Neidio i'r prif gynnwy

Ymrwymodd Gweinidogion Cymru i sefydlu datblygwr ynni cyhoeddus.

Nod y cwmni yw cynyddu'r broses o ddarparu ynni adnewyddadwy a chadw mwy o'r buddion yng Nghymru. 

Rydym wedi gwerthuso'r potensial ar gyfer ynni adnewyddadwy ar dir cyhoeddus. Mae gan Ystad Goed Llywodraeth Cymru botensial cryf am ffermydd gwynt newydd. Dyma un o sawl nod, gan gynnwys gwella bioamrywiaeth a phlannu rhagor o goed. 

Ym mis Hydref 2022, cyhoeddodd y Gweinidog y byddwn yn sefydlu'r datblygwr erbyn Ebrill 2024. Llywodraeth Cymru fydd yn berchen ar y datblygwr yn gyfangwbl. Bydd yn datblygu prosiectau gwynt ar raddfa fawr sy'n diwallu anghenion pŵer Cymru. Daw'r incwm yn ôl i Lywodraeth Cymru i'n helpu i gyflawni yng Nghymru.  Rydym wedi sefydlu tîm rhaglenni bach i sefydlu'r datblygwr ynni cyhoeddus. 

Mae ffermydd gwynt a godir gan ddatblygwyr masnachol ar yr ystad goed yn darparu arian cymunedol.  Mae'r rhain wedi gwneud gwahaniaeth mawr yn ystod Covid a'r argyfwng costau byw. Rydym wrthi'n gweithio allan safleoedd prosiectau gwynt newydd ar dir cyhoeddus. Byddwn ni'n gweithio gyda chymunedau a chynghorau ger prosiectau cyn i ni gyhoeddi lleoliadau. Byddwn yn gweithio gyda hwy i gytuno sut bydd rhywfaint o'r incwm yn ariannu blaenoriaethau lleol.  

Mae Bwrdd yn llywio sut rydym yn cyflawni'r prosiect hwn. Bydd yn cynrychioli ystod o safbwyntiau wrth i ni sefydlu'r cwmni. Bydd y Bwrdd yn ein herio i sicrhau bod y datblygwr yn gweithredu er budd pobl Cymru.

Byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth fanylach wrth i ni weithio tuag at lansio'r cwmni ym mis Ebrill 2024.