Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ionawr 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw rwy’n cyhoeddi yr adroddiad cynghorol a baratowyd ac a gyflwynwyd imi gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Microfusnesau, a sefydlwyd gennyf ym mis Medi 2011 o dan Gadeiryddiaeth Robert Lloyd Griffiths, Cyfarwyddwr Cymru, Sefydliad y Cyfarwyddwyr. 

Nod y Grŵp Gorchwyl a Gorffen oedd rhoi cyngor ac argymhellion imi ar ddatblygu a gweithredu Strategaeth Microfusnesau i Gymru. 

Fel rhan o’i drafodaethau, bu’r Grŵp yn nodi pum blaenoriaeth allweddol, gydag argymhellion i gynorthwyo gyda datblygu polisïau a strategaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer microfusnesau, fel a amlinellir isod: 

Blaenoriaeth – Bod yn ymwybodol o wasanaethau cymorth busnes ar gyfer Microfusnesau a chael mynediad iddynt

Yr argymhellion sy’n greiddiol i’r flaenoriaeth hon yw symleiddio a lleihau’r nifer sy’n darparu cymorth busnes yn y sector cyhoeddus; hybu mynediad ac ymwybyddiaeth o wasanaethau cymorth busnes yn broactif, creu un brand adnabyddus ar gyfer mynediad i gymorth busnes (cyhoeddus/preifat), datblygu rhwydwaith o ‘Siopau Un Stop’ ar gyfer microfusnesau i dderbyn cymorth uniongyrchol / anuniongyrchol ledled Cymru ac ehangu ac ailgyfeirio Gwasanaeth y Ganolfan Ranbarthol bresennol i gynnig cysyniad Siop Un Stop ar gyfer microfusnesau yng Nghymru.  

Blaenoriaeth – Mynediad i gyllid

Yr argymhellion sy’n greiddiol i’r flaenoriaeth hon yw hwyluso atebion addas o ran cyllid o rhwng £1,000 ac £20,000 ar gyfer microfusnesau, sy’n syml ac sy’n adlewyrchu lefel y buddsoddiad sydd ei angen, ac i helpu microfusnesau gael mynediad i opsiynau cyllid addas. 

Blaenoriaeth: Mentora a hyfforddi

Yr argymhelliad sy’n greiddiol i’r flaenoriaeth hon yw datblygu cynllun mentora a hyfforddi ledled Cymru i gefnogi microfusnesau. 

Blaenoriaeth: Caffael y Sector Cyhoeddus

Yr argymhellion sy’n greiddiol i’r flaenoriaeth hon yw symleiddio prosesau a rheoliadau y sector cyhoeddus, cyflwyno bil Cymru ar Gaffael y Sector Cyhoeddus, sefydlu Comisiwn/Comisiynydd Caffael i Gymru, annog dod o hyd i ffynonellau lleol fel rhan o gaffael y sector cyhoeddus, annog microfusnesau i ystyried caffael fel consortia yn y sector cyhoeddus a chychwyn contractau llai i ddenu microfusnesau i dendro.  

Blaenoriaeth: Baich rheoleiddiol

Yr argymhellion sy’n greiddiol i’r flaenoriaeth hon yw lobïo am newid mewn materion sydd heb eu datganoli – yn ogystal â rheoliadau sy’n cael effaith ar ficrofusnesau, hysbysu pobl pwy sy’n gyfrifol am y baich rheoleiddiol, symleiddio rheoliadau sydd o fewn pwerau Llywodraeth Cymru (ar draws pob adran) i’w gwneud yn haws i ficrofusnesau gynnal a datblygu eu busnesau a rhoi cymorth i ficrofusnesau trwy lunio rheoliadau sy’n cael effaith ar eu busnesau e.e. iechyd a diogelwch, cyflogi staff a chynllunio. 


Mae’r adroddiad llawn wedi’i atodi er gwybodaeth.  Bydd yr adroddiad llawn ar gael ar Business.wales.gov.uk yn dilyn lansio’r adroddiad am 11.30 am ar 18 Ionawr 2011. Gellir gweld yr adroddiad trwy ddilyn y ddolen ganlynol   www.busnes.cymru.gov.uk/meicrobusnes 

Rwy’n croesawu’r adroddiad a byddaf yn ystyried yr argymhellion ac yn ymateb iddynt. Yr wyf wedi cytuno gyda’r Cadeirydd i lunio strategaeth gweithredu.