Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ionawr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy’n ysgrifennu er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar hynt ein rhaglen band eang y genhedlaeth nesaf.

Mae Llywodraeth y DU bellach wedi rhoi cymeradwyaeth Cymorth Gwladwriaethol, gan ganiatáu i ni gwblhau’r broses Hysbysiad Prosiect Mawr i sicrhau cyllid o £80 miliwn drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop o dan y Cronfeydd Strwythurol.

Mae ein partner yn y prosiect, BT hefyd bellach wedi dechrau’n swyddogol ar y gwaith o gyflwyno’r rhaglen.

Bydd rhaglen Cyflymu Cymru yn trawsnewid y sefyllfa band eang yng Nghymru ac yn hybu twf economaidd a swyddi cynaliadwy yng Nghymru. Bydd yn sicrhau ein bod ar flaen y gad yn yr economi ddigidol fyd-eang ac yn helpu i hybu Cymru fel lle gwell i fyw, gweithio a dod ar ymweliad.

Mae BT eisoes wedi gwneud cryn dipyn o waith i baratoi ar gyfer y rhaglen, gan gynnwys trafod gydag awdurdodau cynllunio ac awdurdodau priffyrdd ledled Cymru. Mae cynllun cyflwyno wedi cael ei baratoi sy’n ystyried demograffeg leol a daearyddiaeth Cymru, ynghyd â blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru, gan gynnwys yr Ardaloedd Menter ac ardaloedd twf lleol Powys.

Bydd band eang ffeibr yn dechrau cael ei gyflwyno mewn 14 o awdurdodau unedol yn ystod 2013/14, sef Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Bro Morgannwg. Bydd y gwaith yn digwydd ym mhob awdurdod unedol yn ystod 2014/15.

Er mwyn rhoi rhagor o fanylion i’r Aelodau, rwyf wedi trefnu sesiwn briffio technegol i’w chynnal dydd Mawrth 22 Ionawr, 9.00-10.00, yn Ystafell Gynadledda 24, Tŷ Hywel.  Bydd y sesiwn hon hefyd yn cynnwys diweddariad ar dechnoleg symudol 4G.  Gwahoddir pob Aelod i fod yn bresennol neu anfon cynrychiolydd.
Bydd gwybodaeth fanylach am gyflwyno’r cynllun hefyd ar gael cyn hir ar wefan newydd Cyflymu Cymru: www.cyflymu-cymru.com