Neidio i'r prif gynnwy

Mae ffliw adar straen H5N8 wedi cael ei gadarnhau mewn tyrcwn ar fferm ger Louth yn Swydd Lincoln.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae hyn yn dilyn sawl achos a gadarnhawyd yn gynharach yn ystod y mis ar dir mawr Ewrop. Mae Parth Gwarchod o 3km a Pharth Goruchwylio o 10km wedi cael eu sefydlu o amgylch y fferm sydd wedi’i heintio. Mae ymchwiliad manwl ar droed er mwyn penderfynu ar ffynhonnell fwyaf tebygol yr achos hwn.         

Hyd yma, nid oes unrhyw achosion o Ffliw Adar wedi’u cofnodi yng Nghymru.

Ar 6ed Rhagfyr, fel mesur rhagofalol, gorchmynnodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru ar gyfer yr Amgylchedd a Materion Gwledig gyflwyno Parth Atal yng Nghymru sy’n gofyn i geidwaid dofednod ac adar caeth eraill gadw eu hadar dan do, neu gymryd camau priodol i’w cadw ar wahân i adar gwyllt. Mae’r trefniadau hyn yn eu lle yn Lloegr a’r Alban hefyd.                                               

Er nad oes unrhyw achosion o H5N8 wedi’u cadarnhau yng Nghymru, mae’n gwbl hanfodol bod ceidwaid adar yn parhau i gadw at y lefelau uchaf un o fioddiogelwch ac yn wyliadwrus am unrhyw arwyddion o’r afiechyd. Dylid diheintio dillad ac offer, dylid lleihau symudiad dofednod a hefyd y cyswllt rhwng dofednod ac adar gwyllt.                                                

Mae’r Parth Atal yn galw am roi cywion ieir dof, ieir, tyrcwn a hwyaid dan do ar unwaith, ac mae hyn yn orfodol. Os nad yw hyn yn ymarferol, rhaid sicrhau gwahanu llwyr oddi wrth gyswllt ag adar gwyllt.  O ran gwyddau, adar hela ac adar caeth eraill sy’n cael eu ffermio, dylai’r ceidwaid gymryd camau ymarferol i gadw’r adar hyn ar wahân i adar gwyllt.     

Mae’r risg i iechyd pobl yn isel iawn ac mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cadarnhau ei bod yn ddiogel bwyta cig dofednod fel twrci, gŵydd a chyw iâr.       

Os ydych chi’n pryderu am iechyd eich adar, dylech ofyn am gyngor eich milfeddyg. Os ydych yn amau bod gan eich adar Ffliw Adar, dylech roi gwybod am hyn i swyddfa leol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. 

Gellir gweld y sefyllfa ddiweddaraf ar gov.uk