Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Prif bwyntiau

Ffigur 1: cyfraddau bwydo ar y fron yn ôl oedran y plentyn, Gorffennaf 2014 i Rhagfyr 2025

Image

 

Disgrifiad o ffigur 1: siart linell sy’n dangos bod canran y babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron ar bob oed wedi cynyddu’n raddol dros y degawd diwethaf, gyda'r lefelau uchaf wedi'u cofnodi ar gyfer pob oed yn y chwarter diweddaraf.

Ffynhonnell: Y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD)

Bwydo ar y fron, cyfraddau chwarterol yn ôl bwrdd iechyd lleol gan oedran (StatsCymru)

[Nodyn 1] Cyfrifir cyfraddau bwydo ar y fron ar gyfer cofnodion sydd â statws bwydo ar y fron hysbys; mae statws bwydo ar y fron ar goll o rhwng 8% (ar 10 niwrnod) ac 16% (ar 6 mis) o’r cofnodion, yn y chwarter cyfredol.

  • Mae cyfraddau bwydo ar y fron wedi cynyddu'r chwarter hwn ar gyfer yr holl oedrannau, gyda chyfraddau ar gyfer yr holl oedrannau'r uchaf a gofnodwyd erioed.
  • Adeg genedigaeth, roedd y gyfradd bwydo ar y fron yn 67.4%. Mae hyn yn gynnydd o 1.3  pwynt canran ar y chwarter blaenorol, 3.0  pwynt canran ar yr un chwarter y llynedd, a 9.8 pwynt canran ar y chwarter cyntaf y mae data cymaradwy ar ei gyfer (mis Gorffennaf i mis Medi 2014).
  • Yn 10 diwrnod, roedd y gyfradd bwydo ar y fron yn 61.6%. Mae hyn yn gynnydd o 0.9 pwynt canran ar y chwarter blaenorol, 3.5 pwynt canran ar yr un chwarter y llynedd, a 17.0 pwynt canran ar y chwarter cyntaf y mae data cymaradwy ar ei gyfer (mis Gorffennaf i mis Medi 2014).
  • Yn 6 wythnos, roedd y gyfradd bwydo ar y fron yn 51.3%. Mae hyn yn gynnydd o 2.1 pwynt canran ar y chwarter blaenorol, 5.7 pwynt canran ar yr un chwarter y llynedd, a 20.8 pwynt canran ar y chwarter cyntaf y mae data cymaradwy ar ei gyfer (mis Gorffennaf i mis Medi 2014). 
  • Yn 6 mis, roedd y gyfradd bwydo ar y fron yn 35.6%. Mae hyn yn gynnydd o 0.5 pwynt canran ar y chwarter blaenorol, 1.9 pwynt canran ar yr un chwarter y llynedd, a 17.2 pwynt canran ar y chwarter cyntaf y mae data cymaradwy ar ei gyfer (mis Gorffennaf i mis Medi 2015). 

Cyswllt

Ystadegau iechyd cymunedol a phoblogaeth
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099