Neidio i'r prif gynnwy

Ymyrraeth

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynllun gyda chefnogaeth y wladwriaeth i ddarparu indemniad rhag esgeuluster clinigol i ddarparwyr gwasanaethau meddyg teulu yng Nghymru.

Ar 14 Mai 2018, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynllun gyda chefnogaeth y wladwriaeth i ddarparu indemniad rhag esgeuluster clinigol i ddarparwyr gwasanaethau meddyg teulu yng Nghymru.

Mae pryderon ynghylch y cynnydd mewn costau indemniad, a allai o bosib droi meddygon teulu oddi wrth y proffesiwn, gan effeithio ar wasanaethau. Amcangyfrifir bod premiymau indemniad wedi codi 7% y flwyddyn ar gyfartaledd rhwng 2013 a 2017. Ymysg y ffactorau sy'n arwain at godi costau indemniad mae

  • poblogaeth sy'n heneiddio
  • arloesi technolegol mewn meddyginiaeth sy'n cadw pobl yn fyw am gyfnod hwy
  • cynnydd yn nifer y bobl sy'n byw â chyflyrau cymhleth
  • a diwylliant o hawlio iawndal

Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod dirywiad yn ansawdd y gofal wedi arwain at gynnydd mewn costau indemniad.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad i feddygon teulu, fel rhan o'r newidiadau i'r contract ar gyfer gwasanaethau meddygol cyffredinol yn 2017/18, i ddatblygu ateb i'r mater hwn. Bydd cyflwyno cynllun gyda chefnogaeth y wladwriaeth i feddygon teulu Cymru yn darparu mwy o sicrwydd yn y tymor hir ar gyfer parhau i ddarparu gwasanaethau meddygol cyffredinol yng Nghymru.

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn gweithio'n agos gyda Meddygon Teulu, Sefydliadau Amddiffyn Meddygol, yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Byrddau Iechyd, ynghyd â Chronfa Risg Cymru er mwyn datblygu'r ffordd y bydd y cynllun yn gweithredu.

Ein nod yw darparu system indemniad mwy cadarn a fforddiadwy ar gyfer ymarfer meddygol. Rydym yn edrych ar effaith ariannol y newidiadau hyn ar y gwasanaethau meddygol cyffredinol a fydd yn cael eu hailgyfeirio i ariannu'r cynllun newydd gyda chefnogaeth y wladwriaeth. Mae gwaith modelu manwl yn mynd rhagddo ac fe fydd y manylion yn cael eu trosglwyddo yn y man.

Pryd fydd y cynllun gyda chefnogaeth y wladwriaeth yn dod i rym?

Disgwylir i'r cynllun ddod i rym o fis Ebrill 2019 ymlaen, yr un pryd â'r cynllun gyda chefnogaeth y wladwriaeth a gyhoeddwyd i feddygon teulu yn Lloegr.

Beth sy'n dod o dan y cynllun gyda chefnogaeth y wladwriaeth?

Mae'r cynllun gyda chefnogaeth y wladwriaeth yn ymrwymo Cymru i Gynllun Rhwymedigaethau'r Dyfodol. Mae Cymru hefyd wedi ymrwymo i Gynllun Rhwymedigaethau Presennol (hynny yw rhwymedigaethau a ysgwyddwyd cyn mis Ebrill 2019) yn ddarostyngedig i gwblhau prosesau ddiwydrwydd dyladwy cyfreithiol ac ariannol a thrafodaethau boddhaol gyda’r sefydliadau amddiffyn meddygol.

Bydd y cynllun yn cynnwys gweithgarwch yr holl gontractwyr sy'n darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol, yn ogystal ag unrhyw ofal brys integredig arall a ddarperir drwy Atodlen 2 contract safonol y GIG. Bydd hyn yn cynnwys atebolrwyddau esgeuluster clinigol sy'n codi o weithgarwch staff practis meddyg teulu a gweithwyr meddygol proffesiynol eraill fel:

  • meddygon teulu cyflogedig
  • meddygon locwm
  • fferyllwyr y practis
  • nyrsys y practis
  •  cynorthwywyr gofal iechyd

Bydd y cynllun gyda chefnogaeth y wladwriaeth yn darparu indemniad i ddarparwyr gwasanaethau meddyg teulu yng Nghymru rhag hawliadau esgeuluster clinigol yn codi o waith y GIG.

Ni fydd yn cynnwys gwaith preifat, cwynion, cyfranogaeth yn achosion y crwner, gwrandawiadau'r Cyngor Meddygol Cyffredinol na materion eraill yn ymwneud â rheoleiddio proffesiynol. Disgwylir i feddygon teulu gymryd yswiriant indemniad ar gyfer gwaith preifat ac agweddau eraill tu hwnt i'r hyn sy'n cael sylw gan y wladwriaeth.

Bydd darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol mewn carchardai yn dod o dan y cynllun. Ni fydd deintyddion gofal sylfaenol yn cael eu cynnwys dan y cynllun presennol gyda chefnogaeth y wladwriaeth, ond y bwriad yw edrych yn ystod 2018/19 ar faterion yn ymwneud â deintyddion gofal sylfaenol.

Bydd y cynllun gyda chefnogaeth y wladwriaeth yn cyd-fynd, cymaint â phosib, â'r cynllun cyfatebol sydd i'w gyflwyno i feddygon teulu yn Lloegr

Mae Cymru a Lloegr yn bwriadu cyflwyno eu cynlluniau o fis Ebrill 2019 ymlaen. Bydd hyn yn sicrhau nad yw meddygon teulu Cymru dan anfantais o gymharu â meddygon teulu Lloegr. Bydd hynny hefyd yn helpu i sicrhau na fydd unrhyw effaith negyddol ar weithgarwch trawsffiniol neu recriwtio yn sgil gwahanol gynlluniau yn gweithredu yn y ddwy wlad.

Datblygu diogelwch cleifion

Fel rhan o'r gwaith o liniaru risg, byddwn yn edrych ar gamau i sicrhau bod y safonau cywir yn eu lle ar ddiogelwch cleifion, er mwyn cyfyngu ar unrhyw hawliadau a hefyd i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu pan fo achosion yn codi. Mae cryn dipyn o arbenigedd yn y maes hwn ar draws Cymru ac fe fyddwn yn ceisio datblygu trefniadau diogelwch cleifion fel rhan o'r gwaith o gyflwyno'r cynnig indemniad.

Gwahanol fathau o indemniad

Mae Cymru wedi ymrwymo i Gynllun Rhwymedigaethau Presennol (hynny yw rhwymedigaethau a ysgwyddwyd cyn mis Ebrill 2019) yn ddarostyngedig i gwblhau prosesau ddiwydrwydd dyladwy cyfreithiol ac ariannol a thrafodaethau boddhaol gyda’r sefydliadau amddiffyn meddygol.

Os yw'r indemniad sy'n cael ei ddarparu gan sefydliad amddiffyn meddygol hyd at y pwynt y bydd cynllun gyda chefnogaeth y wladwriaeth yn cychwyn yn un seiliedig ar hawliadau (hynny yw bod hawliadau yn cael eu gwneud - gan gynnwys y rhai sydd angen eu cytuno - yn ystod y cyfnod) yn hytrach nag ar sail digwyddiad (hynny yw bod y rhwymedigaeth wedi codi ond dim hawliad wedi'i wneud), rhaid i feddygon teulu sicrhau bod ganddynt indemniad priodol i wneud hawliadau ar ôl cyflwyno'r cynllun gyda chefnogaeth y wladwriaeth mewn perthynas â rhwymedigaethau a gododd cyn cyflwyno’r cynllun gyda chefnogaeth y wladwriaeth.

Os bydd meddygon teulu yn defnyddio system seiliedig ar hawliadau cyn cyflwyno'r cynllun gyda chefnogaeth y wladwriaeth, byddai gofyn i'r meddygon teulu brynu indemniad o’r fath eu hunain pan fyddant yn symud i ddefnyddio cynllun gyda chefnogaeth y wladwriaeth. (Yn amodol ar benderfyniad Llywodraeth Cymru am ffurf derfynol yr indemniad gyda chefnogaeth y wladwriaeth).

Dylai unrhyw feddyg teulu sy'n prynu cynnyrch indemniad fod yn gwbl ymwybodol o'r telerau sy'n cael eu cynnig, gan ystyried sut i roi sicrwydd i'w hunain ar ôl i'r cynllun gyda chefnogaeth y wladwriaeth gychwyn am rwymedigaethau yn codi o'r cyfnod cyn hynny, os nad oedd y cynnyrch hwnnw yn seiliedig ar ddigwyddiadau.