Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Prif bwyntiau

Mae cyfraddau bwydo ar y fron wedi codi'r chwarter hwn ar gyfer pob oedran ac eithrio adeg genedigaeth sydd wedi aros yr un fath â'r chwarter blaenorol; gyda bwydo ar y fron yn 10 diwrnod, 6 wythnos a 6 mis yw'r uchaf ar gofnod.

Ffigur 1: Cyfraddau bwydo ar y fron yn ôl oedran y plentyn, Gorffennaf 2014 i Ragfyr 2024 

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell sy’n dangos bod canran y babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron ar bob oed wedi cynyddu’n raddol dros y degawd diwethaf, gyda'r lefelau uchaf wedi'u cofnodi ar gyfer pob pwynt oedran a welwyd dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ffynhonnell: Y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD)

Adeg genedigaeth, roedd y gyfradd bwydo ar y fron ar gyfer Cymru yn 64.4%. Mae hyn yn gynnydd o 0.2 pwynt canran ar y chwarter blaenorol, gostyngiad o 1.3 pwynt canran ar yr un chwarter y flwyddyn ddiwethaf, ond cynnydd o 6.8 pwynt canran ar y chwarter cyntaf y mae data y gellir cymharu â hwy ar gael ar ei gyfer (Gorffennaf i Fedi 2014).

Yn 10 diwrnod, roedd y gyfradd bwydo ar y fron ar gyfer Cymru yn 58.1%. Mae hyn yn gynnedd o 0.9 pwynt canran ar y chwarter blaenorol, cynnydd o 1.9 pwynt canran ar yr un chwarter y flwyddyn ddiwethaf, a chynnydd o 13.5 pwynt canran ar y chwarter cyntaf y mae data y gellir cymharu â hwy ar gael ar ei gyfer (Gorffennaf i Fedi 2014).

Yn 6 wythnos, roedd y gyfradd bwydo ar y fron ar gyfer Cymru yn 45.7%. Mae hyn yn gynnedd o 0.9 pwynt canran ar y chwarter blaenorol, cynnydd o 4.0 pwynt canran ar yr un chwarter y flwyddyn ddiwethaf, a chynnydd o 15.1 pwynt canran ar y chwarter cyntaf y mae data y gellir cymharu â hwy ar gael ar ei gyfer (Gorffennaf i Fedi 2014). 

Yn 6 mis, roedd y gyfradd bwydo ar y fron ar gyfer Cymru yn 33.6%. Mae hyn yn gynnydd o 1.1 pwynt canran ar y chwarter blaenorol, cynnydd o 2.8 pwynt canran ar yr un chwarter y flwyddyn ddiwethaf, a chynnydd o 15.3 pwynt canran ar y chwarter cyntaf y mae data y gellir cymharu â hwy ar gael ar ei gyfer (Gorffennaf i Fedi 2015). 

Noder bod cyfran uchel o ddata coll yn 6 wythnos ac yn 6 mis, er bod hyn bellach yn lleihau. Ac nid oedd gan 17.3% a 18.3% o’r cofnodion, yn y drefn honno, unrhyw statws o ran bwydo ar y fron ar gyfer y chwarter diweddaraf.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Craig Thomas
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099