Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Prif Swyddog Meddygol Cymru ar adolygiad COVID-19: 10 February 2022.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Er eu bod yn gymharol uchel, mae cyfraddau heintiadau COVID-19 yn y gymuned wedi sefydlogi. Mae llai o bwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o ganlyniad i salwch difrifol, ac mae nifer y gwelyau sy’n cael eu defnyddio mewn unedau gofal dwys hefyd wedi gostwng. Mae rhywfaint o niwed yn parhau o ganlyniad i’r feirws hynod drosglwyddadwy hwn – mae hynny’n anorfod. Fodd bynnag, mae'r rhaglen frechu a’r ffaith bod yr amrywiolyn Omicron yn llai difrifol wedi golygu ein bod wedi profi llawer llai o niwed uniongyrchol nag a ragwelwyd wrth fodelu, a llai hefyd na’r hyn a brofwyd mewn tonnau blaenorol. 

Nid oes unrhyw amrywiolion sy'n peri pryder arwyddocaol ar y gorwel agos hyd y gwyddom. Ond bydd SARS-CoV2 yn newid yn barhaus ac mae perygl o hyd y gallai amrywiolion y dyfodol naill ai fynd heibio i imiwnedd y boblogaeth neu achosi salwch mwy difrifol mewn unigolion a fydd wedi’u heintio. Dylem barhau i weithio ar draws pedair gwlad y DU i ddatblygu dulliau domestig a rhyngwladol effeithiol o gadw golwg ar COVID-19 a phathogenau anadlol eraill.

Yn ogystal â'r risg o COVID-19, mae ansicrwydd hefyd a fyddwn yn profi tymor ffliw hwyr a fydd yn arwain at bwysau o'r newydd ar ein system gofal iechyd sydd eisoes o dan straen. Mae'n briodol i fynd ati’n raddol wrth lacio’r mesurau diogelu sy’n weddill felly, gan ddileu'r gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do 'dewisol' ond cadw’r statws gorfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn siopau manwerthu ac mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Fel baich isel ac ymyriad anfferyllol sy’n cael ei dderbyn yn gyffredinol, gellid adolygu'r gofyniad hwn ymhellach gyda dyfodiad tywydd y gwanwyn. Rwyf i o blaid symud at y defnydd gwirfoddol o'r Pàs COVID gan gefnogi busnesau i barhau i asesu risg ar yr un pryd – nid fel ymateb i COVID-19 yn unig, ond fel arfer da safonol ar gyfer iechyd a diogelwch. Mae parhau i gymhwyso deddfwriaeth a chynnig cymorth ariannol i achosion positif ar gyfer ynysu yn dal i fod yn fesur iechyd y cyhoedd pwysig a chymesur ar gyfer diogelu eraill ac atal lledaeniad COVID-19.

Syr Frank Atherton
Prif Swyddog Meddygol Cymru