Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Diffiniad DNS:

  • Mae DNS yn fath o ddatblygiad cynllunio ar gyfer prosiect seilwaith o bwysigrwydd cenedlaethol – er enghraifft, fferm wynt, gorsaf bŵer neu gronfa ddŵr.
  • Yn hytrach na’ch Awdurdod Cynllunio Lleol yn gwneud y penderfyniad, bydd Arolygydd o PCAC yn archwilio’r cais ac yn gwneud argymhelliad i Weinidog Cymru ar sail rhinweddau cynllunio a blaenoriaethau cenedlaethol.
  • Bydd y Gweinidog yn penderfynu p’un a ddylid rhoi caniatâd neu beidio.
  • Mae rhestr lawn o’r mathau o ddatblygiadau DNS wedi’i diffinio mewn deddfwriaeth (gweler yr Atodiad).

Mae’r canllaw hwn yn amlinellu:

  • Sut gall cymunedau ddisgwyl gael eu cynnwys mewn datblygu cynnig DNS
  • Y ffordd orau i leisio eich barn ar brosiect DNS
  • Sut i wneud ‘sylwadau’ da i’r Arolygydd Cynllunio
  • Diben ‘archwiliad’ DNS

Gosod yr olygfa

Polisi Cynllunio Cenedlaethol a Lleol

Rhaid i benderfyniadau ar geisiadau DNS gael eu seilio ar y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a pholisi cynllunio Llywodraeth Cymru.

  • Mae CDLlau yn cael eu paratoi gan Awdurdodau Cynllunio Lleol. Maent yn amlinellu ble y dylai datblygiad gael ei leoli ac yn cynnwys polisïau y dylai ceisiadau DNS gydymffurfio â nhw.
  • Mae Cymru’r Dyfodol, Polisi Cynllunio Cymru a Nodiadau Cyngor Technegol cysylltiedig yn pennu ystod o bolisïau cynllunio Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, mae polisïau 17 ac 18 Cymru’r Dyfodol yn darparu meini prawf ar gyfer datblygiadau ynni adnewyddadwy ac ynni carbon isel o arwyddocâd cenedlaethol.

Ceisiadau DNS ar y gweill

Mae manylion am geisiadau DNS a’u statws cyfredol ar gael ar y porth gwaith achos cynllunio.

DNS a mathau eraill o ganiatâd

Gall cais DNS gynnwys mathau penodol o gydsyniad eilaidd, ynghyd â’r cais cynllunio; er enghraifft caniatâd i ddadgofrestru Tir Comin, dargyfeirio Hawl Tramwy Cyhoeddus neu addasu Adeilad Rhestredig. Eir i’r afael â’r rhain ar yr un pryd â’r cais DNS a chânt eu penderfynu gan y Gweinidog.
Os bydd cais DNS yn cael ei gymeradwyo, mae’n bosibl y bydd angen caniatâd cysylltiedig cyn y gellir dechrau datblygu – er enghraifft Trwydded Amgylcheddol neu ganiatâd Draeniad Cynaliadwy. Rhaid i’r datblygwr wneud cais am y rhain ar wahân i’r cais DNS.

Camau prosiect DNS

Mae gwahanol gamau prosiect DNS wedi’u crynhoi isod. Mae Canllaw Gweithdrefnol DNS PCAC yn rhoi mwy o fanylion am bob cam.

Cam 1: Cyn gwneud cais

  • Bydd y datblygwr yn llunio syniadau ar gyfer y cynnig, yn cysylltu ag unigolion a grwpiau, yn trefnu digwyddiadau ac yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r cynigion drafft er mwyn nodi materion a chyfnewid barnau rhwng partïon â buddiant.
    • Mae’r cam hwn yn wirfoddol. Y datblygwr fydd yn penderfynu sut i ymgymryd â’r ‘ymgysylltiad’ cynnar hwn â chymunedau lleol.
  • Bydd y datblygwr yn rhoi gwybod i PCAC ei fod yn bwriadu cyflwyno cais cynllunio.
  • Ar ôl hysbysu, rhaid i’r datblygwr roi cyhoeddusrwydd i gynnig manwl y DNS ac ymgynghori â pherchenogion a phreswylwyr cyfagos, y Cyngor Cymuned a chyrff eraill am gyfnod o chwe wythnos.
  • Rhaid i’r Awdurdod Cynllunio Lleol arddangos hysbysiadau ger y safle. Bydd y datblygwr yn paratoi Adroddiad Ymgynghori sy’n crynhoi sut yr ymgynghorodd â’r gymuned a sut mae’r ymatebion wedi dylanwadu ar y cais cynllunio.

Cam 2: Cais

  • Bydd y datblygwr yn cyflwyno cais i PCAC ynghyd ag Adroddiad Ymgynghori
  • Caiff y cais ei ddilysu gan PCAC
  • Bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleoliad yn arddangos hysbysiadau ar y safle
  • Bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn paratoi Datganiad ar yr Effaith Leol

Os caiff yr holl ddogfennau angenrheidiol eu cyflwyno, bydd PCAC yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r cais ac yn ysgrifennu at ymgyngoreion. Bydd gan bobl 5 wythnos i gyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau (a elwir yn ‘sylwadau’).

Cam 3: Archwiliad

  • Bydd PCAC yn penodi Arolygydd i ‘archwilio’r’ cais, gan gynnwys yr holl sylwadau. Rhaid ystyried pob un o’r sylwadau.
  • Bydd yr Arolygydd yn penderfynu p’un a oes angen gwrandawiad, ymchwiliad neu sylwadau ysgrifenedig ychwanegol. Os felly, mae’n bosibl y bydd yr Arolygydd yn gwahodd partïon â buddiant i gymryd rhan.

Cam 4: Penderfyniad

  • Ar ddiwedd yr archwiliad, bydd yr Arolygydd yn llunio adroddiad i Weinidogion Cymru yn argymell p’un a ddylid rhoi caniatâd cynllunio neu ei wrthod.
  • Yna, bydd gan y Gweinidog 12 wythnos i wneud y penderfyniad terfynol.

Cam 1: cyn gwneud cais

Mae Canllaw Gweithdrefnol DNS PCAC yn annog datblygwyr i gynnwys cymunedau ar gam cynharaf unrhyw brosiect DNS. Mae hyn oherwydd:

  • Mae cynnwys pobl sydd â gwybodaeth leol yn arwain at brosiectau o ansawdd gwell, ac
  • Mae cyfleoedd cyfyngedig ar gael i newid datblygiad yn hwyrach yn y broses

Y datblygwr fydd yn penderfynu sut i ymgysylltu â’r cyhoedd. Er nad yw’n orfodol, mae PCAC yn annog datblygwyr a chymunedau’n weithredol i ymgysylltu â’i gilydd yn gynnar yn y broses ddatblygu.

Clywed am brosiectau DNS

Efallai y byddwch yn cael gwybod am brosiectau DNS trwy:

  • Gael llythyr drwy’r drws
  • Pamffled / poster mewn man cyhoeddus
  • Hysbyseb mewn papur newydd lleol neu ar wefan, neu
  • Drwy eich Cyngor Cymuned

Sut i gofrestru eich barn am brosiect DNS drafft

Trwy siarad â’r datblygwr mewn cyfarfodydd neu ddigwyddiadau, neu drwy’r e-bost / dros y ffôn, i gael mwy o wybodaeth am y prosiect, a

  • Dilyn y drafodaeth hon â neges e-bost neu lythyr yn amlinellu’r ffyrdd rydych chi’n credu y gallai’r prosiect gael ei wella.

Byddwch yn cael cyfle i wneud sylwadau ffurfiol yn ystod cam yr ‘ymgynghoriad cyn gwneud cais’ (gweler isod).

Ymgynghoriad cyn gwneud cais

Rhaid i ddatblygwyr ymgynghori â chymunedau lleol am gyfnod o chwe wythnos, o leiaf, ar y prosiect DNS drafft cyn iddynt gyflwyno cais i PCAC.

Yr ymgynghoriad hwn yw’r cyfle ‘ffurfiol’ cyntaf i chi leisio eich barn.

Rôl Cynghorau Cymuned a Thref

  • Rhoi gwybod i ddatblygwyr a’r Awdurdod Cynllunio Lleol am faterion lleol
  • Helpu datblygwyr i drefnu digwyddiadau
  • Cyflwyno sylwadau yn ystod yr ymgynghoriad cyn gwneud cais.

Fodd bynnag, p’un a oes gan ardal Gyngor Cymuned sefydledig ai peidio, mae PCAC yn disgwyl i’r datblygwr ymgysylltu’n uniongyrchol â’r preswylwyr lleol bob tro.

Ymgynghoriad

Y datblygwr sy’n gyfrifol am ymgynghori, yn hytrach na’r Awdurdod Cynllunio Lleol. 

Bydd y datblygwr yn cysylltu â pherchenogion a phreswylwyr yn agos at y safle, y Cyngor Cymuned a chyrff eraill trwy’r e-bost neu lythyr. Bydd hysbysiadau safle a hysbysebion lleol yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r cais DNS drafft ac yn rhoi gwybod lle gall pobl weld copïau o’r drafft, gan gynnwys yr holl ddogfennau ategol.

Argaeledd dogfennau yn y Gymraeg a’r Saesneg

  • Bydd pob dogfen sy’n cael ei chyhoeddi gan PCAC ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, ond mae’n bosibl y bydd dogfennau technegol sy’n cael eu llunio gan y datblygwyr ar gael yn Saesneg yn unig.
  • Bydd PCAC yn annog datblygwyr i lunio unrhyw ddogfen ‘sydd ar gael i’r cyhoedd’ yn y ddwy iaith (e.e. Crynodebau Annhechnegol o Ddatganiadau Amgylcheddol), ond mater i’r datblygwr fydd hyn.

Sut i wneud eich sylwadau

Er mwyn i’ch sylwadau gael eu hystyried gan y datblygwr, rhaid i chi anfon sylw neu wrthwynebiad ysgrifenedig cyn pen y cyfnod ymgynghori.

Cyn i chi gyflwyno sylw / gwrthwynebiad, dylech edrych ar y dogfennau a ddarperir gan y datblygwr. Efallai yr hoffech gysylltu â’r datblygwr os oes angen help arnoch yn nodi pa ddogfennau y mae angen i chi edrych arnynt.

Peidiwch â chyflwyno sylwadau i PCAC yn ystod y cam cyn gwneud cais. Yn ystod y cam hwn, rhaid i’r holl sylwadau gael eu cyflwyno i’r datblygwr. Ni fydd PCAC yn rhoi sylwadau yn ein ffeil achos yn ystod y cam cyn gwneud cais.

Cam 2: cais

Ar ôl y cyfnod ymgynghori cyhoeddus, bydd y datblygwr yn ystyried yr holl sylwadau a gafwyd. Os yw’n fodlon nad oes modd gwella’r prosiect, bydd yn ei gyflwyno i PCAC i’w archwilio. Fel arall, efallai y bydd yn ei ddiwygio ar sail adborth ac yn ailymgynghori â’r cyhoedd cyn ei ailgyflwyno. 
Bydd Adroddiad Ymgynghori a baratowyd gan y datblygwr yn rhoi manylion am ymgysylltu â’r gymuned a’i effaith ar y cais cynllunio.

Bydd y cais gorffenedig yn cael ei gyflwyno i PCAC. Os cyflwynwyd yr holl ddogfennau gofynnol, bydd PCAC yn ‘derbyn’ y cais. Bydd Arolygydd Cynllunio (weithiau mwy nag un) yn cael ei benodi a bydd yr archwiliad yn dechrau. 

Ymgynghoriad Statudol – cyflwyno ‘sylwadau’

Bydd PCAC yn trefnu i’r Awdurdod Cynllunio Lleol arddangos hysbysiad ar y safle ac yn rhoi gwybod i’r holl bartïon lleol perthnasol, gan eu gwahodd i gyflwyno ‘sylwadau’.

Bydd gan gymunedau lleol heb fod yn llai na 5 wythnos i gyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau (a elwir yn ‘sylwadau’) i PCAC.

Gall sylwadau gael eu cyflwyno i PCAC yn ystod y cyfnod hwn drwy’r e-bost neu drwy’r post. At ddibenion cynaliadwyedd, mae’n well gennym yr e-bost. Mae ein manylion cyswllt ar gael ar ddiwedd y canllaw hwn.

Sut i wneud sylwadau ysgrifenedig

Cyn drafftio sylwadau, dylech ymchwilio i’r prosiect yn drylwyr ac ystyried ei effeithiau. Dylech geisio cymorth gan y datblygwr neu swyddog achos o PCAC, yn ôl yr angen. Pan fyddwch yn barod, anfonwch eich sylwadau at PCAC a gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys: 

  • eich enw llawn, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn (neu enw a chyfeiriad eich asiant, os oes rhywun yn gweithredu ar eich rhan)
  • rhif cyfeirnod PCAC ar gyfer yr achos neu Deitl y Prosiect a chyfeiriad y safle o’r porth gwaith achos cynllunio neu wefan neu lenyddiaeth y datblygwr
  • p’un a yw eich sylwadau’n ymwneud â’ch prosiect yn ei gyfanrwydd neu ‘gydsyniadau eilaidd’ cysylltiedig
  • beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y prosiect DNS, yn eich barn chi
  • p’un a ydych yn gwneud cais ar y cyd â phobl eraill.

Sut bydd PCAC yn ymdrin â’ch sylwadau

Caiff yr holl sylwadau eu cyhoeddi ar y porth gwaith achos cynllunio. Byddwn yn hepgor gwybodaeth benodol cyn cyhoeddi er mwyn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU a deddfwriaeth berthnasol arall. Fel arfer, nid ydym yn dileu enwau a chyfeiriadau o sylwadau. Os nad ydych am i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, sicrhewch eich bod yn gwneud hynny’n glir mewn neges e-bost neu lythyr esboniadol. Peidiwch â chynnwys y wybodaeth honno yn y sylwadau eu hunain. Ni allwn dderbyn sylwadau dienw. Bydd yr Arolygydd penodedig yn gweld fersiynau o sylwadau heb eu golygu. Efallai y bydd angen i’r ymgeisydd weld y fersiynau heb eu golygu, hefyd. Dylech ystyried hyn wrth ysgrifennu eich sylwadau. 

Cyngor ar ysgrifennu sylwadau da

Meddyliwch am yr hyn y mae angen ei gynnwys yn eich sylwadau, gan ei drefnu mewn ffordd resymegol a chadw at y ffeithiau. Mae sylwadau clir sydd wedi’u hysgrifennu’n dda yn fwy effeithiol na sylwadau distrwythur ac emosiynol. Bydd yr Arolygydd yn defnyddio ffeithiau wedi’u hategu gan dystiolaeth wrth wneud ei (h)argymhelliad. 

Os cewch eich gwahodd i siarad mewn gwrandawiad ar ymchwiliad, byddwch ond yn cael siarad am y materion a nodir gan yr Arolygydd. Felly, gwnewch yn siŵr fod eich sylwadau mor gynhwysfawr â phosibl.

Er mwyn ysgrifennu sylwadau clir ac effeithiol:

  • cadwch at y ffeithiau
  • canolbwyntiwch ar faterion sy’n cael eu codi gan y prosiect (e.e. effeithiau cadarnhaol neu negyddol)
  • byddwch yn benodol a rhowch enghreifftiau
  • rhowch wybod i’r Arolygydd am yr hyn rydych am iddo/iddi wybod amdano – peidiwch â gadael iddo/iddi ddyfalu
  • ysgrifennwch mewn iaith bob dydd clir a syml

Beth i’w osgoi yn eich sylwadau

Yn ystod yr archwiliad, gall yr Arolygydd ystyried pethau sy’n berthnasol i gynllunio yn unig. Er enghraifft:

  • Effaith y cynnig ar dirwedd, ffyrdd/traffig lleol, rhywogaeth warchodedig neu ansawdd aer
  • Manteision economaidd y cynnig
  • A yw’r cynnig yn gyson â’r Cynllun Datblygu Lleol.

Ni all Arolygydd ystyried pethau y mae’r Llysoedd eisoes wedi barnu nad ydynt er budd y cyhoedd (e.e. ansawdd golygfa o adeilad preifat, newidiadau i werth eiddo). Canolbwyntiwch eich sylwadau ar faterion neu effeithiau sy’n ymwneud â budd y cyhoedd.

Gwrthwynebiadau sydd dal heb eu datrys

Os nad yw’ch gwrthwynebiad yn ystod yr ymgynghoriad cyn gwneud cais wedi’i ddatrys o hyd, dylech gyflwyno sylwadau newydd pan fydd PCAC yn eich gwahodd i wneud hynny. Darllenwch yr Adroddiad Ymgynghori a baratowyd gan y datblygwr, sy’n amlinellu sylwadau o’r cam cyn gwneud cais ac unrhyw ddiwygiadau a wnaed i’r prosiect i ymateb iddynt. 

Deisebau ac ymatebion ‘pro forma’

Caiff argymhelliad yr Arolygydd i’r Gweinidog ei lywio gan y mathau o faterion sy’n cael eu codi, yn hytrach na nifer y gwrthwynebiadau a geir ynghylch mater penodol. Ni all Arolygydd roi mwy o bwys ar fater dim ond oherwydd bod nifer fawr o bobl wedi gwrthwynebu. Os yw’ch cymuned yn dymuno gwrthwynebu cynnig, gwnewch yn siŵr fod eich gwrthwynebiad wedi’i seilio ar pam rydych o’r farn bod y prosiect yn annerbyniol o ran ei effeithiau / rhinweddau cynllunio.

Cam 3: archwiliad

Ar ddiwedd y cyfnod sylwadau, bydd y datblygwr yn cael cyfle i wneud mân newidiadau i’r prosiect. Yr Arolygydd fydd yn penderfynu a ddylid derbyn unrhyw newidiadau arfaethedig ai peidio. 

Bydd yr Arolygydd yn adolygu’r holl sylwadau a gyflwynwyd, dogfennau’r cais DNS ac Adroddiadau ar yr Effaith leol a gyflwynwyd gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol a’r Cyngor Cymuned. Bydd yr Arolygydd hefyd yn cynnal ymweliad â’r safle. Bydd yn defnyddio’r holl wybodaeth hon i nodi’r prif faterion sy’n cael eu codi gan y prosiect. 

Bydd yr Arolygydd yn penderfynu p’un a oes angen gwrandawiad neu ymchwiliad i archwilio unrhyw brif faterion. Os na, bydd yn symud ymlaen ar sail sylwadau ysgrifenedig, sydd yr un mor bwysig â thystiolaeth lafar. 

Gallai’r archwiliad gynnwys:

  • Sylwadau ysgrifenedig
  • Gwrandawiad
  • Ymchwiliad
  • …neu bob un o’r tri

Mae gwrandawiad yn drafodaeth dan arweiniad yr Arolygydd. Mae ymchwiliad yn fwy ffurfiol; mae partïon yn debygol o fod â chynrychiolwyr cyfreithiol a gallai tystion gael eu croesholi.

Mae gwrandawiadau ac ymchwiliadau yn ddigwyddiadau cyhoeddus, ond dim ond y rhai sy’n cael eu gwahodd gan yr Arolygydd sy’n cael cymryd rhan mewn trafodaethau. Bydd yr Arolygydd yn gwahodd unigolion i roi tystiolaeth lafar neu gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ychwanegol dim ond os yw o’r farn bod hynny’n angenrheidiol i gadarnhau ‘prif fater’. 

Cadw golwg ar yr arholiad

Bydd holl ddogfennau’r cais, Adroddiadau ar yr Effaith Leol, sylwadau ysgrifenedig ac unrhyw ddogfennau yn ymwneud â gwrandawiad neu ymchwiliad ar gael i’w gweld ar wefan porth gwaith achos PCAC.

Cam 4: penderfyniad

Argymhelliad a Phenderfyniad

Ar ôl yr archwiliad, bydd yr Arolygydd yn llunio adroddiad i Weinidogion Cymru, yn argymell p’un a ddylid rhoi neu wrthod caniatâd cynllunio. Ni fydd yr adroddiad a’r argymhelliad ar gael i unrhyw un sy’n cymryd rhan yn broses DNS eu gweld tra maent yn cael eu hystyried gan Weinidogion Cymru.

Yna, bydd gan Weinidogion Cymru 12 wythnos i wneud penderfyniad a’i gyhoeddi. Yn ystod y cyfnod hwn, byddant yn ystyried adroddiad yr Arolygydd, yn adolygu argymhelliad yr Arolygydd ac yn gwirio’r holl wybodaeth sy’n gysylltiedig â’r cais.

Sylwer: Ar gyfer ceisiadau sy’n cynnwys llinell uwchben yn unig, bydd yr Arolygydd yn gwneud y penderfyniad ar ran y Gweinidog. Yn yr achosion hynny, bydd yr Arolygydd yn cyhoeddi penderfyniad yn hytrach na chyflwyno adroddiad argymhelliad.

Sut i ddarganfod os gymeradwywyd y cais

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r penderfyniad ar y Porth Gwaith Achos Cynllunio ac yn rhoi gwybod i’r holl bartïon â buddiant am y penderfyniad. Bydd y penderfyniad yn cynnwys copi o adroddiad yr Arolygydd.

Manylion cyswllt PCAC

Gellir defnyddio’r manylion hyn ar gyfer pob ymholiad yn ymwneud â’r broses DNS neu achos DNS penodol. Gellir defnyddio’r cyfeiriad e-bost a’r cyfeiriad post i gyflwyno sylwadau.

E-bost: PEDW.seilwaith@llyw.cymru

Rhif ffôn: 0300 123 1590

Post:

Tîm Gwaith Achos Seilwaith
Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Atodiad: gwybodaeth ddefnyddiol

Rôl PCAC yn y system DNS

Rôl PCAC yn y broses DNS yw ymdrin â cheisiadau a gwneud argymhellion i Weinidogion ar sail agored, deg a diduedd o fewn y system, fel y’i cynlluniwyd. Mae PCAC ar hyd braich i’r rhai sy’n gyfrifol am wneud y penderfyniad terfynol ac nid yw’n gyfrifol am ddyluniad cyffredinol y system DNS. 

Os oes gennych bryderon am y ffordd y mae’r system DNS wedi’i dylunio ac yn gweithredu, dylech eu cyfeirio at Gyfarwyddiaeth Gynllunio Llywodraeth Cymru, y gellir cysylltu â hi yn planning.directorate@llyw.cymru 

Deddfwriaeth berthnasol

Caiff y broses DNS ei llywodraethu gan y ddeddfwriaeth ganlynol:

  • Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y’i diwygiwyd) – Adran 62D ymlaen
  • Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016 (fel y’i diwygiwyd)
  • Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016 (fel y’i diwygiwyd)
  • Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016 (fel y’i diwygiwyd)
  • Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) 2016 (fel y’i diwygiwyd)

Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIPau)

Mae prosiectau DNS yn debyg i Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIPau), ond Llywodraeth y DU sy’n penderfynu ar NSIPau, tra caiff ceisiadau DNS eu penderfynu gan Weinidogion Cymru. 

Fel arfer, mae ceisiadau NSIPau yn ymwneud â phrosiectau llawer mwy (e.e. dulliau penodol o gynhyrchu ynni uwchben 350 MW) ac er y gallent fod yng Nghymru, yr Arolygiaeth Gynllunio sy’n mynd i’r afael â nhw, sef un o asiantaethau gweithredol Llywodraeth y DU. Yna, Ysgrifennydd Gwladol y DU fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.

Nid yw PCAC yn ymwneud â’r gwaith o ymdrin â cheisiadau NSIP ac nid yw Gweinidogion Cymru yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch p’un a ddylid rhoi caniatâd ai peidio.