Neidio i'r prif gynnwy

"Hoffwn longyfarch y Prif Weinidog ar ei phenodiad. Mae hi’n ymgymryd â’i swydd ar adeg enbydus i’r DU."

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Meddai’r Prif Weinidog Carwyn Jones:

“Hoffwn longyfarch y Prif Weinidog ar ei phenodiad. Mae hi’n ymgymryd â’i swydd ar adeg enbydus i’r DU - yn sgil Brexit, mae llawer iawn o ansicrwydd ac ansefydlogrwydd economaidd y mae angen mynd i’r afael â nhw ar frys.

"Rwyf wedi fy nghalonogi wrth glywed bod Theresa May yn cydnabod y dylai’r economi weithio i bawb, nid dim ond y rheini sydd ar y brig - ond rhaid gweld bod y geiriau cynnes hyn yn cael eu rhoi ar waith. Yn yr un modd, mae’n hanfodol bod y Prif Weinidog yn cydnabod bod gan Gymru anghenion nad ydynt yn cael eu bodloni o ran y cyllid y mae’n ei gael a hefyd ei setliad ar gyfer cael pwerau priodol parhaol.”