Neidio i'r prif gynnwy

Yr wythnos ddiwethaf, gwahoddwyd Llywodraethau Cymru a'r Alban i fod yn bresennol mewn cyfarfod Pwyllgor Cabinet Llywodraeth y DU am y tro cyntaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rydym wedi pwyso dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i'n cynnwys yn llawn wrth baratoi ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE, ac fe fyddwn yn parhau i gyfrannu gymaint â phosib at waith y Pwyllgor Masnach ac Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (Paratoi) dros yr wythnosau nesaf.

Rydym yn arbennig o awyddus i bwysleisio bod yr holl dystiolaeth a welwyd gennym hyd yma yn awgrymu nad yw'r DU yn barod o gwbl ar gyfer Brexit heb gytundeb mewn llai na dau fis. Rydym yn credu'n gryf y byddai canlyniad o'r fath i'r negodiadau Brexit yn drychineb a fyddai'n amharu'n sylweddol yn y tymor byr ar fywydau pobl gyffredin yn ogystal â busnesau, ac yn creu niwed hirdymor i'n heconomi.

Er y byddai cyfnod hirach i baratoi ar gyfer ymadael heb gytundeb, fel sy'n cael ei gynnig gan rai Aelodau Seneddol Ceidwadol, o bosib yn lleihau’r risg o weld pobl Cymru a'r Alban yn methu cael gafael ar y meddyginiaethau sydd eu hangen arnynt neu'r amrywiol fwydydd maent am eu prynu, ni fyddai'n gwneud unrhyw beth o gwbl i leddfu'r niwed economaidd hirdymor y byddai rhwyg mor radical gyda'n cymdogion Ewropeaidd yn ei achosi. Mae'r swyddi a gollwyd yn Shaeffler yn Llanelli a'r buddsoddiad a ddiddymwyd yn Nissan yn Sunderland yn ddwy enghraifft o'r hyn y byddwn yn ei weld yn y dyfodol. Yn ôl amcangyfrifon y CBI, gallai Brexit heb gytundeb gostio £14 biliwn y flwyddyn i economi'r Alban erbyn 2034.

Mae Tŷ'r Cyffredin, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd yr Alban oll wedi gwrthod cytundeb Prif Weinidog y DU. Byddai'n golygu bod y DU gyfan yn dlotach, ac yn agor y drws ar gyfer "Brexit dall" a blynyddoedd o negodiadau anodd ar y berthynas yn y dyfodol heb unrhyw warant y bydd cytundeb masnach yn cael ei gadarnhau o gwbl.

Yn frawychus ar y funud olaf hon, ar ôl ei drechu, mae'n ymddangos nad yw Llywodraeth y DU yn medru nodi o hyd beth yn union yw'r "trefniadau amgen" i'r cynllun wrth gefn ar gyfer Iwerddon a fyddai, mae'n debyg, yn caniatáu i Dŷ'r Cyffredin bleidleisio dros y cytundeb. Ar ben hynny, mae'r UE wedi ymrwymo'n llwyr i'r cynllun wrth gefn yn Iwerddon, ac yn dweud na fydd yn ailagor y drafodaeth.

Rydym wedi cyrraedd pwynt lle nad oes unrhyw amser i'w wastraffu. Rydym felly yn galw unwaith eto ar Brif Weinidog y DU i ddweud yn glir y bydd hi a'i Llywodraeth yn sicrhau nad yw ymadael heb gytundeb yn opsiwn o gwbl. Dylai hyn gynnwys cyflwyno is-ddeddfwriaeth nawr i ddileu'r cyfeiriad at 29 Mawrth 2019 fel Diwrnod Ymadael o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).

Rhaid i Brif Weinidog y DU hefyd ofyn am estyniad i Erthygl 50. Rydym yn galw ar Brif Weinidog y DU i ofyn am estyniad o'r fath ar unwaith i roi diwedd ar y bygythiad o weld y DU yn cael ei rhwygo o'r UE heb gytundeb mewn wyth wythnos.

Mae'r UE wedi dweud yn glir, o ran negodi’r berthynas ar gyfer y dyfodol, y byddai'n ymateb yn ffafriol pe bai'r Prif Weinidog yn gollwng ei "llinellau coch". Rydym felly yn galw ar Lywodraeth y DU hefyd i roi'r gorau i'r llinellau coch hynny, y mae'r UE wedi dweud dro ar ôl tro sy'n cyfyngu'n ddifrifol ar ganlyniadau posib Brexit.