Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad gan Brif Swyddog Meddygol Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy’n gwneud y datganiad hwn heddiw i gadarnhau nad yw ein cyngor i'r grŵp o bobl sy’n gwarchod eu hunain yng Nghymru wedi newid.

Rydym yn gofyn i'r grŵp hwn o bobl barhau i ddilyn, tan 16 Awst, y cyngor ar warchod a amlinellwyd yn llythyr diwethaf Prif Swyddog Meddygol Cymru a anfonwyd ddechrau mis Mehefin.

Rydym yn sylweddoli nad yw hyn yn hawdd, ond ein cyngor o hyd i’r grŵp hwn o bobl yw y dylent barhau i ddilyn y camau gwarchod. Er bod y coronafeirws yn cilio yng Nghymru, nid yw wedi diflannu a bydd y camau gwarchod hyn yn parhau i amddiffyn y grŵp hwn o bobl.

Gwyddom fod Llywodraeth y DU yn gwneud newidiadau i'r cyngor y bydd yn ei roi i bobl sy'n gwarchod eu hunain yn Lloegr o fis Gorffennaf ymlaen.

Ond mae ein cyngor i bobl sy’n gwarchod eu hunain yng Nghymru yn aros yr un fath â'r hyn a nodwyd yn llythyrau’r Prif Swyddog Meddygol yn gynharach y mis hwn.

Roedd y llythyrau a anfonwyd fis Mehefin at y bobl sy’n gwarchod eu hunain yng Nghymru yn nodi dau newid pwysig:

  1. Roedd y newid cyntaf yn ymwneud ag ymarfer corff. Nid oes cyfyngiad ar wneud ymarfer corff yn yr awyr agored, ond rydym yn cynghori pobl sy’n gwarchod eu hunain i lynu’n gaeth wrth y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol a hylendid. Ni ellir dileu’r risg yn llwyr, ond rydym yn cynghori’r rheini sy’n gwarchod eu hunain i wneud ymarfer corff ar amseroedd llai prysur, fel eu bod yn llai tebygol o ddod i gysylltiad â phobl eraill.
  2. Roedd yr ail newid yn ymwneud â chwrdd â phobl eraill. Cynghorwyd y rheini sy’n gwarchod eu hunain eu bod yn cael cwrdd â phobl o gartrefi eraill yn eu hardal leol yn yr awyr agored. Fodd bynnag, ni ddylent fynd i dai pobl eraill na rhannu bwyd â nhw.

Mae’r holl gyngor arall – fel gweithio o gartref; peidio â rhannu prydau bwyd nac offer yn y tŷ; cysgu mewn gwely ar wahân; peidio â rhannu tyweli, a glanhau'r ystafell ymolchi ar ôl ei defnyddio – yn parhau’r un fath er mwyn eich diogelu.

Cyngor yn unig yw hwn - nid yw gwarchod eich hun yn orfodol. Pwrpas y camau a’r cyngor yw eich amddiffyn rhag dal y coronafeirws a rhag cael salwch a allai fod yn ddifrifol.

Rwy’n annog pawb sy’n gwarchod eu hunain i fanteisio ar gyfleoedd i fynd allan a mwynhau’r tywydd braf gan fod hynny’n gallu gwneud byd o les i iechyd a llesiant.

Hoffwn eu sicrhau hefyd nad ydym wedi anghofio amdanynt. Rydym yn adolygu ein cyngor yn gyson gan ein bod yn gwybod pa mor anodd yw hi ar y rheini sy’n gwarchod eu hunain.

Wrth inni ddysgu mwy am y coronafeirws, mae’n bosibl y byddwn yn gallu newid y cyngor i'w wneud yn fwy addas ar gyfer y risgiau penodol sy’n berthnasol i unigolion.

Byddwn yn gweithio gyda gwledydd eraill y DU i ddatblygu adnodd i roi asesiad risg mwy personol a rhoi arweiniad i bobl ar y camau y dylent eu cymryd.

Hyd nes y bydd hwn wedi’i ddatblygu, bydd Prif Swyddog Meddygol Cymru yn adolygu’r cyngor ar gyfer pobl sy’n gwarchod eu hunain yn unol â’r amserlen 21 diwrnod ar gyfer adolygu rheoliadau’r cyfyngiadau.

Hoffwn ddiolch i bawb sy'n gwarchod eu hunain am eu cymorth a'u hamynedd. Rwyf am ddiolch hefyd i bawb sy'n dal i weithio mor galed i helpu i’w cefnogi – ein hawdurdodau lleol, fferyllfeydd cymunedol, gwirfoddolwyr a manwerthwyr bwyd sy'n gwneud cyfraniad enfawr i gefnogi’r grŵp o bobl sy’n gwarchod eu hunain.