Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cyflwyniad

Cyhoeddodd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2023-24 ar 19 Medi 2024, gan gynnwys adran sy'n ymdrin â pherfformiad y sefydliad dros y flwyddyn (yr "adroddiad ar berfformiad"). Bwriad yr adroddiad hwn yw rhoi darlun ystadegol o'r data a ddefnyddir yn y ddogfen honno, a sicrhau bod y setiau data sylfaenol ar gael yn llawn ar gyfer cyfeirio neu ddadansoddi pellach.

Defnyddir sawl siart (ac un tabl) yn yr adroddiad hwn, sy’n cyflwyno data newydd ar gyfer pob un o’r gwahanol ddangosyddion perfformiad ar gyfer ACC yn y cyfnod 2023-24. Mae rhai o’r rhain wedi'u cynnwys rywle yn yr adroddiad blynyddol, a chyfeirir atynt yn unol â hynny, er nad yn yr un drefn o reidrwydd. Mae’r adroddiad hwn hefyd yn cynnwys rhywfaint o ddata nad ydynt wedi’u cyflwyno yn yr adroddiad blynyddol er mwyn rhoi darlun mwy cyflawn o’r holl ddata a ddefnyddir gan ACC yn ei ddadansoddiad mewnol o berfformiad.

At ddibenion astudio’r data, weithiau mae'n haws dychmygu gwerthoedd y dangosyddion perfformiad wedi’u gwrthdroi. Er enghraifft, mae canran y ffurflenni treth a gafodd eu ffeilio ar amser yn agos at 100% ac mae'n anodd iawn gweld unrhyw amrywiad ar raddfa o 0-100% mewn delwedd statig. Yn hytrach na newid y raddfa i nodi 97-100%, a fyddai’n gor-bwysleisio'r amrywiad, rydym yn cyflwyno canran y ffurflenni treth NA CHAFODD eu ffeilio ar amser, gan ddefnyddio graddfa o 0-3%. Mae hyn yn rhoi adlewyrchiad tecach o'r duedd mewn delwedd statig, a lle defnyddir y dechneg hon, mae'r data ar gyfer y mesur gwrthdro a'r mesur gwirioneddol ar gael yn y daenlen sy'n cyd-fynd â'r ddogfen.

Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys dadansoddiad byr o bob mesur, ac efallai y bydd y darllenydd am ei ystyried ar y cyd â'r naratif manylach yn yr adroddiad ar berfformiad, sydd wedi’i osod yng nghyd-destun dull ac amcanion y sefydliad.  Lle bo’n berthnasol, mae nodau tudalen i rannau perthnasol yn yr adroddiad blynyddol wedi’u cynnwys o dan bob siart. 

Sylwer bod y rhan fwyaf o'r dadansoddiad isod yn berthnasol i'r Dreth Trafodiadau Tir (TTT), er pan fo hefyd yn berthnasol cynnwys data'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (TGT), mae’r data hynny hefyd wedi'u cynnwys yn y mesur.

Data

Siart 1: Nifer y ffurflenni TTT a gyflwynwyd

Image
Mae Siart 1 yn dangos llinell sy'n rhoi'r gyfres fisol o nifer y ffurflenni Treth Trafodiadau Tir a gyflwynwyd yn ystod 2022-23 a 2023-24. Bu gostyngiadau ar ôl mis Rhagfyr yn y ddwy flynedd, gyda niferoedd misol y ffurflenni a gyflwynwyd yn 2023-24 yn is ar y cyfan na’r niferoedd a gyflwynwyd yn ystod yr un mis yn 2022-23.

Nid yw'r siart hwn yn cael ei ddangos yn benodol yn yr adroddiad blynyddol cysylltiedig.

Mae'r siart hwn yn nodi'r cyd-destun y dylid ei ddefnyddio wrth ystyried y mesurau perfformiad. Mae’n dangos sut mae nifer y trafodiadau TTT a dderbyniwyd ym mhob mis wedi newid yn ystod 2022-23 a 2023-24.

Mae'r siart yn dangos patrwm tymhorol yn ystod y ddwy flynedd gyda chynnydd cyson yn rhan gyntaf pob blwyddyn, ac yna gostyngiad tymhorol ar ôl y Nadolig. Fodd bynnag, roedd y gostyngiad tymhorol ar ddiwedd 2022-23 hefyd yn cyd-daro â dirywiad cyffredinol mewn amodau economaidd sydd wedi arwain at nifer is o drafodiadau yn gyffredinol drwy gydol 2023-24 o’i gymharu â 2022-23.

Siart 2: Canran y trafodiadau nad ydynt yn cael eu prosesu’n awtomatig hyd at y taliad cychwynnol, yn ôl y mis y’u derbyniwyd

Image
Mae Siart 2 yn dangos llinell sy'n rhoi’r gyfres fisol o ganran y trafodiadau nad oedd wedi mynd ymlaen i’r cam cau cychwynnol yn awtomatig heb unrhyw weithred gan ACC yn ystod 2022-23 a 2023-24, yn ôl y mis y’u derbyniwyd, ynghyd â llinell wastad sy'n dangos targed o 2 bwynt canran. Mae’r llinell yn amrywio yn ystod 2022-23, gyda thuedd ar i lawr yn 2023-24.

Nid yw'r siart hwn yn cael ei ddangos yn benodol yn yr adroddiad blynyddol cysylltiedig.
Mae gan ACC darged perfformiad o brosesu 98% o drafodiadau’n awtomatig heb unrhyw waith â llaw.

Mae hyn yn cynnwys derbyn trafodiadau digidol a pharu’n awtomatig daliadau a dderbynnir ar gyfer unrhyw drafodiadau lle mae atebolrwydd ariannol, ac mae hyn yn cynnwys TTT a TGT.

Mae’r siart hwn yn defnyddio’r dechneg gwrthdro fel yr eglurwyd yn y cyflwyniad ac yn dangos bod canran y trafodiadau nad ydynt yn eu prosesu’n awtomatig wedi gostwng yn gyffredinol dros y ddwy flynedd, gyda’r data’n symud yn araf tuag at y targed. Mae’r brig yn ystod mis Rhagfyr 2023 a mis Ionawr 2024 yn ymwneud â phroblem yn y system a gafodd ei datrys yn gyflym fel bod y data yn ôl ar y trywydd iawn erbyn mis Chwefror 2024. 

Serch hynny, mae gan y mesur hwn dipyn o ffordd i fynd eto er mwyn cyrraedd ein targed uchelgeisiol o 98%. Mae’n debygol y bydd hynny’n dibynnu ar ACC yn parhau i wneud gwelliannau o ran paru taliadau â thrafodiadau’n awtomatig.  
 

Siart 3: Canran y ffurflenni Treth Trafodiadau Tir a dderbyniwyd ar ôl 30 diwrnod, yn ôl y mis y daeth y trafodiad i rym

Image
Dengys Siart 3 linell sy'n rhoi’r gyfres fisol o % y ffurflenni TTT a dderbyniwyd ar ôl 30 diwrnod, yn ôl mis dod i rym y trafodiad yn 2022-23 a 2023-24, ynghyd â llinell wastad sy'n cynrychioli targed o 2 bwynt canran. Roedd y llinell yn is na'n targed ar gyfer y rhan fwyaf o 2022-23 a dim ond yn Awst 2023 a Chwefror 2024 y gwelwyd brig ychydig yn uwch na'r targed. Rydym wedi parhau’n is na'n targed drwy gydol 2023-24. O edrych ar y llinell dros y 2 flynedd ddiwethaf, gwelir tuedd gyffredinol ar i lawr

Nid yw'r siart hwn yn cael ei ddangos yn benodol yn yr adroddiad blynyddol cysylltiedig.

Mae gan ACC darged perfformiad o 98% o ran derbyn ffurflenni TTT yn brydlon, hynny yw o fewn 30 diwrnod i'r dyddiad dod i rym.

Mae’r siart hwn yn defnyddio’r dechneg wrthdro fel yr eglurwyd yn y cyflwyniad ac yn dangos bod canran y ffurflenni treth a dderbyniwyd ar ôl 30 diwrnod o’r dyddiad dod i rym wedi parhau i fod yn is na’n targed o 2% drwy gydol y rhan fwyaf o 2022-23 a 2023-24, gyda thuedd gyffredinol ar i lawr drwy gydol 2023-24 ac yn is nag 1% am y tro cyntaf ar ddiwedd y flwyddyn honno.

Siart 4: Canran y ffurflenni Treth Trafodiadau Tir a dalwyd ar ôl 30 diwrnod, yn ôl y mis y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae Siart 4 yn dangos llinell sy'n rhoi’r gyfres fisol o ganran y ffurflenni Treth Trafodiadau Tir a dalwyd ar ôl 30 diwrnod, yn ôl y mis y daeth y trafodiad i rym, yn ystod 2022-23 a 2023-24, ynghyd â llinell wastad sy'n cynrychioli targed o 2 bwynt canran. Mae’r llinell yn dangos gostyngiad cyffredinol hyd nes cyrraedd y targed ym mis Chwefror 2023, cyn codi ychydig eto hyd at fis Rhagfyr 2023 lle mae’n dechrau disgyn eto tuag at ddiwedd y flwyddyn i ychydig uwchlaw’r targed.

Nid yw'r siart hwn yn cael ei ddangos yn benodol yn yr adroddiad blynyddol cysylltiedig.

Mae gan ACC darged perfformiad o 98% o ran derbyn taliadau yn erbyn ffurflenni TTT yn brydlon, hynny yw o fewn 30 diwrnod i'r dyddiad dod i rym.

Mae’r siart hwn yn defnyddio’r dechneg wrthdro fel yr eglurwyd yn y cyflwyniad ac yn dangos bod canran y ffurflenni treth a dalwyd ar ôl 30 diwrnod o’r dyddiad dod i rym wedi gostwng yn gyffredinol drwy gydol blwyddyn ariannol 2022-23 ac wedi cyrraedd ein targed ym mis Chwefror 2023. Yn ystod 2023-24, bu ychydig o gynnydd yn y ganran, gan gyd-daro â’r dirywiad yn yr economi ond roedd yn parhau i fod yn agos at ein targed, yn enwedig yn ystod ail hanner y flwyddyn. 

Siart 5: Canran y dyledion Treth Trafodiadau Tir a gasglwyd ar ôl 30 diwrnod a 90 diwrnod, yn ôl y mis y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae Siart 5 yn dangos 2 linell sy’n rhoi cyfres fisol o ganran y dyledion Treth Trafodiadau Tir a gasglwyd ar ôl 30 diwrnod ac ar ôl 90 diwrnod yn ystod 2022-23 a 2023-24, ynghyd â 2 linell wastad sy’n cynrychioli targed o 10 pwynt canran ar gyfer y mesur 30 diwrnod a 2 bwynt canran ar gyfer y mesur 90 diwrnod. Gwelodd y ddau fesur frig mawr yn ystod mis Tachwedd yn y ddwy flynedd a rhywfaint o amrywiad o fewn tueddiadau sylfaenol gweddol sefydlog, a oedd yn agos at y targed.

Nid yw'r siart hwn yn cael ei ddangos yn benodol yn yr adroddiad blynyddol cysylltiedig.

Ar gyfer pob trafodiad TTT sydd ag atebolrwydd ariannol nad yw'n cael ei gyflwyno a'i dalu o fewn 30 diwrnod, caiff dyled ei chreu. Nod ACC yw casglu taliadau ar drafodiadau sy'n dod yn ddyled o fewn 30 diwrnod arall ac mae gennym darged i gasglu 90% o'r dyledion hynny o fewn yr amserlen honno, yn ogystal â tharged i gasglu 98% o’r dyledion hynny o fewn 90 diwrnod. Mae trafodiadau a gyflwynir y tu hwnt i’r amserlenni hyn yn creu tuedd yn y mesur hwn ac nid ydynt wedi’u cynnwys yn y cyfrifiad. Yn lle hynny, mae ACC yn dadansoddi'r achosion hyn ar wahân er mwyn sicrhau y cedwir at amserlenni tebyg ar ôl eu derbyn.

Mae’r siart hwn yn defnyddio’r dechneg wrthdro fel yr eglurwyd yn y cyflwyniad ac yn dangos bod dyledion a gasglwyd o fewn 30 diwrnod o fewn neu’n agos at yr ystod darged ar gyfer y rhan fwyaf o 2022-23 a 2023-24, gyda brig ym mis Tachwedd y ddwy flynedd wedi’i ddylanwadu gan oedi dros dro dros gyfnod y Nadolig pan fyddai’r dyledion hynny wedi cael eu casglu fel arfer. Gwelwyd patrwm tebyg yn y mesur 90 diwrnod ond ar lefel is.

Ar gyfer y ddau fesur hyn, yn enwedig dyledion a gesglir ar ôl 90 diwrnod, gall nifer y trafodiadau fod yn isel ac felly’n naturiol yn amrywiol iawn. Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi’i waethygu gan ostyngiad yn lefel gyffredinol y ddyled dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae’n bwysig ystyried y tueddiadau sylfaenol, sy’n agos at y targed yn y ddwy flynedd ar gyfer y ddau fesur. 

Siart 6a: Nifer y diwrnodau a'r diwrnodau cyfartalog cymedrig a gymerwyd i wneud ad-daliadau cyfradd uwch Treth Trafodiadau Tir, yn ôl y mis y gwnaed y cais

Image
Siart 6a: mae bariau ar y chwith i ddangos nifer misol yr ad-daliadau TTT cyfradd uwch a llinell ar y dde i ddangos nifer cyfartalog y diwrnodau rhwng derbyn y cais a gwneud yr ad-daliadau, a dangosir pob cyfres yn ôl y mis ceisio’r ad-daliad yn 2022-23 a 2023-24. Cynyddodd yr ad-daliadau hyd at Ragfyr 2022, yna bu tuedd ar i lawr hyd at a thrwy 2023-24, felly hefyd nifer y trafodiadau. Ar gyfartaledd, cododd yr amser cwblhau ad-daliadau ychydig dros y 2 flynedd ond arhosodd o dan 10 diwrnod ar y cyfan.

Nid yw'r siart hwn yn cael ei ddangos yn benodol yn yr adroddiad blynyddol cysylltiedig.

Siart 6b: Canran yr ad-daliadau Treth Trafodiadau Tir cyfradd uwch a dalwyd ar ôl 30 diwrnod a 60 diwrnod, yn ôl y mis y gwnaed y cais

Image
Mae Siart 6b yn dangos 2 linell sy'n rhoi’r gyfres fisol o ganran yr ad-daliadau cyfradd uwch a dalwyd yn hwyrach na 30 diwrnod ac yn hwyrach na 60 diwrnod o ddyddiad y cais am ad-daliad, yn ystod 2022-23 a 2023-24. Er bod rhywfaint o amrywiad, mae'r llinellau’n parhau ar y targed neu'n is na'r targed drwy gydol y rhan fwyaf o’r ddwy flynedd.

Nid yw'r siart hwn yn cael ei ddangos yn benodol yn yr adroddiad blynyddol cysylltiedig.

Yn gyffredinol, pan fydd trethdalwyr yn prynu prif breswylfa newydd heb iddynt werthu eu prif breswylfa flaenorol ar yr un pryd, mae’n ofynnol iddynt dalu’r gyfradd uwch o TTT preswyl. Mae'r rhai sy'n gwerthu eu prif breswylfa flaenorol o fewn tair blynedd fel arfer yn gymwys i gael ad-daliad o'r gwahaniaeth rhwng y cyfraddau uwch a'r prif gyfraddau TTT ar y trafodiad gwreiddiol.

Nod ACC yw talu’r ad-daliadau hyn, a elwir yn ad-daliadau cyfradd uwch, mor brydlon â phosibl, ac o fewn 30 diwrnod i dderbyn y cais.

Mae’r ddau siart uchod yn dangos sut mae’r amser a gymerir i wneud ad-daliadau cyfraddau uwch wedi newid dros amser (siart 6a), a chyfran yr holl ad-daliadau a wneir o fewn 30 a 60 diwrnod (siart 6b).

Mae’r siart cyntaf yn dangos bod yr amser cyfartalog a gymerwyd i brosesu ad-daliadau cyfraddau uwch wedi cynyddu ychydig dros 2022-23 a 2023-24, gydag ambell i gynnydd sydyn mwy arwyddocaol yn cyd-daro â heriau tymor byr o ran lefelau staffio a systemau. Serch hynny, mae'r amser cyfartalog i brosesu ad-daliadau cyfradd uwch yn gyffredinol wedi aros ar 10 diwrnod neu lai dros y cyfnod o ddwy flynedd.

Mae’r ail siart yn dangos cyfran yr ad-daliadau cyfradd uwch yr ymdrinnir â hwy o fewn 30 diwrnod a 60 diwrnod, ac mae’n defnyddio’r dechneg wrthdro fel yr eglurwyd yn y cyflwyniad. Fel y gellid disgwyl, gan fod yr amser cyfartalog a gymerir i brosesu ad-daliadau yn fyr, bach iawn yw’r amrywiad yn y mesur hwn dros y 2 flynedd ddiwethaf, gyda dim ond ambell enghraifft brin lle gwelwyd brig pan fethwyd â chyrraedd y targed. Yn gyffredinol, mae’r niferoedd bach o achosion yn dylanwadu ar y brigiau hyn lle mae’r oedi’n aml oherwydd bod gwybodaeth ychwanegol yn cael ei cheisio ac, yn y pen draw, ymateb araf gan y trethdalwr. Roedd y brig a welwyd ym mis Rhagfyr 2023 a mis Ionawr 2024 yn cyd-daro â phroblem yn ein system gyllid. Unwaith y cafodd hyn ei ddatrys, cyrhaeddwyd y targed eto.

Siart 7a: Nifer y diwrnodau cyfartalog a gymerwyd i wneud ad-daliadau Treth Trafodiadau Tir cyffredinol, yn ôl y mis y gwnaed y cais

Image
Mae Siart 7a yn dangos llinell sy’n rhoi’r gyfres fisol o’r nifer cyfartalog o ddiwrnodau a gymerwyd i wneud ad-daliadau cyffredinol Treth Trafodiadau Tir, yn ôl y mis y gwnaed y cais yn ystod 2022-23 a 2023-24. Mae’r llinell wedi amrywio tipyn drwy gydol 2022-23 a 2023-24 ond mae’r duedd sylfaenol yn weddol sefydlog gydag arwyddion bychain o gynnydd yn ystod 2023-24.

Nid yw'r siart hwn yn cael ei ddangos yn benodol yn yr adroddiad blynyddol cysylltiedig.

Siart 7b: Canran yr ad-daliadau Treth Trafodiadau Tir cyfffredinol a dalwyd ar ôl 30 diwrnod a 60 diwrnod, yn ôl y mis y gwnaed y cais

Image
Mae Siart 7b yn dangos 2 linell sy'n rhoi’r gyfres fisol o ganran yr ad-daliadau cyffredinol a dalwyd ar ôl 30 diwrnod ac ar ôl 60 diwrnod o ddyddiad y cais am ad-daliad, yn ystod 2022-23 a 2023-24. Mae'r ddwy linell yn dangos rhywfaint o amrywiad gyda'r tueddiadau sylfaenol yn weddol sefydlog.

Nid yw'r siart hwn yn cael ei ddangos yn benodol yn yr adroddiad blynyddol cysylltiedig.

Roedd Cynllun Corfforaethol ACC ar gyfer 2022-2025 yn cynnwys ymrwymiad i ehangu ein hadrodd ar ad-daliadau er mwyn cynnwys ad-daliadau cyffredinol, ynghyd ag ad-daliadau cyfradd uwch. Gallai’r ad-daliadau hyn ymwneud â thaliadau dyblyg, hawliadau dilynol am ryddhad, neu ordaliad yn dilyn newidiadau mewn bandiau treth. Er mai ad-daliadau cyfradd uwch yw’r rhan fwyaf o’r ad-daliadau a wneir gennym, mae’r ad-daliadau mwy cyffredinol hyn i gyfrif am yr 20% sy’n weddill.

Mae adroddiad blynyddol y llynedd (2022-23) yn egluro pam nad ydym yn gosod targed ar gyfer yr ad-daliadau cyffredinol hyn. Mae hyn yn bennaf oherwydd heriau o ran paru ceisiadau am ad-daliadau â’r ad-daliadau eu hunain. Fodd bynnag, rydym yn monitro’r data ac yn ei gyflwyno yma er tryloywder.

Mae’r cyntaf o’r ddau siart uchod yn dangos sut mae’r amser a gymerwyd i wneud yr ad-daliadau cyffredinol hyn wedi amrywio ond bod y duedd sylfaenol wedi aros yn sefydlog yn ystod 2022-23 a 2023-24. Mae’r ail siart yn dangos cyfran yr holl ad-daliadau sy’n cael eu gwneud o fewn 30 diwrnod ac o fewn 60 diwrnod, ac mae’n defnyddio’r dechneg wrthdro fel yr eglurwyd yn y cyflwyniad. Mae hefyd yn tynnu sylw at duedd sylfaenol gymharol sefydlog yn y ddau fesur, er gwaethaf rhywfaint o amrywiad misol nodedig.

Siart 8: Canran y trafodiadau na thalwyd yn gywir y tro cyntaf, yn ôl y mis y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae Siart 8 yn dangos llinell sy’n rhoi’r gyfres fisol o ganran y trafodiadau na thalwyd yn gywir y tro cyntaf yn ystod 2022-23 a 2023-24. Mae’r llinell yn dangos tuedd sydd ychydig ar i lawr yn ystod 2022-23 a 2023-24, ond llai o amrywiad misol yn ystod 2023-24.

Dangosir y siart hwn fel siart 1 yn yr adroddiad blynyddol cysylltiedig.

Mae ACC yn ceisio casglu gwybodaeth am ba mor hawdd yw defnyddio ein gwasanaethau, ein mesur ar gyfer hynny yw canran y trafodiadau a delir yn gywir y tro cyntaf. Rydym yn dehongli hyn fel trafodiadau a delir yn llawn mewn un taliad, ac nid ydym yn cynnwys trafodiadau lle mae’r dreth sy’n ddyledus wedi’i diwygio. Mae hynny oherwydd bod unrhyw ddiwygiadau yn effeithio ar nifer a lefel y taliadau am resymau na fyddai’n ymwneud â rhwyddineb defnyddio ein gwasanaethau.

Mae Siart 8, sy’n defnyddio’r dechneg wrthdro fel yr eglurwyd yn y cyflwyniad, yn dangos sut mae’r perfformiad ar gyfer y mesur hwn wedi parhau ar duedd sydd ychydig ar i lawr yn ystod 2022-23 a 2023-24, ond â llai o amrywiad misol yn 2023-24.

Tabl 1: Achosion risg treth yn ôl proffil ers i'r dull newydd ddechrau ym mis Hydref 2023

Chwarter derbyniwyd y trafodiadRisg TTT 4 – triniaeth dreth gwahanol fathau o eiddoRisg TTT 5 – mewn perthynas â rhyddhad penodol (rhyddhad a)Risg TTT 6: landlordiaid o bosibl yn osgoi cyfraddau uwchRisgiau eraillPob risg a nodwyd
2023-24 Ctr 3170651530285
2023-24 Ctr 480352030165

Dangosir y tabl hwn yn yr adroddiad blynyddol cysylltiedig, a chyfeirir at y data yn yr adran Risg TTT.

Mae ACC yn gwneud dadansoddiad manwl o'r data a gynhwysir ym mhob trafodiad a dderbynnir er mwyn gwirio a yw’n cynnwys amrywiol nodweddion a allai awgrymu bod gwallau cyffredin neu risgiau yn y wybodaeth a ddarperir. Yna caiff pob un o'r 'risgiau treth' hynny eu dadansoddi ar wahân er mwyn nodi nifer y trafodiadau a’r risgiau treth, fel y gellir olrhain hyn dros amser. Mae'r bennod ar berfformiad yn yr adroddiad blynyddol yn egluro mwy am ddull ACC o reoli risgiau treth. Mae Tabl 1 yn rhoi crynodeb o nifer y trafodiadau yn ein proffiliau risg ers i ni newid ein dull o gysylltu â phob achos lle mae risg treth yn bresennol, hanner ffordd drwy 2023-24.

Mae’r tabl yn darparu sylfaen ar gyfer gwaith ACC ym maes rheoli risg treth yn y dyfodol ac mae’n canolbwyntio ar y meysydd y mae’n eu nodi ar hyn o bryd fel y rhai mwyaf arwyddocaol. Bydd nifer y risgiau eraill yn cynyddu wrth i'r gwaith presennol barhau i nodi risgiau newydd, a gall y risgiau newydd hynny ymddangos wedyn fel categorïau ar wahân mewn fersiynau o'r tabl hwn yn y dyfodol.

Mae Siartiau 10-16 isod yn dangos y data a ddefnyddiwyd gennym i fesur risg treth mewn adroddiadau blynyddol blaenorol. Maent yn cael eu hailadrodd yma er tryloywder gan fod y dull blaenorol hwnnw wedi parhau yn ystod hanner cyntaf 2023-24. Mae Siart 10 yn dangos y 6 prif risg treth gyda’i gilydd, gyda dadansoddiad o’r setiau data unigol ar gyfer pob un o’r risgiau treth hynny yn siartiau 11-16 isod. Mae data ar gael hyd at hanner ffordd drwy 2023-24, ar gyfer y risg dreth hon ac ar gyfer nifer y trafodiadau (a ddangosir gan y llinell, echelin chwith) a threth mewn perygl (a ddangosir gan y bariau, echelin dde). Ni fydd y data hwn yn cael ei gynnwys mewn fersiynau o'r adroddiad hwn yn y dyfodol.

Siart 10: Nifer y trafodiadau a chyfanswm y dreth yn risgiau TTT 1 i 6

Image
Mae Siart 10 yn defnyddio llinellau ar yr echelin chwith i ddangos cyfanswm y trafodiadau mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i ddangos cyfanswm gwerth y dreth mewn perygl ar draws risgiau treth a nodir fel risgiau 1 i 6, fesul chwarter o fis Ebrill 2019 i fis Mawrth 2024. Mae’r siart hwn hefyd yn gwahanu llinellau a bariau yn ôl trafodiadau sydd â “risg debygol” a “risg aneglur”, gyda mwyafrif y gwerthoedd yn y categori “risg debygol”.

Siart 11a: Risg TTT 1a - gweithgarwch gweddilliol yn ymwneud â chwmnïau sy'n prynu eiddo preswyl

Image
Mae Siart 11 yn defnyddio llinellau ar yr echelin chwith i ddangos cyfanswm y trafodiadau mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i ddangos cyfanswm gwerth y dreth mewn perygl ar draws y risg treth a nodir fel risg 1, fesul chwarter o fis Ebrill 2019 i fis Mawrth 2024. Mae’r siart hwn hefyd yn gwahanu llinellau a bariau yn ôl trafodiadau sydd â “risg debygol” a “risg aneglur”, gyda mwyafrif y gwerthoedd yn y categori “risg debygol”.

Siart 11a: Risg TTT 1a - gweithgarwch gweddilliol yn ymwneud â chwmnïau sy'n prynu eiddo preswyl

Image
Mae Siart 11a yn defnyddio llinellau ar yr echelin chwith i ddangos cyfanswm y trafodiadau mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i ddangos cyfanswm gwerth y dreth mewn perygl ar draws y risg treth a nodir fel risg 1a, fesul chwarter o fis Ebrill 2019 i fis Mawrth 2024. Mae’r siart hwn hefyd yn gwahanu llinellau a bariau yn ôl trafodiadau sydd â “risg debygol” a “risg aneglur”, gyda mwyafrif y gwerthoedd yn y categori “risg debygol”.

Siart 12: Risg TTT 2 - ffurflen dreth sydd heb ei dychwelyd

Image
Mae Siart 12 yn defnyddio llinellau ar yr echelin chwith i ddangos cyfanswm y trafodiadau mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i ddangos cyfanswm gwerth y dreth mewn perygl ar draws y risg treth a nodir fel risg 2, fesul chwarter o fis Ebrill 2019 i fis Mawrth 2024. Mae’r siart hwn hefyd yn gwahanu llinellau a bariau yn ôl trafodiadau sydd â “risg debygol” a “risg aneglur”, gyda mwyafrif y gwerthoedd yn y categori “risg debygol”.

Siart 13: Risg TTT 3 - anghytuno â’r gyfrifiannell TTT

Image
Mae Siart 13 yn defnyddio llinellau ar yr echelin chwith i ddangos cyfanswm y trafodiadau mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i ddangos cyfanswm gwerth y dreth mewn perygl ar draws y risg treth a nodir fel risg 3, fesul chwarter o fis Ebrill 2019 i fis Mawrth 2024. Mae’r siart hwn hefyd yn gwahanu llinellau a bariau yn ôl trafodiadau sydd â “risg debygol” a “risg aneglur”, gyda mwyafrif y gwerthoedd yn y categori “risg debygol”.

Siart 14: Risg TTT 4 - triniaeth dreth gwahanol fathau o eiddo

Image
Mae Siart 14 yn defnyddio llinellau ar yr echelin chwith i ddangos cyfanswm y trafodiadau mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i ddangos cyfanswm gwerth y dreth mewn perygl ar draws y risg treth a nodir fel risg 4, fesul chwarter o fis Ebrill 2019 i fis Mawrth 2024. Mae’r siart hwn hefyd yn gwahanu llinellau a bariau yn ôl trafodiadau sydd â “risg debygol” a “risg aneglur”, gyda’r gwerthoedd mwyaf yn y categori “risg debygol”.

Siart 15: Risg TTT 5 - mewn perthynas â rhyddhad penodol (rhyddhad a)

Image
Mae Siart 15 yn defnyddio llinellau ar yr echelin chwith i ddangos cyfanswm y trafodiadau mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i ddangos cyfanswm gwerth y dreth mewn perygl ar draws y risg treth a nodir fel risg 5, fesul chwarter o fis Ebrill 2019 i fis Mawrth 2024. Mae’r siart hwn hefyd yn gwahanu llinellau a bariau yn ôl trafodiadau sydd â “risg debygol” a “risg aneglur”, gyda’r gwerthoedd mwyaf yn y categori “risg debygol”.

Siart 16: Risg TTT 6: landlordiaid o bosibl yn osgoi cyfraddau uwch

Image
Mae Siart 16 yn defnyddio llinellau ar yr echelin chwith i ddangos cyfanswm y trafodiadau mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i ddangos cyfanswm gwerth y dreth mewn perygl ar draws y risg treth a nodir fel risg 6, fesul chwarter o fis Ebrill 2019 i fis Mawrth 2024. Mae’r siart hwn hefyd yn gwahanu llinellau a bariau yn ôl trafodiadau sydd â “risg debygol” a “risg aneglur”, gyda’r gwerthoedd mwyaf yn y categori “risg debygol”.

Siart 17: Nifer a gwerth yr achosion lle diogelwyd TTT 

Image
Defnyddia Siart 17 2 linell ar yr echelin chwith i ddangos cyfanswm yr achosion o TTT sy’n cael eu diogelu, drwy ymholiad llawn neu ymyrraeth ataliol, a bariau ar yr echelin dde i ddangos cyfanswm gwerth y dreth a ddiogelir ym mhob un o’r rhain yn ôl chwarter o Ebrill 2019 i Mawrth 2024. Cynyddodd nifer yr achosion yn sylweddol yn ystod 2022-23 a 2023-24, gydag achosion atal yn dod yn nodwedd amlycach yn ystod 2023-24, ar ôl dechrau ar ddiwedd 2022-23. Mae lefel y dreth a ddiogelir yn dilyn tueddiadau tebyg

Dangosir y siart hwn fel siart 1 yn yr adroddiad blynyddol cysylltiedig, a chyfeirir at y data yn yr adran Risg TTT.

Yn ystod 2022-23 a 2023-24, gwnaeth ACC fwy o ymdrech i ddiogelu treth. Mae hyn pan fydd trethdalwyr wedi cyflwyno diwygiad sy’n cynnwys gostyngiad i’r TTT sy’n ddyledus ar ffurflen dreth, ond ein bod ni’n credu eu bod yn anghywir i wneud hynny. Mewn achosion o’r fath, mae’n bosibl y byddwn yn agor ymholiad ac rydym fel arfer yn llwyddo i ddiogelu treth a fyddai fel arall wedi’i had-dalu’n amhriodol.

Mae gwerth treth yr achosion hyn yn aml yn amrywiol iawn ac yn cael ei effeithio gan drafodiadau unigol mawr. Fodd bynnag, mae siart 17 yn dangos cynnydd sylweddol mewn gweithgarwch yn y maes hwn yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn ystod 2023-24, gwnaed ymdrech ychwanegol i ddiogelu treth heb fod angen ymchwiliad. Dangosir hyn yn y siart fel achosion atal, ynghyd ag achosion llawn oedd dal angen ymchwilio iddynt.

Roedd lefel y gweithgarwch atal yn uchel iawn yng nghanol 2023-24, er y gwnaed mwy o ymdrech i gau ymchwiliadau llawn yn ystod rhan olaf y flwyddyn.

Siart 18: Nifer a gwerth yr achosion lle cafodd TTT ei hadennill neu ei dychwelyd

Image
Siart 18: mae 2 linell ar y chwith i ddangos cyfanswm y niferoedd lle cafodd TTT ei hadennill / dychwelyd, a bariau ar y dde i ddangos cyfanswm y dreth wedi’i hadennill / dychwelyd, fesul chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2024. Bu amrywio yn yr achosion adennill treth, a’r gwerthoedd cysylltiedig ond bu llai o hyn trwy’r chwarteri diweddarach â thua 40 achos adennill treth gwerth 250-400k ym mhob un ar gyfartaledd. Roedd y mesurau treth a ddychwelwyd yn is, â brig yn 2022-23 cyn dychwelyd i lefelau is 2023-24

Dangosir y siart hwn fel siart 2 yn yr adroddiad blynyddol cysylltiedig, a chyfeirir at y data yn yr adran Risg TTT.

Ar gyfer achosion sy’n dod o dan y risgiau treth a nodir gennym, bydd ACC yn aml yn agor ymchwiliad i’r Ffurflen Dreth TTT, a all arwain at ddiwygiad, a hwnnw’n gynnydd fel arfer. Yn yr achosion hyn, rydym yn cyfeirio at y term adennill treth er mwyn tynnu sylw at werth y diwygiadau am i fyny hynny. Rydym hefyd yn defnyddio’r term treth a ddychwelwyd pan fydd naill ai ymholiad neu ymchwiliad llai ffurfiol yn awgrymu bod gormod o dreth wedi’i thalu, sydd wedyn yn cael ei had-dalu.

Mae adennill treth wedi bod yn amrywiol hyd yma ac mae hynny’n amlygu gwahanol natur yr achosion rydym wedi gweithio arnynt ers 2019. Yn ystod y flwyddyn gyntaf honno, roeddem yn canolbwyntio’n bennaf ar achosion mwy amlwg o ran risg treth, rhai a oedd yn gymharol hawdd i’w datrys. Ers hynny, rydym wedi cau’r risgiau hynny drwy ddiwygio ein system ac wedi canolbwyntio ar wahanol risgiau ac wedi gweld sefydlogi cyffredinol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac adenillwyd dros £1m yn ystod 2022-23 a 2023-24.

Cafwyd rhywfaint o gynnydd yn nifer yr achosion lle adenillwyd treth drwy gydol 2023-24, yn enwedig tuag at ddiwedd y flwyddyn. Nid yw'n syndod bod yr achosion lle dychwelwyd treth yn llawer is na'r achosion lle adenillwyd treth, ac roedd llai o achosion yn 2023-24 nag yn 2022-23. Mae hyn yn dilyn diwedd prosiect penodol i ddychwelyd treth a ordalwyd mewn cysylltiad â newid mewn cyfraddau treth yn ystod y flwyddyn flaenorol.