Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad ar sut y gall Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru gydweithio i gyflawni dros Gymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth i Gymru baratoi am ddyfodol cryfach tu hwnt i’r pandemig coronafeirws; wrth ymateb i argyfwng yr hinsawdd ac i ganlyniadau parhaus ymadael â’r Undeb Ewropeaidd; a’r bygythiad i ddatganoli mae’n bwysicach nac erioed bod pleidiau gwleidyddol yn cydweithio ar ran pobl Cymru pryd bynnag y bydd ganddynt ddiddordebau cyffredin.

Cynhaliwyd trafodaethau dechreuol adeiladol rhwng Llywodraeth Llafur Cymru a Plaid Cymru i edrych ar ffyrdd o adeiladu cenedl fwy cyfartal, cyfiawn a democrataidd i bawb.

Mae’r trafodaethau hyn yn parhau i archwilio cytundeb cydweithredu uchelgeisiol i’w seilio ar nifer o flaenoriaethau polisi penodol, yn ogystal â threfniadau llywodraethiant lle gall Lywodraeth Llafur Cymru a Plaid Cymru weithio gyda’i gilydd i gyflawni dros Gymru.