Neidio i'r prif gynnwy

“Mae’r wlad wedi gwneud penderfyniad sylfaenol. Rwy’n siomedig tu hwnt gyda’r canlyniad.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:

“Mae’r wlad wedi gwneud penderfyniad sylfaenol. Rwy’n siomedig tu hwnt gyda’r canlyniad.  

Roedd y refferendwm hwn yn un na ches i erioed fy argyhoeddi y dylid ei gynnal – nid oherwydd fy mod yn gwrthwynebu’r penderfyniad democrataidd a wnaed heddiw – ond oherwydd yr amseriad mor fuan ar ôl yr etholiadau. Roeddwn yn poeni o’r cychwyn nad  trafodaeth am yr Undeb Ewropeaidd ei hun fyddai hon mewn gwirionedd.

Dyw’r ddadl hon ddim wedi bod yn hysbyseb dda dros ein sgwrs wleidyddol ym Mhrydain.

Ond fe wnaed penderfyniad. Ac mae’n rhaid i ni barchu hynny.

Fis diwethaf cefais fy ethol yn Brif Weinidog a phennaeth Llywodraeth Cymru – addewais bryd hynny, ac rwy’n ailadrodd heddiw, y byddaf yn Brif Weinidog ar gyfer Cymru gyfan. Sut bynnag y gwnaethoch bleidleisio ddoe, sut bynnag y gwnaethoch bleidleisio ym mis Mai, bydd y Llywodraeth hon yn ymladd dros eich buddiannau.

Nawr mae’n bryd i Gymru uno a meddwl yn glir am ein dyfodol. Hyd yn oed cyn pleidlais ddoe dywedais nad oedd un blaid yn medru hawlio’r syniadau da i gyd, a nawr yn fwy nag erioed, rhaid i ni ddibynnu ar allu pob un.

Siaradais gyda Phrif Weinidog yr Alban y bore ‘ma. Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig eisoes wedi dweud y dylai Cymru gael ei chynnwys yn llawn yn y trafodaethau ynghylch telerau ymadawiad y DU a’n perthynas yn y dyfodol gydag Ewrop – ac fe fyddaf yn mynnu gweld Llywodraeth y DU yn cadw at ei gair.          

Bydd Cabinet Llywodraeth Cymru’n cyfarfod dydd Llun.

Fy mlaenoriaeth ar unwaith yw amddiffyn buddiannau Cymru. Mae gan Lywodraeth Cymru chwe blaenoriaeth yn sgil yr amgylchiadau newydd hyn.

Yn gyntaf, rhaid amddiffyn ein swyddi. Y brif dasg i Lywodraeth Cymru nawr yw gwneud popeth o fewn ein gallu i gynnal hyder a sefydlogrwydd economaidd. Rydyn ni wedi adeiladu perthynas ardderchog, rhagweithiol gyda busnesau Cymru a mewnfuddsoddwyr, a bydd angen i’r rhain ddwysáu yn dilyn pleidlais ddoe.

Yn ail, rhaid i Lywodraeth Cymru chwarae rhan lawn mewn trafodaethau am amseriad a thelerau ymadawiad y DU o’r UE. Mae’n cyfranogaeth ni yn hanfodol, nid yn unig ar faterion sydd wedi’u datganoli’n uniongyrchol, ond hefyd ar yr holl faterion amrywiol sy’n effeithio ar fuddiannau pwysig Cymru.  

Yn drydydd, mae’n hanfodol i’r Deyrnas Unedig gynnal trafodaethau i gadw mynediad at y 500 miliwn o gwsmeriaid yn y Farchnad Sengl.  

Yn bedwerydd, dylid cynnal trafodaethau ar barhau i gymryd rhan ym mhrif raglenni’r UE fel y PAC a’r Cronfeydd Strwythurol, yn unol â’r telerau presennol, hyd at ddiwedd 2020. Bydd hyn yn helpu i sicrhau cysondeb i ddinasyddion, cymunedau, busnesau a buddsoddwyr tra bod trefniadau’n cael eu gwneud ar gyfer y tymor hir.

Yn bumed, mae Cymru’n elwa ar gannoedd o filiynau o bunnoedd oddi wrth yr UE.  Mae achos aruthrol nawr dros ddiwygio Fformiwla Barnett yn sylweddol ar unwaith gan ystyried yr anghenion sy’n codi yn sgil gadael yr UE. Fe addawyd na fyddai Cymru’n colli ceiniog, ac rwy’n galw heddiw ar i’r addewid hwnnw gael ei warantu.

Yn chweched, ac yn olaf, mae gadael yr UE yn newid cyfansoddiadol enfawr i’r DU ac mae gan hynny oblygiadau yr un mor bellgyrhaeddol i’r setliad datganoli. Rhaid i’r berthynas rhwng y Gweinyddiaethau Datganoledig a Llywodraeth y DU nawr gael ei gosod ar sylfaen gwbl wahanol.  

Bydd Llywodraeth Cymru’n ymladd dros bobl Cymru ym mhob un o’r meysydd hanfodol hyn, ond hefyd yn ymdrechu i uno’r rhaniadau a amlygwyd gan y bleidlais hon. Rwy’n argyhoeddedig bod y genedl eisiau ac angen gweld Cymru’n symud ymlaen gyda’n gilydd. Fe gododd y tymheredd yn ystod y drafodaeth hon, rwy’n cydnabod hynny, ond nawr mae’n bryd ymateb yn bwyllog. Bydd nifer o bobl yn bryderus am y casineb a dreiddiodd i’r ymgyrch – ni fydd hynny’n ein helpu gyda’r heriau sylweddol sydd nawr o’n blaen.

Hefyd mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o siarad gyda’n gilydd eto – efallai i ni bleidleisio’n wahanol, ond rydym yn parhau i fod yn gymdogion, teulu a ffrindiau.

Mae’r heriau oedd o’n blaen ddoe, o ran y GIG, yr economi ac addysg, yn dal i’n hwynebu heddiw. Ac mae’n rhaid i ni ymateb i’r heriau hynny, a chyflawni ar ran pobl Cymru.

Mae’n rhy gynnar i unrhyw un ddadansoddi’n llawn pam i’r wlad bleidleisio fel ag y gwnaeth neithiwr – ond mae un peth yn amlwg. Gwelwyd pleidlais dros adael mewn ardaloedd o Gymru a Lloegr sy’n cynnwys cymunedau ôl-ddiwydiannol, cymunedau difreintiedig yn aml – er eu bod yn aml wedi elwa’n aruthrol ar gyllid Ewropeaidd. A hynny er gwaetha’r ffaith i’r un cymunedau bleidleisio ym mis Mai dros bleidiau a oedd am aros yn Ewrop. Mae gormod o bobl yn y cymunedau hynny yn teimlo bod gwleidyddiaeth, a’n heconomi, wedi eu gadael ar ôl, ac mae tasg anodd o’n blaen i wyrdroi’r synnwyr hwnnw o ymddieithrio.

Dywedais ar ôl etholiad mis Mai ei bod yn bryd dechrau sgwrs gyda’n cymunedau, ac roeddwn o ddifri am hynny. Er lles ein cenedl a’i dyfodol rhaid i ni uno ac ymateb i’r heriau sydd o’n blaen.”