Neidio i'r prif gynnwy

Gan Adam Al-Nuaimi, Pennaeth Dadansoddi Data, Awdurdod Cyllid Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pan oedd Awdurdod Cyllid Cymru yn cael ei sefydlu, roeddem yn gwybod ein bod am reoli a chasglu’r ddwy dreth newydd sydd wedi’u datganoli i Gymru, mewn ffordd wahanol.  Roedd hyn yn golygu gweithio’n wahanol; cefnogi trethdalwyr a’u cynrychiolwyr mewn partneriaeth i’w helpu i dalu am y swm cywir o dreth y tro cyntaf.

Er mwyn dechrau gweithio fel hyn, roedd angen i ni greu tîm Dadansoddi Data cadarn a oedd yn deall ac yn croesawu ethos y sefydliad a’i weledigaeth. Roeddem yn awyddus i ddefnyddio’r data a gasglwyd i gefnogi a datblygu ein gweithrediadau o ddydd i ddydd ond, roeddem am gyhoeddi data a dadansoddiadau dibynadwy hefyd a oedd yn creu darlun cywir a phwrpasol ar gyfer Cymru.

I gefnogi’r dull newydd hwn o weithredu, roedd angen i ni greu tîm bach o arbenigwyr data oedd yn meddu ar yr arbenigedd technegol i gwestiynu, trafod a sicrhau ansawdd gwybodaeth a oedd yn ategu systemau cyllid a rheoli trethi Awdurdod Cyllid Cymru.

Ymunais fel prif swyddog ym mis Hydref 2017 gan fynd ati i ddatblygu swyddogaeth data newydd a oedd yn cefnogi strategaeth sefydliadol Awdurdod Cyllid Cymru mewn amgylchedd cwmwl-yn-unig newydd a chyffrous - y cyntaf o’i fath.

Heddiw, mae’r tîm Data yn cynnwys fi, y rheolwr Data a TG, rheolwr Gwybodaeth a thri dadansoddwr sydd oll yn rhannu profiad o godio a defnyddio technolegau newydd fel meddalwedd cudd-wybodaeth fusnes.

Mae gwaith y tîm Data wedi’i strwythuro o amgylch cefnogi’r gweithrediadau o ddydd i ddydd yn cynnwys monitro cydymffurfiaeth, canfod risgiau o ran trethi, yn ogystal ag awtomeiddio tasgau allweddol, yn cynnwys y rhai sy’n gysylltiedig â chyhoeddi data.

Ymhlith y cyfrifoldebau eraill mae rheoli cofnodion, cydymffurfio â GDPR, rheoli’r berthynas rhwng Awdurdod Cyllid Cymru a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn ogystal ag agweddau allweddol ar ddiogelwch data.

Rydym yn defnyddio data mewn modd sy’n cefnogi ac yn cyd-fynd â’r dull o weithio mewn partneriaeth sy’n sail i waith Awdurdod Cyllid Cymru cyfan: er enghraifft, mae gennym ni ymagwedd ‘agored’ at argaeledd ein data y gall pawb sydd â diddordeb a phartïon perthnasol ei ddefnyddio i helpu i ragfynegi. Yn ogystal â hyn, rydym yn cyhoeddi data misol ynghyd ag adroddiad manylach bob chwarter ar ddata a dadansoddiadau. Mae hyn, gobeithio, yn rhoi rhywfaint o sicrwydd ynghylch ein gallu i gynnal a chadw gwybodaeth gyhoeddus. 

Fel gyda phob maes busnes arall sy’n rhan o Awdurdod Cyllid Cymru, rydym yn dal i esblygu a dysgu. Wrth i ni ddatblygu ein galluogrwydd, ein sgiliau a chael dealltwriaeth well o’r data, byddwn yn datblygu dadansoddiadau mwy trylwyr i gefnogi gwaith yr awdurdod yn ogystal â rhoi cyngor arbenigol o safon i Weinidogion Cymru ar ddatganoli a gweinyddu trethi a’r gydnabyddiaeth newydd o ran treth.

I gael rhagor o wybodaeth am waith y tîm Dadansoddi Data cysylltwch â data@acc.llyw.cymru neu i ddarllen ein hadroddiadau diweddaraf ewch i’r adran ystadegau.