Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw mae’r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, wedi cyhoeddi Cynllun Polisi Trethi Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r cynllun eleni’n canolbwyntio ar ddatblygu ein dull gweithredu ar gyfer trethi yng Nghymru – gan edrych ar y cyfleoedd i ddal i wella’r drefn o weinyddu trethi, cryfhau’r cysylltiadau rhwng y maes trethi a’r maes polisi ymhellach a sicrhau bod trethi’n parhau’n deg drwy gydol y broses hon.

Dyma rai o brif nodweddion cynllun gwaith 2019:

  • Datblygu’r polisi trethi - byddwn yn datblygu ein cynigion i adeiladu sail drethi Cymru, gan barhau i ddadlau’r achos o blaid datganoli’r doll teithwyr awyr i Gymru, bwrw ymlaen â’n gwaith o ystyried trethi tir ac eiddo, a pharhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar drethi ar ddeunyddiau untro a threthi amgylcheddol eraill. Byddwn hefyd yn archwilio ymhellach yr opsiynau ar gyfer ariannu gofal cymdeithasol yn y dyfodol, yn datblygu ein cynlluniau i ddatganoli pwerau dros dreth ar dir gwag i Gymru, ac yn datblygu ein syniadau ynglŷn â threth dwristiaeth.
  • Mae creu dull gweithredu cydgysylltiedig o ran polisi trethi – gan sicrhau bod trethi Cymru’n gweithio’n effeithiol – yn flaenoriaeth allweddol yn 2019. Yn dilyn cyflwyno’r dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi yn llwyddiannus y llynedd, ac wrth i gyfraddau treth incwm Cymru ddod i rym ar 6 Ebrill, byddwn yn parhau i gydweithio’n agos ag Awdurdod Cyllid Cymru a Cyllid a Thollau EM. Fel rhan o’n dull cydgysylltiedig o weithio, byddwn hefyd yn ystyried opsiynau ar gyfer datblygu adnoddau gwybodaeth, gan gynnwys rhannu data a gwneud gwaith dadansoddi er mwyn cryfhau’r sail dystiolaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau am bolisi trethi a gwella’r drefn o weinyddu trethi yng Nghymru.
  • Mae ymgysylltu, cyfathrebu a meithrin gallu – gan barhau i adeiladu ar ein proses agored a thryloyw o lunio polisïau trethi – yn dal yn flaenoriaeth allweddol. Byddwn yn datblygu cynllun hirdymor i feithrin gallu o ran polisi trethi a gweinyddu trethi, ac yn gweithio gyda llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill i rannu arferion da a mynd i’r afael â heriau cyffredin. Rydym yn awyddus i helpu trethdalwyr Cymru i ddeall ein dull gweithredu o ran trethi a deall yn glir sut mae eu trethi nhw yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd:

“Mae ein cynllun polisi trethi blynyddol yn rhan bwysig o’r broses gyfathrebu – mae’n adeiladu ar yr hyn yr ydyn ni wedi’i gyflawni a’i ddysgu’n barod ac yn nodi’r meysydd yr ydym am eu harchwilio ymhellach.

“Rwy wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod ein polisi trethi yn cael ei ddatblygu mewn ffordd agored a thryloyw, ac mae’r cynllun hwn yn wahoddiad i unrhyw un a hoffai gyfrannu syniadau a helpu i lunio polisi trethi Cymru.”

Mae polisi trethi Llywodraeth Cymru yn cael ei ddatblygu’n unol â’r egwyddorion a nodwyd yn ein Fframwaith Polisi Trethi. Bydd adroddiad yn crynhoi’r prif ganfyddiadau yn cael ei gyhoeddi gyda’r Gyllideb ddrafft yn yr hydref.

Cynllun gwaith polisi trethi 2019