Cyhoeddir y data bob chwarter ac mae’n cynnwys disgrifiad o’r gwariant, enw'r cyflenwr, dyddiad y trafodiad, cyfeirnod y trafodiad a’r swm mewn GBP (£).
Rhwng mis Ebrill 2016 a mis Mawrth 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddata cardiau caffael Cymru yn flynyddol ar sail blwyddyn ariannol.
O fis Ebrill 2025 ymlaen, byddwn yn cyhoeddi trafodiadau uwchlaw £500 yn fisol (mewn ôl-daliadau).
Gellir dod â thrafodiadau yn ôl o'u cyhoeddi ar sail eithriadau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a phan fo trafodiadau wedi'u had-dalu neu y bwriedir eu had-dalu i Lywodraeth Cymru. Mae'r rhesymau dros ad-daliadau yn cynnwys: dychwelyd nwyddau, canslo gwasanaethau a gwneud taliadau drwy gamgymeriad. Gall ad-daliad gael ei brosesu mewn mis gwahanol i'r trafodiad y mae'n ymwneud ag ef. Gellir gwneud ad-daliadau yn uniongyrchol i gyfrif banc Llywodraeth Cymru. Ni fydd ad-daliadau o'r fath yn ymddangos yn y data cardiau caffael.