Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Prif Swyddog Meddygol Cymru ar adolygiad COVID-19: 26 Ionawr 2022.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae cyfraddau heintio COVID-19 yn y gymuned wedi lleihau’n gyson dros y pythefnos diwethaf ond erbyn hyn maent yn sefydlogi ar lefel cymharol uchel. Yn ogystal, mae cynnydd yn y cyfraddau heintio ymhlith grwpiau oedran ifanc. Mae derbyniadau i’r ysbyty o ganlyniad i COVID-19 a chyfraddau absenoldeb yn y GIG hefyd wedi lleihau ac ar hyn o bryd mae’n annhebygol y bydd pwysau uniongyrchol o ganlyniad i COVID-19 yn rhagori ar allu’r sector iechyd a gofal cymdeithasol. Er bod cyfraddau heintio yn y gymuned yn parhau i fod yn uchel, mae ein rhaglen frechu’n cadw niweidiau uniongyrchol ar lefelau llawer iawn is nag a welwyd yn y tonnau blaenorol. Mae’r darlun epidemiolegol yng Nghymru felly’n cefnogi parhau i symud i gyfyngiadau Lefel Rhybudd 0.

Dylem barhau i fonitro unrhyw bwysau ychwanegol ar gyfraddau achosion ac, fel rhan o’n gwaith cynllunio ar gyfer pontio, dylem ddatblygu gwyliadwriaeth effeithiol er mwyn sicrhau rhybudd ymlaen llaw os daw ton newydd neu amrywiolion newydd a all ei gwneud yn ofynnol inni gynyddu ein hymateb.

Syr Frank Atherton
Prif Swyddog Meddygol Cymru