Diweddariad ar y trafodaethau adeiladol a chydweithredol ag undebau arweinwyr ysgolion ac arweinwyr llywodraeth leol.
Mae cytuno ar ffordd ymlaen mewn perthynas â chyllid Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), a llwyth gwaith a chyflogau athrawon ac arweinwyr, yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, ac rydym i gyd yn cydnabod yr angen i ddatrys hyn cyn gynted â phosibl er budd ysgolion a dysgwyr.
Rydym yn parhau'n ymrwymedig i ganfod ffordd ymarferol ymlaen sy'n dderbyniol i bawb cyn gynted â phosibl, ac yn diolch i'n holl bartneriaid am eu hymgysylltiad adeiladol.
Er ein bod yn parhau i drafod gyda NAHT Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, hoffem fod yn glir ynghylch gwerth ein trafodaethau adeiladol parhaus gyda'r holl bartneriaid, gan gynnwys yr holl undebau addysg a phartneriaid llywodraeth leol. Rydym yn ddiolchgar am ymgysylltiad parhaus ASCL Cymru, NEU Cymru, NASUWT Cymru ac UCAC yn y gwaith pwysig hwn.
Mae datganiad ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, NAHT Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghlwm.
