Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ionawr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Adolygiad annibynnol o’r cyllid sydd ar gael i BBaCh yng Nghymru

Heddiw, rwy’n cyhoeddi fy mod am sefydlu adolygiad annibynnol o’r cyllid sydd ar gael i Fusnesau Bach a Chanolig yng Nghymru.


Bydd yr Adolygiad yn ystyried pa mor effeithiol yw’r ddarpariaeth cyllid i Fusnesau Bach a Chanolig ar hyn o bryd ac yn gwneud argymhellion ar gyfer gweithredu pan fo problemau penodol yn cael eu darganfod.


Bydd yr Adolygiad yn:

  • ceisio pennu i ba raddau y mae Banciau’r Stryd Fawr yn diwallu anghenion cyllid Busnesau bach a Chanolig Cymru; ac yn
  • ystyried rhinweddau ffynonellau cyllid eraill i Fusnesau Bach a Canolig Cymru.
Rwy’n rhagweld y bydd canfyddiadau’r Adolygiad hwn yn bwysig i Fusnesau Bach a Chanolig ac i bolisi economaidd yng Nghymru.


Mae’n bleser gen i gyhoeddi bod yr Athro Dylan Jones-Evans, Cyfarwyddwr Menter ac Arloesedd ym Mhrifysgol Cymru, wedi cytuno i gynnal yr adolygiad.


Caiff yr Athro Jones-Evans ei gymorthwyo gan fy swyddogion i, yn ogystal â phanel cynghori gwirfoddol o’r byd academaidd a byd busnes. Aelodau’r panel cynghori fydd: yr Athro Stephen Thomas, sy’n Athro Cyllid yn Ysgol Fusnes CASS, Prifysgol City, Llundain; John Antoniazzi, cyn-bartner gyda chwmni Deloitte yng Nghymru; Katy Chamberlain, Prif Weithredwr Busnes mewn Ffocws; yr Athro Robin Jarvis, Pennaeth Materion BBaCh yng Nghymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig ac Athro Cyfrifeg ym Mhrifysgol Brunel; yr Athro Phil Molyneux, Deon y Coleg Busnes, Gwyddorau Cymdeithasol, y Gyfraith ac Addysg ac Athro Bancio a Chyllid ym Mhrifysgol Bangor; Huw Morgan, cyn Bennaeth Bancio Busnes gyda HSBC plc; Chris Nott, Cadeirydd y Panel Sector Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol a Rheolwr Bartner gyda Capital Law LLP; a Mark Woolfenden, Rheolwr Gyfarwyddwr Golchdy Afonwen.
Rwyf wedi gofyn i’r Athro Jones-Evans gyflwyno ei adroddiad i mi yn hydref 2013.