Neidio i'r prif gynnwy

"Rydym yn croesawu dyfarniad y Goruchaf Lys heddiw sy’n golygu y bydd yn rhaid i Lywodraeth y DU ofyn am gymeradwyaeth seneddol ar ffurf Bil cyn medru tanio Erthygl 50 i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd."

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Rydym yn croesawu dyfarniad y Goruchaf Lys heddiw sy’n golygu y bydd yn rhaid i Lywodraeth y DU ofyn am gymeradwyaeth seneddol ar ffurf Bil cyn medru tanio Erthygl 50 i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Mae’n hanfodol i Lywodraeth y DU negodi mewn ffordd sy’n adlewyrchu buddiannau Cymru a’r Deyrnas Unedig yn gyfan – mae Prif Weinidog y DU eisoes wedi ymrwymo’n gyhoeddus i wneud hyn.

Mae’r dyfarniad yn cynnal ac yn cydnabod pwysigrwydd confensiwn Sewel, sef na fydd Senedd y DU fel rheol yn deddfu mewn meysydd sydd wedi’u datganoli i Gymru a’r llywodraethau datganoledig eraill heb eu cydsyniad.

Bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill drwy’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion er mwyn dylanwadu ar safbwynt y Deyrnas Unedig yn gyffredinol. Ein nod yw cadw mynediad at y farchnad sengl i fusnesau a diogelu swyddi a buddsoddi yng Nghymru, ynghyd â hawliau gweithwyr.”