Neidio i'r prif gynnwy

Manylion yr adroddiad

Ysgrifennwyd yr adroddiad thematig hwn mewn ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith Estyn ar gyfer 2025 i 2026.

Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar addysgu a dysgu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh) mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion. Nod yr adroddiad yw rhoi cipolwg ar y cryfderau a’r meysydd i’w gwella o ran sut mae ysgolion yn cynllunio ac yn addysgu ACRh. Mae’n tynnu sylw at enghreifftiau o ymarfer effeithiol yn yr ysgolion a’r lleoliadau yr ymwelwyd â nhw ac yn darparu argymhellion i wella’r ddarpariaeth ar gyfer ACRh fel rhan o’r Cwricwlwm i Gymru.

Crynodeb o’r prif ganfyddiadau

Mae’r adroddiad yn cyflwyno darlun cadarnhaol ar y cyfan o ACRh ar draws ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion (UCD) yng Nghymru. Mae arweinyddiaeth gref, gwerthoedd cynhwysol a threfniadau diogelu effeithiol yn golygu bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn teimlo’n ddiogel, ac yn cael eu parchu a’u cefnogi. Fodd bynnag, nodwn nad yw ansawdd y ddarpariaeth yn gyson gryf eto. Mae’r heriau allweddol yn cynnwys gwella dilyniant ar draws grwpiau oedran, meithrin hyder staff wrth addysgu pynciau sensitif, a gwerthuso effaith wirioneddol ACRh ar ddisgyblion yn hytrach na dim ond monitro i ba raddau y cwblheir y cwricwlwm.

Tynnodd yr adroddiad sylw at rai meysydd sydd angen eu hystyried, gan gynnwys:

Diwylliant cryf o les a chynhwysiant

Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion ddiwylliant cryf o les, parch a chynhwysiant, gydag ACRh yn aml wedi’i ymgorffori mewn dulliau diogelu a lles ehangach.

Profiadau cadarnhaol i ddysgwyr

Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn elwa ar ddysgu sy’n addas i’r oedran ac amgylcheddau cynhwysol sy’n hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a pherthnasoedd parchus.

Gweithio’n effeithiol mewn partneriaeth

Mae llawer o ysgolion yn defnyddio partneriaethau gyda sefydliadau iechyd, heddlu a’r trydydd sector i gryfhau cefnogaeth ac ymateb i faterion fel diogelwch ar-lein, misogynedd a chamfanteisio.

Cryfhau dilyniant ar draws y cwricwlwm

Er bod llawer o ysgolion yn mapio pynciau ACRh ar draws grwpiau blwyddyn, prin yw’r rhai sydd wedi sicrhau dilyniant clir o 3 i 16 oed, gyda chydweithio cyfyngedig rhwng y cynradd a’r uwchradd yn effeithio ar barhad dysgu.

Anghysondeb o ran hyder staff

Mae hyder ymarferwyr yn parhau i fod yn amrywiol, yn enwedig wrth addysgu pynciau sensitif fel rhywioldeb, hunaniaeth rhywedd, misogynedd a normau rhywedd niweidiol.

Sylw cyfyngedig i bynciau sensitif

Nid yw pynciau sy’n ymwneud â rhyw, rhywedd a rhywioldeb bob amser yn cael eu trafod yn gyson neu mewn digon o ddyfnder, gan arwain at amrywiaeth ym mhrofiadau dysgwyr.

Gwerthusiad yn canolbwyntio ar gyflawni yn hytrach nag effaith

Mae ysgolion yn aml yn monitro cyflawni yn hytrach na gwerthuso effaith ACRh ar wybodaeth, agweddau, ymddygiadau a phenderfyniadau dysgwyr.

Cyfyngiadau capasiti ac adnoddau

Gall cyfyngiadau amser, cyllid a dysgu proffesiynol arbenigol, a chymorth amrywiol gan awdurdodau lleol, effeithio ar allu ysgolion i ddatblygu arbenigedd ACRh cynaliadwy.

 

Argymhellion

Argymhellion ar gyfer ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion

Argymhelliad 1

Cryfhau cynllunio’r cwricwlwm i sicrhau dilyniant cydlynus a datblygiadol briodol mewn addysg cydberthynas a rhywioldeb (ACRh) rhwng 3 ac 16 oed.

Argymhelliad 2

Gwella ansawdd a chysondeb addysgu ACRh trwy ddysgu proffesiynol targedig, sy’n benodol i bwnc sy’n magu hyder ac arbenigedd addysgegol ymarferwyr. 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Er mai awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am drefniadau gwella ysgolion lleol, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi cysondeb cenedlaethol drwy raglenni a ariennir gan grant y Cwricwlwm i Gymru, sy’n cefnogi ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion i gryfhau cynllunio’r cwricwlwm, sicrhau dilyniant cydlynus mewn ACRh o 3 i 16 oed, a meithrin hyder ac arbenigedd addysgegol ymarferwyr. 

Bydd Dysgu hefyd yn chwarae rôl bwysig wrth gefnogi dysgu proffesiynol o ansawdd uchel a datblygiad parhaus arferion ACRh effeithiol.

Argymhellion ar gyfer awdurdodau lleol, partneriaethau gwella ysgolion a Dysgu

Argymhelliad 3

Sicrhau mynediad cyson at gymorth arbenigol a dysgu proffesiynol o ansawdd uchel sy’n gysylltiedig ag addysgeg ar gyfer ACRh i bob ysgol ac UCD.

Argymhelliad 4

Hwyluso cydweithio effeithiol rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd i gefnogi dilyniant cydlynus a datblygiadol briodol mewn ACRh.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am wasanaethau gwella ysgolion. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd mynediad cyson at gymorth arbenigol a dysgu proffesiynol o ansawdd uchel i gryfhau addysgeg ACRh ar draws pob ysgol ac UCD.

Drwy Raglen Cymorth Grant y Cwricwlwm i Gymru, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £4.2 miliwn ym mhrosiect ‘Addysg Cwtch’ Stori, rhaglen genedlaethol tair blynedd sy’n darparu cymorth wedi’i dargedu ar draws awdurdodau lleol i helpu ymarferwyr ac arweinwyr i ddarparu ACRh o ansawdd uchel a hyrwyddo perthnasoedd iach a pharchus drwy ddull ysgol gyfan.

Byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol, partneriaethau gwella ysgolion a Dysgu i gefnogi dull gweithredu cydgysylltiedig ar yr argymhellion hyn, gan adeiladu ar weithgarwch presennol a ariennir gan grant y Cwricwlwm i Gymru. Bydd hyn yn helpu i gryfhau hyder ymarferwyr, rhannu ymarfer effeithiol, a chefnogi cydweithio rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd fel bod dysgwyr yn profi dilyniant cydlynol mewn ACRh sy’n briodol yn ddatblygiadol.

Argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru

Argymhelliad 5

Cryfhau canllawiau cenedlaethol i gefnogi dilyniant a gwerthuso effaith mewn ACRh.

Argymhelliad 6

Sicrhau cyllid cynaliadwy i gefnogi dysgu proffesiynol, capasiti arwain a gweithio mewn partneriaeth.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Rydym yn derbyn yr argymhellion hyn ac yn cydnabod pwysigrwydd cefnogaeth genedlaethol glir i helpu ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion i gefnogi gweithredu ACRh.

Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ac rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd gweithio’n agos gyda Dysgu wrth i’w cylch gwaith ACRh ddatblygu. 

Drwy Raglen Cymorth Grant y Cwricwlwm i Gymru, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £4.2 miliwn ym mhrosiect ‘Addysg Cwtch’ Stori, rhaglen genedlaethol tair blynedd sy’n darparu cymorth wedi’i dargedu ar draws awdurdodau lleol i helpu ymarferwyr ac arweinwyr i ddarparu ACRh o ansawdd uchel a hyrwyddo perthnasoedd iach a pharchus trwy ddull ysgol gyfan.

Mae cymorth cenedlaethol yn canolbwyntio ar:

  • gyflenwi ACRh cyson, hyderus a mesuradwy, sy’n rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth drawsgwricwlaidd i ymarferwyr er mwyn ei hymwreiddio’n effeithiol
  • gwella dealltwriaeth llywodraethwyr, rhieni a gofalwyr o ACRh, gan egluro ei chynnwys, ei methodoleg a’i heffaith gadarnhaol ar ddysgwyr
  • sicrhau bod llais y dysgwr yn ganolog i ddatblygu’r cwricwlwm a’i weithredu

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio ar y cyd ar draws y Llywodraeth ar yr agenda ataliol i ddiogelu dysgwyr, hyrwyddo perthnasoedd iach a pharchus, a sicrhau bod ysgolion yn cael eu cefnogi i ddarparu ACRh o ansawdd uchel fel rhan o’r Cwricwlwm i Gymru.

Byddwn yn parhau i ddefnyddio canllawiau, dysgu proffesiynol a threfniadau partneriaeth presennol i gefnogi ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion, awdurdodau lleol a phartneriaid i feithrin hyder, cryfhau ymarfer ac ymateb yn effeithiol i risgiau sy’n dod i’r amlwg.

Byddwn hefyd yn parhau i ystyried sut y gall cymorth cenedlaethol ar gyfer ACRh helpu ysgolion i werthuso effaith eu darpariaeth ar wybodaeth, lles, agweddau a phenderfyniadau dysgwyr, wrth gynnal dysgu proffesiynol, capasiti arweinwyr a gwaith partneriaeth effeithiol.

Mae gwaith pellach yn y maes hwn yn cynnwys y rhaglen ehangach o ddiwygio mesurau diogelu, sy’n cael ei lywio gan ganfyddiadau ac argymhellion Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder. Mae’r gwaith hwn yn canolbwyntio ar gryfhau trefniadau cenedlaethol, gwella cysondeb ar draws lleoliadau addysg, a chefnogi’r gwaith o nodi, adrodd a rheoli pryderon diogelu yn effeithiol.

Rydym wrthi’n adolygu ac yn diweddaru canllawiau diogelu cenedlaethol i ddarparu disgwyliadau cliriach ar gyfer lleoliadau addysg, awdurdodau lleol a phartneriaid. Mae hyn yn cynnwys trefniadau ar gyfer cydnabod pryderon ac ymateb iddynt, uwchgyfeirio her broffesiynol, cofnodi a rhannu gwybodaeth yn briodol, a sicrhau bod cyfrifoldebau diogelu yn cael eu deall yn glir gan staff ac arweinwyr.

Ochr yn ochr â hyn, rydym yn cryfhau dysgu proffesiynol, gan gynnwys cymorth ar grŵmio, camfanteisio ar ymddiriedaeth, ymddygiadau gorfodaethol a rheolaethol, a chynnal ffiniau proffesiynol priodol. Bydd hyn yn cefnogi ymarferwyr ac arweinwyr i nodi dangosyddion perthnasol, ymateb yn briodol i bryderon a chymhwyso gweithdrefnau diogelu yn gyson.

Manylion cyhoeddi

Mae'r adroddiad llawn ar gael ar wefan Estyn, ac fe'i cyhoeddwyd ar 01 Gorffennaf 2026.