Neidio i'r prif gynnwy

Dywedodd Gweinidog yr Economi Ken Skates: "Bydd y cyhoeddiad heddiw yn peri pryder mawr i weithwyr Tata Steel ledled Cymru, eu teuluoedd, y cymunedau lleol a'r gadwyn gyflenwi, ond gwyddom fod dyfodol i’r diwydiant dur yng Nghymru a'r DU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

"Gwnes i a Phrif Weinidog Cymru siarad â Tata heddiw a gwnaethant bwysleisio eu bod yn benderfynol o sicrhau dyfodol cynaliadwy i’w gwaith yn y DU ac i ddiogelu'r gweithlu o 8,000 o bobl. Mae’r rhan fwyaf o’r gweithwyr hyn wedi’u lleoli yng Nghymru.

"Mae Prif Weinidog Cymru yn ceisio trafodaethau brys â Phrif Weinidog y DU a byddaf yn siarad ag Ysgrifennydd Gwladol BEIS ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru i alw am weithredu brys. Mae'r diwydiant bellach yn aros i Lywodraeth y DU gymryd camau ar unwaith i ddiogelu'r sector a diogelu swyddi. Mae bob dydd sy’n mynd heibio yn golygu diwrnod arall sydd wedi’i golli i’r gweithwyr ac i ddiwydiant sydd o bwysigrwydd strategol.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig cefnogaeth sylweddol i Tata dros y blynyddoedd i sicrhau bod dyfodol i ddur yng Nghymru. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu dyfodol y diwydiant ond mae angen i Lywodraeth y DU weithredu'n bendant a gwneud yr un peth yn awr. Mae'n hanfodol ein bod yn cadw sector dur yng Nghymru fel y gallwn wynebu’r heriau a fydd yn deillio o beidio â bod yn rhan o'r UE.