Neidio i'r prif gynnwy

Lansiodd Datganiad Polisi Caffael Cymru (WPPS) ym mis Mawrth 2021, ac mae’n nodi'r weledigaeth strategol ar gyfer caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

I gefnogi awdurdodau contractio Cymru (WCA), mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu gwybodaeth allweddol ychwanegol a fydd yn llywio sector cyhoeddus Cymru o ran sut gallant gymhwyso'r deg egwyddor wrth gaffael llesiant i Gymru.

Mae pob un o'r egwyddorion wedi cael eu hehangu i gynnwys:

  • Diffiniad: yn nodi disgrifiad penodol o'r egwyddor.
  • Ystyriaethau posibl ar gyfer awdurdodau contractio: yn nodi cwestiynau / ffactorau allweddol y dylai awdurdodau contractio Cymru eu hystyried wrth ymgymryd â swyddogaethau caffael.
  • Canlyniadau arfaethedig: yn nodi'r canlyniadau penodol y mae'r egwyddor yn ceisio'u cyflawni.

Rydyn ni wedi diweddaru'r WPPS i gynnwys gwybodaeth allweddol ychwanegol. I weld y fersiwn newydd, ewch i’n gwefan.

Hoffem ddiolch i’r rhanddeiliaid o bob rhan o’r sector cyhoeddus yng Nghymru am eu cyfraniad, gan gynnwys awdurdodau lleol, y GIG, awdurdodau tân ac achub a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch: TimDiwygiorBrosesGaffael@llyw.cymru