Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar y ffyrdd y mae awdurdodau lleol yn darparu cynigion datblygu arweinyddiaeth a rheoli talent i’w staff.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Nod hyn yw i helpu Academi Cymru i ddeall sut i ddatblygu'r cynnig y maent yn ei ddarparu i awdurdodau lleol.
Mae'r adroddiad yn cwmpasu nifer o wahanol agweddau ar ddatblygu arweinyddiaeth a rheoli talent.
Mae hyn yn cynnwys:
- dulliau o ddatblygu arweinyddiaeth
- gallu a galluogrwydd i ddarparu hyfforddiant
- manteision rhaglenni datblygu
- sut orau i ddefnyddio’r wybodaeth a gafwyd
- a mesur effaith rhaglenni datblygu.
Bydd argymhellion sy'n deillio o'r ymchwil yn llywio sut y mae Academi Cymru yn gweithio â rhwydweithiau hyfforddiant ar draws rhanbarthau Llywodraeth Leol i nodi a diwallu anghenion hyfforddiant mewn gwahanol awdurdodau lleol.
