Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad gan y Prif Weinidog yn dilyn marwolaeth Carl Sargeant.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyma eiriau Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones : 

“Mae hon yn sefyllfa ofnadwy i bawb. Rwyf am siarad am Carl a’i deulu heddiw. 

"Mae digwyddiadau’r wythnos hon wedi dychryn pob un ohonom ac wedi peri cryn boen, dicter a phenbleth. 

"Roedd Carl yn ffrind i mi. Ni fu erioed yr un gair croes rhyngom. Fe weithion ni gyda’n gilydd am 14 blynedd. Roedd yn Brif Chwip rhagorol ac yn Weinidog a roddodd wasanaeth eithriadol i’w wlad.  

"Alla i ddim amgyffred yr hyn y mae Bernie a’r teulu’n ei ddioddef. 

"Nid yw popeth a welir yn y wasg yn gywir, ac mae gan lawer ohonoch gwestiynau am yr wythnos diwethaf. Mae pawb yn galaru, ac ni fyddai’n briodol i mi drafod y manylion ar hyn o bryd. Materion i’r dyfodol yw’r rhain – pethau i Gwest y Crwner eu datgelu trwy’r drefn briodol. 

"Mae’n debygol iawn y bydd yna Gwest; wrth gwrs, fe fyddaf i a’m tîm yn cydweithredu’n llwyr i ateb unrhyw gwestiynau a ofynnir bryd hynny. 

"Mae’r teulu’n haeddu cael atebion i’w cwestiynau. Os nad yw’r Cwest yn canfod yr holl atebion, fe wnaf i fy ngorau i geisio dulliau eraill. 

"Mae proses gyfreithiol i’w dilyn, ac yn amlwg rwy’n gweithredu o fewn y broses honno. Rwy’n croesawu unrhyw graffu ar fy ngweithredoedd yn y dyfodol ac mae’n briodol i hynny ddigwydd yn annibynnol. 

"Fel yr oedd yn briodol, fe wnes i bopeth yn fy ngallu i sicrhau bod popeth yn cael ei wneud yn ôl y rheolau. Doedd dim dewis gen i ond cymryd y camau a gymerais, ac rwy’n gobeithio y bydd pobl yn deall hynny. 

"Roedd Carl yn meddu ar anian ac egni arbennig. Bu’n gyfrifol am lywio mwy o ddeddfau drwy’r Cynulliad nag unrhyw Weinidog arall - nid trwy ddadlau yn unig, ond drwy gryfder ei bersonoliaeth. 

"Mae Cymru wedi colli un â chalon fawr, un llawn gallu a charisma. Dyma ddyddiau tywyllaf y sefydliad hwn. Ond i’r teulu y mae’r tywyllwch mwyaf, a rhaid inni barchu eu hawl nhw i gael llonydd i alaru.”