Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae diabetes yn amharu’n sylweddol ar y gymdeithas oherwydd nifer y bobl y mae’n effeithio arnynt, yr effaith bersonol y mae rheoli’r cyflwr yn ei chael, a’r costau gofal iechyd sy’n gysylltiedig â thrin y cyflwr a’i gymhlethdodau difrifol.

Diabetes math 2 yw tua 90% o’r achosion, ond mae mathau eraill o ddiabetes i’w cael hefyd, sef diabetes math 1, diabetes yn ystod beichiogrwydd a rhai mathau mwy prin. Gwyddom fod gan dros 200,000 o bobl yng Nghymru, tua 7% o’r boblogaeth, ryw fath o ddiabetes (gan gynnwys tua 16,000 o achosion o ddiabetes math 1). Amcangyfrifir bod 61,000 yn rhagor o bobl heb gael diagnosis o ddiabetes math 2 eto a chredir bod 350,000 o bobl mewn perygl mawr o ddatblygu diabetes math 2. Mae nifer yr achosion o ddiabetes ar gynnydd hefyd, ac mae disgwyl i 10% o’r boblogaeth fod â diabetes erbyn 2035. 

Mae’r dasg o reoli diabetes yn cael effaith sylweddol ar fywydau’r rhan fwyaf o bobl. Fel arfer, bydd angen i bobl sydd â diabetes math 2 wneud newidiadau sylweddol a hirdymor i’w ffordd o fyw. Efallai y bydd gofyn i rai gymryd meddyginiaeth yn yr hirdymor er mwyn arafu cynnydd y cyflwr, ac yn y pen draw efallai y bydd angen i rai chwistrellu inswlin. Bydd angen i bobl sydd â diabetes math 1 chwistrellu inswlin ar hyd eu hoes a thalu sylw gofalus bob dydd i reoli lefel y glwcos yn eu gwaed. Gall diabetes nad yw’n cael ei reoli’n dda arwain at gymhlethdodau tymor byr difrifol, fel argyfyngau diabetig, a niwed hirdymor i’r galon, yr arennau, y llygaid a’r traed. Gall diabetes gael effaith sylweddol ar lesiant seicolegol ac ar allu person i reoli ei ddiabetes. Yn ogystal â’r effeithiau personol a chymdeithasol hyn, mae hefyd yn faich gofal iechyd mawr iawn ar y GIG, ac amcangyfrifir ei fod yn cynrychioli tua 10% o’r gost o ddarparu gwasanaethau’r GIG.

Nid yw dulliau atal yn yr ystyr ehangach, megis dulliau sy’n galluogi ffordd iachach o fyw, yn dod o fewn cwmpas y datganiad hwn ond mae polisïau eraill gan Lywodraeth Cymru, megis y dull o fynd i’r afael â gordewdra yn Pwysau Iach: Cymru Iach, yn eu cwmpasu. Fodd bynnag, mae dulliau atal yn yr ystyr benodol yn dod o fewn cwmpas y datganiad hwn. Mae modd atal diabetes math 2, hyd yn oed ymhlith y rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf, ac mae tystiolaeth gynyddol i awgrymu y gellir helpu rhai pobl sydd wedi datblygu diabetes math 2 i wella dros dro. Er nad oes modd atal diabetes math 1, gellir lleihau faint mae’n tarfu ac yn effeithio ar fywyd bob dydd a’r cymhlethdodau difrifol a all godi yn sgil ei reoli’n wael. Felly, mae gofal diabetes da yn hanfodol er mwyn arafu cynnydd diabetes, atal argyfyngau diabetig, ac osgoi cymhlethdodau difrifol megis clefyd y galon a strôc. 

Mae gwella gwybodaeth pobl sydd â diabetes am eu cyflwr ar hyd eu hoes, a’u grymuso, yn ganolog i’r gwaith o reoli clefyd yn dda. Mae hyn yn berthnasol hefyd i rieni, teuluoedd a gofalwyr. Wrth roi gofal iechyd dylid rhoi’r un pwyslais ar gefnogi pobl i reoli eu cyflwr eu hunain. Y nod yn y pen draw yw helpu pobl sy’n byw â diabetes i fyw bywydau iach a hapus. Cyflawnwyd llawer o dan Gynlluniau Cyflawni ar gyfer Diabetes 2013 a 2016 a bydd y cam nesaf yn y broses o ddatblygu’r gwasanaeth yn adeiladu ar yr arbenigedd, yr ymgysylltu a’r offer a ddatblygwyd er mwyn grymuso pobl sy’n byw â diabetes a chefnogi clinigwyr i ddarparu gofal diabetes rhagorol yn y blynyddoedd i ddod. Rhai o’r prif feysydd ffocws fydd rhaglenni addysg a chymorth, llwybrau iechyd a gofal sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a’r defnydd o ddata am amrywiadau o ran darparu gwasanaethau a chanlyniadau i lywio penderfyniadau gwasanaethau.

Mae cyflwyno’r datganiad ansawdd hwn yn rhan o’r dasg o wella’r ffocws ar ansawdd darparu gofal iechyd a bydd yn rhan annatod o’r trefniadau cynllunio ac atebolrwydd yn y dyfodol ar gyfer y GIG yng Nghymru. Mae’r Datganiad Ansawdd yn nodi disgwyliadau allweddol o ran cynllunio ac atebolrwydd wrth gynllunio gwasanaethau, a fydd yn cael eu hwyluso gan gefnogaeth a chydweithio cenedlaethol. Bydd y cydweithio hwn yn parhau ar lefel genedlaethol drwy Rhwydwaith Clinigol newydd ar gyfer Diabetes fel rhan o Weithrediaeth y GIG. Bydd y tîm arwain cenedlaethol newydd ar gyfer diabetes yn cefnogi Gweithrediaeth y GIG i gyflawni ei swyddogaeth drwy ddarparu swyddogaeth sicrhau ansawdd.

Bydd ansawdd gofal diabetes yn cael ei fonitro drwy’r metrigau ar gyfer diabetes yn Fframwaith Perfformiad y GIG, drwy ddangosfwrdd diabetes Rhaglen Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth y GIG, a thrwy’r Archwiliad Diabetes Cenedlaethol a'r Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol.

Priodoleddau ansawdd

Teg

  1. Bydd y tîm arwain cenedlaethol yn dod â chlinigwyr arweiniol byrddau iechyd o’r sector gofal sylfaenol, y sector gofal cymunedol a’r sector gofal eilaidd ynghyd, yn ogystal â rheolwyr gwasanaethau, y trydydd sector, a phobl sydd â diabetes er mwyn datblygu adnoddau cenedlaethol sy’n cefnogi dull mwy cyson o ddarparu gofal diabetes a gofal o ansawdd uwch.
  2. Bydd y tîm arwain cenedlaethol yn defnyddio darluniau sy’n seiliedig ar ddata o archwiliadau clinigol, adolygiadau gan gymheiriaid ac atlasau amrywiadau i ddangos amrywiadau direswm i dimau lleol ac i annog a chefnogi gweithgarwch gwella ansawdd.
  3. Bydd y tîm arwain cenedlaethol yn cefnogi defnydd teg a chyfartal o dechnoleg gynorthwyol (technoleg pympiau yn benodol); cefnogir hyn, pan fo’n briodol, gan drefniadau caffael cenedlaethol, pecynnau hyfforddi, a gwaith agos â chyrff gwerthuso cenedlaethol.
  4. Mae timau clinigol y bwrdd iechyd yn rhoi sylw arbennig i addasu modelau gwasanaeth a theilwra dulliau er mwyn gwella’r gwaith o ymgysylltu â grwpiau a all wynebu heriau wrth geisio cael gafael ar fodelau gofal iechyd traddodiadol, ac sydd o’r herwydd yn cwblhau’r broses gofal allweddol yn llai aml, ac yn cael canlyniadau salach i’w triniaeth.

Diogel

  1. Ffocws ar draws y system gyfan ar adfer a gwella gwasanaethau rheoli cyflwr cronig ar gyfer diabetes, i fynd i’r afael ag unrhyw berygl mwy o niwed yn sgil y tarfu a fu ar fynediad at ofal iechyd yn ystod y pandemig.
  2. Mae Gwasanaeth Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru yn darparu apwyntiadau hygyrch yn ôl yr ysbeidiau a argymhellir, mae canlyniadau ar gael i dimau clinigol perthnasol i weithredu arnynt, ac mae sgrinio ar gael yn deg i bawb.
  3. Mae byrddau iechyd yn darparu timau arbenigol sydd â digon o adnodd a gofal cyffredinol sy’n gymwys yn broffesiynol i helpu pobl sydd â diabetes i reoli eu cyflwr yn unol â’r llwybrau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ac a fabwysiadwyd yn lleol.
  4. Os yw Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol yn darparu gofal yn y cartref, gofal preswyl neu ofal cleifion mewnol ar gyfer pobl sydd â diabetes, mae ganddynt staff sydd wedi’u hyfforddi’n briodol ac adnoddau cenedlaethol i gefnogi’r gwaith o osgoi gwallau mewn gofal diabetig sydd â’r potensial i arwain at gymhlethdodau difrifol fel cetoasidosis diabetig a hypoglycemia difrifol, a hefyd i gefnogi’r gwaith o nodi gwallau o’r fath, adrodd arnynt a’u rheoli.
  5. Mae plant a phobl ifanc sydd â diabetes yn cael cymorth sydd wedi’i deilwra wrth bontio i wasanaethau oedolion yn unol â’r safonau pontio, a phan fo’n bosibl, yn osgoi niwed oherwydd eu bod yn cael cyswllt parhaus â’u tîm diabetes.
  6. Mae byrddau iechyd yn darparu cynlluniau cyn beichiogi sy’n effeithiol, yn canfod diabetes yn gynnar yn ystod beichiogrwydd, ac yn darparu cymorth priodol drwy gydol beichiogrwydd er mwyn sicrhau rheolaeth dda dros glycemia ac osgoi datblygu diabetes math 2.

Effeithiol

  1. Mae byrddau iechyd yn darparu gwasanaethau a all nodi pobl sy’n wynebu perygl mawr o ddatblygu diabetes math 2 ac yn atgyfeirio pobl at y Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan er mwyn lleihau’r perygl hwnnw iddynt.
  2. Mae byrddau iechyd yn darparu gwasanaethau lleddfu i bobl briodol sy’n byw â diabetes math 2 er mwyn helpu i leihau nifer yr achosion o ddiabetes math 2 a’r perygl o ddatblygu cymhlethdodau difrifol.
  3. Mae byrddau iechyd yn defnyddio Llwybr Atgyfeirio Cymru Gyfan ar gyfer cleifion newydd sy’n dangos arwyddion o ddiabetes math 1 er mwyn atal cetoasidosis diabetig a derbyniadau i’r ysbyty.
  4. Mae byrddau iechyd yn cynnig cyfle i bobl sydd newydd gael diagnosis o ddiabetes math 1 gymryd rhan mewn treialon ymchwil ar ôl cael diagnosis, gyda chymorth cofrestr genedlaethol gyfredol o raglenni ymchwil agored.
  5. Mae byrddau iechyd yn canolbwyntio ar ddarparu prosesau gofal allweddol ar gyfer pobl sydd â diabetes ac yn gweithio tuag at gyflawni targedau triniaeth ar lefel y boblogaeth.

Effeithlon

  1. Mae byrddau iechyd yn cynllunio gwasanaethau diabetes, ar draws lleoliadau gofal, yn ôl y llwybrau clinigol y cytunwyd arnynt yn genedlaethol a addaswyd yn lleol i gyd-fynd ag angen y boblogaeth a’r gweithlu sydd ar gael.
  2. Defnyddir y cofnod electronig am gleifion sydd â diabetes ar gyfer Cymru gyfan, ac mae’n hwyluso gwell integreiddio o ran gofal ar draws y sectorau gofal cymunedol, sylfaenol ac arbenigol.

Canolbwyntio ar yr unigolyn

  1. Mae byrddau iechyd yn darparu rhaglen addysg diabetes strwythuredig hygyrch yn rheolaidd i helpu pobl i ddeall a rheoli eu cyflwr yn well.
  2. Mae byrddau iechyd yn darparu adnoddau a chymorth priodol i bobl sydd â diabetes i’w helpu i fynd i’r afael ag effaith emosiynol a seicolegol byw gyda diabetes.
  3. Mae cyd-gynhyrchu gofal yn sicrhau bod pobl sy’n byw â diabetes yn cael y canlyniadau sy’n bwysig iddyn nhw. Mae hyn yn cynnwys trefnu adolygiadau ar amseroedd sy’n addas i’r unigolyn a sicrhau bod cynnwys yr adolygiadau hynny yn addas i’r unigolyn, gan roi cymorth grymuso, gosod targedau triniaeth a llunio cynlluniau gofal.
  4. Bydd byrddau iechyd yn darparu gofal cymunedol, sylfaenol ac eilaidd integredig i bobl sydd â diabetes, yn ôl y cynllun rheoli cytunedig a dull person cyfan o reoli cydafiacheddau.
  5. Mae byrddau iechyd a’r trydydd sector yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu cyfleoedd i gael cefnogaeth gan gymheiriaid gan eraill sy’n byw â diabetes.

Amserol

  1. Mae byrddau iechyd yn sicrhau bod pobl sydd newydd gael diagnosis o ddiabetes yn cael gofal cynhwysfawr, cymorth cynhwysfawr, ac addysg gynhwysfawr yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl eu diagnosis er mwyn datblygu arferion hunanreoli effeithiol yn gynnar yn natblygiad y clefyd.
  2. Mae byrddau iechyd yn defnyddio offerynnau pennu lefel risg er mwyn archwilio pobl sy’n dangos arwyddion o ddiabetes yn brydlon, nodi’n gynnar gleifion sy’n arddangos arferion gwael wrth reoli’r clefyd, a’u hatgyfeirio at y gweithiwr proffesiynol gofal iechyd priodol i gael cymorth.

Atodiad A – llwybrau clinigol

Mae’r llwybrau clinigol canlynol y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ar gael:

  • Diabetes Math 1
  • Diabetes Math 2
  • Diabetes yn ystod Beichiogrwydd
  • Gofal Seicolegol ym maes Diabetes
  • Gofal Pontio ym maes Diabetes
  • Gofal Traed ym maes Diabetes
  • Gofal Arennol ym maes Diabetes
  • Atal a Lleddfu Diabetes