Daeth yr ymgynghoriad i ben 28 Ebrill 2023.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn gofyn eich barn am newidiadau i'r rheoliadau adeiladu er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gysylltiadau galluog gigabit ym mhob cartref newydd ledled Cymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Bydd y cynigion yn diwygio canllawiau rheoliadau adeiladu: rhan R (seilwaith ffisegol ar gyfer rhwydweithiau cyfathrebu electronig cyflym). Bydd hyn yn golygu bod yn rhaid i ddatblygwyr sicrhau:
- bod seilwaith ffisegol gigabit parod ar gyfer cysylltiadau sy'n gallu delio â gigabit yn cael eu gosod ym mhob cartref newydd
- bod cysylltiad galluog gigabit mewn cartrefi newydd yn amodol ar Uchafswm Cost o £2,000 fesul annedd
- neu pan nad yw cysylltiad sydd yn gallu ymdopi a gigabit yn cael ei osod, gosodir y cysylltiad band eang cyflymaf nesaf heb fod yn fwy na'r uchafswm cost o £2,000
Dogfennau ymgynghori

Cynigion am gysylltiadau galluog gigabit i gartrefi newydd: asesiad effaith , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 911 KB

Dogfen gymeradwy R cyfrol 1: seilwaith ffisegol a chysylltiad rhwydwaith ar gyfer anheddau newydd , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
