Neidio i'r prif gynnwy

Helpu i roi polisi diogelu Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru ar waith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydyn ni wrthi’n dechrau ar y gwaith o fapio Ardaloedd Adnoddau Strategol (AASau) posibl. Erfyn yw’r AAS ar gyfer diogelu ardaloedd lle ceir adnoddau naturiol.  

Bydd AASau yn helpu:

  • i sicrhau bod pob sector yn ystyried buddiannau sectorau eraill
  • sectorau i siarad â’i gilydd
  • i roi ffocws ar gyfer mwy o gynllunio strategol

Bydd pennu AASau yn fodd gobeithio i gael sectorau i siarad â’i gilydd a dod i ddeall sut y gall gweithgareddau mwy nag un sector gydfodoli yn yr un ardal.

Cyhoeddi’r adroddiadau a’r data yw’r cam cyntaf yn y broses ddatblygu. Mae’r adroddiadau ar gael ichi eu gweld:

Mae’n hanfodol bod rhanddeiliaid yn siarad â’i gilydd wrth ddatblygu AASau. Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â Marineplanning@gov.wales