Hoffem gael eich barn ar newidiadau arfaethedig i ddata am y system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yng Nghymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio eich barn ar y cynigion gan Lywodraeth Cymru i newid y data a gasglwn am y system ADY mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol a lleoliadau nad ydynt yn ysgolion.
Gwnawn y newid hwn oherwydd mai’r system ADY, o fis Medi 2025, yw’r unig system ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru.
Bydd hyn yn helpu Llywodraeth Cymru a chyrff cyfrifol i roi gwell cefnogaeth i ddysgwyr ag ADY, gan fonitro a gwella'r system.
Mae'r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar newidiadau arfaethedig i'r data ADY a gofnodir gan awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau nad ydynt yn ysgolion, ac a gesglir gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:
- plant a phobl ifanc unigol ag ADY sy'n mynychu lleoliadau addysg a gynhelir yng Nghymru neu sy'n cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol (AHY)
- darpariaeth ADY a'r gwaith o gyflwyno'r system ADY o fewn lleoliadau addysg a gynhelir
- data ar lefel unigol ar y gweithlu addysg mewn lleoliadau a gynhelir
Fersiwn Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Dogfennau ymgynghori
Hawdd ei ddeall: newid y wybodaeth rydyn ni’n ei chasglu am blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB
Cymraeg Clir: gwybodaeth i rieni a gofalwyr am yr ymgynghoriad data ADY , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Crynodeb o'r asesiad effaith integredig: Adranau 1 a 8 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 206 KB
Asesiad effaith integredig llywodraeth Cymru: asesiad o'r effaith ar hawliau plant , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 316 KB
Asesiad effaith integredig llywodraeth Cymru: asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 327 KB
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 3 Rhagfyr 2025, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:
Ffurflen ar-lein
E-bost
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Cwblhewch a dychwelyd i: YmgynghoriadCasgliadauDataYsgolion@llyw.cymru
Post
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Cwblhewch a dychwelyd i:
Tîm Polisi ADY
Yr Is-adran Cymorth i Ddysgwyr
Y Gyfarwyddiaeth Addysg
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CP10 3NQ
