Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae cleifion gofal critigol ymhlith y cleifion mwyaf sâl yn yr ysbyty ac mae arnynt angen gofal arbenigol a chymorth mewn perthynas â mwy nag un o'u horganau. Nifer cymharol fach o gleifion sy'n gorfod cael gofal critigol ond, pan fo angen gofal critigol arnynt, mae angen iddynt ei gael yn amserol ac, yn aml, yn gyflym.

Oherwydd natur y gofal amlddisgyblaeth a ddarperir, mae gwelyau gofal critigol ymhlith yr adnoddau drutaf yn y gwasanaeth iechyd. Mae'r galw am wasanaethau gofal critigol yn cynyddu oherwydd nifer o ffactorau gan gynnwys newidiadau sylweddol ym maint ac oedran y boblogaeth, cyffredinrwydd cynyddol cydafiacheddau perthnasol, newid o ran y canfyddiad o'r hyn y gall gofal critigol ei gynnig a chlefydau neu driniaethau newydd/sy'n dod i'r amlwg. 

Gan adeiladu ar waith Cynllun Cyflawni ar gyfer y Rhai sy'n Ddifrifol Wael 2013 a 2017, rhaid i gam nesaf gwella gwasanaethau i bobl sy'n ddifrifol wael fynd i'r afael ag amrywiadau, adeiladu ar gonsensws mewn meysydd blaenoriaeth, cyflawni argymhellion y rhaglen gofal critigol a gyfarwyddir yn genedlaethol (fel y'i nodir yn adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen - Gorffennaf 2019 ), cadw arweinyddiaeth genedlaethol, ymgysylltu a chydweithredu lleol. Mae'r canllawiau ar gyfer Darparu Gwasanaethau Gofal Dwys (GPICS) yn darparu ffynhonnell ddiffiniadol ar gyfer cynllunio, darparu ac ansawdd gwasanaethau gofal critigol i oedolion ledled y DU. 

Crybwyllwyd cyflwyno datganiadau ansawdd yn Cymru Iachach ac fe'i disgrifiwyd yn y Fframwaith Clinigol Cenedlaethol fel lefel nesaf cynllunio cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau clinigol penodol gan sicrhau bod dull gweithredu hirdymor a chyson o ran gwella canlyniadau. Mae datganiadau ansawdd yn rhan o'r ffocws cryfach ar ansawdd a byddant yn rhan annatod o drefniadau cynllunio ac atebolrwydd yn y dyfodol i'r GIG yng Nghymru. 

Lansiwyd y Datganiad Ansawdd hwn yn dilyn pandemig COVID-19, a gafodd effaith arbennig o sylweddol ar wasanaethau gofal critigol a'r staff sy'n gweithio ynddynt. Mae'r Datganiad Ansawdd yn cynnwys y ffocws uniongyrchol, tymor byr ar adfer a hefyd yn ystyried y potensial tymor canolig a thymor hwy ar gyfer trawsnewid yn ystod y Tymor Seneddol newydd. 

Mae byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau gofal critigol yn unol â safonau proffesiynol a’r priodoleddau ansawdd a nodir isod. Caiff byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd eu cyfarwyddo, eu cefnogi a'u galluogi i ddarparu gwasanaethau gwell i bobl sy'n ddifrifol wael drwy swyddogaeth Gweithrediaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Caiff hyn ei cyflawni trwy ei Fwrdd Rhwydwaith Gofal Critigol a Thrawma Cymru. Bydd y rhwydwaith clinigol yn cydweithio i nodi cynllun gweithredu tair blynedd, treigl sy'n nodi ac yn blaenoriaethu datblygiadau gwasanaeth yn seiliedig ar y priodoleddau ansawdd a nodir isod. Bydd manylebau gwasanaeth manwl hefyd yn cael eu datblygu i gefnogi’r trefniadau cynllunio ac atebolrwydd ar gyfer y GIG yng Nghymru – pan fydd y rhain ar gael, cânt eu nodi yn Atodiad A.

Mae’r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol yn rhoi pwyslais penodol ar ddatblygu llwybrau clinigol cenedlaethol ac mae’r Fframwaith Diogelwch Ansawdd yn rhoi pwyslais ar bwysigrwydd defnyddio’r cylch sicrhau ansawdd mewn modd systematig yn lleol. Mae'r datganiad ansawdd yn canolbwyntio ar ddatblygu gwasanaethau gofal critigol gan gynnwys gwell gofal i gefnogi gwelliant i fynd i'r afael ag amrywiadau heb eu cyfiawnhau mewn gofal. 

Mae angen canolbwyntio hefyd ar weithio gyda grwpiau eraill i fynd i'r afael â meysydd megis iechyd y cyhoedd, adsefydlu, gofal i'r rhai sydd ar ddiwedd eu hoes, yn ogystal â chydweithio â gwasanaethau cyflyrau eraill megis y galon, canser a fasgwlaidd. 

Priodoleddau ansawdd pobl sy'n ddifrifol wael yng Nghymru

Teg

1. Ymagwedd genedlaethol at wella gwasanaethau a arweinir gan Weithrediaeth y GIG trwy fwrdd ei rhwydwaith ar gyfer gofal critigol. 

2. Cydweithredu ar draws byrddau iechyd rhwng gwasanaethau gofal critigol i gefnogi mynediad teg, cysondeb mewn safonau ansawdd, mynd i'r afael ag amrywiadau heb eu cyfiawnhau a darparu cymorth yn ôl yr angen. 

3. Caiff Gwasanaethau i bobl sy'n ddifrifol wael eu mesur a'u dal yn atebol gan ddefnyddio metrigau, data clinigol (ICNARC), PROMs ac adolygu gan gymheiriaid sy'n adlewyrchu ansawdd gofal cleifion a'i ganlyniadau. 

4. Mae'r gweithlu gofal critigol yn cael ei gefnogi a'i ddatblygu, i fynd i'r afael â chadw staff, safonau GPICS a sicrhau ei fod yn gynaliadwy ac yn tyfu i fodloni'r galw gyda chanolbwynt ar feysydd megis rolau estynedig a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.

5. Mynediad cyfartal at dreialon clinigol priodol gyda chymorth darparu seilwaith priodol ar gyfer pob math o ymchwil iechyd. 

Diogel

6. Canolbwynt ar lefel systemau ar drawsnewid gwasanaethau i feithrin gallu uwchlaw lefelau cyn y pandemig, megis ehangu unedau gofal critigol a datblygu Unedau Gofal Ôl-Anaesthetig (PACU).

7. Caiff gwasanaethau nad ydynt yn gallu bodloni'r safonau gofynnol eu had-drefnu i sicrhau bod modd bodloni safonau yn gyson ac yn gynaliadwy. 

8. Dull gweithredu cenedlaethol (fel y nodir yn y rhaglen a gyfarwyddir yn genedlaethol a safonau GPICS) o ran darparu gwasanaethau gofal critigol gan gynnwys gwasanaeth trosglwyddo cenedlaethol, cymorth anadlu hirdymor, allgymorth gofal critigol a dilyn i fyny/adsefydlu.

Effeithiol

9. Llwybrau sy'n seiliedig ar dystiolaeth sydd wedi'u hoptimeiddio yn genedlaethol i bobl sy'n ddifrifol wael. Bydd y llwybrau hyn yn rhan annatod o ddarparu gwasanaethau lleol i wella cyfraddau goroesi, megis ar ôl trawma mawr neu ataliad y galon allan o'r ysbyty. 

Effeithlon

10. Dull gweithredu cenedlaethol o ran systemau gwybodegsy'n hwyluso gwell integreiddio o ran gofal ac sy'n darparu data diagnosteg o ansawdd uchel, sydd wedi’i safoni ar gyfer ysgogi gwelliannau i wasanaethau.

Canolbwyntio ar yr unigolyn

11. Dull gweithredu cydweithredol a theg o ran gofal critigol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy'n rhan annatod o'r diwylliant ac a gefnogir gan ymagwedd gyffredin at atgyfeiriadau, uwchgyfeirio gofal a dilyn i fyny/adsefydlu yn achos gofal critigol. 

Amserol

12. Mynediad amserol at wasanaethau gofal critigol priodol yn unol ag angen y claf gan gynnwys cydnabod ac ymyrryd yn gynnar yn achos cleifion y mae eu cyflwr mewn perygl o ddirywio i atal cyflyrau megis anaf acíwt i'r arennau (AKI) a sepsis lle bo modd.

13. Rhyddhau cleifion yn amserol o gwasanaethau gofal critigol. 

14. Cadw'r gallu i gynyddu capasiti lefel 3 yn unol â threfniadau uwchgyfeirio (rhaid i gynlluniau uwchgyfeirio sicrhau darpariaeth addas ar gyfer adleoli staff, offer a defnyddiau traul).

Atodiad A - Manylebau gwasanaeth 

Bydd Gweithrediaeth y GIG yn datblygu manylebau gwasanaethau ar gyfer gofal critigol i lywio trafodaethau am atebolrwydd. Bydd y rhain yn cael eu cynnwys pan fyddant ar gael.