Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, TrC, CLlLC, Cymdeithas Swyddogion Cydlynu Trafnidiaeth (ATCO), Cydffederasiwn Trafnidiaeth Teithwyr a Chymdeithas Bysiau a Choetsus Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae gwasanaethau bws yn hanfodol. Maent yn cysylltu ein cymunedau ac yn gwbl hanfodol i rai o'r bobl fwyaf difreintiedig a bregus yn ein cymunedau.  Maen nhw'n ein helpu ni i deithio i'r gwaith, i weld ein teuluoedd ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden.

Bydd y Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau – a ddatblygwyd ar y cyd gan Awdurdodau Lleol, Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a'r diwydiant yn disodli'r Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau a fydd yn dod i ben ar 24 Gorffennaf. 

Bydd yn darparu cymorth ariannol ar unwaith i weithredwyr bysiau yng Nghymru fel y gall y gwasanaethau hanfodol hynny barhau

Fel y cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, ddydd Mawrth 23 Mai, mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £46m ar gael o gyllidebau bysiau i gefnogi trefniadau’r Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau a'r Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau dros y flwyddyn ariannol gyfan.

Bydd y cyllid hwn hefyd yn sicrhau bod modd i wasanaethau strategol TrawsCymru barhau.

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio'n galed gyda'r Timau Cynllunio Rhwydwaith Rhanbarthol, a gweithredwyr, i gynllunio a phrisio rhwydwaith o wasanaethau bysiau y gellir eu darparu pan ddaw'r cyllid brys i ben.

Credwn y bydd y cyllid sydd ar gael yn sicrhau y bydd y rhan fwyaf o'r gwasanaethau presennol yn cael eu diogelu ledled Cymru ac rydym wedi gofyn i'r Timau Cynllunio Rhanbarthol a TrC baratoi trosolwg o newidiadau i wasanaethau.

Gallai rhai gwasanaethau newid, fodd bynnag, i adlewyrchu patrymau teithio gwahanol yn dilyn y pandemig.

Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud yn gyflym fel bod unrhyw newidiadau posibl i'r rhwydwaith yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi gyda chymaint o rybudd â phosibl.

Byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd i ddatblygu model ariannu cynaliadwy tymor hwy sy'n pontio'r bwlch i fasnachfreinio.