnag, gostyngodd y ganran 1.2 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol.

Mae problemau’n ymwneud ag ansawdd data yn berthnasol i ddata bwydo ar y fron ar yr holl adegau dan sylw, gan fod cofnodion rhai mamau a babanod yn anghyflawn. Yn 2022, roedd canran y cofnodion cyflawn ar bob cam casglu data yn amrywio o 97.8% ar gyfer y bwriad i fwydo ar y fron, i 70.6% yn chwe mis oed. Caiff data ynghylch bwydo ar y fron eu casglu yn ystod yr apwyntiadau a fydd gan y plant gydag ymwelwyr iechyd neu feddygon teulu, a hynny trwy Raglen Plant Iach Cymru. Pe na bai’r plentyn yn cael cyswllt o’r fath, bydd data ynghylch bwydo ar y fron ar goll ar gyfer y pwynt cyswllt hwnnw.

Yn ogystal â data blynyddol, caiff data chwarterol ynghylch bwydo ar y fron, gyda chanrannau’n nodi cyflawnrwydd y data, eu cyhoeddi ar StatsCymru, yn ôl bwrdd iechyd lleol.

Bwydo ar y fron ac esgoredd

Mae’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn cofnodi sawl gwaith y mae menywod beichiog wedi rhoi genedigaeth o’r blaen (esgoredd). Gellir dadansoddi’r wybodaeth hon gyda bwriad y mamau i fwydo ar y fron.

Ffigur 2: Y bwriad i fwydo ar y fron yn ôl y nifer o weithiau yr oedd y fam wedi rhoi genedigaeth o’r blaen (esgoredd), 2017 i 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart linell sy'n dangos bod bwriad i fwydo ar y fron wedi bod yn uwch i famau am y tro cyntaf drwy gydol y gyfres amser, ond bod y ganran wedi gostwng yn ystod y flwyddyn ddiweddaraf. Mae'r ganran wedi bod ar ei hisaf i famau sydd wedi cael nifer o enedigaethau blaenorol, drwy gydol y gyfres amser.

Ffynhonnell: Set ddata Dangosyddion Mamolaeth

Bwriad i fwydo ar y fron yn ôl sawl gwaith yr oedd mamau wedi rhoi genedigaeth o'r blaen (esgoredd) ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae'r canrannau'n cyfateb i gyfanswm yr esgoriadau namyn genedigaethau lle na nodwyd unrhyw fwriad penodol i fwydo ar y fron. Roedd 1,222 o enedigaethau heb unrhyw ddata yn 2017; 774 yn 2018; 684 yn 2019; 569 yn 2020; 641 yn 2021; 588 yn 2022.

Yn 2022, roedd 67.7% o famau tro cyntaf (heb esgor o’r blaen) yn bwriadu bwydo ar y fron, o’i gymharu â 64.5% o famau a oedd wedi rhoi genedigaeth unwaith o’r blaen (cyntafesgorol) yn bwriadu bwydo ar y fron, ac roedd 54.1% o famau a oedd wedi rhoi genedigaeth fwy nag unwaith (amlesgorol) yn bwriadu bwydo ar y fron.

Roedd y bwriad i fwydo ar y fron ymhlith mamau a oedd heb esgor o’r blaen wedi bod yn weddol sefydlog ers 2016, ond gostyngodd 1.9 pwynt canran yn 2022 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mewn cyferbyniad, gwelwyd tuedd fach tuag i fyny dros y pedair blynedd ddiwethaf yn y gyfradd ar gyfer mamau cyntafesgorol, a chynyddodd 1.0 pwynt canran yn 2022. Mae'r gyfradd ar gyfer mamau amlesgorol wedi aros yn weddol sefydlog dros y tair blynedd diwethaf ond gostyngodd 0.9 pwynt canran yn 2022.

Bwydo ar y fron a lleoliad yr enedigaeth

Ffigur 3: Canran y genedigaethau byw a fwydwyd ar y fron adeg eu geni yn ôl lleoliad yr enedigaeth, 2013 i 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart linell sy'n dangos bod canran uwch o fabanod a anwyd gartref wedi cael eu bwydo ar y fron adeg eu geni o gymharu â'r rhai a anwyd yn yr ysbyty, ond bod y ganran ar gyfer y ddau gategori wedi cynyddu ar gyfradd debyg dros y deng mlynedd diwethaf.

Ffynhonnell:  Y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol.

Bwydo ar y fron adeg geni yn ôl man geni a bwrdd iechyd ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae’r canrannau’n cyfateb i gyfanswm y genedigaethau byw namyn genedigaethau lle na nodwyd statws bwydo ar y fron: yn 2022, ar gyfer genedigaethau ysbyty ni nodwyd statws bwydo ar y fron mewn 7% (1,885) o achosion; ar gyfer genedigaethau cartref ni nodwyd statws bwydo ar y fron adeg geni mewn 12% (70) o achosion.

Yn 2022, o'r 600 o fabanod a anwyd gartref, cafodd 74.9% eu bwydo ar y fron adeg eu geni. Mae hyn yn ostyngiad o 2.8 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol, ond mae 10.0 pwynt canran yn uwch na ddeng mlynedd yn ôl.

O'r 27,657 o fabanod a anwyd yn yr ysbyty, cafodd 63.1% eu bwydo ar y fron adeg eu geni. Mae hyn yn ostyngiad ymylol o 0.4 pwynt canran o'r flwyddyn flaenorol, ond mae 7.4 pwynt canran yn uwch na deng mlynedd yn ôl.

Sylwer: yn 2022, cofnodwyd bod 51 o fabanod wedi’u geni ‘yn ystod taith’. Ni chofnodwyd lleoliad yr enedigaeth mewn 80 o achosion.

Caiff data ychwanegol ar fwydo ar y fron eu cyhoeddi ar gyfer babanod a anwyd mewn Unedau Newyddenedigol (eu geni’n gynt nag wythnos 33 y beichiogrwydd) yn yr Adroddiad Blynyddol Rhaglen Archwilio Newyddenedigol Genedlaethol (NNAP) 2020, ac mae’n dangos yn 2020, bod 50% o fabanod a anwyd yn gynt nag wythnos 33 y beichiogrwydd yn Unedau Newyddenedigol Cymru wedi’u rhyddhau o’r unedau wedi derbyn peth llaeth y fron. Roedd hyn yn is nag yn 2019 pan roedd y gyfradd yn 53%.

Bwydo ar y fron ac oedran y fam

Ffigur 4: Bwydo ar y fron adeg geni yn ôl grŵp oedran y fam, 2016 i 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart linell sy'n dangos bod cyfraddau bwydo babanod ar y fron adeg eu geni yng ngrwpiau oedran mamau hŷn wedi bod yn gyson uwch nag yng ngrwpiau oedran mamau iau. Mae'r cyfraddau yn y rhan fwyaf o grwpiau oedran mamau wedi aros yn weddol debyg ers 2016, gyda thueddiadau bach ar i fyny mewn mamau o dan 20 oed a mamau rhwng 25 a 29 oed.

Ffynhonnell:  Y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol.

Bwydo ar y fron yn ôl oedran y babi ac oedran y fam ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae’r canrannau’n cyfateb i gyfanswm y genedigaethau namyn genedigaethau lle na nodwyd statws bwydo ar y fron adeg geni: ni nodwyd statws bwydo ar y fron adeg geni mewn 3,028 o enedigaethau yn 2016, 2,029 o enedigaethau yn 2017, 1,425 o enedigaethau yn 2018, 1,830 o enedigaethau yn 2019, 2,100 o enedigaethau yn 2020; 3,262 o enedigaethau yn 2021, 2,010 o enedigaethau yn 2022.

Yn 2022, cafodd mwy na saith o bob deg (72.6%) o fabanod yr oedd eu mam yn 35 oed neu'n hŷn eu bwydo ar y fron. Gostyngodd y gyfradd ym mhob categori oedran, gydag ychydig dros chwech o bob deg (61.0%) o fabanod yn cael eu bwydo ar y fron lle'r oedd y fam rhwng 25 a 29 oed, ac ychydig dros bedwar o bob deg (41.3%) o fabanod yn cael eu bwydo ar y fron lle'r oedd y fam dan 20 oed.

Ffigur 5: Bwydo ar y fron yn ôl grŵp oedran y fam ac oedran y babi, Cymru, 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart linell sy'n dangos, er bod cyfraddau bwydo ar y fron yn uwch yn y grwpiau oedran hŷn, fod y gostyngiad mewn cyfraddau bwydo ar y fron wrth i'r plentyn fynd yn hŷn yn debyg ar draws pob grŵp oedran.

Ffynhonnell: Set ddata Dangosyddion Mamolaeth, y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol.

Bwydo ar y fron yn ôl oedran y babi ac oedran y fam ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae’r canrannau’n cyfateb i gyfanswm y cofnodion namyn cofnodion lle na nodwyd statws bwydo ar y fron: yn 2022 nid oedd dim data bwydo ar y fron ar gyfer 588 cofnod lle nodwyd bwriad i fwydo ar y fron, 2,010 cofnod adeg geni, 2,597 cofnod 10 diwrnod oed, 6,718 cofnod 6 wythnos oed; ac 8,527 cofnod 6 mis oed.

Rhwng genedigaeth a 10 diwrnod, gostyngodd cyfraddau bwydo ar y fron bron i 10 pwynt canran ar gyfer pob grŵp oedran ar wahân i famau o dan 20 oed, a gwympodd 16 pwynt canran.

Rhwng 10 diwrnod a 6 wythnos, gostyngodd cyfraddau bwydo ar y fron bron i 14 pwynt canran ar gyfer pob grŵp oedran.

Roedd mwy o amrywiad yn y gostyngiad mewn cyfraddau bwydo ar y fron rhwng 6 wythnos a 6 mis, gyda'r gostyngiad yn amrywio o 7 pwynt canran ar gyfer mamau o dan 20 oed, i 14 pwynt canran ar gyfer mamau 30 i 34 oed.

Bwydo ar y fron a grŵp ethnig

Mae Ffigur 6 yn dangos bod cyfraddau bwydo ar y fron yn amrywio rhwng grwpiau ethnig. Mae’r bwriad i fwydo ar y fron yn seiliedig ar grŵp ethnig y fam, ond mae bwydo ar y fron ar adegau eraill yn cyfeirio at grŵp ethnig y baban.

Ffigur 6: Bwydo ar y fron yn ôl grŵp ethnig ac oedran y baban, Cymru, 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart linell sy'n dangos bod cyfraddau bwydo ar y fron yn uwch ar gyfer pobl o ethnigrwydd Du, Asiaidd neu ethnigrwydd arall. Roedd y cyfraddau ar gyfer newid o ran bwydo ar y fron gydag oedran y plentyn yn wahanol yn ôl grŵp ethnig.

Ffynhonnell: Set ddata Dangosyddion Mamolaeth, y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol.

Bwydo ar y fron yn ôl oedran y babi a grŵp ethnig ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae’r canrannau’n cyfateb i gyfanswm y cofnodion namyn cofnodion lle na nodwyd statws bwydo ar y fron: yn 2022 nid oedd dim data bwydo ar y fron ar gyfer 588 cofnod lle nodwyd bwriad i fwydo ar y fron, 2,010 cofnod adeg geni, 2,597 cofnod 10 diwrnod oed, 6,718 cofnod 6 wythnos oed; ac 8,527 cofnod 6 mis oed.

Roedd y cyfraddau bwydo ar y fron ar gyfer y grŵp ethnig Du yn uwch nag unrhyw grŵp ethnig arall ar gyfer pob un o bwyntiau oedran plant o'u genedigaeth hyd at 6 mis oed. Roedd bron i 9 o bob 10 o blant Du yn cael eu bwydo ar y fron yn 10 diwrnod oed a 6 wythnos oed, ac roedd mwy na na 7 o bob 10 o blant Du yn cael eu bwydo ar y fron yn 6 mis oed.

Roedd y duedd ar gyfer grwpiau ethnig Asiaidd a grwpiau ethnig Eraill yn debyg ym mhob un o bwyntiau oedran plant. Ymhlith mamau Asiaidd yr oedd cyfraddau uchaf o ran bwriad i fwydo ar y fron (83.2%), ac roedd o leiaf 7 o bob 10 o blant Asiaidd a grwpiau ethnig eraill yn cael eu bwydo ar y fron yn 6 wythnos oed. Gostyngodd y gyfradd ar gyfer plant 6 mis oed yn y ddau grŵp i 50.6% ar gyfer plant mewn grwpiau ethnig Eraill a 44.6% ar gyfer plant Asiaidd.

Ychydig dros 7 o bob 10 o famau o ethnigrwydd Cymysg neu luosog a oedd yn bwriadu bwydo ar y fron, a'r un gyfran o blant o ethnigrwydd Cymysg neu luosog oedd yn cael eu bwydo ar y fron adeg eu geni. Gostyngodd y gyfradd bwydo ar y fron ar bob pwynt oedran ar ôl geni’r babanod, ac ychydig dros draean (36.8%) o blant o ethnigrwydd Cymysg neu luosog a oedd yn bwydo ar y fron yn 6 mis oed.

Roedd y cyfraddau bwydo ar y fron ar gyfer y grŵp ethnig Gwyn yn is nag unrhyw grŵp ethnig arall ar bob adeg casglu data. Roedd bron i 6 o bob 10 mam yn bwriadu bwydo ar y fron a chafodd cyfran debyg o blant Gwyn eu bwydo ar y fron adeg eu geni. Gostyngodd y gyfradd i ychydig llai na hanner y plant Gwyn yn cael eu bwydo ar y fron yn 10 diwrnod oed (48.1%), traean (34.3%) yn cael eu bwydo ar y fron yn 6 wythnos oed, ac ychydig llai na chwarter (23.3%) yn cael eu bwydo ar y fron yn 6 mis oed.

Bwydo ar y fron a nifer y babanod

Ffigur 7: Bwriad i fwydo ar y fron yn ôl nifer y babanod, Cymru, 2016-2022 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart linell sy'n dangos bod canran ychydig yn uwch o famau babanod unigol yn bwriadu bwydo ar y fron o'i gymharu â mamau babanod lluosog ers 2016. Mae'r ganran wedi cynyddu'n gymedrol dros amser ar gyfer y grŵp lluosog, ond mae wedi bod yn weddol sefydlog i'r grŵp unigol.

Ffynhonnell: Set ddata Dangosyddion Mamolaeth

Bwriad i fwydo ar y fron yn ôl nifer y babanod ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae'r canrannau'n cyfateb i gyfanswm y cofnodion namyn cofnodion heb unrhyw statws bwydo ar y fron wedi'i nodi adeg geni; nid oedd gan 2% (558) statws bwydo ar y fron penodol ar gyfer genedigaethau unigol; nid oedd gan 8% (30) statws bwydo ar y fron wedi'i nodi adeg geni ar gyfer genedigaethau lluosog yn 2022.

[Nodyn 2] Mae unigol yn cyfeirio at un babi a anwyd; mae lluosog yn cyfeirio at efeilliaid, tripledi neu fwy o fabanod a anwyd drwy un beichiogrwydd.

Roedd 63.8% o'r mamau a roddodd enedigaeth i un baban yn bwriadu bwydo ar y fron yn 2022. Mae hyn 0.6 pwynt canran yn is na'r flwyddyn flaenorol ac nid yw’n wahanol i’r gyfradd bum mlynedd yn ôl.

Roedd 59.5% o famau a roddodd enedigaeth i nifer o blant (efeilliaid neu dripledi) yn bwriadu bwydo ar y fron yn 2022. Mae hyn 1.8 pwynt canran yn uwch na'r flwyddyn flaenorol a 3.3 pwynt canran yn uwch na'r gyfradd bum mlynedd yn ôl.

Ansawdd a methodoleg yr wybodaeth

Mae’r holl ddata a ddefnyddir yn y datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi ar StatsCymru ac mae rhagor o fanylion am y ffynonellau data a’r dadansoddiadau yn y datganiad ystadegol hwn, ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Ansawdd eitemau data penodol

Nid oes cofnodion cyflawn ar gyfer statws bwydo ar y fron ar gyfer yr holl gofnodion set ddata Dangosyddion Mamolaeth a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol. Mae’r data yn llai cyflawn gydag oedran y baban ac yn 2022 roedd fel a ganlyn: 97.8% ar gyfer y bwriad i fwydo ar y fron; 92.9% ar adeg geni; 90.8% yn 10 diwrnod oed; 76.4% yn chwech wythnos oed; a 70.6% yn 6 mis oed.

Mae tabl yn nodi pa mor gyflawn yw’r eitemau data a ddefnyddir yn y datganiad hwn o’r ddwy ffynhonnell ddata ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig, yn Adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Ymhellach, gall yr ystadegau yn y datganiad hwn gynnig naratif ategol ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol a gall byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Craig Thomas
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 57/2023

Image
Ystadegau Gwladol