Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn fy natganiad llafar fis diwethaf, rwyf am ddisgrifio fy nghynlluniau ichi heddiw ar gyfer buddsoddi mewn band eang cyflym iawn ar ôl i brosiect Cyflymu Cymru ddod i ben. Bydd y cynlluniau hyn hefyd yn cael eu cyflwyno mewn datganiad ysgrifenedig yn ystod Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 8 Tachwedd.

Fel y dywed Symud Cymru Ymlaen, ein hamcan yw cysylltu pob eiddo yng Nghymru â band eang cyflym a dibynadwy. Gwir fantais band eang cyflym iawn yw ei fod yn gwella bywydau ac yn cefnogi busnesau nawr ac yn y dyfodol.

Ers 2012, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £162 miliwn o arian cyhoeddus a chyllid yr UE mewn seilwaith band eang ledled Cymru lle nad yw’r ddadl fasnachol ynddo’i hun yn ddigon i sbarduno’r farchnad i fuddsoddi.

Mae’n prosiect mawr ei fri, Cyflymu Cymru, eisoes wedi dod â band eang cyflym iawn i bron 614,000 eiddo ledled Cymru a rhagwelir y caiff 100,000 eiddo arall eu cysylltu cyn y daw’r prosiect i ben yn 2017.  Mae’n prosiect Allwedd Band Eang Cymru’n cael ei redeg ar y cyd gan ddarparu band eang i ragor na 5,000 o gartrefi a busnesau gan ddefnyddio ystod o dechnolegau sy’n cael eu darparu gan nifer o gyflenwyr gwahanol.

Mae ein Rhaglen Lywodraethu’n ailgadarnhau ein hymrwymiad i fuddsoddi mewn band eang ac adlewyrchir hyn yn gyllideb ddiweddar.

Dros y flwyddyn nesaf, rydym am gyflawni ein hymrwymiad presennol i flwyddyn ola Cyflymu Cymru trwy fuddsoddi hyd at £62 miliwn.  Hefyd, rydym wrthi’n asesu’r ymatebion i’r ymgynghoriad diweddar â’r diwydiant telathrebu ar fuddsoddi £12.9 miliwn yn ychwanegol i estyn cwmpas prosiect Cyflymu Cymru flwyddyn nesaf.  Dyma’r swm a ragwelwyd gan BT llynedd fyddai’n cael ei roi yn ôl i’r pwrs cyhoeddus trwy gymal cyfran enillion y contract presennol â Cyflymu Cymru.

Mae’r cymal cyfran enillion yn caniatáu i Lywodraeth Cymru elwa ar lwyddiant ein buddsoddiad trwy’r prosiect Cyflymu Cymru yn rhwydwaith BT.  Os bydd mwy na rhagolygon BT ar ddechrau’r contract yn defnyddio’r gwasanaethau band eang, bydd cyfran o’r elw a wneir ar bob gwasanaeth cyfanwerthu pellach y maent yn ei werthu yn cael ei roi mewn cronfa fuddsoddi.  Gellir naill ai ailfuddsoddi’r gronfa yn y prosiect neu ei roi yn ôl gyda llog i Lywodraeth Cymru yn 2023.  Gan ddibynnu ar waith dadansoddi manwl a thrafodaethau â BT, rydym yn rhagweld y bydd yr arian ychwanegol hwn yn ei gwneud yn bosib inni gysylltu rhagor o gartrefi a busnesau trwy gontract Cyflymu Cymru erbyn Rhagfyr 2017.  

Er mwyn bod yn barod ar gyfer diwedd contract Cyflymu Cymru flwyddyn nesaf, rydym wedi dechrau paratoi ar gyfer sefydlu prosiect buddsoddi i olynu Cyflymu Cymru.  

Mae gwaith modelu a rhagolygu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn awgrymu y bydd cronfa fuddsoddi Cyflymu Cymru’n cynhyrchu rhwng £30 miliwn a £50 miliwn erbyn 2023 wrth i rhwng 35 y cant a 50 y cant dros y cyfnod hwnnw ddewis defnyddio’r gwasanaethau ffeibr y talwyd amdanynt gan ein buddsoddiad.  Y ganran o fewn ardal Cyflymu Cymru ar hyn o bryd yw rhyw 29 y cant.

Felly, os cyrhaeddwn y targed o 50 y cant y gwnaethom osod inni’n hunain ym mis Gorffennaf 2015, caiff rhyw £50 miliwn ei ryddhau. O hwnnw, bydd modd ailfuddsoddi rhyw £37 miliwn i gysylltu rhagor o gartrefi a busnesau â band eang cyflym iawn, hynny ar ben y £12.9m sydd wedi’i ailfuddsoddi yn Cyflymu Cymru.

Gwnaethom ymrwymo £20 miliwn yn y gyllideb ddiweddar dros y pedair blynedd nesaf i gefnogi’r gweithgarwch hwn a byddwn yn defnyddio’r arian i sbarduno buddsoddiad ychwanegol arwyddocaol.

Rydym wrthi’n trafod â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i sicrhau £20 miliwn pellach o’r Cronfeydd Strwythurol i barhau i ddarparu band eang cyflym iawn.  Megis dechrau mae’r broses ymgeisio ond rydym yn hyderus y cawn yr arian, o’i gymeradwyo gan WEFO, diolch i warant Trysorlys y DU i anrhydeddu bidiau’r UE cyn inni adael yr UE.

Mae gennym ymrwymiad sydd heb ei dalu eto gan Lywodraeth y DU o £2 miliwn ar gyfer prosiect band eang cyflym iawn newydd. Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am ragor o fuddsoddi yng Nghymru fydd yn adeiladu ar lwyddiant Cyflymu Cymru ac yn cyfrannu at amcanion polisi Llywodraeth y DU.

Rydym yn rhagweld y bydd gan olynydd Cyflymu Cymru, rhwng popeth felly, gyllideb sector cyhoeddus o hyd at £80 miliwn.  Bydd hynny yn ei dro yn sbarduno’r sector preifat i ddarparu cyllid cyfatebol i fynd â band eang i’r busnesau a’r cartrefi anoddaf eu cyrraedd ledled Cymru erbyn 2020.

Rydym yn adnewyddu’n hymrwymiad hefyd i’r cynllun Allwedd Band Eang Cymru ag £1.5 miliwn pellach dros y ddwy flynedd nesaf i sicrhau bod y gwasanaeth hanfodol hwn yn parhau i weithredu ar y cyd â Cyflymu Cymru a’r prosiectau olynol gydag arian cyfatebol i’w estyn am ddwy flynedd arall ar ôl 2018.

Ym mis Tachwedd, byddwn yn lansio Arolwg o’r Farchnad Agored i weld, fesul eiddo, ble mae band eang cyflym iawn wedi’i ddarparu hyd yma, trwy Cyflymu Cymru a thrwy’r sector masnachol.  Byddwn hefyd yn ymgynghori ar ble mae’r farchnad yn bwriadu buddsoddi dros y tair blynedd nesaf.  Byddwn yn ymgysylltu â’r farchnad delathrebu dros yr wythnosau a misoedd nesaf i helpu i siapio a llywio ein hardal weithredu a’n strategaeth gaffael.  Wrth ddatblygu’r prosiect nesaf, bydd cael gwerth ein harian yn parhau’n flaenoriaeth.

Ein bwriad ar hyn o bryd yw lansio’r broses gaffael ym mis Chwefror 2017 er mwyn inni allu dyfarnu contract mewn da bryd inni allu dechrau ei weithredu ym mis Ionawr 2018, hynny ar ôl i brosiect Cyflymu Cymru ddod i ben ym mis Rhagfyr 2017.