Datblygu strategaeth ymgysylltu
RIWSG 06/19 - mae’r papurau yma wedi eu paratoi ar gyfer trafodaethau yn unig i hysbysu penderfyniadau’r Cabinet ac nid ydynt yn cynrychioli polisi Llywodraeth Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pwrpas
Gofynnir i’r Grŵp Llywio gynnig eu safbwyntiau ar:
- yr amcanion a’r egwyddorion ar gyfer y strategaeth ymgysylltu
- y rhanddeiliaid allweddol y dylid ymgysylltu â hwy
- yr opsiynau ar gyfer targedu grwpiau anoddach eu cyrraedd
Cyflwyniad
1. Mae’r papur hwn yn cyflwyno syniadau a chyfleoedd cychwynnol ar gyfer ymgysylltu’n allanol er mwyn cyflawni ymrwymiadau i gynhyrchu dull buddsoddi rhanbarthol newydd ar y cyd â rhanddeiliaid a fydd yn disodli Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
2. Drwy ein gwaith ymgysylltu hyd yma, mae’n amlwg bod consensws cryf dros atgyfnerthu gwaith partneriaeth wrth ddatblygu a chyflenwi polisïau a fframweithiau newydd, ac i bartneriaeth o’r fath fod yn gwbl gynhwysol a chynrychioliadol. Mae hyn yn ofyniad hefyd yn y ffyrdd o weithio a ddisgrifiwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
3. Bydd y Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol Cymru yn ddull strategol a chenedlaethol lefel uchel ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid o’r sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector, ond a fyddai’n galw am ddulliau ymgysylltu a chynhyrchu ar y cyd cyflenwol er mwyn cyflawni cyfranogiad ystyrlon yr amrediad llawn o bartneriaid a chynulleidfaoedd.
4. Ar y lefel ymgysylltiad rhanbarthol bydd hyn yn cael ei arwain gan y Cynllun Gweithredu Economaidd a gwaith cysylltiedig y Prif Swyddogion Rhanbarthol a’r timau rhanbarthol. Bydd dulliau ymgysylltu hefyd a fydd wedi’u cysylltu â’r Cynllun Cyflogadwyedd a pholisi cyffredinol Llywodraeth Cymru (e.e. adfywio, Tasglu’r Cymoedd ac yn y blaen).
5. Bydd angen ystyried yr amserlenni ymgysylltu a phwysigrwydd mesurau allweddol o ran cerrig milltir penodol ac arwyddocaol; er enghraifft, gweithgareddau’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi (EAP), gwaith y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) (e.e. ymweliadau astudio, seminarau) ac ymgynghoriad ffurfiol a digwyddiadau cefnogi.
6. Gofynnir i aelodau drafod safbwyntiau newydd ar gyfer ymgysylltu a chynhyrchu ar y cyd yn llawn a llwyddiannus, yn arbennig sut y gellir cynnwys y grwpiau hynny sy’n ymgysylltu llai yn draddodiadol, er enghraifft y sector preifat, pobl ifanc a dinasyddion/cymunedau yn y broses. Mae angen i’r strategaeth ymgysylltu allu ymateb mewn ffordd ddynamig i syniadau a chyfleoedd newydd wrth iddynt godi. Nodir y syniadau cychwynnol ar gyfer yr amcanion a’r dulliau ymgysylltu allweddol isod. Bydd trafodaethau yn hysbysu strategaeth gynhwysfawr ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid i’w chyflwyno mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Amcanion ymgysylltu allanol
- Ymgysylltu a hysbysu rhanddeiliaid, gyda’r nod o ddefnyddio eu harbenigedd a’u gwybodaeth i gynhyrchu fframwaith buddsoddi rhanbarthol newydd ar y cyd yng Nghymru
- Sicrhau consensws cryf o ran dyfodol buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru, er mwyn cyflwyno sefyllfa unedig yng Nghymru wrth i ni gynnal trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar gyllid a threfniadau newydd
- Codi ymwybyddiaeth ymhlith rhanddeiliaid o effaith newidiadau ar ddulliau buddsoddi rhanbarthol, gan gynnwys rheoli’r broses o drosglwyddo i ddull gweithredu newydd a chyfleoedd newydd yn cael eu creu
- Sicrhau bod rhyngweithiadau ymgysylltu wedi’u lleoli’n ddaearyddol o amgylch y rhanbarth er mwyn galluogi cyrhaeddiad pellach a chyfle i ymgysylltu
- Ceisio defnyddio nifer o wahanol fathau o ddulliau ymgysylltu er mwyn sicrhau cyrhaeddiad mor eang â phosibl, gan gynnwys busnesau, pobl ifanc a dinasyddion
- Cynnal ymgynghoriad (a digwyddiadau) cyhoeddus ffurfiol yn ystod 2020 ar fframwaith polisi buddsoddi rhanbarthol, gan sicrhau bod cynigion yn adlewyrchu trafodaethau gyda rhanddeiliaid, canfyddiadau Pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru a thrafodaethau’r Cabinet
- Darparu eglurder ar yr hyn y gellir a’r hyn na ellir ei wneud
- Ymgysylltu gyda rhanddeiliaid yr ystyrir eu bod yn wynebu’r risg fwyaf yn sgîl newidiadau i drefniadau cyllido yn y dyfodol, a hynny cyn gynted â phosibl
- Darparu adborth a gwybodaeth i randdeiliaid trwy gydol y broses ymgysylltu
Rhanddeiliaid allanol allweddol
- Mae Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol i Gymru ac unrhyw is-grwpiau a ffrydiau gwaith cysylltiedig wedi’u sefydlu (y sector preifat, cyhoeddus a’r trydydd sector, AU/AB, undebau masnach, llywodraeth leol, cyrff cydraddoldeb)
- Grwpiau Rhanddeiliaid Gweinidogol (e.e. y Grŵp Cynghori ar Ewrop, Tasglu’r Cymoedd; Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector; Grŵp Strategaeth Partneriaeth Gymdeithasol)
- Grwpiau partneriaeth eraill (e.e. Partneriaethau Rhanbarthol, Rhanbarthau Bargen Ddinesig, NWEAB ac yn y blaen)
- Pwyllgorau’r Cynulliad a Phwyllgorau Seneddol (e.e. Y Pwyllgor Cyllid a Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol)
- OECD
- Aelodau’r Cynulliad ac AS
- Gweinidogion ac adrannau San Steffan (yn bennaf DexEU; BEIS; Swyddfa Cymru ac adrannau meysydd blaenoriaeth)
- Cymheiriaid datganoledig
- Ymchwil / melinau trafod
- Y wasg / cyfryngau
- Busnesau, pobl ifanc, dinasyddion/cymunedau
Dulliau a chyfleoedd i ymgysylltu â rhanddeiliaid
7. Mae syniadau cychwynnol ar y math/lefel o ymgysylltiad â rhanddeiliaid wedi’u nodi yn Niagram 1 isod, ac mae’r rhain wedi’u hategu gan y trosolwg canlynol o’r pwyntiau allweddol i’w hystyried:
Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol
8. Fel y nodwyd yn y Datganiad Llafar (16 Hyd 2018), bydd y Grŵp hwn yn randdeiliad allanol strategol ar gyfer cynhyrchu fframwaith buddsoddi rhanbarthol ar sail tystiolaeth ar y cyd yng Nghymru.
9. Bydd yn tynnu ar wybodaeth a phrofiad helaeth ein busnesau, awdurdodau lleol, ein sefydliadau academaidd, y trydydd sector a’r sector cyhoeddus ehangach ar hyd a lled Cymru a bydd yn chwarae rôl bwysig wrth drafod materion strategol a syniadau newydd am gyfeiriad polisi a dulliau cyflwyno, a hysbysu’r cyngor a roddir i’r Cabinet. Bydd y Grŵp hefyd yn ein helpu i lunio ein hymgysylltiad ehangach gyda’n partneriaid ar draws Cymru gyfan a bydd ganddo rôl bwysig yn hysbysu’r cyrff a’r sectorau mae’n eu cynrychioli ynghylch datblygiadau a chyfleoedd cynhyrchu ar y cyd ar gyfer ymgysylltu.
10. Un ystyriaeth gynnar bwysig ar gyfer y Grŵp hwn fydd a fydd angen sefydlu is-grwpiau cynhyrchu ar y cyd er mwyn helpu i hysbysu syniadau a safbwyntiau ar faterion a phrosesau penodol (er enghraifft, y fframwaith polisi, dulliau gweithredu lleol, monitro a gwerthuso, ymgysylltu). Yn ogystal â’r adborth gan y Grŵp, gallai fod yn bosibl ystyried y cynigion ar ffurfio grwpiau cynhyrchu ar y cyd, y mathau o grwpiau a’u rôl yng nghyfarfod nesaf y Grŵp hwn.
Grŵp Cynghori ar Ewrop
Pwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol
Cyngor Economaidd Cymru
Bwrdd Partneriaeth y Trydydd Sector
Grwpiau eraill (e.e. Tasglu’r Cymoedd)
Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol
Partneriaethau Rhanbarthol / Byrddau Rhanbarthol
Grwpiau cynhyrchu ar y cyd (e.e. fframwaith polisi, datganoli, dulliau lleol, monitro a gwerthuso)
Ymgysylltiad dinasyddion (e.e. panel / rheithgor dinasyddion)
Ymgysylltiad ieuenctid (e.e. cyngor ieuenctid)
Sector preifat
Ymgysylltiad OECD (teithiau astudio, holiadur, gweithdai, seminarau)
Ymgynghoriad a digwyddiadau ffurfiol (2020)
Ad-hoc (e.e. ymchwil, academaidd, datganiadau dylunio a mynediad)
Ymgysylltiad rheolaidd ar gerrig milltir allweddol
Ymgysylltiad lefel strategol rheolaidd (bob 2-3 mis)
Ymgysylltiad rheolaidd wedi’i deilwra/pwnc penodol
Ymgysylltiad ar bwyntiau allweddol mewn datblygiad
11. I gefnogi rôl cynhyrchu ar y cyd y Grŵp, mae llwyfan digidol yn cael ei ystyried er mwyn i aelodau’r grŵp gael mynediad at bapurau a chyflwyniadau trafod a thematig. Rydym hefyd yn bwriadu cyhoeddi fersiynau cryno o bapurau a chamau gweithredu ar dudalennau gwe Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod rhaglen waith y Grŵp hwn yn agored.
Prosiect OECD
12. Dylai cyfranogiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) gyfrannu at berthnasoedd gwell gyda phartneriaid ar lefelau rhanbarthol a lleol, wrth i ni geisio dysgu o enghreifftiau o bolisi ‘arfer gorau’ eraill, gan gynnwys yn rhyngwladol.
13. Yn ystod y prosiect dwy flynedd hwn, bydd cyfleoedd sylweddol i ymgysylltu â phartneriaid mewnol ac allanol; er enghraifft, byddwn yn gofyn am fewnbwn gan bartneriaid a fydd yn hysbysu gwaith dadansoddi OECD, yn ogystal â chynnwys partneriaid (llunwyr polisïau, academyddion ac ymchwilwyr, cynrychiolwyr y gymuned fusnes, sefydliadau ariannol, cyrff anllywodraethol) yn nheithiau a gweithdai astudio OECD. Cynhelir seminarau hefyd gyda phartneriaid, o dan arweiniad OECD, er mwyn profi’r argymhellion rhagarweiniol.
14. Byddwn yn paratoi gwybodaeth strategol yn rheolaidd ar gynnydd y gwaith hwn, gan gynnwys hysbysiadau i’r wasg a datganiadau Gweinidogol, a diweddariadau ar y we / cyfryngau cymdeithasol.
Prif Swyddogion Rhanbarthol a Phartneriaethau / Byrddau Rhanbarthol
15. Dylai llywodraeth leol a phartneriaid rhanbarthol eraill fod yn cyfrannu’n rhagweithiol yn y broses o gynllunio polisi rhanbarthol newydd ar y cyd i Gymru a bydd gwaith y Partneriaethau Rhanbarthol, sydd eisoes yn datblygu cynlluniau ar sail lleoliadau ar gyfer eu hardaloedd, yn hollbwysig ar gyfer cyflawni hyn.
16. Rydym yn cynnig defnyddio’r trefniadau ymgysylltu rhanbarthol presennol pan fydd hynny’n bosibl, o dan arweiniad Prif Swyddogion Rhanbarthol Llywodraeth Cymru (a’u timau rhanbarthol). Bydd hyn yn cynnwys ymgysylltu’n rheolaidd gyda phartneriaethau rhanbarthol (e..e Rhanbarthau Bargen Ddinesig, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru). Bydd y dull hwn yn helpu i sicrhau’n benodol bod y gweithgarwch ymgysylltu sy’n gysylltiedig ag agenda rhanbarthol a model buddsoddi rhanbarthol yn y dyfodol yn weithgarwch cydgysylltiedig, a dylai hwyluso ymgysylltiad cryfach gyda rhanddeiliaid ar lefelau rhanbarthol a lleol.
Byrddau / grwpiau / Pwyllgorau eraill
17. Byddwn hefyd yn ceisio ymgysylltu’n rheolaidd gyda grwpiau eraill sy’n cynrychioli materion gwleidyddol, sectoraidd a thematig. Mae Pwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Pwyllgorau Cyllid a Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn benodol), y Grŵp Cynghori ar Ewrop, Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, Tasglu’r Cymoedd a’r Grŵp Strategaeth Partneriaid Cymdeithasol yn rhai enghreifftiau ohonynt. Bydd ymgysylltu â grwpiau eraill hefyd yn cael ei ystyried er mwyn mynd i’r afael ag adborth cynnar gan randdeiliaid a dylid ystyried blaenoriaethau eraill hefyd (e.e. tai, iechyd a gofal cymdeithasol) ar gyfer buddsoddiad rhanbarthol ac y dylid astudio profiad y model LEADER ar gyfer datblygiadau lleol y tu hwnt i ardaloedd gwledig yn unig.
18. Rydym hefyd yn awyddus i gymryd rhan mewn digwyddiadau, gweithdai / seminarau sy’n cael eu trefnu gan sectorau a sefydliadau gwahanol ar hyd a lled Cymru. Byddai hyn yn cyd-fynd â’n hymgysylltiad â rhanddeiliaid ar ddechrau 2018 ar egwyddorion arweiniol ein papur ar Brexit, gyda Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru yn mynychu digwyddiadau a seminarau wedi’u trefnu gan CLlLC, WCVA, Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, Rhwydwaith Menter Sir Benfro ac eraill. Bydd yn bwysig i ni sicrhau ein bod yn alinio ein gweithgarwch ymgysylltu gyda cherrig milltir a datblygiadau allweddol sy’n berthnasol i’r rhaglen waith.
19. Bydd nifer o’r dulliau gweithredu y byddwn yn eu cynhyrchu ar y cyd â rhanddeiliad ar lefel system, sy’n galw am eu harbenigedd a’u gwybodaeth am bolisïau buddsoddi rhanbarthol a dulliau cyflenwi. Er hynny, rydym yn cydnabod bod angen i fusnesau, pobl ifanc a dinasyddion ymgysylltu mwy yn y gwaith o ddatblygu dull buddsoddi rhanbarthol newydd, oherwydd mae’n bwysig bod ein tirlun buddsoddi yng Nghymru yn y dyfodol yn cael ei lunio a’i hysbysu gan y rhai y bwriedir iddynt elwa ohono.
20. Mae’n bosibl crynhoi’r sylwadau a’r adborth a dderbyniwyd gan bob un o’r grwpiau canlynol mewn adroddiadau amrywiol y gall y Grŵp Llywio hwn eu defnyddio a chynghori Gweinidogion ar yr effaith bosibl a’r ymateb i’r dulliau buddsoddi rhanbarthol newydd a’r argymhellion yn yr adroddiad ymgynghori ffurfiol.
Targedu rhanddeiliad anoddach eu cyrraedd
Busnesau
21. Yn hanesyddol, mae busnesau wedi elwa ar raglenni cyllido'r Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd yn anuniongyrchol fel buddiolwyr prosiectau’r Undeb Ewropeaidd (e.e. Busnes Cymru, SMART Cymru, Cronfa Fusnes Cymru, Peirianneg Dylunio Uwch, y Gronfa Tyfu Busnesau. Mae’r papurau yma wedi eu paratoi ar gyfer trafodaethau yn unig i hysbysu penderfyniadau’r Cabinet ac nid ydynt yn cynrychioli polisi Llywodraeth Cymru Tudalen 6 o 8 Cymdeithasol) wedi’u harwain gan y cyhoedd, AU neu’r trydydd sector, yn hytrach na noddwyr arweiniol prosiectau. O ganlyniad, y dull a ddefnyddiwyd gennym i ymgysylltu â busnesau yn ystod camau datblygu a chyflenwi rhaglenni’r UE oedd drwy’r noddwyr arweiniol eu hunain yn ogystal â thrwy sefydliadau / cyrff cynrychioliadol (e.e. CBI Cymru a’r Ffederasiwn Busnesau Bach, Canolfan Cydweithredol Cymru) fel aelodau o grwpiau Gweinidogol a Phwyllgor Monitro Rhaglenni.
22. Bydd gan y Grŵp hwn, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o CBI Cymru, y Ffederasiwn Busnesau Bach a’r trydydd sector rôl bwysig yn sicrhau bod buddiannau busnesau, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, yn cael eu hadlewyrchu’n llawn yn ein fframwaith buddsoddi rhanbarthol newydd. Gallai grwpiau cynhyrchu ar y cyd, a bydd sefydlu’r rhain yn amodol ar ystyriaeth a chytundeb y Grŵp hwn, yn gallu darparu’r cyfle i fusnesau gyfranogi yn ein rhaglen waith, yn ogystal â gwaith OECD ac agenda rhanbarthau EAP sy’n cael eu datblygu gan y Prif Swyddogion Rhanbarthol a’u timau. Fel y nodwyd yn gynharach, bydd grwpiau megis y Grŵp Strategaeth Partneriaid Cymdeithasol Gweinidogol, sy’n cwrdd yn fisol ac sy’n cynrychioli cynrychiolwyr sy’n cynnwys TUC Cymru, CBI, EEF ac yn y blaen, yn sianelau ymgysylltu pwysig gyda’r sector hwn. Cynigir hefyd y bydd digwyddiadau datblygu yn ategu’r mesurau hyn ar gyfnodau allweddol, er enghraifft trefnir brecwastau Busnes i gasglu syniadau a safbwyntiau.
Pobl Ifanc
23. Mae pobl ifanc, fel busnesau, yn elwa’n anuniongyrchol ar raglenni cyllid yr UEfel cyfranogwyr prosiectau (e.e. Prentisiaethau, Hyfforddiaethau, STEM Cymru,Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth).
24. Er mwyn casglu safbwyntiau gan bobl ifanc ar ddulliau buddsoddi rhanbarthol yny dyfodol, byddwn yn cynnal trafodaethau gyda swyddfa Comisiynydd PlantCymru, er mwyn nodi cyfleoedd posibl i gyfranogi mewn digwyddiadau. Gallai Senedd Ieuenctid Cymru, a sefydlwyd yn ddiweddar, sy’n cynnwys 60 o aelodau 11-18oed, fod yn llwyfan pwysig ar gyfer ymgysylltu â phobl ifanc ar hyd a lled Cymru.Yn yr un modd, byddwn yn cysylltu â chyrff AU ac AB ynglŷn â chyfleoedd posibli gyfranogi mewn digwyddiadau neu seminarau campws, yn ogystal â noddwyrprosiectau’r UE sy’n cefnogi pobl ifanc.
Dinasyddion a chymunedau
25. Er mwyn sicrhau ymgysylltiad gwirioneddol gyda’r cyhoedd, a defnyddioarbenigedd cwmnïau trefnu digwyddiadau/casglu adborth gan ddinasyddion,gellir trefnu nifer o reithgorau neu baneli dinasyddion untro ar hyd a lled Cymru.Mae awdurdodau lleol yn cynnal paneli dinasyddion yn rheolaidd ar eurhwymedigaethau cyflenwi gwasanaethau lleol, a gallai’r rhain brofi i fod yn ddullcost effeithiol a defnyddiol i ymgysylltu â’r cyhoedd.
Sianelau ymgysylltu eraill
26. Cynhelir mesurau ymgysylltu cyffredinol drwy’r we, y cyfryngau/y wasg, a chymdeithasol / digidol fel rhan o’n hymrwymiad i raglen waith agored. Er enghraifft, cyhoeddir hysbysiadau a datganiadau i’r wasg Gweinidogol er mwyn dynodi datblygiadau a cherrig milltir arwyddocaol, gan gynnwys gwaith OECD.
27. Mae tudalen we allanol ar Ddyfodol Polisi Rhanbarthol yn dilyn Brexit eisoes yn bodoli ar dudalennau Llywodraeth Cymru, ond bydd yn cael ei datblygu ymhellach wrth i waith gael ei wneud, gan gynnwys cyhoeddi papurau crynodeb y Grŵp hwn, dogfennau ymarferion ymgynghori ffurfiol a gwybodaeth ddefnyddiol arall.
28. Bydd gwybodaeth am ddatblygiadau allweddol yn parhau i gael ei chyflwyno drwy e-gylchlythyr WEFO (cronfeydd Ewrop yng Nghymru) a Twitter. Er mwyn sicrhau gwaith traws-lywodraethol a chyrraedd cynulleidfaoedd ehangach, byddwn hefyd yn alinio gweithgarwch ymgysylltu a chyfathrebu gydag adrannau eraill y llywodraeth; er enghraifft, gwybodaeth sy’n gysylltiedig â’r EAP (e.e. gwefan Busnes Cymru), datblygu Gwledig (e.e. e-gylchlythyrau Rhwydwaith Gwledig Gwlad a Chymru), a Brexit (e.e. gwefan Paratoi Cymru Llywodraeth Cymru).
