Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cyflwyno Parth Atal Ffliw Adar Cymru Gyfan i leihau'r risg y gallai dofednod ac adar caeth eraill gael eu heintio

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y Parth Atal yn dod i rym o 00:01 ar 25 Ionawr 2018 ymlaen.

Ym mis Ionawr, mae tri achos o Ffliw'r Adar Pathogeni Iawn H5N6 wedi'u darganfod mewn adar gwyllt ac mae Defra, fel ymateb i hynny, wedi cyhoeddi Parth Atal yn Lloegr. 

Mae asesiad risg wedi'i gynnal gan filfeddygon ar gyfer Cymru a Lloegr sy'n dangos bod lefel y risg mewn adar gwyllt wedi cynyddu o Ganolig i Uchel. Mae'r risg y  caiff ei drosglwyddo'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol i ddofednod wedi codi hefyd, o Isel i Ganolig.  Fodd bynnag, mae'r risg i ddofednod yn dibynnu ar lefel y mesurau bioddiogelwch ar safleoedd unigol.

Er nad oes achos o Ffliw'r Adar wedi'i ddarganfod yng Nghymru hyd yn hyn, fel ymateb rhagofalus i'r lefel risg uwch, mae Parth Atal Fliw Adar wedi'i gyflwyno ar gyfer Cymru gyfan. 

Bydd y parth atal yn golygu y bydd gofyn i bawb sy'n cadw dofednod ac adar caeth eraill, ni waeth sut y maent yn cael eu cadw, gymryd camau priodol ac ymarferol, gan gynnwys:

  • sicrhau nad yw'r ardaloedd lle mae'r adar yn cael eu cadw yn ddeniadol i adar gwyllt, er enghraifft, drwy osod netin dros byllau dŵr, a thrwy gael gwared ar ffynonellau bwyd a allai ddenu adar gwyllt
  • bwydo a dyfrio'ch adar mewn ardal gaeedig rhag denu adar gwyllt
  • sicrhau bod cyn lleied o fynd a dod â phosibl o fannau caeedig lle cedwir adar
  • glanhau a diheintio esgidiau a chadw mannau lle mae adar yn byw yn lân ac yn daclus
  • os yw'r haint wedi cyrraedd eisoes, ei leihau drwy lanhau a diheintio ardaloedd concrit, a thrwy godi ffensys o amgylch ardaloedd gwlyb neu gorsiog.  

Os yw pobl yn cadw mwy na 500 o adar, bydd gofyn iddyn nhw gymryd camau bioddiogelwch ychwanegol hefyd, gan gynnwys cyfyngu ar fynediad i bobl nad yw’n hanfodol eu bod yn dod i gysylltiad â’r adar, newid dillad neu esgidiau cyn mynd i fannau caeedig lle cedwir adar, a glanhau a diheintio cerbydau.

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:  

"Fel mesur rhagofalus sy'n ymateb i'r lefel risg uwch ac i leihau'r risg  o heintio, rwy'n cyhoeddi Parth Atal Ffliw Adar ar gyfer Cymru gyfan. 

“Er nad ydym wedi canfod unrhyw achosion o Ffliw Adar hyd yma yn 2018, rwyf o'r farn bod y Parth Atal presennol hwn a'r gofyn i gymryd camau bioddiogelwch ychwanegol yn ffordd gymesur o ymateb i lefel y risg yng Nghymru.  Mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu i ddiogelu'n diwydiant dofednod a’n masnach ryngwladol, a hefyd yr economi ehangach yng Nghymru.”

Meddai'r Prif Swyddog Milfeddygol, Christianne Glossop:  

“Bydd angen i bawb sy'n cadw dofednod ac adar caeth eraill gydymffurfio â gofynion y Parth Atal Ffliw Adar.  Rhaid i geidwaid gadw eu llygaid ar agor am arwyddion y clefyd a chynnal y lefel uchaf o fioddiogelwch. 

"Rwy’n parhau i annog pawb sy'n cadw dofednod, hyd yn oed y rheini sydd â llai na 50 o adar, i roi eu manylion i’r Gofrestr Dofednod. Bydd hynny'n sicrhau y gellir cysylltu â nhw ar unwaith, drwy'r e-bost neu neges destun, os ceir achosion o ffliw ada, gan olygu y byddan nhw'n gallu diogelu eu haid yn gyflym.”

Mae Ffliw Adar yn glefyd hysbysadwy, a dylai pobl roi gwybod i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar unwaith os oes ganddyn nhw unrhyw amheuon. 

Mae gwybodaeth am ofynion y Parth Atal Ffliw Adar, canllawiau a gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf ar wefan Llywodraeth Cymru.