Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair y Gweinidog

Mae’r blynyddoedd yn dilyn y pandemig wedi dod â newidiadau sylweddol i berthnasoedd, llesiant ac ymddygiad ar draws ein hysgolion. Rwyf wedi clywed yn uniongyrchol gan benaethiaid, athrawon a staff cymorth ledled Cymru am y pwysau y maent yn ei wynebu a’r effaith gynyddol y mae dyfeisiau digidol, yn enwedig ffonau symudol, yn ei chael ar barodrwydd dysgwyr i ddysgu, eu gallu i ganolbwyntio, a’u llesiant.

Mae ffonau symudol bellach yn sail i sut mae nifer fawr o bobl ifanc yn cyfathrebu ac yn rhyngweithio yn y Gymru fodern. Fodd bynnag, mae tystiolaeth gynyddol – o astudiaethau rhyngwladol ac o brofiad mewn ysgolion yma gartref – bod defnydd gormodol neu heb ei reoli yn gysylltiedig â lleihad yn y gallu i ganolbwyntio, mwy o orbryder, tarfu ar ddysgu, ac ynysu cymdeithasol. Mae ysgolion hefyd wedi rhannu pryderon am y rhan y gall ffonau symudol ei chwarae mewn bwlio, lledaenu cynnwys ar-lein niweidiol, a hwyhau anghydfodau y tu hwnt i’r diwrnod ysgol.

Os ydym am baratoi’r genhedlaeth nesaf ar gyfer cyfleoedd a heriau’r oes ddigidol, rhaid inni sicrhau bod ystafelloedd dosbarth yn parhau i fod yn lleoedd diogel a thawel i ganolbwyntio ar ddysgu. Dyna pam mae’n bwysig bod penaethiaid yng Nghymru yn teimlo’n hyderus ac yn cael eu cefnogi’n llawn i gymryd y camau maen nhw’n credu sy’n angenrheidiol i ddiogelu dysgu a llesiant yn eu hysgolion.

Yng Nghymru, rydym yn ymddiried yn ein penaethiaid i wneud penderfyniadau i gyfyngu ar ffonau symudol sy’n gwasanaethu eu dysgwyr a’u cymunedau orau. Nhw sydd yn y sefyllfa orau i farnu sut mae defnydd ffonau symudol yn effeithio ar ymddygiad, llesiant, addysgu a dysgu. Ond rwyf am fod yn glir: fel Gweinidog Cabinet, rwy’n gosod disgwyliad cenedlaethol clir bod y defnydd o ffonau symudol yn cael ei gyfyngu yn ystod y diwrnod ysgol, gyda dulliau hyd at a chan gynnwys cyfyngiad llawn ar draws safle’r ysgol.

Nid ein rôl fel Llywodraeth yw mandadu un dull o weithredu, ond yn hytrach sicrhau bod penaethiaid, cyrff llywodraethu a staff ysgolion yn cael yr eglurder, y gefnogaeth a’r hyder sydd eu hangen arnynt i gymryd camau pendant lle mae defnydd ffonau symudol yn achosi tarfu neu niwed. Mae’r canllawiau hyn yn darparu’r sicrwydd hwnnw, ac yn grymuso ysgolion i gymryd camau cadarn i ddiogelu dysgu a llesiant.

Mae pobl ifanc Cymru yn haeddu ystafelloedd dosbarth lle gallant ganolbwyntio, ffynnu, a theimlo’n ddiogel rhag pwysau digidol. Byddwn yn parhau i gefnogi ein hysgolion i gymryd mesurau cymesur sy’n seiliedig ar dystiolaeth i leihau effeithiau negyddol ffonau symudol ac i ddarparu’r canlyniadau gorau i ddysgwyr ledled Cymru.

Trosolwg

Dylai pob ysgol yng Nghymru gael ei pholisi ei hun i gyfyngu ar y defnydd o ffonau symudol, yn seiliedig ar anghenion eu cymuned ysgol.

Mae’r canllawiau hyn yn cefnogi ysgolion i ddatblygu polisi clir sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar ddefnyddio ffonau symudol. Nod y canllawiau yw:

  • diogelu llesiant dysgwyr
  • hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol
  • cynnig y cyfleoedd dysgu gorau posibl
  • parhau i fanteisio ar dechnoleg
  • hyrwyddo cysondeb ledled Cymru
  • sicrhau bod polisïau’n deg 
  • sicrhau bod polisïau’n cyd-fynd ag egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP)

Y Cefndir

Cynhaliwyd Uwchgynhadledd Ymddygiad Genedlaethol ym mis Mai 2025. Yn dilyn yr uwchgynhadledd, sefydlwyd fforwm cenedlaethol ar y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion, sy’n cynnwys:

  • ymarferwyr a phenaethiaid
  • partneriaid fel awdurdodau lleol, cynrychiolwyr y trydydd sector a seicolegwyr addysg
  • rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys cynrychiolwyr undebau llafur

Gwnaed gwaith gyda’r Fforwm i ddatblygu’r canllawiau hyn i helpu ysgolion i ddatblygu polisi ffonau symudol a gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch ffonau symudol.

Cwmpas a chynulleidfa

Mae’r canllawiau hyn ar gyfer:

  • awdurdodau lleol yng Nghymru
  • cyrff llywodraethu ysgolion cymunedol, sefydledig a gwirfoddol, ysgolion arbennig cymunedol a sefydledig, ac ysgolion meithrin a gynhelir
  • pwyllgorau rheoli Unedau Cyfeirio Disgyblion yng Nghymru
  • perchnogion ysgolion annibynnol yng Nghymru

Statws a chynnwys y canllawiau hyn

Mae hwn yn ganllaw statudol a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru drwy arfer eu pwerau o dan adran 175(4) o Ddeddf Addysg 2002 (“Deddf 2002”) a pharagraff 6 o Ran 3 o’r Atodlen i Reoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024 (“Rheoliadau 2024”). Mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r cyrff a restrir yn y pwyntiau bwled uchod roi sylw i’r canllawiau wrth lunio eu polisïau ffonau symudol.

O dan adran 175 o Ddeddf 2002, rhaid i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir (a phwyllgorau rheoli Unedau Cyfeirio Disgyblion) wneud trefniadau i sicrhau bod eu swyddogaethau’n cael eu harfer er mwyn diogelu a hyrwyddo llesiant eu disgyblion.

O dan reoliadau 2024, rhaid i berchnogion ysgolion annibynnol wneud trefniadau a chael polisïau i ddiogelu a hyrwyddo llesiant eu disgyblion.

Byddai polisi ffonau symudol (boed yn bolisi annibynnol neu wedi’i ymgorffori mewn polisi arall) yn drefniant o’r fath ar gyfer ysgolion a gynhelir ac ysgolion annibynnol.

Mae’r gofyniad i ‘roi sylw i’ yn golygu bod yn rhaid ystyried y canllawiau hyn wrth lunio polisi ffonau symudol, a rhaid cyfiawnhau unrhyw benderfyniad i wyro oddi wrthynt.

Bydd polisi ffonau symudol yn cynorthwyo:

  • arweinwyr a llywodraethwyr ysgolion, i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau strategol
  • staff addysgu a chymorth, er mwyn sicrhau gweithredu cyson
  • awdurdodau lleol, i ddarparu goruchwyliaeth a chymorth

Er bod rhieni, gofalwyr a dysgwyr yn randdeiliaid allweddol wrth ddatblygu polisi, nid yw’r ddogfen hon wedi’i chynllunio fel canllaw iddynt hwy. Yn hytrach, dylai ysgolion gyfeirio rhieni neu ofalwyr at adnoddau perthnasol, megis:

Oni nodir fel arall, yng ngweddill y canllawiau hyn mae’r term “ysgol” yn cwmpasu’r holl ysgolion a gynhelir a restrir uchod (gan gynnwys Unedau Cyfeirio Disgyblion) ac ysgolion annibynnol.

Pam mae angen polisi ffonau symudol ar ysgolion

Gall ffonau symudol gyfrannu at dynnu sylw, bwlio (gan gynnwys seiberfwlio) a gorbryder. Mae tystiolaeth yn dangos bod cysylltiad rhwng lefelau uwch o ddefnydd ffonau a’r cyfryngau cymdeithasol â:

  • chysgu’n wael
  • llai o weithgarwch corfforol
  • cyrhaeddiad is
  • mwy o heriau iechyd meddwl

Fodd bynnag, gall defnydd rheoledig a phwrpasol gefnogi diogelwch personol ac anghenion meddygol. Gall hefyd gynnig manteision addysgegol, megis gwella dysgu trwy offer digidol a chefnogi arferion cynhwysol.

Mae astudiaethau rhyngwladol yn awgrymu y gall cyfyngu ar y defnydd o ffonau yn ystod y diwrnod ysgol:

  • leihau elfennau sy’n tynnu sylw a bwlio
  • cynyddu gweithgarwch corfforol

Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth ar ganlyniadau ehangach, fel cyrhaeddiad ac iechyd meddwl, yn llai cyson. Dylai polisïau ffonau symudol gael eu gweithredu:

  • yn gymesur
  • yn gynhwysol
  • o fewn diwylliant ysgol cadarnhaol

Beth i’w ystyried

Bydd polisi ffonau symudol effeithiol yn adlewyrchu cyd-destun yr ysgol. Mae pob ysgol yn gweithredu mewn amgylchedd unigryw.

Dylai’r polisi gyd-fynd â’r canllawiau cenedlaethol hyn, ac adlewyrchu anghenion ac amgylchiadau lleol.

Nid gorfodi pob ysgol i ddefnyddio un dull anhyblyg yw’r nod. Y nod yw darparu fframwaith sy’n cefnogi ysgolion i greu datrysiadau sydd wedi’u teilwra i’w cymunedau.

Dylai’r polisi ffonau symudol sicrhau nad oes unrhyw ddysgwr dan anfantais. Os cyfyngir ar ddefnydd ffonau, dylai dyfeisiau eraill fod ar gael i fodloni gofynion digidol y cwricwlwm.

Dulliau o gyfyngu ar y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion

Mae’r canllawiau hyn yn adlewyrchu’r sbectrwm eang o ddulliau sydd eisoes wedi’u mabwysiadu i gyfyngu ar y defnydd o ffonau symudol ac sydd eisoes ar waith mewn ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae gan ysgolion hefyd hyblygrwydd i ddatblygu eu dulliau eu hunain o gyfyngu ar ddefnydd ffonau symudol.

Dylent ystyried:

  • grwpiau oedran a cham datblygu
  • cyfrifoldebau diogelu
  • y nod ehangach o hyrwyddo arferion digidol cyfrifol
  • defnydd teg o offer digidol i gefnogi addysgu a dysgu
  • safonau ysgolion annibynnol (ar gyfer ysgolion annibynnol)

Dylid ystyried penderfyniadau’n ofalus a’u cysylltu â pholisïau eraill yr ysgol. Mae hyn yn cynnwys ymddygiad a’r dull ysgol gyfan at iechyd meddwl a llesiant. 

Modelau cyffredin ar gyfer cyfyngu ar ddefnydd ffonau symudol mewn ysgolion

a) Dim ffonau symudol ar safle’r ysgol

Gall ysgol benderfynu na chaniateir i ddysgwyr ddod â ffonau symudol i’r ysgol.

Mae’r dull hwn yn cyfyngu ar yr elfennau sy’n tynnu sylw’r dysgwyr ac ar y risgiau diogelu. Mae’n darparu polisi syml o ran gorfodi, gan y byddai unrhyw ffôn symudol ar safle’r ysgol yn groes i’r polisi.

Fodd bynnag, gall rheol o’r fath gyfyngu ar y gallu i gysylltu mewn argyfwng, achosi pryder ymysg rhieni, a chynyddu risgiau diogelu mewn rhai achosion. Byddai angen ystyried dysgwyr sydd angen ffonau symudol ar gyfer monitro cyflyrau meddygol, er enghraifft, diabetes.

b) Casglu ffonau symudol wrth i blant gyrraedd yr ysgol

Wrth gyrraedd yr ysgol, mae pob disgybl yn rhoi ei ddyfais i staff yr ysgol. Gall dysgwyr gasglu eu ffonau ar ddiwedd y diwrnod ysgol. Mae hyn yn caniatáu i ddysgwyr ddefnyddio ffonau cyn ac ar ôl ysgol. Mae hyn yn lleihau tarfu yn yr ystafell ddosbarth ac yn darparu rheolaeth glir.

Gall y model hwn gymryd llawer o amser, mae angen trefniant storio diogel, ac mae risg y bydd ffonau’n cael eu colli neu ddifrodi. Dylai ysgolion fod yn ymwybodol y gallai fod gan ddysgwr fynediad at ail ddyfais, hyd yn oed os ydyw wedi rhoi un ffôn symudol i mewn. Gallai’r gwaith o reoli hyn olygu ystyriaethau staffio i’r ysgol.

c) Codenni neu loceri y gellir eu cloi

Mae ffonau symudol yn cael eu cadw mewn lle diogel nad yw dysgwyr yn cael mynediad iddo tan ddiwedd y dydd. Mae hyn yn caniatáu i ddysgwyr gadw eu ffonau ar gyfer diogelwch teithio. Mae goblygiadau cost a heriau logisteg, ac efallai y bydd angen hyfforddiant staff. Byddai angen ystyried dysgwyr sydd angen ffonau symudol ar gyfer monitro cyflyrau meddygol, er enghraifft, diabetes.

d) Ddim i’w defnyddio, ddim i’w clywed

O dan y model hwn, mae dysgwyr yn cadw eu ffonau symudol gyda nhw, ond nid yw’r ffonau i’w defnyddio na’u clywed. Rhaid i’r canlyniadau fod yn ddigon difrifol i atal dysgwyr rhag torri’r amodau hyn. Mae hyn yn rhoi cydbwysedd rhwng diogelwch wrth deithio a lleihau’r elfennau sy’n tynnu sylw. Mae’r polisi hwn yn llai ymwthiol, ond gall fod yn anodd ei orfodi.

e) Caniatáu defnyddio ffonau mewn parthau neu slotiau amser penodol

Efallai y bydd ysgolion eisiau ystyried defnydd hyblyg ar gyfer dysgwyr hŷn. Gall hyn gefnogi rhyngweithio cymdeithasol a mynd i’r afael â phryderon diogelwch rhieni. Mae’n anoddach monitro’r polisi, a gallai ffonau symudol gael eu camddefnyddio mewn ardaloedd lle caniateir eu defnyddio. Mae risgiau diogelu yn parhau.

Ystyriaethau allweddol

Ysgolion cynradd o gymharu ag ysgolion uwchradd

Efallai y bydd angen mesurau rheoli llymach ar ddysgwyr iau. Gall myfyrwyr hŷn elwa ar fynediad graddol neu amodol.

Risgiau diogelu

Mae hyn yn cynnwys rhannu cynnwys amhriodol a chamddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.

Ystyriaethau ymarferol

Ystyried effaith ar addysgu a dysgu, ymddygiad, diogelwch, anghenion meddygol, ac addasiadau rhesymol.

Gorfodi a chysondeb

Mae rheolau clir a theg sy’n cael eu cymhwyso’n gyson yn hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant. Dylai ysgolion gael polisi ffonau symudol sy’n cynnwys addasiadau rhesymol i ystyried amgylchiadau unigol. Gweler yr adran ar gymhwyso ac addasiadau rhesymol.

Dylai ysgolion hefyd gyfeirio at ganllawiau diogelu ehangach. (Er enghraifft, rheoliadau Ofcom, Hwb: Cadw’n Ddiogel Ar-lein) a gwaith parhaus ar gyfrifoldeb digidol. Mae rheoli defnydd ffonau symudol yn gyfrifoldeb a rennir.

Sut i ddatblygu polisi ffonau symudol

1. Y sail resymegol

Dylai’r polisi ddechrau gydag esboniad clir pam mae ei angen. Dylai hyn gael ei ategu gan dystiolaeth ar effaith defnydd ffonau symudol ar ddysgu, ymddygiad a llesiant. Bydd sail resymegol gref yn helpu i sicrhau cefnogaeth gan staff, dysgwyr a rhieni.

2. Adolygu a chasglu tystiolaeth

Adolygu unrhyw ddulliau presennol a chasglu tystiolaeth o gyd-destun yr ysgol.

Gall tynnu ar arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth gryfhau’r polisi a dangos manteision yn y dyfodol. Gallai hyn gynnwys enghreifftiau o ysgolion eraill.

3. Ymgynghori a chyd-awduro

Mae polisïau’n gweithio orau pan fyddant yn cael eu datblygu gyda chymuned yr ysgol. Dylai ysgolion ymgysylltu â’r holl randdeiliaid mewn ymgynghoriad ystyrlon. Dylai hyn gynnwys dysgwyr, yn enwedig disgyblion hŷn, staff, rhieni, a llywodraethwyr. Dylai llais y dysgwr fod yn ganolog, er enghraifft trwy gynghorau ysgol. 

Dylai ysgolion gynnwys rhanddeiliaid drwy:

  • holiaduron
  • trafodaethau cyngor ysgol
  • cyfarfodydd neu weithdai
  • cyfathrebu templed (llythyrau, sleidiau, postiadau cyfryngau cymdeithasol)

Dylai’r ysgol ddefnyddio’r adborth i gyd-awduro polisi sydd yn:

  • adlewyrchu anghenion ei chymuned
  • cyd-fynd â fframweithiau ymddygiad, diogelu a llesiant

4. Cydweddu â’r gyfraith a dyletswyddau diogelu

Rhaid i bolisi ffonau symudol gydymffurfio â:

  • dyletswyddau diogelu
  • deddfwriaeth cydraddoldeb
  • gofynion diogelu data

Dylai polisi ffonau symudol hefyd fod wedi’i integreiddio â meysydd allweddol eraill fel:

  • y cwricwlwm
  • fframweithiau cymhwysedd digidol
  • strategaethau atal bwlio
  • polisïau Anghenion Dysgu Ychwanegol a chynhwysiant
  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn

Trwy ymgorffori’r ystyriaethau hyn, gall ysgolion greu polisi sydd yn:

  • cydymffurfio â safonau cyfreithiol
  • cyd-fynd ag arferion gorau moesegol

5. Integreiddio â fframweithiau a pholisïau presennol

Ni ddylai polisi ffonau symudol sefyll ar ei ben ei hun. Dylai gysylltu â pholisïau ehangach ar:

  • ymddygiad
  • tegwch
  • diogelwch ar-lein
  • llesiant
  • dysgu digidol
  • diogelu
  • gwrth-fwlio

Ystyriwch sut mae’r polisi yn rhyngweithio ag apiau gwaith cartref neu dechnoleg addysgol. Mae hyn yn sicrhau bod negeseuon am ddefnydd priodol yn gyson yn yr ysgol a’r tu allan i’r ysgol.

6. Strategaeth gyfathrebu

Darparwch bolisi ysgrifenedig clir a hygyrch i staff a theuluoedd, er enghraifft wedi’i gyhoeddi ar wefan yr ysgol. Atgyfnerthwch negeseuon allweddol drwy:

  • wasanaethau ysgol
  • cylchlythyrau
  • y cyfryngau cymdeithasol
  • nosweithiau rhieni
  • posteri

Ar gyfer dysgwyr, mae angen pwysleisio sut y gall unrhyw gyfyngiadau gefnogi eu dysgu (os yw’n berthnasol). Defnyddiwch ymgyrchoedd i wneud disgwyliadau yn weladwy ac yn gofiadwy. Mae cyfathrebu cyson yn hanfodol i gynnal dealltwriaeth a chefnogaeth.

7. Dull holistaidd a chefnogol

Cynnig dewisiadau amgen cadarnhaol yn lle defnyddio ffonau yn ystod egwyliau ac amser cinio, megis:

  • clybiau
  • mannau llesiant
  • gweithgareddau cyfoethogi

Lle bo hynny’n briodol, ystyriwch fannau dynodedig ar gyfer defnydd rheoledig o ffonau. Dathlwch lwyddiant trwy rannu enghreifftiau o ymddygiad, ymgysylltu a llesiant gwell mewn cylchlythyrau a digwyddiadau ysgol.

8. Hyrwyddo arferion digidol iach

Dylai’r polisi hyrwyddo arferion ffordd o fyw digidol iach a chefnogi amgylchedd dysgu diogel a chynhwysol. Mae polisi sydd wedi’i gynllunio’n dda yn ymestyn y tu hwnt i reoli defnydd ffonau symudol. Dylai wneud y canlynol:

  • meithrin ymddygiad cadarnhaol
  • cefnogi llesiant
  • ysgogi canlyniadau addysgol gwell

Gall polisi ffonau symudol fod yn arf pwerus i wella amgylchedd cyffredinol yr ysgol. Gall helpu dysgwyr i ffynnu trwy:

  • greu disgwyliadau clir
  • hyrwyddo defnydd cyfrifol o ffonau

Offer cymorth

Er mwyn helpu’r ysgol i weithredu’r polisi yn effeithiol, cyfeiriwch at adnoddau ymarferol fel:

  • siart lif sy’n amlinellu’r broses ddatblygu
  • templedi ar gyfer polisïau
  • gwasanaethau ysgol a chyfathrebiadau i rieni
  • canllawiau ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys cwestiynau a strategaethau enghreifftiol
  • astudiaethau achos yn dangos llwyddiannau o ran gweithredu ac effaith

Addasiadau rhesymol

Rhaid i bolisi ffonau symudol fod yn ddigon hyblyg i addasu i amgylchiadau unigol, wrth barhau i fod yn gyson a chynnal egwyddorion diogelu. Dylai ysgolion ddiffinio’n glir beth sy’n addasiad rhesymol ac amlinellu’r broses ar gyfer gofyn am eithriadau.

Addasiadau rhesymol a hyblygrwydd

Gall defnydd rheoledig a phwrpasol o ffonau symudol gefnogi anghenion meddygol a diogelwch personol. Gall hefyd gynnig manteision addysgegol, megis gwella dysgu trwy offer digidol a chefnogi arferion cynhwysol.

Mewn rhai sefyllfaoedd, bydd rheswm dilys dros fod angen mynediad at ffôn symudol. Mae hyn yn cynnwys:

  • gofynion meddygol
  • plant anabl
  • cyfrifoldebau fel gofalwyr ifanc
  • anghenion dysgu ychwanegol
  • anghenion plant sy’n derbyn gofal

Er enghraifft, efallai y bydd disgybl sy’n rheoli cyflwr iechyd fel diabetes angen ei ffôn at ddibenion monitro. Yn yr un modd, efallai y bydd angen eithriadau ar ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol neu ddisgyblion sydd angen cyswllt â theulu oherwydd cyfrifoldebau gofal, a dylid trin yr achosion hyn â sensitifrwydd. Dylid dogfennu a chytuno ar yr addasiadau hyn i sicrhau eglurder a thegwch. Dylai ysgolion hefyd ystyried y math o ddyfais a ganiateir, fel ffonau sylfaenol heb fynediad i’r rhyngrwyd, lle bo hynny’n briodol.

Gweithdrefnau ar gyfer eithriadau

Dylai’r polisi gynnwys proses glir a thryloyw ar gyfer gofyn am eithriadau. Gallai hyn gynnwys:

  • cais ffurfiol gan rieni neu ofalwyr
  • tystiolaeth ategol, lle bo angen
  • proses gwneud penderfyniadau sy’n cynnwys uwch aelodau o staff

Dylid rhoi arweiniad i staff ar sut i reoli’r eithriadau hyn yn sensitif ac yn gyson.

Ystyriaethau tegwch

Nid oes gan bob disgybl fynediad at ffôn clyfar neu ddyfais ddigidol. Os caniateir ffonau symudol ar gyfer gweithgareddau dysgu, rhaid i ysgolion sicrhau bod opsiynau amgen ar gael fel nad oes unrhyw ddisgybl dan anfantais. Gall hyn gynnwys darparu dyfeisiau sy’n eiddo i’r ysgol neu addasu tasgau i sicrhau cynhwysiant. Dylai ysgolion gydnabod y gall cyfyngiadau adnoddau effeithio ar eu gallu i ddarparu dyfeisiau, a chynllunio yn unol â hynny. Dylid ystyried tegwch hefyd wrth osod gwaith cartref. Nid oes gan bob dysgwr fynediad at ffôn clyfar i gyrchu apiau ysgol y gellir eu defnyddio i osod gwaith cartref.

Defnydd yn ystod teithiau, tripiau ac ymweliadau

Ar deithiau neu dripiau ysgol, efallai y caniateir ffonau symudol at ddibenion diogelwch a chyfathrebu. Fodd bynnag, dylai eu defnydd barhau i fod yn destun protocolau goruchwylio a diogelu. Dylid rhoi canllawiau clir i ddisgyblion a staff ynglŷn â phryd a sut y gellir defnyddio ffonau yn ystod y gweithgareddau hyn. Mae hyn yn sicrhau bod diogelwch yn parhau i fod yn flaenoriaeth, gan atal camddefnydd ar yr un pryd. Pan fo eithriadau ar waith am resymau meddygol neu ofal, dylid rheoli’r rhain yn unol â’r gweithdrefnau y cytunwyd arnynt gan yr ysgol.

Diogelu a goruchwylio

Lle caniateir defnyddio ffonau symudol y tu allan i’r ystafell ddosbarth, anogir ysgolion i fonitro hyn yn ofalus. Dylai staff sicrhau bod disgyblion yn deall y disgwyliadau ac nad yw’r defnydd yn peryglu diogelwch, preifatrwydd neu lesiant.

Rolau a chyfrifoldebau

Mae llwyddiant polisi ffonau symudol yn dibynnu ar:

  • rannu cyfrifoldeb
  • gweithredu cyson a disgwyliadau cyson ar draws cymuned yr ysgol gyfan

Mae gan bawb ran hanfodol i’w chwarae. Mae hyn yn cynnwys staff, rhieni dysgwyr, ac arweinwyr ysgolion. Dylai pawb chwarae rhan weithredol wrth lunio’r polisi i sicrhau perchnogaeth ac ymrwymiad.

Staff

Dylid disgwyl i’r holl staff fodelu defnydd priodol o ffonau symudol bob amser. Dylai staff ddangos y safonau a ddisgwylir gan ddysgwyr. Dylid trafod hyn mewn cyfarfodydd staff fel bod y disgwyliadau’n glir. 

Dylai staff gymhwyso’r polisi yn gyson ac yn deg. Dylai staff sicrhau bod y rheolau a’r canlyniadau yn cael eu deall a’u dilyn. 

Mae gan staff hefyd gyfrifoldeb i nodi rhwystrau i weithredu a mynd i’r afael â hwy. Mae hyn yn cynnwys gwneud addasiadau rhesymol i ddysgwyr ag anghenion penodol megis:

  • gofynion gofal iechyd
  • anghenion dysgu ychwanegol
  • anghenion gofal cymdeithasol

Dylid darparu arweiniad clir a hyfforddiant i sicrhau bod staff yn:

  • deall eu rolau
  • yn gallu gorfodi’r polisi yn hyderus
  • cynnal dull gweithredu cadarnhaol a chefnogol

Dysgwyr

Rhaid i ddysgwyr ddeall y polisi a’i ddilyn trwy gydol y diwrnod ysgol. Dylai dysgwyr hefyd gymryd cyfrifoldeb am eu hymddygiad eu hunain a helpu i greu amgylchedd dysgu parchus. Drwy gynnwys dysgwyr yn y gwaith o ddatblygu ac adolygu’r polisi, byddwch yn helpu i sicrhau eu bod yn:

  • deall y rhesymeg y tu ôl iddo
  • deall sut y gallant gael dweud eu dweud
  • arfer eu hawl i gael eu cynnwys mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau

Gellid gwneud hyn trwy gynghorau ysgol neu grwpiau ffocws.

Rhieni a gofalwyr

Dylid rhoi gwybod i rieni a gofalwyr am y rhesymau dros y polisi a manteision y polisi o ran dysgu a llesiant. Dylai’r polisi fod ar gael yn hawdd ar wefan neu borth yr ysgol.

Mae rhieni a gofalwyr yn chwarae rôl bwysig drwy:

  • gefnogi’r polisi yn y cartref
  • parchu ei weithrediad yn ystod y diwrnod ysgol

Dylent wneud y canlynol:

  • osgoi cysylltu â disgyblion yn ystod gwersi ac eithrio mewn argyfwng
  • annog eu plant i gadw at ddisgwyliadau’r ysgol a’r polisi ffonau symudol

Mae cyfathrebu clir rhwng cartrefi a’r ysgol yn hanfodol.

Arweinwyr ysgolion a chyrff llywodraethu a (neu) pwyllgorau rheoli a (neu) perchnogion ysgolion

Mae arweinwyr ysgolion a chyrff llywodraethu a (neu) pwyllgorau rheoli a (neu) perchnogion ysgolion yn gyfrifol am sicrhau bod y polisi:

  • yn cael ei gyd-ddatblygu gyda mewnbwn gan yr holl randdeiliaid
  • yn cyd-fynd â fframweithiau ehangach ar ymddygiad, diogelu a llesiant

Dylent fonitro effaith y polisi. Dylent ei adolygu’n rheolaidd a dyrannu adnoddau ar gyfer:

  • hyfforddiant
  • cyfathrebu
  • unrhyw fesurau ymarferol fel datrysiadau storio diogel

Dylent hefyd ddathlu llwyddiannau. Dylent rannu tystiolaeth o ganlyniadau cadarnhaol gyda chymuned yr ysgol.

Mae angen cyfathrebu clir a rheolaidd ar bob rhanddeiliad am y polisi a’i ddisgwyliadau. Mae hyn yn helpu i gynnal dealltwriaeth ac yn cryfhau cydymffurfedd. Mae’n cefnogi diwylliant ysgol gyfan lle mae pawb yn gweithio gyda’i gilydd i hyrwyddo dysgu, diogelwch a llesiant.

Rhoi’r polisi ar waith

Rhaid gweithredu’r polisi ffonau symudol:

  • yn egwyddorol
  • yn dryloyw ac yn glir
  • o fewn fframweithiau ymddygiad ehangach yr ysgol

Dylai’r polisi amlinellu’n glir y canlyniadau mewn achos o dorri’r rheolau, cyfeirio at bwerau cyfreithiol, a phwysleisio cymesuredd a thegwch.

Cyflwynwch y polisi yn raddol trwy lansiad meddal, gan roi amser ar gyfer addysgu ac addasu cyn ei weithredu’n llawn. Cyfathrebwch y disgwyliadau yn glir. Nodwch unrhyw eithriadau, megis ar gyfer anghenion meddygol neu ofynion dysgu ychwanegol. Ar ôl ei fireinio, ceisiwch gymeradwyaeth gan y corff llywodraethu i sicrhau cysondeb ar draws yr ysgol.

Sancsiynau cymesur a chyd-destunol

Dylai’r sancsiynau ddwysáu’n briodol yn seiliedig ar natur ac amlder camddefnydd. 

Ar gyfer mân achosion o dorri rheolau neu achosion o dorri rheolau am y tro cyntaf, gall cymryd y ffôn dros dro a sgwrs gyda’r disgybl fod yn ddigonol. Mewn achosion difrifol neu fynych o dorri’r rheolau, efallai y bydd angen:

  • cadw disgyblion ar ôl
  • cymryd y ffôn oddi ar y disgybl am gyfnodau hwy
  • cyfarfod gyda’r rhieni neu ofalwyr

Gyda rhai dysgwyr sy’n delio â thrawma cymhleth, gallai cymryd ffôn symudol oddi arnynt eu sbarduno a gwaethygu eu hymddygiad, felly gall fod yn fwy priodol i ymarferwyr ymateb mewn ffordd sy’n ystyriol o drawma.

Dylai gweithdrefnau clir ar gyfer dychwelyd dyfeisiau a gafodd eu cymryd gael eu hamlinellu mewn modd tryloyw i ddisgyblion a theuluoedd. Dylai hyn gynnwys yr amserlenni casglu disgwyliedig.

Pwerau a chanllawiau cyfreithiol

Mae gan staff ysgolion awdurdod cyfreithiol i chwilio am ffonau symudol a’u cymryd oddi ar y disgyblion fel rhan o’u polisi ymddygiad.

Bydd cyfeirio’n benodol at yr awdurdod hwn yn y polisi yn rhoi sicrwydd i staff a rhieni bod y camau gorfodi yn gyfreithlon.

Chwilio, preifatrwydd ac urddas

Pan fo angen cynnal chwiliad, ee wrth ymchwilio i achos difrifol posibl o gamddefnyddio ffôn, rhaid ei gynnal yn barchus ac yn unol â phrotocolau’r ysgol ar breifatrwydd ac urddas disgyblion. Rhaid i staff ddilyn gweithdrefnau diogelu’r ysgol. Dylent gofnodi unrhyw chwiliadau neu achosion o gymryd ffonau yn briodol i gynnal diogelwch a thryloywder.

Cysondeb â’r fframwaith ymddygiad ysgol gyfan

Dylai sancsiynau am gamddefnyddio ffonau symudol gyd-fynd â’r polisi ymddygiad ehangach. Mae hyn yn sicrhau bod ymateb yr ysgol i ddigwyddiadau yn integredig ac yn gydlynol. Mae cysoni sancsiynau â’r polisi ymddygiad yn:

  • osgoi dryswch
  • hyrwyddo tegwch
  • cefnogi system ddisgyblu unedig

Drwy gofnodi digwyddiadau yn yr un modd â materion ymddygiadol eraill, gall arweinwyr fonitro tueddiadau ac ymateb yn effeithiol.

Cyfathrebu a chadw cofnodion

Rhaid cyfathrebu’r broses gyfan, o’r rhybudd cyntaf i’r sancsiwn yn y pen draw, yn glir i ddisgyblion, rhieni a staff. Dylai’r polisi ddiffinio:

  • sut mae sancsiynau’n cael eu cofnodi
  • pwy sy’n cael ei hysbysu
  • amserlenni disgwyliedig ar gyfer dychwelyd dyfeisiau a gafodd eu cymryd oddi ar y disgyblion

Mae cadw cofnodion cywir yn hwyluso tryloywder. Mae’n helpu i nodi patrymau o ran diffyg cydymffurfio, ac yn cefnogi diwylliant o ymddiriedaeth ac atebolrwydd.

Monitro, adolygu a gwerthuso

Mae polisi ffonau symudol yn gweithio orau pan mae’n hyblyg ac yn gallu ymateb i newid. Mae technoleg, ymddygiadau cymdeithasol, ac arferion addysgol yn parhau i esblygu. Anogir ysgolion i adolygu eu polisi i sicrhau ei fod yn:

  • berthnasol ac effeithiol
  • cyd-fynd ag anghenion dysgwyr a chymuned ehangach yr ysgol

Cylch adolygu

Argymhellir bod ysgolion yn adolygu’r polisi ffonau symudol yn rheolaidd. Yn ddelfrydol, dylid gwneud hyn yn flynyddol. Wrth gynnal yr adolygiad, dylai ysgolion ystyried:

  • datblygiadau mewn technoleg
  • ystyriaethau diogelu sy’n dod i’r amlwg
  • adborth gan ystod o randdeiliaid, gan gynnwys dysgwyr

Mesurau effaith

Mae gwaith gwerthuso fwyaf effeithiol pan mae’n seiliedig ar dystiolaeth. Gall ysgolion ddefnyddio’r canlynol i asesu effaith y polisi:

  • data ymddygiad, er enghraifft, dangosfwrdd data Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • cofnodion presenoldeb
  • metrigau ymgysylltu
  • arolygon llesiant
  • data sy’n gysylltiedig ag iechyd o ffynonellau cenedlaethol neu leol
  • data cyrhaeddiad

Gall hyn roi dealltwriaeth o sut mae’r polisi yn effeithio ar iechyd meddwl disgyblion a’u rhyngweithio cymdeithasol. Gall cynnwys data cyrhaeddiad helpu ysgolion i ddeall a yw’r polisi yn cefnogi canlyniadau dysgu gwell.

Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) yn bartneriaeth polisi-ymarfer-ymchwil rhwng Prifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r rhwydwaith yn darparu data gwerthfawr sy’n helpu ysgolion i sefydlu metrigau sylfaenol ar iechyd a llesiant dysgwyr a monitro newidiadau dros amser (gan gynnwys materion sy’n ymwneud yn uniongyrchol â defnydd ffonau symudol, ee defnyddio sgriniau yn y nos, cyfryngau cymdeithasol, a seiberfwlio). Mae’r rhan fwyaf o ysgolion uwchradd a gynhelir (95%) a 42% o ysgolion cynradd yn aelodau o’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion ac yn derbyn data pwrpasol trwy adroddiadau adborth bob dwy flynedd a all lywio strategaethau a chamau hyrwyddo iechyd ysgolion. 

Efallai y bydd ysgolion uwchradd hefyd yn dymuno defnyddio Dangosfwrdd Data SHRN Iechyd Cyhoeddus Cymru: Iechyd a Lles Plant Ysgolion Uwchradd, adnodd data ar-lein am ddim sy’n cyflwyno data o arolwg cenedlaethol ar iechyd a llesiant mewn ysgolion uwchradd. Gall defnyddwyr y dangosfwrdd archwilio tueddiadau mewn data ar lefel genedlaethol, bwrdd iechyd ac awdurdod lleol. Gellir dod o hyd i gyfarwyddiadau ar ddefnyddio’r dangosfwrdd ar wefan SHRN. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am fuddion aelodaeth o’r rhwydwaith ar wefan SHRN.

Adborth ac ymgysylltu â rhanddeiliaid

Mae casglu barn gan ddysgwyr, staff a rhieni yn hanfodol i gynnal ymddiriedaeth a pherthnasedd. Gellir casglu adborth trwy ystod o ddulliau, gan gynnwys:

  • arolygon
  • grwpiau ffocws
  • trafodaethau anffurfiol

Bydd y ddeialog barhaus hon yn sicrhau bod y polisi yn adlewyrchu profiadau bywyd cymuned yr ysgol. Bydd hefyd yn sicrhau bod y polisi yn addasu i anghenion wrth iddynt newid.

Dathlu llwyddiant

Dylai ysgolion gymryd camau gweithredol i rannu canlyniadau cadarnhaol wrth weithredu’r polisi mewn:

  • cylchlythyrau
  • gwasanaethau ysgol
  • postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol

Yn dibynnu ar ddull yr ysgol, gallai canlyniadau cadarnhaol gynnwys:

  • gwelliannau mewn ymddygiad
  • ymgysylltu
  • llesiant
  • defnydd rheoledig o ffonau symudol

Bydd tynnu sylw at lwyddiannau yn atgyfnerthu manteision y polisi. Bydd yn annog cefnogaeth barhaus gan yr holl randdeiliaid.

Gwelliant parhaus

Ni ddylid ystyried monitro a gwerthuso fel baich ychwanegol ond fel rhan o ddull ysgol gyfan at wella. 

Dylai ysgolion ymgorffori prosesau adolygu mewn cylchoedd presennol, megis:

  • archwiliadau ymddygiad
  • gwiriadau llesiant

Mae hyn yn sicrhau bod y polisi yn parhau i fod yn ddeinamig ac yn ymatebol, heb greu llwyth gwaith diangen.

Cefnogi defnydd diogel a chyfrifol

Ni ddylai polisi ffonau symudol gyfyngu ar ddefnydd amhriodol yn unig. Dylai hefyd hyrwyddo ymddygiadau diogel, cyfrifol a chytbwys. Mae addysgu yn allweddol i gyflawni’r cydbwysedd hwn.

Dylai ysgolion sicrhau bod addysg llythrennedd digidol a diogelwch ar-lein wedi’u hintegreiddio i’r cwricwlwm. Mae hyn yn cynnwys addysgu dysgwyr am:

  • reoli amser o flaen sgrin
  • diogelu gwybodaeth bersonol
  • deall gosodiadau preifatrwydd
  • nodi risgiau fel seiberfwlio a chamfanteisio ar-lein
  • cyfathrebu ar-lein parchus
  • effaith ymddygiad digidol ar lesiant

Dylid annog dysgwyr i:

  • fyfyrio ar eu harferion technoleg eu hunain
  • deall pwysigrwydd cael cydbwysedd rhwng gweithgareddau ar-lein ac all-lein

Gellir cefnogi hyn trwy raglenni llesiant a mentrau gofal bugeiliol.

Dylai ysgolion gyfeirio disgyblion, rhieni a staff at adnoddau dibynadwy. Mae canllawiau Hwb ar Gadw’n Ddiogel Ar-lein a Lles Digidol yn darparu cyngor ac offer ymarferol ar gyfer rheoli risgiau ar-lein. Dylid tynnu sylw at yr adnoddau hyn:

  • mewn gwasanaethau ysgol
  • mewn cylchlythyrau
  • ar wefannau ysgolion

Mae cefnogi defnydd diogel a chyfrifol yn gofyn am gydweithredu ar draws cymuned yr ysgol. Dylai staff fodelu ymddygiadau cadarnhaol. Dylai rhieni atgyfnerthu negeseuon yn y cartref, a dylid annog disgyblion i gymryd perchnogaeth o’u dewisiadau digidol.

Cyfeiriadau polisi

Dylai polisi ffonau symudol gyfeirio at ganllawiau perthnasol Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn sicrhau eglurder a chysondeb â gofynion statudol. Gallai hyn gynnwys arweiniad ar y canlynol:

Bydd cyfeirio at adnoddau yn helpu staff a rhieni i ddeall y cyd-destun cyfreithiol ac addysgol. Bydd yn atgyfnerthu hygrededd y polisi.